Dechrau’r drwg

14 Meh

O holl droseddau gwleidyddol ail hanner yr ugeinfed ganrif, y mwyaf pellgyrhaeddol ei effaith yw brad-gynllwyn Prydain ac America yn dymchwel llywodraeth ddemocrataidd Iran yn 1953. Dyma darddiad y rhan helaethaf o helynt y byd heddiw.

Ceir yr holl hanes echrydus yn y llyfr Patriot of Persia. Muhammad Mossadegh and a Very British Coup gan Christopher de Bellaigue (2012).

A heno am 9.00 rwy’n gobeithio gwylio rhaglen Sianel 4, ‘The Queen and the Coup’, sy’n addo datgelu agweddau pellach ar yr ymyrraeth anfaddeuol hon. Y cyfan oherwydd pris olew.

Gellir ei gwylio wedyn ymhen yr awr ar Sianel 4 + 1.

2 Ymateb to “Dechrau’r drwg”

  1. Dafis Mehefin 15, 2020 at 11:04 am #

    Ysgrifenodd C Davidson lyfr trwm, Shadow Wars, am hanes drygionu yr UDA a Prydain ers troad y 20fed ganrif. Ers 1945 gwnaeth pethe ddwyshau ac roedd y coup yn Iran yn benod bwysig ond nid yr unig o bell ffordd. Os cewch gyfle gweithiwch eich ffordd drwyddo a cewch agoriad llygaid.

    Hefyd gweler gwaith diweddar Kim Ghattas, Black Wave, lle mae hi yn dadlau taw 1979 oedd yn flwyddyn dyngedfenol pan ddigwyddodd y chwildro yn Iran, Rwsia yn ymosod ar Afghanistan, a therfysgwyr eithafol yn ymosod ar y Fosg Sanctaidd yn Mecca. Bu gweitho drwy’r llyfr hwn yn fwy o ymdrech gan ei bod yn adrodd hanes ond ni chefais gymaint o ddadansoddiad.

    Adeg gymleth yn y Dwyrain Canol a’r byd Islamaidd a fawr ddim ond gweithredu dan-din o gyfeiriad yr UDA a’r D.U. Syndod ynte ?

    • glynadda Mehefin 15, 2020 at 3:51 pm #

      Diolch Dafis. A chofiwn ddarllen hefyd lyfr Hefin Jones, ‘Celwydd a Choncwest. Yr ymerodraeth Brydeinig ar Draws y Byd’ (Gwasg Carrreg Gwalch, 2017).

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: