Pwy a’n gwared … ?

7 Maw

Cawsom ddarllen ddoe am gynhadledd rithiol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac am araith rithiol yr arweinydd, Jane Dodds, yn gosod allan y pethau mawr y bydd y blaid hon yn eu cyflawni pan fydd ‘mewn llywodraeth’. Uchafbwynt yr araith oedd ymosod ar y syniad o annibyniaeth, peth a fydd (a dyfynnu’r adroddiad) ‘10 gwaith yn fwy cymhleth a 10 gwaith yn fwy poenus na Brexit’, ac a fydd yn ‘achosi niwed am genedlaethau’.

Iawn, pawb â’i farn ar y pen yna. Ond ’rhoswch funud … Ai yr un Jane Dodds yw hon â’r Jane Dodds y tynnodd Plaid Cymru yn ôl er mwyn ei helpu yn isetholiad Awst 2019? Ie choelia’ i byth. Roedd yna ryw ‘Gynghrair Aros’ yr adeg honno on’d oedd.

Iawn drachefn, os oedd yn fater o wir argyhoeddiad. Ond ’rhoswch eto … a oedd y Blaid Cymru hon yr un Blaid Cymru ag sydd heddiw’n addo refferendwm ar annibyniaeth yn syth wedi iddi ffurfio llywodraeth ym mis Mai?

Dyma wleidyddiaeth ddigyfeiriad, ddiamcan, ddi-strategaeth, ddi-glem. Pwy a’n gwared rhag gwleidyddion o’r safon hon?

2 Ymateb i “Pwy a’n gwared … ?”

  1. Adrian Roberts Mawrth 9, 2021 at 9:12 pm #

    K

  2. Adrian Roberts Mawrth 9, 2021 at 10:29 pm #

    Ag amser achubiaeth bosib yn mynd yn brinach brinach gyda phob blwyddyn o afradu amser … Llwfrdra, rhagrith a chelwydd noeth, brad a derbyn gwobrau’n hollol agored (eraill i ddyfod, bid sicr) Pa le ond yng Nghymru …

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

<span>%d</span> bloggers like this: