Yn Newydd gan Ddalen Newydd

8 Hyd

Dyma ddau o lyfrau diweddaraf Dalen Newydd, bellach ar gael o’n stondin.

Elis y Cowper: Anterliwt y Ddau Gyfamod

Golygwyd gan A. Cynfael Lake

Dyma rif 14 yng nghyfres Cyfrolau Cenedl.

Awdur cynhyrchiol a huawdl oedd Elis Roberts (1713?-89) neu Elis y Cowper o Landdoged, Dyffryn Conwy, ac wele yma anterliwt o’i waith sydd yn un o’r rhai mwyaf hynod o fewn y dosbarth hwn o lenyddiaeth.

Ymddengys y Cybydd a’r Ffŵl fel ym mhob anterliwt, ond y tro hwn ceir llai nag arfer o’r cellwair bras rhwng y ddau gymeriad hyn. Yn lle hynny ceir cyfuniad o ddau ddefnydd gwahanol. Yn gyntaf, rhoir inni dalpiau o hanes Rhyfel Annibyniaeth America – y Ffŵl, meddai ef, wedi bod yn ei ganol! Traethir ar achosion y rhyfel, gan geisio mesur y bai ar y ddwy ochr. A meddylier mewn difrif am gyfraniad yr Hen Wraig o Indiad Coch, sy’n rhoi safbwynt y brodorion yng nghanol y gwrthdaro. Yn ail, ac yn brif beth yr anterliwt, ceir dadl ddiwinyddol ar ‘gwestiwn y Cyfamodau’, mater canolog yn hanes Cristnogaeth. Rhaid bod cynulleidfa a fyddai’n deall beth yw’r Ddau Gyfamod ac yn fodlon sefyll i wrando’r dadlau yn eu cylch.

Dyma gyfle inni ddysgu rhywbeth, ac efallai ofyn rhai cwestiynau, am chwaeth ein cyndadau mewn cyfnod allweddol o’n hanes.

£15.00

Dafydd Glyn Jones – Hen Ddalennau

Gan bob sgriblwr mae pentwr o hen ddalennau yn hel dros y blynyddoedd, ac am rai ohonynt gall yr awdur fod yn gofyn ‘pam dweud peth mor hurt?’ a ‘tybed ai fi oedd e?’. Dyma ddetholiad o ddalennau sydd, hyd yma beth bynnag, wedi goroesi’r chwynnu: darlithoedd, erthyglau ac ysgrif-adolygiadau ar amrywiaeth o awduron, gweithiau a chyfnodau yn llên y Cymry. Wele’r cynnwys:

  • Ystyried Gildas
  • Ystyried Wade-Evans
  • Y Bedwaredd Gainc
  • Breuddwyd Moel?
  • Blas yr Henfyd
  • Syr Siôn Prys ac Apologia’r Genedl
  • Côr y Ceidwadwyr
  • Camp a Rhemp Bardd Mawr Môn,
  • ‘Edward Morgan’, ‘Morganyg’ a ‘Iolo Morgannwyg’
  • Huw Jones o Langwm
  • Dim ond Act
  • Cofio Saunders Lewis yr un Pryd
  • Hwyl a Helynt Hen Eisteddfodau Môn
  • Tri Llenor rhwng y Ddwywlad
  • Troedio’r Ffiniau
  • Caradog Prichard
  • Pedwar Modernydd
  • Pennod Ryfedd a Thrwstan
  • Glyndebourne y Cymry, ynteu Tŷ Uchelwr Drama?
  • Deg Cwestiwn i Ddramodydd
  • Hanes ein Llên drwy Wydrau Newydd

£15.00 am y lot.

2 Ymateb i “Yn Newydd gan Ddalen Newydd”

  1. Ann Corkett Hydref 8, 2021 at 10:03 am #

    Bore da; gobeithio’ch bod chi’n dal i wella. Mae Bruce yn gofyn a ydych chi wedi anfon hysbyseb o ryw fath at Y Casglwr (amser yn brin) ynteu a hoffech iddo sôn am y rhain yn y Briwsion (er efallai y bydd y lle’n gyfyngedig). Rhoddaf rhywbeth ar rai tudalennau Facebook. Cofion gorau, Ann

    Sent from my iPhone

    >

    • glynadda Hydref 8, 2021 at 10:09 am #

      Diolch yn fawr Ann. Newydd yrru hysbyseb i’r Casglwr.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: