Hanesyddol. Hollol ddigynsail, hyd y gwn i. Sef y dyn o archfarchnad Iceland yn cael yr hwi am fod yn wrth-Gymreig.
Rhydd i bawb ei farn ar unrhyw fater ac mewn unrhyw sefyllfa. Ond daw ffactor arall i mewn pan fo dyn mewn safle lle gall niweidio pobl eraill drwy fynegi a hyrwyddo rhyw safbwynt. A chŵyn sylfaenol y gwrth-Gymreigiwr yn erbyn y siaradwr Cymraeg (neu’r Cymro yn yr ystyr draddodiadol) yw ei fod yn medru’r Gymraeg. Ymosodiad yw gwrth-Gymreigrwydd, nid ar weithredoedd grŵp ethnig ond ar ei fodolaeth.
Ble nesaf?
‘Yn fore awn i Ferwyn’, a’i gardiau i bob swyddog carchar a fu’n erlid preswylwyr o Gymry? Beth amdani, Adran Comisiynydd yr Iaith?
Tro wedyn rownd y prifysgolion a’r colegau? Y broblem yma – y gwrthwynebiad ddywedai rhai – yw na byddai fawr neb ar ôl o blith athrawon, darlithwyr, gweinyddwyr a phorthorion. Dyma, yn y cylchoedd hyn, y ‘diofyn’ chwedl y cyfrifiadurwyr (default), y peth y gellir ei gymryd yn ganiataol, y man cychwyn.
Cyflwr seicolegol yw gwrth-Gymreigrwydd, neu gyflwr seico-gymdeithasol a bod yn fwy manwl, oherwydd y sefyllfa gymdeithasol, yn y pen draw, sy’n creu’r ymagwedd a’r ymddygiad. Mae’n effeithio’n waeth ar rai categorïau o bobl nag ar eraill, ac effeithio’n wir ar rai proffesiynau, a’r pennaf o’r rheini yw’r proffesiwn academaidd. Lle mae’r Cymry yn y cwestiwn, mae dau fath arno, sef (a) yr allanol, a (b) y brodorol. Ac onibai am (b) ni fyddai (a) wedi cael unrhyw ddrwg-effaith o gwbl. Fel yr wyf wedi dweud droeon o’r blaen, bydd Duw’n anfon hyrddiau o (a) mewn ymgais i wylltio’r Cymry a’u hysgwyd i wneud rhywbeth ohoni. Hyd yma nid yw wedi gweithio. Fel y dywedodd J.R. Jones yn gryno a chlir, ‘O fewn i’r Cymry y mae eu gelyn’.
Cymerwn yr enghraifft bwysicaf a mwyaf trychinebus. Hyd at ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd trwch y Cymry wedi dal eu tir drwy amryfal droeon a pheryglon. Ond o 1847 ymlaen dyma gymryd y cam anghywir a chychwyn ar gwrs gwallgo o hunan-ddinistr y mae’n anodd meddwl am ddim byd tebyg iddo yn hanes pobloedd. Fe allai ein teidiau Victoraidd fod wedi anwybyddu’r Llyfrau Gleision, neu ddweud wrth y tri chomisiynydd am fynd i grafu. Ond wnaethon nhw ddim.
Pam? Pam yn y byd mawr? Am fod y PETH, a oedd yno ers cymaint o amser, y tro hwn wedi cyd-daro ag awr anterth Lloegr ymerodrol.
Rhag fy mod yn ailadrodd, darllenwch eto fy mlogiadau ar Y PETH, 30 Tachwedd hyd 6 Rhagfyr. Ac i gael golwg ar gychwyniadau’r PETH, cofiwch ddarllen ac astudio’r gyfrol Llythyr Gildas a Dinistr Prydain.
Da o beth fod y dyn dwl wedi cael y “poke” fel dwed y Sais. Ond dim ond dechre ddyle hyn fod. Mae angen ar Iceland fel cwmni newid eu ffordd o ddelio a’r Gymraeg yn eu canoedd o siopau hyd a lled y wlad yn hytrach na’r hen chwedl fod y peth yn ddrud ac yn bwyta mewn i’w elw. Hawdd mewn ffordd oedd taflu’r unigolyn allan o’i swydd a phur debyg fod yno gwinion eraill yn ei erbyn ond roedd yn gyfleus neidio ar “bandwagon” yr iaith tro yma. Os am wneud fwy o neidio ar fandwagons gallant fynd ynghid a trefnu arwyddion ac ambell i siaradwr Cymraeg yn eu siopau.