Torri’r distawrwydd …

4 Mai

Rwy’n gweld mai ar 11 Mawrth y dywedodd yr hen G.A. rywbeth ddiwethaf. Efallai fod ambell un yn meddwl fod y Corona wedi ei gael. Ond na, mae’r rheswm am y distawrwydd yn rhywbeth dyfnach a mwy llethol, teimlad nad oes dim byd o unrhyw bwys yn digwydd yng Nghymru, nad oes dim diben dweud dim byd am ddim byd, neb yn ymateb, neb yn meddwl, ‘neb yn becso dam’ chwedl y gân.

Ond dyma ichi rywbeth bach.

Y Radio Times yn crynhoi rhaglen heno, y gyntaf mewn cyfres o bedair:

‘Britain’s Greatest Generation. 1.4. Coming of Age. A remarkable generation of British men and women, now in their 90s or over 100, look back on their experiences of living through recession in the 1930s and the Second World War. Victory in 1918 imbued a robust sense of patriotism, yet the inter-war years were marked by inequality and unrest. Still, when war broke out once more in 1939, those of age were ready to risk their lives for King and country. But the evacuation of the British Army from the beaches of Dunkirk was a wake-up call for those who expected a swift victory. Next episode tomorrow …’

Heb fynd i ddadansoddi dim ar y pedair brawddeg, siawns na all y rhan fwyaf o’m darllenwyr gytuno â mi eu bod yn crynhoi ac yn cynrychioli peth o’r ffantasi na all Prydeindod fyw hebddi. Bu’r genhedlaeth hon yn anffodus, a hynny’n bennaf oherwydd ffolineb troseddol y genhedlaeth o’i blaen; ond nid yw hynny’n ei gwneud yn ‘genhedlaeth fawr’, heb sôn am ‘y genhedlaeth fwyaf’.

At ddydd Gwener, mae’r Radio Times yn addo mwy. ‘The New Blitz spirit?’ ‘David Dimbleby on the Power of Remembrance and why we must mark the 75th anniversary of VE Day – even in isolation.’ ‘Dame Vera Lynn may be 103, but …’. Er gwaetha’r haint, fe wna’r cyfryngau eu gorau glas, gallwn fod yn sicr.

Cwbl briodol yw nodi’r tri chwarter canrif hwn, ond sut i wneud hynny heb wasanaethu ideoleg wyrgam a chwbl ragrithiol Prydeindod? Heddiw mae Wee Ginger Dug yn trafod y cwestiwn yn llawer gwell nag y gallaf i. Fel mor aml bellach, at y blogiau Albanaidd y mae inni droi os am gael y dadansoddi didderbyn-wyneb na cheir mohono byth gan y Chwith Brydeinig dila.

Un Ymateb i “Torri’r distawrwydd …”

  1. marconatrix Mai 4, 2020 at 7:25 pm #

    Ie, mae ein Ci Bach Jinjar spot-on fel arfer, siwr o fod 🙂
    Dyma fo felly :
    https://wordpress.com/read/blogs/59271816/posts/14610

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: