Stori reit dda yr wythnos yma, academwr Albanaidd yn defnyddio Cymru ddof, ufudd fel offeryn i geryddu’r Alban wrthryfelgar. Yr Athro Adam Tomkins yw’r gŵr; bu hefyd yn Aelod Rhestr yn Senedd yr Alban ar ran y Ceidwadwyr. Ffurfiodd ei argraff o Gymru ddedwydd, ddiddrwg ar ôl wythnos o wyliau yn Ne Sir Benfro.
‘ “Angry” Scotland should be more like Wales and accept its place within the union,’ medd y pennawd. Ni ddyfynnaf ddim mwy, mae’r stori i’w chael ar Nation Cymru, ac mae cryn dipyn o ymateb.
Petai Emrys ap Iwan gyda ni heddiw byddai ganddo ddefnydd ysgrif newydd, ‘Bully, Taffy a Jock’. Cofiwch ddarllen Hen Lyfr Bach Bully, Taffy, a Paddy. Os nad yw gan eich llyfrwerthwr gallwch ei archebu o dalennewydd.cymru.

Gadael Ymateb