Erlyn ac erlid

28 Tach

Ar Nation Cymru, 23 Hydref, yr oedd Cynog Dafis yn ymateb i gytundeb Plaid Cymru a Llafur. Dyfynnaf ddwy frawddeg: “Wales will be an exciting country, the place to be in, especially for the young. The prospect is almost enough to make me want to survive the decade.”

Edrychwch arni fel hyn. Pe bawn i’n dymuno anghytuno â’r ymateb yna, ar ba dir y byddwn yn gwneud hynny?

Dowch efo mi gam ymhellach. Pe bawn i’n dweud – a dyma fi yn ei ddweud – fy mod i’n dal i chwysu o gywilydd oer dros Gymru heddiw a thros y gymdeithas yr wy’n perthyn iddi … pam y dylwn i deimlo felly?

Mae a wnelo’n benodol ag un o’r pum mater a restrais – ac nid am y tro cyntaf – ar 20 Tachwedd wrth drafod amodau cytundeb gwleidyddol yng Nghymru. A’r mater hwnnw? Y Postfeistri.

Yr wythnos hon eto clywsom am ragor o’r bobl hyn yn cael eu dyfarnu’n ddieuog ar ôl y blynyddoedd o ddisgwyl ac ymgyrchu a gobeithio. Pa iawn a gynigir y tro hwn, wn i ddim. Ond pa beth bynnag a fydd, ni bydd byth yn ddigon.

Hyd y gwn, mae’r wraig a gychwynnodd yr holl gyhuddiadau yn dal mewn swydd aruchel gyda Phêl-droed Cymru. Mae’r twrneiod a fu’n erlyn yn dal mewn busnes, a’r barnwyr yn dal i eistedd mewn barn.

Mae’r peth yn gofyn deddf. Gan San Steffan yn sicr, ond gan lywodraeth Cymru hefyd os oes modd yn y byd. Yn erbyn y Goron y mae pob trosedd, gwirioneddol a honedig, ym Mhrydain, a’r Goron, sef y wladwriaeth, a ddylai ad-dalu lle profir na bu trosedd. Ai llywodraeth Cymru yw’r fraich briodol o lywodraeth Loegr yn hyn o beth, wn i ddim, ac os gofynnwn am farn gyfreithiol, yr aflwydd yw fod cynifer o gyfreithwyr, yng Nghymru fel yn Lloegr, wedi baeddu eu copi yn anfaddeuol yn y mater hwn.

Peidiwch â sôn am “bardwn”. Iawn sydd eisiau, a dylai hwn gynnwys o leiaf ddwy elfen. (1) Ymddiheuriad ar ran y Goron, wedi ei gyfeirio at y rhai a gafodd gam a’i gyhoeddi’n helaeth drwy’r holl gyfryngau. (2) Ad-daliad ariannol am: (a) y costau a wynebwyd, y cartrefi a’r busnesion a’r bywoliaethau a gollwyd; a (b) am y sarhad a’r pryder a’r boen. Dywedaf eto, ni all (b) byth fod yn ddigon.

Fel cam cyntaf, dylai llywodraeth, ar ran y wladwriaeth, dalu’r symiau hyn heddiw, yn syth, i’r rhai a ddioddefodd. Nid oes deddf yn galluogi hyn: rhaid gwneud un, heddiw.

Yr ail gam, cael ad-daliad gan bawb a fu’n gyfrifol am y dioddefaint: cyhuddwyr, tystion, erlynwyr, ynadon, barnwyr. Ar ôl, dyweder, hanner dwsin o achosion cyffelyb o fewn byr amser, fe ddylasai fod yn hollol amlwg fod rhyw gamgymeriad mawr wedi digwydd yn ganolog yn rhywle, Beth wnaeth y twrneiod? Sefyll ac ystyried? Dim ffiars o beryg, mynd ymlaen, cymryd y pres. Erlyn yn troi’n erlid.

Pa lywodraeth sy’n mynd i ddeddfu fel hyn? Llywodraeth Cymru? Llafur yw honno, yn sicr o’i lle bellach am dair blynedd, a gwelaf yma ryw rwystr sy’n fwy seicolegol na dim arall. Mae sicrhau cyfiawnder i unigolyn yn rhywbeth an-Llafuraidd i’w wneud, yn wir yn beth y gallwn ddychmygu ambell Dori yn ei gymryd i fyny ynghynt. A oes unrhyw wleidydd Ceidwadol wedi dweud rhywbeth am yr achos hwn, unwaith eto, wn i ddim. Plaid Cymru? Hollol bosib fy mod wedi methu rhywbeth, ond hyd yma ni chlywais yr un o wleidyddion y Blaid yn cyfeirio at y mater o gwbl. A allai Plaid Cymru, pe bai hi’n dewis, roi unrhyw bwysau ar Lafur? Go anodd bellach am dair blynedd, oherwydd mae hi wedi chwarae ei chardiau i gyd.

A rhan fawr o’r broblem, fel yr wyf wedi sôn fwy nag unwaith o’r blaen, yw gwendid affwysol y wasg a’r cyfryngau sy gennym yng Nghymru bellach. Gallaf feddwl am ambell ohebydd o’r gorffennol a fyddai wedi cornelu rhai o’r twrneiod yma yn nrysau eu swyddfeydd a’u gorfodi i ateb dros eu camwedd.

Yn niwedd Le Comte de Monte-Cristo ni ddaw dim boddhad i Edmond Dantes o fod wedi troi’r byrddau ar ei elynion i gyd, ond yn hytrach deimlad o ddadrithiad a gwacter. Efallai mai dyna sy’n seicolegol gywir. Ond i ni ddarllenwyr (a gwylwyr y ffilm) daw rhyw gysur o feddwl fod rhywfaint o gyfiawnder i’w gael yn yr hen fyd yma wedi’r cyfan. Sut i gael y cyfiawnder hwnnw yn yr achos tra difrifol hwn? Be ddywedwch chi ddarllenwyr?

A gallwch ddarllen eto flogiau 19 Ebrill, 31 Mai a 16 Medi.

5 Ymateb i “Erlyn ac erlid”

  1. Arthur Owen Tachwedd 29, 2021 at 10:26 am #

    Mae Cynog yn optimist,tyda chi ddim.Pwy sy’n iawn,pwy a wyr?

    • glynadda Tachwedd 29, 2021 at 10:46 am #

      Optimist, pesimist, beth bynnag, mae eisiau cywiro’r camwedd ofnadwy yma.

  2. Dei Tomos Tachwedd 29, 2021 at 1:49 pm #

    da iawn chi am dynnu sylw at yr achos eto. Erthygl dros chwe tudalen gan The Sunday Times ddoe yn ei gylchgrawn yn adrodd yr hanes am sgandal y Postfeistri yn seiliedig ar lyfr gan Nick Wallis a fu’n un o’r ychydig newyddiadurwyr a afaelodd yn y stori a pheidio gollwng ei afael. Y llyfr ‘The Great Post Office Scandal’ – Nick Wallis – Cyhoeddwr: Bath Publishing – £25, ebook £8

    • glynadda Tachwedd 29, 2021 at 2:09 pm #

      Diolch Dei. Mae tamaid yn Private Eye heddiw hefyd. Rwan, gylchgronau Cymru …

  3. Arthur Owen Tachwedd 30, 2021 at 11:21 am #

    Cydweld yn llwyr ynghlch yr isbostfeistri.Pan geisiaf ‘ateb’ mae yn fy ngwrthod.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: