Pwynt diddorol o’r Alban

21 Medi

Tipyn o sôn y dyddiau diwethaf y gall llywodraeth yr Alban alw am gymorth y fyddin gan fod y fath bwysau ar y gwasanaethau parafeddygol a’r Covid yn dal gyda ni.

Diddorol yw hyn. Mae gwahaniaeth mae’n debyg rhwng ‘gofyn am gymorth y fyddin’ a gyrru gwŷr i’r gad, a gallwn gymryd na all llywodraeth ddatganoledig wneud yr ail. Os gwelir annibyniaeth, pa bryd bynnag y bydd hynny, bydd pethau’n wahanol. Bydd y catrodau Albanaidd yn dal i ymladd dros y Frenhines ond ar orchymyn eu llywodraeth.

Job iawn i’r Black Watch a’r Scots Guards ryw ddiwrnod felly, tyrchio’r Americanwyr allan o Faslane. Ar hyn o bryd mae’r SNP am ganiatáu tair blynedd i glirio’r safle, ond da fyddai cyflymu pethau.

Na thybiwn, Gymry, nad yw hyn yn berthnasol i ni. Mae’n berthnasol i’r mater pwysicaf, sef parhad y Gymraeg.

Oherwydd …

Pam yr ydym ni’r Cymry yn y fath dwll heddiw? Ateb: am i’n cyndeidiau gyd-fynd ag anogaeth y Llyfrau Gleision, a chael gwared â’u hiaith er mwyn bod yn aelodau derbyniol o’r wladwriaeth unedol ogoneddus ac o’r ymerodraeth na byddai’r haul byth yn machlud arni. Do, fe wnaethant hynny am fod yna hen hen ymdeimlad o israddoldeb yn eu plith, ac i ddeall rhywbeth am wreiddiau hwnnw mae’n bwysig eich bod chwi, ddilynwyr y blog, yn astudio’r golygiad newydd Llythyr Gildas a Dinistr Prydain.

Ond y diwrnod y bydd Trident yn ymadael â’r Alban, dyna ddiwrnod machlud yr haul yn derfynol. Bydd cerbyd rhwysg Lloegr ar ei ochr yn y ffos.

Sut bydd cael y Cymry i ddeall hyn, dyna’r broblem o hyd. Oherwydd does gennym ddim gwasg.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: