Pwy sy’n wladweinydd ?

3 Rhag

Cwestiwn bach digon diddorol ar ‘Any Questions?’ y tro diwethaf. Gofynnid i aelodau’r panel awgrymu pa un o arweinwyr presennol y pleidiau sydd debycaf i ‘wladweinydd’ – ‘statesman’.

Math uwch, rhagorach o wleidydd yw gwladweinydd, ac mae diffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru cystal â’r un: ‘gwladweiniwr, gwladweinydd. … Person cyfarwydd a blaenllaw ym materion llywodraeth wladol, un a chanddo’r ddawn a’r profiad i reoli a thrafod materion perthynol i’r llywodraeth, gwleidydd craff ac ymarferol.’ A nodir 1836 fel blwyddyn ymddangosiad y gair.

Ym Mhrydain Fawr, i fod yn ‘wladweinydd’ mae gofyn, y rhan amlaf o ddigon, bod wedi llenwi un o’r pedair swydd o Brif Weinidog, Canghellor y Trysorlys, Ysgrifennydd Cartref neu Ysgrifennydd Tramor, ac yn wir mae gofyn hefyd bod wedi dangos rhyw fedr neu ddoethineb arbennig a gwneud rhyw gyfraniad adeiladol – yn ôl y ddealltwriaeth gonfensiynol o leiaf – mewn un o’r swyddi hyn. Anaml y ceir ‘gwladweinydd’ mewn swydd arall, ond tebyg y dywedem fod Aneurin Bevan yn un oherwydd ei lwyddiant arloesol fel Gweinidog Iechyd.

Ie, ‘y ddealltwriaeth gonfensiynol’. Honno a fyddai’n rhoi’r teitl o hyd i’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Tramor mwyaf trychinebus a gawsom erioed, sef H.H. Asquith a Syr Edward Grey, y ddau a gerddodd yn eu cwsg i mewn i’r Rhyfel Byd Cyntaf, a thrwy lusgo Lloegr a’i hymerodraeth i’w canlyn, troi gwrthdaro Ewropeaidd yn rhyfel byd-eang na chyflawnodd ddim ond esgor ar ryfel arall.

Dan ddemocratiaeth seneddol y disgwyliwn weld gwladweinydd, ac nid ydym yn arfer rhoi’r teitl i unbeniaid o unrhyw liw. Rhyfedd mai o ganol gormes gythreulig, neu o leiaf ar ei sawdl, y cododd gwladweinydd gorau’r ugeinfed ganrif, y gŵr a greodd gyfle o’r diwedd i ymryddhau o’r maglau a grewyd gan genhedlaeth ynfyd 1914. Gorbachev yw hwn. Nid ymddengys ei fod yn cael unrhyw ddiolch gan ei gydwladwyr, ond gobeithio y cydnabyddir ei gamp yn helaeth ryw ddydd. Y trueni yw nad oedd Prydain ac America’n ddigon parod i fanteisio ar y cyfleon a greodd ef; buont yn weddol barod.

Yn ôl at y cwestiwn, pwy o arweinwyr ein pleidiau heddiw? Yn amhleidiol, cynigiodd Delyth Jewell enw Corbyn, a dyna ddod yn bur agos ati os mai gofynion gwladweiniaeth yw bod yn bwyllog ac ystyriol, coleddu gradd o ddelfrydiaeth a gwybod am y fath beth ag egwyddor. Pe bai Corbyn rywfodd yn digwydd dod i’r safle y mae’n ei cheisio, am ba hyd y byddai ei blaid yn caniatáu iddo barhau felly sy’n gwestiwn mawr. Problem yr hen Gorbyn yw fod ei wleidyddiaeth bwyllog ac ystyriol wedi ei osod mewn cyfyng-gyngor annatrys bron gyda golwg ar yr hyn a ystyrir, yn gam neu’n gymwys, yn brif bwnc yr etholiad!

Ond o ran meddu ac arddangos rhinweddau gwladweinyddol, yr ymgeisydd cryfaf yn yr ymryson hwn heb arlliw o amheuaeth yw Nicola. Mae’n ferch mor deidi, yn rhoi’r argraff o wybod ei meddwl ac o fod mewn llawn reolaeth; yn un peth nid yw’n chwifio a melinwyntio. Ac mae ganddi brofiad. Hyd yma profiad o redeg llywodraeth ddatganoledig yw hwnnw, ac i fod yn wir ‘wladweinydd’ mae gofyn arwain gwladwriaeth sofran neu annibynnol fel ag i gynnal trafodaeth a sefydlu perthynas â gwladwriaethau eraill. Hei lwc y gwelwn hynny.

Ac yn wir, yng nghwrs y seiad deledu o Fanceinion mi sylwais fod Nicola, ac Adam hefyd, yn cael ambell glap fyrfyfyr a gwresog, fel petai cynulleidfa Seisnig yn gwerthfawrogi neges sy’n sylfaenol groes i eiddo’r tair prif blaid unoliaethol. Arwydd o beth yw hyn?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: