Y Gymru Dridarn

15 Rhag

Dyma inni ddewis o ddau ‘fodel tridarn’.

1. (a) Y pedair etholaeth werdd, sef ‘Yr Hen Dywysogaeth’ neu ‘Cymru Cunedda’, llai Sir Fôn. (b) Bloc coch y de-ddwyrain, yn llai ei faint ac wedi ei ysgwyd dipyn gan yr unig beth, mae’n ymddangos, a allodd ei ysgytio o’i farweidd-dra Llafuraidd canmlwydd oed, sef dwbl dôs o Brydeindod. (c) Y wlad las, sef y Mers, wedi ymestyn a dyfnhau nes meddiannu’r dwyrain oll a’r pegynau hyd at Gaergybi yn y gogledd a Thyddewi yn y de.

2. (a) Fel (a) uchod eto. (b) Sir Fôn. Keith Best. Déja vu. Pwy a ddehongla feddwl yr Ynys Dywell? (c) Gweddill Cymru.

* * *

Yng ngwlad 1 a 2 (a), gallaf feddwl mai ochenaid ddiolchgar, nid gorfoledd gwawr newydd, a groesawodd lwyddiant y pedwar Aelod. Diolchgar i bwy? I’r pedwar eu hunain yn sicr, ac i’w timau a weithiodd yn galed ac effeithiol. Hefyd, dipyn bach, i … (sibrwd) Brexit. Heb ymyrraeth y Brexitiwr gallai Caerfyrddin-Dinefwr yn hawdd fod wedi mynd yr un ffordd â Maldwyn, Brycheiniog-Maesyfed, Dinbych, Môn, Penfro. A buasai mwyafrif Dwyfor-Meirion yn llai, er yn sefyll. Am Geredigion, wn i ddim, er synnwn i damaid na ddenwyd tipyn o’r hen Ryddfrydwyr at y Brexit – ‘Ewropeaid’, ‘Arhoswyr’, choelia’ i fawr! Bron yn sicr y denwyd Rhyddfrydwyr a Llafurwyr at y Tori. Ond cynyddodd pleidlais Ben Lake yn ogystal â’i fwyafrif, a haedda bob clod am hynny.

A oes ddiolch yn ddyledus i’r ‘Gynghrair Aros’? Dim o gwbl, hyd y gallwn weld. Efallai, efallai y bu i neges gref Caroline Lucas ennill dau neu dri o Wyrddion i Hywel, ond ni bu Plaid Cymru na’r Democratiaid Rhyddfrydol lwchyn elwach yn unman o’u ‘cytundeb’. Ffars o’r cychwyn. Hyd yma ni chlywais yr un cenedlaetholwr yn cydymdeimlo â’r ‘partneriaid’ yn eu colled!

Beth ddigwyddodd i’r ‘eliffantod’ y soniais amdanynt o’r blaen yn Arfon a Cheredigion? Pan es i bleidleisio ym Mangor Uchaf yma tua chanol y bore yr oedd ciwiau o fyfyrwyr yn disgwyl eu twrn. Ymbaratoais i fod yn stoicaidd fel chwarelwyr Kate Roberts a T. Rowland Hughes. Ond daeth achubiaeth o rywle. Beth oedd stori’r blychau pleidleisio tybed? Byddai’n ddiddorol clywed gan rywun sy’n gwybod. A oedd Cymry godreon Eryri wedi llyncu’n galed y tro hwn gan benderfynu peidio â dal yn erbyn Hywel droeon sâl Cyngor Gwynedd?

Yn ôl y down at yr hen wirionedd. Beth cariodd hi yn ‘y pedair sedd’? Ateb: y Gymraeg. Nid ei bod hi’n ‘bwnc’ yn yr etholiad: yn y llenyddiaeth a welais i, nid oedd fawr o sôn amdani yng nghyswllt tai, economi, swyddi, cynllunio a phethau felly; ac yn wir nid yw’n berthnasol iawn bellach i wleidyddiaeth San Steffan. Ond fe wyddai’r credinwyr dros beth y dylai’r Blaid fod yn sefyll. Pleidleisiwyd unwaith eto dros y peth hwnnw, gan adael y Blaid yn rhydd ar yr wyneb i sôn am bethau diniwed, diystyr, amherthnasol. Gweithiodd hyn y tro hwn eto. Ond am faint y gweithia yn y dyfodol heb ryw newid mawr mewn cylch ehangach?

* * *

Down felly at 2 (c), ‘gweddill Cymru’, sy’n gorwedd yn ddyfnach nag erioed, yn etholiadol beth bynnag, ‘mewn rhyw dywyll farwol hun’. Cafodd Adam lawer o gymeradwyaeth gan gynulleidfaoedd stiwdio yn Lloegr, ond ni ddaeth hyn â phleidleisiau iddo yng Nghymru. I lawr, i lawr drwy Gymru las a choch, gan gynnwys y seddau yn y Cymoedd lle gwelwyd fflach o addewid hanner can mlynedd yn ôl. ‘Mae’r ifanc gyda ni’ … ers 90 mlynedd, ond to ar ôl to o’r rheini wedi mynd yn ganol-oed ac yn hen ac yn mynd i’r bwth pleidleisio mawr tragwyddol heb ‘ddod’ o gwbl. Dwy agwedd anghysurus arall:

(a) Hanner canrif yn ôl yr oedd y gwleidyddion a’r cynghorwyr Llafur yn poeni y byddai addysg Gymraeg yn magu cenedlaetholwyr. Nid yw wedi digwydd o gwbl.

(b) Cymry Caerdydd. Fel y canai Leila Megane:

Ple maent?
Ple maent?
A’r garreg yn ateb ‘ple maent?’

A meddyliwch mewn difri. Eisteddfod lwyddiannus yn Llanrwst. Pleidlais PC yn Aberconwy: 2,704 (8.9%). Dim cysylltiad o gwbl, er nad yw’n dilyn o angenrheidrwydd y dylai fod cysylltiad. Ar lwyfan ehangach, oni fu ‘deffroad’ yng Nghymru yn gynharach eleni? Onid oedd ‘pethau’n newid’? ‘Cofiwch Dryweryn’? Ralïau lliwgar ‘Yes Cymru’? Dim cysylltiad â’r bleidlais yn ôl pob golwg, ac eithrio o bosib yn Arfon. Ni olyga hyn – a phrysuraf i’w ddweud – na ddylai ymdrechion Yes Cymru barhau. Yn wir efallai mai arni hi y disgyn fwy a mwy y gwaith a’r cyfrifoldeb o gyflwyno’r ddadl wleidyddol nad yw’r Blaid yn medru nac yn dewis ei chyflwyno. Gan eithrio’r ‘pedair sedd’ i ryw raddau eto, caf y teimlad am y ‘mudiad cenedlaethol’ drwy Gymru y dyddiau hyn ei fod fel rhyw Bolo Mint mawr gydag anferth o dwll yn y canol lle dylai plaid fod.

Diamau y bydd y Blaid yn ‘gwella’i strategaeth’ fel y gwnaeth dro a thro o’r blaen. Bydd yn ystyried sut i ‘gael ei neges drosodd i bobl Cymru’. Bydd yn ffocysu. Efallai bydd ganddi ‘gomisiwn’. Rwyf wedi cyfeirio rai troeon o’r blaen at gasgliad ystyriol Anthony D. Smith yn ei lyfr da iawn The Ethnic Origins of Nations (1986) at wahanol ‘fandiau’ o bobloedd ddi-wladwriaeth yn y byd. Mae rhai o’r rhain na phetrusa i’w galw’n genhedloedd, ac enwa yr Alban, Catalonia a Fflandrys. Mae eraill y rhydd ef arnynt yr enw ethnies, pobloedd ag iddynt hunaniaethau ethnig digon gwydn, ond sydd rywsut heb yr adnoddau neu’r ewyllys i amddiffyn eu hunaniaeth yn wleidyddol. A rhyngddynt, mewn haen ddigon cymysg, mae’n gosod y Cwrdiaid (braidd yn rhy betrus efallai), y Naga, y Llydawiaid … a’r Cymry. Anodd rhagweld unrhyw fath o ddeffroad o gwbl yng Nghymru bellach ac eithrio yng nghyd-destun newid seismig wedi ei ysgogi gan genedlaetholwyr yr Alban, newid a fyddai’n gadael y wladwriaeth unedol a’i dosbarth llywodraethol ar eu hochrau yn y ffos. A hyd yn oed wedi i’r newid hwnnw ddigwydd, os yw i ddigwydd, sut, gyda’r cyfryngau tila tila sydd gennym, y mae cael i bennau’r Cymry ei fod wedi digwydd? Gallwn yn hawdd ddychmygu’r Cymry’n dal yn Brydeinwyr pan na fydd Prydain fel gwladwriaeth yn bod mwyach. Rhaid edrych eto ar wreiddiau teimlad y Cymry o israddoldeb, ac am hynny mae eisiau i bawb ohonoch, ddarllenwyr, astudio’n ofalus y golygiad newydd Llythyr Gildas a Dinistr Prydain.

* * *

Ac i gloi heddiw dywedaf eto: o leiaf allwch chi ddim beio Leanne. Cipio’r Rhondda ganddi hi fu llwyddiant mwyaf Plaid Cymru oddi ar ddatganoli.

 

Un Ymateb to “Y Gymru Dridarn”

  1. adrian roberts Rhagfyr 20, 2019 at 12:47 am #

    (Ail gynnig). Diolch unwaith eto i Glyn am ‘i sylwadau dadansoddol pwyllog ar alanastra yr wythnos ddiwethaf – a galanastra ydyw’r gair. Serch hynny, dim ymateb oddi wrth y dosbarth y tybia’r blogiwr dewr ymdrafferthu ar ‘i gyfair. Sieiryd gyfrolau; a chredaf y gwn i pam, a bod yn ddiamwys, GWN pam. Aeth canlyniad yr etholiad cyffredinol blaenorol yng Nghymru ag enw Cymru yn y byd y tu hwnt i wawd a gwarth, yn un dydd Iau dwaetha llosgwyd ar dalcen hen genedl falch gynt i bawb o bobl y byd gael gweld ‘i gwarth, Made-in-England. Caf faddeuant y blogiwr am arfer y gair “rhagdyb” am y syniad mai’r bobol sy fwya chwannog i’w hunanlabelu yn Gymry Cymraeg ydyw cynheiliaid Plaid Cymru. Pleidlais PC, fodd bynnag, ac y gellid dangos hyn gydag amser ac adnoddau, ydyw’r bobol Gymraeg gyffredin, nid y dosbarth a ddechreuodd ymarddel y teitl hwn arno’i hun yn y trigeiniau, yn nifer bach dethol o bobol i ddechrau, wedyn cael seel bendith yr awdudodau dan lywodraethiad Lloegr yn Nghymru, am fod hynny yn dra llesol, am resymau amlwg, i’r llywodathiad hwnnw, waeth pa liw bynnag fai llywodraeth y dydd. Nid oedd y rhain yn bobol o ddrwg amcanion, nid dyna a ddywedaf, ond bellach aeth yn ddosbath hunanfodlon, heb ddim ymdeimlad o genedligwydd, Derbyniodd llawer o bobol Gymraeg gyffredin y label niweidiol o holltus hwn, ond gwn am lawer na fuasen byth yn ‘i arddel. Rwan, y mae PC yn blaid cenedl – i fod, ac yn y bobl Gymraeg gyffredin yr erys y teimlad gwlatgar, nid yn y CC yn gyffredinol. ( nid yfi yn unig a sylwodd chwaith na chlywir y gair “gwladgarol” ddim mwy gan unigolion y CC a PC, dewisant yn hytrach y gair bach didramgwydd, “fy nghymreictod” – gair o ddyfais dim llawr mwy na chamlwydd. Y BGG a gadwodd y pedair sedd i’r Blaid, er gwaetha popeth. Pleidlais y BGG, fel y gellir hefyd alw pobol yr etholaethau yn y parthau a gollodd ‘u Cymraeg, a roes lwyddiant i BC, pa le bynnag y cawd ac y ceir. (dirmyger Greens Lloegr yng Nhgymru, fel y dirmygan nhwthau Gymru). Anghofiwn yn rhy rhwydd mai yn ddiweddar iawn y collodd Cymru ‘i Chymraeg – erys gwladgarwch yng nhalonau pobol am amser hir wedyn, ond, wrth gwrs, ydyw, mae Llafur yn dal i fod yn dynfa groes. Yn daal am y gefnogaeth yma -a’r anogaeth hefyd – unwaith yr etholir rhai ymgeiswyr PC, chlywir byth air o’u genau ar achos Cymru, fel y cawsant gennad ne
    u fandad i’w wneud – beth arall yw pwrpas y foot? – a chynrychioli Y CC a’r dilyw o bobol ddiarth Cymru sy’n boddi hen genedl a’i hawl i’w mynegi ‘i hun mewn etholiadau, fel y gall Sgotland, gyda llaw, cyn lleied o bobol ddieithr sy yno. – fiw soon – ydyw ‘u cenadwri a’u pwrpas ar waetha’r bobol a’u rhoes nhw lle maen nhw. Plaid cenedl heb neges cenedl, fel ci heb ddannedd neu gath heb winedd – i beth? Fel y gwyddys, lot eisiau ‘i ddweud yn gyhoeddus, fel y gellir rhannu gwybodaeth a barn fel cynt, a nunlle i’w wneud.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: