Cherchez la femme …

25 Gor

Digwydd gwylio darn o gyfweliad Dominic Cummings ddoe lle roedd yn cyhuddo Carrie, Mrs Johnson bellach, o ymyrraeth ac achosi penderfyniadau annoeth.

Ie, cherchez la femme, yr esgus hynaf … Ond yn wir, yn y llyfrau hanes mae ambell gofnod o wragedd neu fodins Stryd Downing yn dylanwadu, a choelia’ i byth nad yr enghraifft bwysicaf a mwyaf trychinebus yw’r hyn a adroddir amdani ei hun gan Frances Stevenson, Iarlles Lloyd George yn ddiweddarach, ar dudalennau 73-4 o’i hunangofiant, The Years that are Past. Sôn y mae am benbleth Lloyd George yn nyddiau cyntaf Awst 1914. Mae’n dyfalu fod Dafydd, yn ei galon, eisoes wedi penderfynu o blaid rhyfel, ond ei fod yn oedi nes cael rheswm a chyfiawnhad. Dyfynnwn:

“My own opinion is that Ll.G.’s mind was really made up from the first, that he knew we would have to go in, and that the invasion of Belgium was, to be cynical, a heaven-sent excuse for supporting a declaration of war. … He told me that his decision depended on whether the Germans invaded Belgium or not. In that event we were governed by a treaty. In those days I was not addicted to prayer, but I think as far as I could I prayed that the Germans would invade Belgium.”

Ac oni ddywed yr emyn

“Ni fethodd gweddi daer erioed
 chyrraedd hyd y nef” ?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: