Y Corws

14 Rhag

Corws drwy’r dydd ddoe:

‘I’ve voted Labour all me life. But not this time. It’s Corbyn.’ ‘This area was rock-solid Labour. But Corbyn …’. ‘Me dad was a miner. Me grandad was a miner. But Corbyn …’. ‘Me dad would turn over in ’is grave. It’s that Corbyn.’ Ac fel yna …

Yn awr galwch i gof:

(1) Keir Hardie.
(2) George Lansbury.
(3) Michael Foot.
(4) Corbyn.

Pedwar arweinydd a nodweddid gan (a) radicaliaeth, a (b) egwyddor – dau beth nad yw’r rhan fwyaf o wleidyddion Llafur na thrwch eu pleidleiswyr byth yn gyfforddus â nhw.

Achosion gwahanol, a thristach efallai, yw Ramsay MacDonald ac Aneurin Bevan, a gyfaddawdodd â’r ochr arall yn y diwedd ac o dan bwysau mawr.

Sôn ar y radio heddiw am greu ‘Llafur Newydd 2’, a rhyw ddechrau dyfalu pwy geir yn arweinydd. Bu Benn Bach yn o ddistaw yr wythnosau diwethaf. Ond echnos, ymhell cyn bod y canlyniadau’n gyflawn, pwy oedd gyntaf yn y ciw i roi’r gyllell yn Corbyn? Kinnock Bach, pwy arall? Sonnir ei bod yn bryd cael merch, a ‘from the North’. Amser a ddengys.

Peth mwyaf yr etholiad? Ymddengys fod yr Alban – a gobeithio na fydd byth fynd yn ôl – wedi ymryddhau oddi wrth gorff y farwolaeth hon.

Gair am wleidyddiaeth Cymru fory.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: