Yr Etholiad a’r PETH

8 Mai

Oddi ar 1959, rwy’n credu fy mod wedi gwrando canlyniadau tuag ugain o etholiadau cyffredinol, rhwng San Steffan a Senedd Caerdydd. Yng Nghymru, i gyd yn ddigalon, a’r fwyaf digalon oedd ’79 … tan echdoe.

Pam rwyf yn dweud hyn? Canlyniad y Rhondda. Gyda Dyffrynnoedd Conwy, Clwyd a Dyfrdwy, y Canolbarth oll, Sir Benfro a thua hanner Sir Gâr (Môn hefyd yn etholiadau San Steffan), diolch i’r ffermwyr ac i’r Mewnlifiad, yn swatio’n ddyfnach mewn Torïaeth, nid oes unrhyw obaith symud ymlaen yng Nghymru heb argyhoeddi etholwyr Morgannwg a Gwent. Am gyfnod wedi 1967 bu arwyddion y gallai hyn fod yn bosibl; ac yn ’97 dyma’r etholwyr a sicrhaodd inni ddatganoli. Bellach …

‘Rhyfeddol’, ‘syfrdanol’, ‘anhygoel’ oedd geiriau rhai o’r sylwebyddion ddoe am lwyddiant Llafur yn ei hen gadarnleoedd. Lol i gyd. Yr esboniad syml ac amlwg, y twpsod, yw fod yr UKIPiaid, pobl Brydeingar a cheidwadol at ei gilydd, wedi dychwelyd at eu hen blaid Brydeingar a cheidwadol, Llafur.

Am y Rhondda, gofynnaf, a fuasai Plaid Cymru wedi dal y sedd petai Leanne yn dal yn arweinydd? Ansicr, ond cyfeiriaf eto at flog 28 Medi 2018 lle dywedais – ac rwy’n dal i’w gredu – fod y Blaid drwy ei maith ffolineb wedi cael gwared â’r cynrychiolydd gorau a gafodd erioed, yn enwedig mewn seiadau holi Saesneg – sy’n bwysig, dywedwn a fynnom. Byddai’n dda gen i feddwl y daw awr Leanne eto. Yn y cyfamser, eithaf gwaith â Phlaid Cymru wirion, yn cynnwys y cyd-Aelodau Senedd a’i bradychodd mor anniolchgar a thrwch yr aelodau taledig a brynodd gath mewn cwd.

Ymddengys felly fod Llafur wedi cyrraedd y ffigiwr rhiniol i allu llywodraethu heb gymorth. Gwell hynny na bod P.C. unwaith eto’n mynd yn Gynorthwywraig Fach Siôn Corn, neu’n Llawforwyn i’r Llaw Farw.

Ac un waredigaeth, diolch byth! Dychmygwch B.C. mewn clymblaid â Llafur, ac ar restr siopa Adam, ei refferendwm ar annibyniaeth. ‘Cewch siŵr iawn,’ meddai Llafur. Cynnal y refferendwm, Llafur yn gweithio dros ‘na’, canlyniad echrydus, a dyna ddiwedd ein mudiad cenedlaethol gwleidyddol, efallai am byth.

Am lwyddiant P.C. yn seddau’r Hen Dywysogaeth, neu’r ‘Fro’ fel y byddem yn ei galw, ni welaf le i newid yr hyn a ddywedais droeon o’r blaen. Dyma bleidlais arferol y Cymry Cymraeg dros yr hyn y dylai P.C. fod. Sylwch, da chi, ar yr italeiddio. Nid oes a wnelo ddim â’r ‘polisïau’ diystyr, di-ddim, dwlali a roddodd y Blaid gerbron.

Effaith ralïau Yes Cymru? Edrychwch ar Ferthyr ! Ond rhaid i Yes Cymru ddal ati. Mae’n rhywbeth hwyliog ac adeiladol yng nghanol y chwalfa.

Effaith y pleidleiswyr 16-18 oed? Dim, ac eithrio ambell effaith negyddol o bosib.

§

Hartlepool a chynghorau lleol Lloegr? Dadfeiliad y ‘wal goch’? Unwaith eto, rwyf wedi rhoi’r esboniad yn gryno o’r blaen. Brexit oedd y catalydd. Dan yr ysgogiad hwnnw fe ddarganfu’r gwerinwr o Sais yn yr hen ardaloedd Llafur pwy ydyw mewn gwirionedd. Alf Garnett. Beth am y papur papuro, y Flatgate a’r holl bethau yna a fu’n gwneud y penawdau? Mennu dim ar hen bleidleiswyr Llafur; pobl yw’r rheini, fel y dywedodd Harri Webb, nid yn unig sydd yn hapus o fewn ‘the stench of homely corruption’, ond na allant fyw y tu allan iddo. Hyd y gwelaf y funud hon, gall Boris wneud beth bynnag a fynn ei galon dros y blynyddoedd nesaf. A thros dymor hwy, a fydd o gwbl Chwith yn Lloegr? Ar hyn o bryd mae gwrthblaid gref yn San Steffan, sef y cenedlaetholwyr Albanaidd. Os aiff yr Alban yn annibynnol, a fydd gwrthblaid o gwbl yn Lloegr?

§

Yr Alban. ‘Knife-edge’ yw gair mawr y cyfryngau heddiw wrth drio’n galed liwio’r etholiad fel llai na llwyddiant i Nicola. Fel yn etholiad San Steffan 2017, ond nid yr un diwethaf, llwyddodd y pleidiau Prydeinig i dawel glymbleidio, ond heb ddwyn dim oddi ar yr SNP hyd yma, dim ond arbed ambell glec iddynt eu hunain.

§

Yn ôl i Gymru druan. Y PETH y sgrifennais amdano,30 Tachwedd6 Rhagfyr y llynedd, mae yna o hyd, a’r tro yma fe deimlwyd ei effaith yn drwm.

A bellach y cwestiwn ymarferol yw hwn. OS DAW hi yn yr Alban, sut yn y byd mawr y cawn i bennau’r Cymry beth fydd wedi digwydd? Darllenwch eto flogiad 4 Rhagfyr.

12 Ymateb to “Yr Etholiad a’r PETH”

  1. Moelwen Gwyndaf Mai 8, 2021 at 2:59 pm #

    Beth yw’r eilyn addoliaeth o Leanne Wood? Gwrthododd wneud dim am dai haf a chymunedau Cymraeg. Creodd gylt mewnol a oedd yn taflu casineb at aelodau. Yn llythrennol, roedd rhai o’i chefnogwyr wedi ymosod yn gorfforol ar rhai nad oedd yn cytuno gyda hi. Diolch byth ei bod wedi mynd a gobeithio na ddaw byth yn ôl. Gall wneud pres gyda’r ail a thrydydd tŷ (falle mwy) sydd ganddi hi ai phartner.

    • glynadda Mai 9, 2021 at 10:06 am #

      Un peth a ddywedaf, Moelwen, gorau po fwyaf o dai a berchenogir gan deuluoedd o Gymry. Mae gen i ail gartref; mae hwnnw yn fy hen ardal, nid wyf yn gwneud pres arno (er na byddai dim drwg pe bawn), a chaf fy nghosbi os daw’r premiwm newydd y mae sôn amdano. Yn wir dylai llywodraeth leol a chanol yng Nghymru helpu Cymry i brynu ail gartrefi; byddai’n un ffordd o ‘ddal dy dir’.

      • Moelwen Gwyndaf Mai 12, 2021 at 12:00 pm #

        Fy mhrif bwynt oedd y casineb mae hi wedi’i greu. A landlord yn Lloegr yw hi, nid Cymru. Felly nid yw’n cyfrannu i berchnogaeth tir yng Nghymru.

    • Dafis Mai 9, 2021 at 10:17 am #

      Creadur “marmite” yw Leanne heb os. Pan glywes hi gynta’ roeddwn yn galonogol achos roedd dipyn iachach i’w chlywed na beth aeth cyn hynny ! Tybiaf taw rywbryd yn gyflym ar ol iddi roi llond pen i Farage wnaeth pethe waethygu ac wedyn, wel “down hill all the way”.
      Fawr ddim ots ei bod hi wedi newid cyfeiriad ond y drwg yw ei bod wedi annog nifer arall i fynd yr un ffordd. Ai ei bau hi neu rywbeth/rywun arall ? Megis Deryn ?

  2. Dafis Mai 8, 2021 at 5:25 pm #

    “…..Gynorthwywraig Fach Siôn Corn, neu’n Llawforwyn i’r Llaw Farw.” Da iawn wir. Dewis geiriau sy’n taro i’r dim. Wrth edrych ar y canlyniadau tybiaf taw y fenyw LibDem fydd yn etifeddu’r swydd uchod os bydd ei hangen. Llafur ar 30 ond gan fod un ohonynt, dirprwy Elin, yn rhy bwysig i bleidleiso ma angen un gwas neu forwyn ychwaneg a does neb gwell na’r unigolyn rhyddfrydol a fydsd yn gweld hyn fel cam gyrfaol pwysig. Pob lwc iddi, ond efalle fod llyfu pen ol yn dod yn hawdd iddi.

  3. Adrian Roberts Mai 12, 2021 at 1:31 pm #

    Dafydd Glyn, ymateb hwyr i’r cwestiwn hanfodol yma – buum yn pendroni ynghylch a ddylwn ai peidio, am fwy nag un rheswm. Deall pam mae Cymru (sef y genedl ac nid yr enw ar ei thir gynt fel “cyfieithiad” o enw hollbresennol yr estron hollbresennol bellach ar y clwt o dir a adawyd inni o’r ynys – dan rwan – a’i alw’n Wales), yn marw ar ei thraed ers degawdau, a’r gwledydd eraill yn mynegi’n groyw eu bod am fyw bob cyfle gaant. Bydd y byd yn mynnu deall ryw ddydd sut y diflannodd hen genedl a’r byd yn dechrau dwad yn haws ac yn decach iddi ar fachlud hen ganrif (y 19edd iddi) yn dangos nodau amlwg tranc erbyn 50au’r un newydd. a gadael heibio’ch “Peth” am y tro – a’i gychwyniad ym mrad Morgan yn Ynys Fetgawd o bosib? (er mor llygad-dynnol a difyr y dyfalu), credaf y gallwn ganfod y Paham yn nes aton, a tharo ffon flaenbigog yng nghynffon y drwg, a’i ddal lle mae, a dweud, “Dyna fo!” ac “yn fan’na mae’n dechrau!” Mae a wnelo ag iaith genedl wrth gwrs, nid fel rhyw degan neu ddifyrrwch diweddar i rai, fel y digwyddodd, ond fel rhedweliiau yn rhedeg trwy gorff cenedl yn cludo eu llwyth hufelai, chadal y ddau daid a nain,bywiol neu oxygen, i bob cell, i bob gwead cnawd, asgwrn, organ, blewyn, gewin – bob mm cubig o’r corff cyfannol yna. I ddechrau, hfel cychwynfan i’r hollt, os cymerwn y gwr mawr bach ?Williams, ymysgwyddodd i safle AS yn Blackpool, a sbitiodd sbits (chadal eich tad) warthus wedyn yn Nhy’r Cyffredin, a symud ymlaen mewn byr (hoffwn helaethu, os oes gwir groeso imi wneud ac os hoffech hi. Busasai eich ymateb dadleuol chwithau yn dda hefyd).

  4. glynadda Mai 12, 2021 at 3:53 pm #

    Ewch chi ymlaen Adrian. Ydi, mae’r argyfwng PRESENNOL yn dechrau gyda’r Llyfrau Gleision, 1847. Ond PAM y cydsyniodd Cymry’r oes honno ag argymhelliad y Llyfrau Gleision? Am fod y PETH yna ers cenedlaethau lawer, sef y teimlad o israddoldeb. Gellir ei adnabod gyntaf yn ‘Llyfr Gildas’, a dyna pam y dylai darllenwyr y blog ddarllen golygiad newydd Iestyn Daniel o’r ‘llyfr’ hwnnw.

  5. Adrian Roberts Mai 13, 2021 at 2:26 pm #

    Wrth gwrs, ni fuasai’r Gelyn, wedi ymblannu’n gadarn yn y tir bellach, ddeucant wedyn, ddim wedi medru dyfeisio gwell cyfiawnhad a hawl iddo i’r Ynys nag a geir yng Ngildas : Chychwi’ch hunain nsy gyfrifol am y duuwch byd yma sy arnoch yrwan!” Dyna beth mae’n ddweudwrth y Brythn ym mhregeth de Exidio … sy bellach yn gorfod dioddef gormes yr oruwchwiliaeth estron, buoch falch (trwy’ch teyrnoedd) o’ch nerth a chreulon, heb falio yn Nuw ac yn y blaen – a hynny sawl c!anrif yn ddiweddarach. yn sicr, .dyna blannu gwarth a theimlad o Israddoldeb ym meddwl ni’r Brython. Oedd eto uwch ddosbarth (fuasai’n ymylu perthyn i’r hen arweinwyr cynhennid) yn dal i fedru’ r Lladin, tybed? neu yn medru ei darllen o leiaf? Chlywais erioed son am ymchwil i bethau fel hyn gan aelodau o’r hen Brifysgol (gyfreithlon), ac os nad ganddyn nhw, gan pwy? Y Saeson! Yn y negyddol, golygai hyn bod yr Exidio, fel yr hen weithiau eraill, yn hel llwch tan y dadeni, yn disgwyl euhail enedigaeth . Y trwythiad i feddwl Cymro eto.n bosib iawn.Dof yn ol.
    Ond, na, nid at Lyfrau ‘r gwarth ym1847 oeddwn yn cyfeirio yn uniongyrchol Nid y “gwarth” ein bod yn dal i arfer ein hiaith, serch y gorchymyn y n y Deddfau Cystwyol ganrifoedd ynghynt ” to extirpate this foreign tongue” etc. Na, y gwarth o oddef yr hyfdra a’r rhyfyg yn y lle cynta, hyd yn oed ar genedl annexedig . Nid pawb a’u derbyninioddn yn dofh wrth gwrs, rhai fel IG ifanc druan. Ond am yr” arweinwyr” enwadol … Aeth amser yn ei flaen, tybiwyd gweld gwawr newydd yn codi
    (amgylchiadau yn fy nghorfodi i dorri yn y fan yma, ymddiheuriadau)

  6. Adrian Roberts Mai 14, 2021 at 3:07 pm #

    nid ar ffurf ymateb i flog ydyw ffurfhad gorau i gynnig/cyflwyno syniadaU newydd allan o’r rhigol gyfyng. mae gofyn cyson gyfiawhau yr hyn a ddywedir, achub y blaen ar ameuaethau ym meddwl y darllenydd, etc., etc. mae’n trethu’r amynedd.Ond beth a wneir. mae’n rhan bwysig o’r drwg. pan gollwyd y Wasg – y gweisg- sylweddol ers talwm ac eang-gyrhaeddol, clafwyd yn ddifrifol enaid cenedl – fel y gwyddoch chi a ymdrechodd ymdrech deg iawn i sefydlu papu.r. Rhof grynodeb, felly, byr-byr i’w anwybyddu neuymateb fel y gweloch yn dda:
    Agor yr Holl neu tHollt#1 .Effaith y Llyfrau, yn cychwyn byd o ddrygioni – ond cywirfo’r drwg wedi bod yn bosib wedyn. ond ymlaen yr ai dadwreiddio Harri T ‘r mab.. Cymdeithas yr Iaith yn gwrthweithio hynny fedrai trwy annog ei harfer yng ngheinciau gwyddoniaeth a’i datblygu at oes newydd’ Unigolion fel Huw Terfel yn trin gwlidyddiaeth ynddi, Richard Morgan natur, a’rpapurau a’r cylchgronau yn cadw ffydd. Eraill yn gobeithio gweld ei thrAnc cy gynted a throad y ganrif – y wladwriaeth, bid sicr. Ond wele stadegau dwy dref erbyn 1911 : Aberystwyth (4 plwyf) 94% yn medru’r ddwy iaith (wedi cael y S yn yr ysgol, wrth gwrs – pa mor dda sy gwestiwn arall) o’r canrhan yna dros hanner wedi methu ei dysgu eto). 469 o’r estron yn y dre. Bangor rwan : 79% yn medru’r ddwy, 10% heb eto’n medru’r S a thros 2,000 o’r estron yn y ddinas -eisiau cofio mai yn achos Bango, yn ogystal a’r coleg diarth rfod holl baraffanalia Eglwysyn dal yn situ. dwy dre golegol, a’r ddwy bellach wedi eu tagu i farwolaeth gan grafangau y Brifysgol cenedl nad oedd yn Brifysgol cenedl. cafodd fynd yn brifysgol sbar i Loegr oddi cartre dan drwynau ei Chymry Cymraegymhell cyn trosedd 2011. Penderfynwyd cunnull Cyd-bwyllgor Addysg yn yr ?ugeiniau (’26? – gorfod dibynnu’n hollol ar gof am fanylion,etc.) fel yr oedd sefyllfa ddiweddaraf y stadegau, wedi mynd i lawr yn arw yr ardaloedd mwya yng ngwyneb malltod Gwynt y Dwyrain. Ceid dysgu Cymraeg lle nad oedd Gwynt y Dwyrain eto wedi deifio deifio, a’r lleill eu gadael i edwino i farwolaeth. Mynnai Jac Williams nad oedd yr iaith hyd yn oed wedi’r Llyfrau wedi gwahard yn y stafell ddosbarthd. Dewis neu fympwy pen y PAS lleol a’i athrawon. Hollt #2, eu ledu’r Hollt. yn y trigeiniau, dewisodd nifer o golegwyr ddechrau galw eu hunain yn GymrY Cymraeg, radd yn uwch, dybient, yng ngolwg Llywodraeth, fel rhai o ddysg a diwylliant i gyfateb i’r un dosbarth yn Lloegr.Erbyn hyn cawsent eu ffordd yn yr ysgolion a dal meddyliau’r plant a gaiff Cymraeg yn yr ysgol trwy eu dygu mai fel yna rhaid iddyn feddwl amdanyn nhw eu hunain ac yn y blaen. dyna Hollt#3 Yr anferth MEWNDYWaLLTIAD ar ben hyn o frad ar ben brad .Dyna wedyn y blaid cenedl i fod (fu unwaith) a drodd genedl yn gyff gwawd i’r byd. Rhwng y PETH a’r bradychoedd diweddar … .

    • Adrian Roberts Mai 14, 2021 at 10:58 pm #

      cywiriad yn ffigur Aberystwyth : 94% yn medru ‘r Gymraeg, 49.9% yn dal yn Gymraeg yn unig. Bangor yn nes at 80% a thros 1100 yn dal yn uniaith serch hanes hir fel cylchfan y y masnachwyr estron, ygolion, coleg a pharaphanalia Eglwys Loegr .. (angen sbectol newydd!)

  7. Eryl Owain Mai 15, 2021 at 10:15 am #

    “Gyda Dyffrynnoedd Conwy, Clwyd a Dyfrdwy, y Canolbarth oll, Sir Benfro a thua hanner Sir Gâr (Môn hefyd yn etholiadau San Steffan), diolch i’r ffermwyr ac i’r Mewnlifiad, yn swatio’n ddyfnach mewn Torïaeth”

    Y rheswm pam fod AS Ceidwadol wedi ei hethol i gynrychioli sedd Aberconwy yng Nghaerdydd yw fod pobolgaeth Dyffryn Conwy gyfan yn llawer is na phoblogaeth maestrefi Conwy a Llandudno a’r cyffiniau. Nid yw Dyffryn Conwy – a gall fod yr un poeth yn wir am ddyffrynnoedd Clwyd a Dyfrdwy hefyd – wedi “swatio’n ddyfnach mewn Torïaeth”; neu, o leiaf, ddim i raddau mwy na chefn gwlad Gwynedd neu Geredigion. Ac onid patrwm tebyg sydd i’w weld yng ngorllewin yr hen Ddyfed, gydag ardaloedd Cymreig gorllewin Sir Gâr wedi eu cynnwys efo De Penfro, a Phreseli yr un modd efo rhannau llai Cymreig?

    • glynadda Mai 15, 2021 at 12:35 pm #

      Cytuno. A gallai peth newid ffiniau alluogi peth newid yn y gynrychiolaeth wleidyddol. . Byddai’n dda gweld sedd Conwy-Hiraethog-Clwyd wedi ei datgysylltu oddi wrth y Costa Geriatrica. Sedd Gogledd Powys, sef Dyffrynnoedd Dyfrdwy – Ceiriog a Gogledd Maldwyn. Adfer hen etholaeth Caerfyrddin. Cydio Gogledd Sir Benfro wrth Geredigion unwaith eto. Ni wnâi wahaniaeth mawr o ran y cydbwysedd yn y Bae, ond byddai gwell lliw ar y map. Cysylltid Rhufoniog (neu’r Berfeddwlad) â Chymru Cunedda unwaith eto, a gwelid Ystrad Tywi yn ôl yn gyfan.

      Mater arall hollol yw Gwent a Morgannwg.

Gadael ymateb i glynadda Diddymu ymateb