Hyd yma …

30 Tach

Hyd yma (6.40) nid yw gwefan newyddion BBC Sgotland wedi llwyddo i gael y stori am ryddhau Craig Murray o garchar ganol y bore heddiw ! (Gallwch ddarllen eto yr hyn a sgrifennais ar ddiwrnod ei garcharu, 9 Mehefin.) Er peth syndod mae gan wefan The National adroddiad eithaf llawn a darluniau: un o agweddau rhyfedd yr holl fusnes eithafol ryfedd hwn fu ei distawrwydd byddarol hi dros bum mis. Eisoes mae Twitter Craig Murray wedi dechrau tanio, a hei lwc y gwelwn yn fuan eto flogiau Craig Murray yn denu fel o’r blaen eu cynulleidfaoedd o UGAIN MIL MEWN AWR a phethau felly (cymharwch eto, BGA, rhyw ddau ddwsin y dydd ar ddiwrnod go lew) !

Ie, pa ryfedd fod y Sefydliad yn ofni Craig Murray? Ond pwy yn union yw’r “Sefydliad” y tro hwn? Dyna’r cwestiwn sy’n gwneud yr achos yn un mor rhyfedd a dyrys. Roeddem yn sôn ddoe am sgandal fawr y postfeistri; wel dyma ichi sgandal anferth arall y mawr obeithiaf y daw rhywun yn fuan i’w holrhain i’w gwraidd. Yn y naill achos, blerwch oedd dechrau’r drwg a achosodd y fath ddioddefaint; yn yr achos hwn, mor amlwg â’r dydd, cynllwyn. Gan bwy? I ba ddiben yn union?

Darllenwn y bydd Craig yn awr yn apelio am iawnder at lys arbennig yn yr Alban, yna’n mynd at Lys Iawnderau Dynol Ewrop. Boed iechyd a nerth iddo droi’r byrddau yn llwyr. A pheidiwn ni Gymry a meddwl nad oes yma ymhlygiadau i ni.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: