Ailgodi hen bwnc

17 Mai

Heddiw ailgododd hen bwnc, a thebyg bod hynny’n well na dim yn y sefyllfa ddiddigwydd sydd ohoni. Yr hen bwnc? Perthynas cenedlaetholdeb a sosialaeth.

Os wyf wedi deall adroddiad GOLWG 360 yn iawn, Mark Drakeford ddechreuodd drwy ddweud na ellir bod, yr un pryd, yn genedlaetholwr Cymreig ac yn sosialydd, oherwydd fod cenedlaetholdeb ‘yn gredo asgell dde yn ei hanfod’.

Wrth ateb Drakeford, mae’n ymddangos fod Leanne Wood wedi cyfeirio at bobl yn y Rhondda a fu’n chwifio’r ‘Ffedog Bwtsiar’, sef Jac yr Undeb, ar ddiwrnod cofio Buddugoliaeth yn Ewrop. Cythruddwyd Chris Bryant yn fawr gan y defnydd hwn o hen drosiad a fu’n gyfarwydd yn Iwerddon dros sawl cenhedlaeth. Ategodd yntau ‘nad oes modd bod yn sosialydd ac yn genedlaetholwr yng Nghymru’, ac arweiniwyd ef gan ryw linell o ymresymu i ddweud: ‘Aeth yr holl beth sosialaeth genedlaetholgar ddim yn dda iawn yn yr Almaen, naddo?’ Ar yr un gwynt fe fynnodd nad oedd y Natsïaid yn sosialwyr.

Yr ateb i’r sylw olaf yw ‘Wel oedden siŵr iawn’. Coctel marwol  o sosialaeth  wyrdröedig a chenedlaetholdeb yr un mor wyrdröedig oedd yr ideoleg a gofleidiwyd am ddeuddeng mlynedd gan fwyafrif etholwyr yr Almaen, a rhaid i’r sosialaeth ddwyn o leiaf hanner y bai am y canlyniadau. Dyma wirionedd nas cydnabuwyd gan sosialwyr unoliaethol ym Mhrydain, h.y. pobl Llafur, dros gyfnod sydd bellach yn dri-chwarter canrif.

Am osodiadau’r ddau Lafurwr yn y drafodaeth hon, nid wy’n synnu at sylw Bryant oherwydd dyna’i lefel, ond rwy’n synnu braidd fod Drakeford wedi dweud yr hyn a wnaeth. Unwaith eto, a all cenedlaetholwr Cymreig fod yn sosialydd? Gall wrth gwrs, a mwy na hynny mae’n rhaid iddo fod yn rhywbeth ar y sbectrwm de-canol-chwith. Mae dau ddimensiwn, o reidrwydd, i wleidyddiaeth pob un ohonom: y dimensiwn ethnig a’r dimensiwn cymdeithasol. Rydym yn ochri â gwladwriaeth, sef un ai â gwladwriaeth sefydledig, orthrechol neu ynteu â gwladwriaeth ‘yn y meddwl’, gwladwriaeth ddichonol sydd mewn rhyw radd o wrthryfel yn erbyn y gyntaf. Yr ydym bawb, pa un a addefwn hynny ai peidio, yn arddel ac yn ymarfer rhyw fath ar genedlaetholdeb, o blith yr amrywiol fathau sydd ar gynnig; yr ydym yr un pryd yn Dorïaid neu’n geidwadwyr o ryw fath arall, yn rhyddfrydwyr, yn radicaliaid, yn ddemocratiaid cymdeithasol, yn sosialwyr, yn gomiwnyddion, yn anarchwyr neu yn aelodau o ryw garfan nad yw wedi ei henwi neu ei hadnabod eto. Nid oes deddf yn unman yn dweud pa un o’r rhain y mae’n rhaid i genedlaetholwr fod, ac mae dweud fod rhaid iddo fod yn sosialydd mor anghywir â dweud na all fod yn sosialydd.

Ond i’r gwleidydd Llafur – ac ychydig iawn iawn o eithriadau a fu erioed i’r rheol hon – amlwg mai ystyr ‘sosialydd’ yw ‘Llafurwr’; ac ystyr ‘ni all cenedlaetholwr fod yn sosialydd’, o’i gyfieithu, yw ‘mae Llafurwr yn unoliaethwr, sef yn genedlaetholwr Prydeinig’. Ac fel y gwelsom yn sylw Bryant, nid ‘cenedlaetholdeb’ (nationalism) sydd gan y Prydeiniwr ond ‘gwladgarwch’ (patriotism) … fel oedd gan bobl y Rhondda yr wythnos ddiwethaf.

Yn awr, ac edrych ymlaen dipyn, mae rhai yn darogan y bydd Llafur yn fyr o fwyafrif wedi etholiad nesaf Senedd Cymru (fel yr ydym i’w galw bellach). OS gellir cynnal yr etholiad yn 2021, ac OS yw’r arolygon yn weddol agos ati, ac OS deil Drakeford ei sedd yng Ngorllewin Caerdydd, a fydd ef yn ceisio cefnogaeth plaid sydd ‘yn asgell dde yn ei hanfod’? Neu a fydd ef yn croesawu cefnogaeth o’r fath os cynigir hi iddo? Flynyddoedd yn ôl fe wnaed y pwynt gan David Davies (AS Mynwy bellach) mai’r glymblaid naturiol yn llywodraeth Cymru fyddai Llafur-Tori. Sylw gwerth ei gofio. Dyna’r ddwy blaid sydd yn gytûn ar y pethau hanfodol – ‘gwladgarwch’, Jac yr Undeb, Trident …

Yn y cyfamser, da iawn Leanne am wylltio Llafur. Heb hynny ni wnawn ddim ohoni yng ngwleidyddiaeth Cymru. Fel yr wyf wedi dweud droeon o’r blaen, gwnaeth y Pleidwyr glamp o gangymeriad yn troi Leanne heibio mor anniolchgar.

9 Ymateb to “Ailgodi hen bwnc”

  1. marconatrix Mai 17, 2020 at 7:19 pm #

    “cenedlaetholdeb ‘yn gredo asgell dde yn ei hanfod’ ” !!!
    Tipyn o syndod i’r SNP fydde hynny, siwr o fod!

  2. marconatrix Mai 17, 2020 at 7:58 pm #

    Diolch, erthygl diddorol dros ben fel arfer 🙂

  3. Dei Tomos Mai 17, 2020 at 9:42 pm #

    Diolch am ailgodi hen bwnc a rhoi iddo wisg newydd amserol, a da iawn Leanne hithau. Yn niwedd yr erthygl mae na wirionedd mawr am dipyn o dynnu blewyn.

    • Gwyn Jones Mai 18, 2020 at 6:26 am #

      Ers blynyddoed rwyf yn credu mai true-blue socialists yw’r helyw o
      gefnogwyr Llafur

      • glynadda Mai 18, 2020 at 9:02 am #

        Wrth gwrs. ‘Red Tories’, fel y bydd cenedlaetholwyr yr Alban yn eu galw y dyddiau hyn.

  4. Palmer Parry Mai 19, 2020 at 12:56 am #

    Oni ddylem geisio dyfalu pwy yn union oedd y Pleidwyr anniolchgar a danseiliodd arweinyddiaeth Leanne? Os cofiaf yn iawn, cyn ethol yr arweinydd newydd, roedd Plaid Cymru yn honni bod ganddi wyth mil o aelodau, ond rhyw bum mil yn unig a bleidleisiodd yn yr etholiad.

    Roedd tair mil ar ddeg o etholwyr y Rhondda wedi cefnogi Leanne yn etholiad y Cynulliad. Pa gyfran o’r rheini oedd â phleidlais yn etholiad yr arweinydd?

    Rwy’n amau mai cynghorwyr sir dosbarth canol a’u dilynwyr a’u tebyg yng Ngwynedd, Môn, Ceredigion a SIr Gaerfyrddin oedd yn bennaf cyfrifol am y modd y triniwyd Leanne.

    • glynadda Mai 19, 2020 at 10:21 am #

      Ia, tipyn o ddirgelwch. Alla’ i ond dweud eto, tro sâl iawn. A pha ennill ddaeth ohono? Hyd yma, DIM.

    • Cadi Twll Clo Mai 20, 2020 at 10:47 am #

      Damcaniaeth ddiddorol, Palmer. O gofio cymaint y mae rhai cynghorwyr Plaid Cymru wedi gweithredu yn erbyn eu cefnogwyr yn y gorffennol, ac anwybyddu polisiau’r Blaid, nid yw’r ffordd gafodd Leanne ei thrin yn syndod.

      Yma yn y Gogledd maen nhw (gydag ychydig iawn o eithriadau) wedi cau ysgolion gwledig, rhoi caniatad i godi tai diangen a chefnogi datblygiadau niwclear yn yr Wylfa a Thrawsfynydd. Y mae’r swyddogion gafodd eu penodi gan y cynghorwyr dylanwadol yma wedi tanseilio cynlluniau iaith a datblygu.

      • Dafis Mai 21, 2020 at 11:32 am #

        Cof pobol ychydig yn fyr. Pob hyn a hyn cafwyd ambell berfformiad disglair gan Leanne lle gwelwyd ei dawn pen ei champ i gasglu ffeithiau, eu deihonglu, a’u darparu gerbron ei chynilleidfa. Felly eitha’ torcalonus oedd gweld hi yn gafael mewn achosion ymylol lle nad oedd digon o dustiolaeth i fod mor penderfynol yn ei ymrwymiad. Credaf taw hynny a’r tyfiant agwedd eitha’ penstiff anhyblug wnaeth droi’r farn yn ei herbyn.

        Credaf fod angen pobol danllyd a dawn ysbrydolu ar y Blaid neu efalle fwy pwysig ar yr ymdrech genedlaetholgar yma yng Nghymru. Felly rhaid bod lle i Leanne a’r gwr tanllyd o Orllewin Caerdydd.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: