Y Cymro a’r Peth (6)

5 Rhag

Yn awr, wrth nesu at y diwedd, yn ôl at rybudd difrifol S.L. A fyddai – a fydd – annibyniaeth yn goblyn o gamgymeriad, ac edrych arni o safbwynt yr iaith? ‘Yes Cymru, no Cymraeg’?

Yn fwgan ym meddwl pawb sy’n meddwl o gwbl am y pethau hyn, mae tynged yr Wyddeleg. Ond o gymharu Iwerddon a Chymru, mentraf feddwl fod yr holl hynt, yr holl stori dros bum canrif, yn wahanol. Ni chafodd Iwerddon ei Salesbury na’i Morgan, ac nid atgyfnerthwyd yr Wyddeleg gan ddeffroadau diwylliannol a chrefyddol o’r math a brofodd Cymru yn y ddeunawfed ganrif.

I ateb pryder S.L., wele ddamcaniaeth. Pwysleisiaf mai damcaniaeth ydyw. (a) Yr amlygiadau gwaethaf o’r PETH yng Nghymru yw agweddau negyddol tuag at y Gymraeg, yn amrywio o ddifaterwch, sef peidio â thraddodi’r iaith ymlaen, hyd at atgasedd eithafol, patholegol. (b) Yn ei gychwyniad, mae’r PETH yn annatod glwm wrth y syniad o golli tiriogaeth, colli rheolaeth, tyst o’r 25 pennod hynny o ‘Lyfr Gildas’, serch nad yw’r rheini’n sôn am iaith o gwbl. Fel yr oedd y Gymraeg yn dechrau ymffurfio, yr oedd syniad, delwedd, wedi ei sefydlu o ryw bobl dan yr enw Britanni fel collwyr. Credodd y Cymry mai hwy oedd disgynyddion y Britanni, etifeddion eu gwarth. Am mai’r Gymraeg oedd yn diffinio’r Cymry, daeth hi yn fathodyn eu cywilydd. Derbyniodd y Cymry ymosodiad Harri VIII arni, a chyda chanlyniadau ehangach a mwy trychinebus wedyn, ymosodiad y Llyfrau Gleision. (c) Pe gorfodid y Cymry gan amgylchiadau i ‘gerdded wysg eu cefnau’ tuag at gymryd cyfrifoldeb a rheoli tiriogaeth, gallai hynny fod yn ymwared rhag Y PETH.

Dyna hi, damcaniaeth. Dim mwy.

Gorffen fory.

3 Ymateb i “Y Cymro a’r Peth (6)”

  1. Dafis Rhagfyr 5, 2020 at 1:50 pm #

    ‘Yes Cymru, no Cymraeg’?Dim o reidrwydd. Dyletswydd y sawl sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth/rhyddid yw sicrhau for dyfodol yr iaith yn ran annatod o’r ymgyrch. Da o beth yw eich bod yn enwi Yes Cymru achos mae ganddynt gyfle i glymu’r iaith mewn i’w ymgyrchoedd. Ofnaf fod ‘na ganran eitha’ sylweddol o fewn Plaid Cymru sydd ddim yn poenu diawl oddim am yr iaith, ag efalle ddim yn poenu fawr am annibyniaeth chwaith. Pobol sydd wedi ymaelodu er mwyn dod mewn a’u agenda(u) eu hun sydd amal ddim fawr i wneud a’r achosion y dylid canolbwyntio arnynt.

  2. Adrian Roberts Rhagfyr 5, 2020 at 11:08 pm #

    golwg a

  3. Adrian Roberts Rhagfyr 6, 2020 at 2:43 am #

    Golwg amgenach?Gwelwyd ers dros hanner canrif bellach ddirywiad anferth ym mod Cymru fel cenedl, yn ei bod a’i byw ; diwydiant a diwylliant, neu ffordd o fyw, torri gafael y bobol gyffredin, neu’r werin, yn ei hiaith yn y parthau mwya dan bwysau beunyddiol estron ar lawr yn gwladychu yn ogystal a llywodriad (regime) hwnnw a’i holl rym diddymol wedi dwad i’w oed o’r diwedd – bu’r disgwyl yn hir, chware teg, i gael draed ar lawr i ddiwreiddio *this Foreign Tongue from my Dominion of Wales”, a nifer o rai mewn addysg uwch o’r parthau mwya arbedol heb eto wedi dechrau teimlo pwys ei droed yn digyn yn drwm iawn o’u cwmpas yr un pryd yn dewis diffinio eu hunain fel rhyw ddosbarth arbennig, ar wahan. Nid lleia’r newid byd y syniadaeth amdani yn y wladwriaeth Loegr-Sgotig (os na ddysgdd y referendum yn Sgotland inni o’r diwedd mai dyna ydyw, ac yn honno rydani yn byw, ni ddysgwn byth), fel rhyw fath o genedl israddolol o fewn i honno, yn cilio, ac o ganlyniad ymysg y cenhedloedd.
    Ymddiheuriadau am hyd hyn, os dewiswch ganiatau postio. Torraf.at y byw. Y pwynt yw bod ein gwlad wedi ei llurgunio dros y cyfnod hwnnw. Nid rhy gry’r gair. Cymry da, mae’n siwr Lewis a Jones, ac yn y blaen, ond dynion ddoe ,a defnyddioldeb Prydeindod Rees fel esgus am frad a llwfrda ar gynnydd.. A fu’n bosib yn eu dydd nhw, nid yw mwyach oherwydd hynny. Am resymau ofynnai ormod o le i’w rhoi yma, parodd dymuniad yr ail bobl uchod i synio amdanyn nhw eu hunain fel dosbarth ar wahan a’r enw newydd sbond Cymry Cymraeg iddynt, fod bellach dri math o bobl lle bu gynt un : nhw eu hunain, a sel bendith yr awdurdodau iddynt, am fod hynny’n llesol i bob llywodraeth o Loegr, waeth be fo’i lliw, wedi dieithrio eu hunain oddiwrth y ail, sef y bobl Gymraeg gyffredin, a hyn wedi troi allan yn bur ddinistriol, waeth be fai’r amcan gwreiddiol, sy’n mynd yn llai ac yn llai eu nifer, ynghyd a’r Cymry o waed a oedd eisoes wedi colli iaith dan bwysau gwaith a gwleidyddiaeth yn y parthau cynharaf i’w trawsnewid, ac yn drydydd ac yn fwya pwysig, y mwya lluosog ac ar gynnydd beunydd, yr atboblogaeth ddieithr, nid yn unig o Loegr a’r ddwy wlad arall bellach, ond o bedwar ban byd. Nid yw yn mynd i unlle.Bydd hunan lywodraeth yn dwad unwaith y bydd y perigl drosodd iddi fynd i ddwylo Cymro a Chymraes. “Gwedi brad, y gofid”?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: