Heddiw a gweddill yr wythnos, ychydig feddyliau wedi eu hysgogi gan y gyfrol Cyrchu Annibyniaeth Cymru: Adroddiad Comisiwn Annibyniaeth Cymru (Y Lolfa, 2020), £9.99. Wedi ei darllen yn gyflym, fy ngobaith yw dychwelyd i’w darllen eto â mwy o’r manylder y mae’n ei hawlio. Testun y blogiau byrion hyn fydd Y PETH diosgoi sy’n gefndir i bob trafod yng Nghymru ar annibyniaeth, ymreolaeth, rhyddid neu beth bynnag y gelwir ef, cefndir yn wir i bob ystyriaeth o’n cyflwr, ein sefyllfa, ein posibiliadau fel pobl. Ai annibyniaeth a’n gwared rhag Y PETH? Ond gyda’r PETH yna drwy’r amser, ai gwiw meddwl am annibyniaeth?
Byddaf yn codi testunau o eiriau chwe phroffwyd. Saunders Lewis yw’r cyntaf ohonynt, a bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd neu’n lled-gyfarwydd â’r geiriau, sef diweddglo Tynged yr Iaith (1962).
● ‘Mae’r iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth. Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o’n gwlad, ni cheid mohoni’n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.’
Ac yn wir, gydag ugain mlynedd o ddatganoli y tu ôl inni, gwelwn yn eithaf clir beth fu, ac yw, tuedd pethau. Colli niferoedd, colli tir, dadfeilio, tanseilio. Wnaethom ni gamgymeriad? A yw’n bryd gweiddi ‘dim mwy’? Tyrd yn ôl John Redwood? Plaid Diddymu’r Senedd? No Cymru?
Ymlaen fory.
‘Dyw mynd “yn ol” yn talu ffordd yn amal. Gwell fydde canolbwyntio ar sicrhau fod yr iaith yn cael defnydd ymarferol cyson dros hyd a lled y wlad.
Ond beth am y mudiadau a fu yn ganolog yn yr ymdrech dros yr iaith ? Wel mae Plaid Cymru yn ceisio bod yn bopeth i bawb, naill yn ofn eu cysgod neu yn brysur ddweud wrth pawb fod Cymru gyfoes mor “gynhwysfawr”fod dim angen i neb boenu am yr iaith nag unryw agwedd arall o’r “fordd a’r diwylliant Gymreig”.
Mwy siomedig yw’r penderfyniad diweddar gan Cymdeithas yr Iaith i bellhau oddiwrth elfenau “Ffasgaidd”asgell dde, yn enwedig pan taw y dethol rai o fewn y Gymdeithas fydd yn penderfynu pwy sydd yn Ffasgaidd, nid y sawl a fydd yn cael eu cau allan o unryw sgwrs ganddynt. I fi, dyna yw un o brif nodweddiadau Ffasgaeth !
Hynod ynte ?