Tu hwnt i jôc

22 Medi

Nid am ei fod am ddod allan o’i ymddeoliad, ond o ran tipyn o hwyl, bydd yr hen G.A. yn edrych weithiau ar Hysbysfwrdd Swyddi Cymru, gan fod rhywun yn ei anfon ato o rywle.
Bydd yn ei gael fel rheol yn ddiffeithwch o swyddi diystyr, di-fudd, dibwrpas a di-alw-amdanynt.

Yng nghatalog heddiw gwelaf ambell eithriad, chware teg. Mae ADRA yn chwilio am Blymwr, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol eisiau Uwch-arddwr. Ac mae angen Prif Weithredwr i S4C. Iawn.

Ond yn ôl â ni wedyn at y nonsens arferol. Sut, meddech chi, y llwyddodd gwareiddiad i gerdded cyn belled cyn penodi dau Reolwr Cymwysterau (hyd at £40,000 yr un) dan y corff Cymwysterau Cymru? A sut y bu i’r hen genedl hon oroesi o gwbl cyn i rywun weld bod angen Swyddog Hybu a Hwyluso (hyd at £37,410) yn Adran Comisiynydd y Gymraeg?

Ond difrifoli. Mae rhai pethau tu hwnt i jôc. Yr hysbyseb gyntaf ar y rhestr heddiw: hyd at £32,818 y flwyddyn i Gydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth dan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Er mwyn y nefoedd, penodwch ddarlithwyr trwy’r Gymraeg ar draws y meysydd, nid rhyw rwtshi-ratsh fel hyn. Beth yw pwrpas y C.C.C. (Y Coleg Ffederal fel yr oeddem yn ei alw flynyddoedd yn ôl, y llond llaw ohonom oedd yn ymgyrchu dros ei sefydlu)? Fel mewn cymaint o gylchoedd eraill yng Nghymru heddiw, dyma dywallt arian ar oferedd a gwyrdroi pwrpas sefydliad. Be sy’n bod ar bobol? Isio edrych eu pennau.

Un Ymateb i “Tu hwnt i jôc”

  1. Neb Medi 22, 2021 at 3:09 pm #

    Pe bawn i’n ennill y loteri, credaf mai’r hyn y byddwn i’n ei wneud i ddifyrru’r amser fyddai ffonio ambell un o’r sefydliadau hyn am ‘sgwrs anffurfiol’ bob Diwrnod Cylchlythyr Hysbysfwrdd Swyddi Cymru, mynd drwy’r hysbyseb frawddeg wrth frawddeg, a gofyn “A be mae hynna’n ei OLYGU felly?” ar ôl pob un.

    Efallai y carech ddarllen Bullshit Jobs: Pointless Work and What We Can Do About It gan David Graeber.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: