Cymorth mewn cyfyngder

4 Chw

Stori fach yn y Radio Times heddiw am nofel newydd gan yr awdur Gwyddelig John Banville (neu ‘Benjamin Black’), seiliedig ar si – a hynny’n unig – fod y ddwy Dywysoges ifanc, sef y Frenhines a’i chwaer, wedi treulio rhai misoedd o’r Ail Ryfel Byd yn llochesu ar ystad yng nghefn gwlad Iwerddon. Yr oedd hyn – os digwyddodd – i fod yn gyfrinach glos, ond gollyngwyd hi, medd y nofelydd, gan swyddog diogelwch meddw. Hyd yma nid oes neb wedi cadarnhau ai gwir ai anwir y stori.

Os gwir, dyma:

(a) Yr enghraifft gyntaf o gymorth a estynnodd Iwerddon annibynnol i Loegr yn awr ei chyfyngder.

(b) Yr ail enghraifft. Rhoi benthyg ei byddin i actio byddin Lloegr yn ffilm Laurence Olivier, Henry V. Ffrainc oedd gelyn Lloegr yn y ffilm, ond ‘Ffrancwyr Rhydd’ De Gaulle oedd ein cynghreiriaid ar y pryd. Ond na hidiwch. Y peth mawr yw cael gelyn, a bod Lloegr yn ennill.

(c) Ac yn drydydd, aros yn niwtral. Petai’r unben wedi cael esgus i ymosod ar Iwerddon ac wedi cael cymaint ag un lanfa awyr yno, buasai’n galetach ar yr ochr hon a gallasai canlyniad y gyflafan erchyll fod yn wahanol. Yr oedd pris i’w dalu. Bu raid i rywun – ai De Valera ei hun? – fynd a chydymdeimlo â llysgenhadaeth yr Almaen ar golli Herr Hitler. Beth oedd ei deimladau, ni wyddom. Ni wyddom chwaith deimladau Dug Caeredin pan safai ar lan bedd yr Ymerawdwr Hirohito yn cynrychioli ei briod a phawb ohonom. Dyna ddiplomyddiaeth.

2 Ymateb to “Cymorth mewn cyfyngder”

  1. simswilliams Chwefror 4, 2020 at 7:11 pm #

    de Valera a Joseph Walshe ill dau: rhagor am agwedd de Valera yma: https://www.historyireland.com/20th-century-contemporary-history/de-valera-hitler-the-visit-of-condolence-may-1945/

  2. glynadda Chwefror 4, 2020 at 9:49 pm #

    Ardderchog. A dyma fi wedi darllen yr ysgrif wybodus a chytbwys iawn. Credaf mai un o ymatebwyr Jac o’ the North ryw ddeuddydd yn ôl sy’n dangos llun o dynnu BANER ARBENNIG i lawr oddi ar Neuadd y Ddinas, Caerdydd yn 1938 !!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: