Yn ’79 ac yn ’97, ac ar bob achlysur arall pan fuom yn trafod ymreolaeth, a mwy ohono, ni chlywais am NEB yn dweud NA gan gyfeirio at rybudd S.L. Fotio IE wnes innau, er llwyr gytuno fod ‘yr iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth’ pe dôi yn fater clir o ddewis rhyngddynt. A oeddem i gyd yn iawn?
Ein proffwyd heddiw yw’r offeiriad a’r hanesydd A.W. Wade-Evans, a dyma’r adnod:
● ‘Ni ddaw gwir atgyfodiad byth i Gymru nes iddi gael ail afael yn y gwir am ei tharddiad.’
Tipyn o foi oedd Wade-Evans (1875-1964), ac mae ganddo’r gallu o hyd i darfu colomennod gyda’i ddehongliadau o hanes Prydain ôl-Rufeinig ac o darddiad y Cymry. A chrynhoi at yr asgwrn, cenhadaeth Wade-Evans mewn llu o erthyglau a llyfrau dros yrfa hir oedd gwrthateb y gred draddodiadol, dderbyniedig a ‘swyddogol’ mai pobl yw’r Cymry wedi eu geni mewn fföedigaeth fawr i’r Gorllewin o flaen cyrchoedd diatal yr Eingl-Saeson yn y bumed a’r chweched ganrif O.C. Pobl wedi ei gwadnu hi, wedi gollwng gafael, wedi colli cyn cychwyn? Os daliwn i gredu hyn, medd W.-E., byddwn yn dioddef dros byth gan deimlad o israddoldeb, sef Y PETH a fu’n llestair arnom ar sawl achlysur yn ein hanes ac sydd felly o hyd.
Ble, a sut, y dechreuodd y gred hon, a’r stori a’i creodd? Mae Wade-Evans yn gosod y bai yn deg ar un ddogfen, sef ‘Dogfen Gildas’ fel y mae Iestyn Daniel yn dewis ei galw yn ei olygiad a’i gyfieithiad newydd ohoni. Nid ar yr holl ddogfen ychwaith, ond ar ran neilltuol ohoni, sef penodau 2-26, sy’n amcanu crynhoi hanes Ynys Brydain hyd at adeg eu hysgrifennu. Daliai W.-E. ymhellach nad gwaith y gwir Gildas, y proffwyd a’r diwygiwr o ganol y chweched ganrif, mo’r 25 pennod hyn, ond ychwanegiad, gwaith rhyw awdur arall, anhysbys, diweddarach.
Daliwn i ystyried y dadleuon, a daliaf yma i grynhoi’n llym. Yn wrthateb i stori fawr y fföedigaeth, mae W.-E. yn cynnig stori gwbl groes. Gwêl ef nid gweithred o encilio, ond gweithred o ddal gafael, a oedd hefyd yn weithred o ddewis diwylliannol-wleidyddol, sef dal gafael yng ngwaddol Rhufain fel yr oedd llywodraeth Rhufain ym Mhrydain yn dod i ben. ‘Nid oedd pobl Cymru erioed wedi eu hadnabod eu hunain fel pobl cyn i hynny wawrio arnynt mewn amgylchfyd Rhufeinig. Yr oeddynt eisoes yn Rhufeiniaid cyn sylweddoli mai Brythoniaid oeddynt.’
Fel pawb erioed sydd wedi astudio Prydain Rufeinig ac ôl-Rufeinig, y bobloedd a’u perthynas, pwysleisia W.-E. ddaearyddiaeth, gan ein hatgoffa drwy’r amser o’r llinell letraws sy’n gwahanu ‘tir uwch’ Cymru a Lloegr oddi wrth y ‘tir is’, y llinell sy’n rhedeg yn fras o ogledd-ddwyrain i dde-orllewin, o dyweder Caerefrog hyd dyweder Caer Wysg. I’r de a’r dwyrain o’r llinell, buasai llywodraeth a phresenoldeb sifil Rhufain yn sefydlog am dair canrif; yr ochr arall i’r llinell, milwrol yn bennaf oedd y presenoldeb, a’r llaw am hynny’n ysgafnach mewn rhyw ystyr, y sefydliadau a’r bywyd Rhufeinig yn llai trwchus ac am hynny’n llai o faich ar y Brythoniaid. Am y rheswm hwnnw – W.-E. sy’n ymresymu – pan ddaeth diwedd ar Ymerodraeth Rufain, trodd pobloedd y de a’r dwyrain yn gryf yn ei herbyn gan ochri â ‘barbaria’, ond gallodd pobloedd y gogledd a’r gorllewin ddewis yn wahanol gan ochri â ‘Romanitas’.
Mae ystyriaethau o blaid y ddamcaniaeth uchelgeisiol hon, ac yn bennaf ohonynt parhad di-dor Cristnogaeth ar ‘yr ochr hon’ o ddyddiau’r Ymerodraeth, fel na bu raid ail-Gristioneiddio’r Cymry cynnar fel y gwnaed â’r Saeson. Ond digon o dystiolaeth, digon o garn i’r dehongliad mawreddog hwn o’n cychwyniad ni fel pobl? Rywsut, nid wyf erioed wedi gallu credu hynny.
Nid yw hyn yn annilysu ‘dadl y ddau Gildas’ ynghyd â’r modd y mae W.-E. yn dehongli’r 25 pennod ‘hanesyddol’ gan weld ynddynt ddechrau’r drwg, dechrau’r PETH sydd bellach bron wedi’n gorffen.
Pawb sy’n meddwl o ddifrif am hanes y Cymry ac am yr esblygiad sydd wedi arwain at ein sefyllfa heddiw, caiff fudd o fynd at lygad y ffynnon drwy ddarllen y golygiad newydd Llythyr Gildas a Dinistr Prydain. Ac efallai y caiff rhywbeth o’m dwy ysgrif i yn Y Faner Newydd, rhifau 90 a 91.
‘Y gwir am ei tharddiad’? Y Cymry – pobl wedi colli Ynys Brydain? Anwiredd medd Wade-Evans. Ond gwir neu anwir, fe barhaodd y gred, gan wneud yn bosibl BRYDEINDOD.
Ymlaen yfory.
Diddorol bob amser imi yw darllen ffrwyth ‘ch myfyrion dyfal ar ‘n cyflwr truenus erbyn hyn, er bod yn nau begwn cyferbyniol (mi wn) ‘n syniadaeth am beth a phwy sy gyfrifol dros yr hanner canrif diwethaf am y brad gwaetha er pan sefydlodd Morgan y grefft genedlaethol newydd yn Ynys Fetgawd amser maith maith yn ol. Hyn yn hafodol yn y “Peth” – os deallaf. ‘Ch darn ddoe yn codi lot o gwestiynau, ond ar y darn yma, ‘ch dyn heddiw, Wade-Evans (‘i enw wedi hen fwrw i ddifancoll ‘run mor llwyr a Metcawd a Morgan, er mor ddiweddar ‘i draed ar ddaear), o flaen ‘i oes ar lawer wedd. Un pwynt o lawer a ellid – pa angen son am hyd yn oed y posibilrwydd o golli Christnogaeth yn y genedl (wedi ‘i chael mor gadarn) fel y byddai gofyn ‘i hail Gristioneiddio fel y pagan giregynnol …