Hen barodi y byddai hogiau mawr yn ei chanu yn y 1940au:
Rwyf innau’n filwr bychan
Yn dysgu trin gwn pys,
I saethu Mwsa Linyn
Yng nghanol twll ’i glust …
(Rhywun yn cofio’r gweddill?)
Beth bynnag, siŵr bydd y laser yn barod at y Sul yma …
Dyna ni. Sport. Character-building. Sense of fair play. British values.
Gwych ergyd ddeifiol (be ydi enw goli Lloegr?), gobeithio y cawn ni weddill y gerdd gan un o’r hogia mawr.
Pethau difyr yw parodiau ar emynau. Dyma un a glywais gan fy nhad: ‘Plant ydym eto dan ein hoed / Yn disgwyl am fwstas, / Mae’r etifeddiaeth inni’n dod / Wrth edrych yn y glass.’
Yr hwyl yr ydym wedi ei cholli wrth golli ein crefydd !!