Defi Difas

2 Mai

Fe gewch feddwl, a dweud, beth bynnag a fynnoch am yr hen G.A. ar ôl hyn.

Neithiwr bu bron imi arwyddo Deiseb yr Wyddfa, wedi darllen am antics panelwyr ‘Have I Got News …’. Ond wnes i ddim, a’r bore ’ma dyma fi’n ôl yng nghwmni un o gymeriadau hoff, ac unig, nofel disgyblion Lefel-A Cymru, sef Defi Difas, Snowdon View.

Efallai mai hawdd yw dwedyd ‘Symud Snowdon’, ond mae rhai enwau fel Swansea, Mold, Port Talbot, Puffin Island, y mae’n anodd dychmygu’r map hebddynt yn ein hoes ni. Hen fynydd go anodd ei syflyd yw Snodn, ac wrth fynd ati i drio’i dyllu, ei bowdro a’i saethu (termau’r chwarelwr), onid yr hyn a wnawn yw gwanhau ein llaw yn erbyn yr Happy Donkey Hill a’r Leafy Lane?

Yn sicr mae eisiau Deddf Cofrestru a Diogelu Enwau Cymraeg, a dylai mapiau Ordnans ddod dan y ddeddf honno.

Mae peth arall sy’n fy mhoeni’n fawr iawn y dyddiau hyn, ac a ddylai boeni pob Cymro,

Sef …

Trowch i mewn bore fory.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: