Neges i ymgeiswyr

24 Ebr

Etholiad Cyngor Gwynedd. Unrhyw ymgeisydd sydd â gobaith am bleidlais o’r tŷ hwn, rhaid iddo/iddi fod yn glir a therfynol bendant ar ddau brif beth:

(1) Dim (a ‘dim’ yn golygu DIM) datblygiad niwclear pellach yn Nhrawsfynydd nac unrhyw fan yn y Wynedd bresennol, a DIM cydweithrediad â chynlluniau niwclear gwleidyddion gwallgo Môn.

(2) TAI. Wynebwn y gwirionedd cyffredinol, yr wyf wedi ei ddweud ar y blog hwn fwy nag unwaith o’r blaen, mai gormod o dai sydd yng Nghymru, a dim Cymry i’w llenwi. Beth ddylai fod polisi tai awdurdod sirol goleuedig? Diogelu, ac os oes modd o gwbl, Adfer (!!) meddiant Cymry ar dai.

Yn awr, y polisi o dreblu’r dreth ar ail gartref. Gwerth ei drio efallai, er na fydd yn mennu fawr ar y mewnlifwr cefnog. OND – a dyma sydd angen i’r ymgeiswyr ei gofio – mae’n rhaid trin yn wahanol rai categorïau o berchenogion. Dim treblu’r dreth felly ar y sawl a fedr brofi ei fod yn un o’r rhai hyn: (a) brodor o’r ardal lle mae’r eiddo (y pentref, y plwy, y cwmwd, y cantref — dewiser fel y bo’n addas); (b) Cymro; (c) unrhyw un o unrhyw fan yn y byd os yw’n medru Cymraeg.

Oes, mae gen i ail dŷ, troedle yn fy hen ardal. Os gorfodir fi gan y dreth newydd i’w werthu, pwy a’i pryn? Faint o fet? Pleidlais felly ar Fai 5ed i’r ymgeisydd sy’n ymrwymo i gefnogi gwneud eithriad fel a awgrymir uchod.

A dyma ailgyhoeddi dau hen flog sy’n trafod y mater hwn ychydig yn llawnach.

2 Ymateb i “Neges i ymgeiswyr”

  1. Dienw Ebrill 28, 2022 at 12:12 pm #

    Byddai’n well gen i beidio â nodi f’enw ar hyn o bryd, ond rwy’n cytuno 100% â chi fel rhywun sydd wedi gweld dirywiad brawychus yn y gymuned o Gymry Cymraeg mewn tref yng ngogledd Sir Benfro. Yno mae cyfran yr eiddo sy’n ail gartrefi yn tynnu at 50%, prin iawn yw’r perchnogion yr ail gartrefi (fel fi) sy’n Gymry Cymraeg; prin iawn (a drud iawn) yw’r tir ar gyfer codi tai fforddiadwy; mae’r tai ar hyd stryd fy ail gartref yn gwerthu am £400,000 i £650,000+; ac mae bwlch o thua 30 mlynedd yn y boblogaeth leol sy’n iau na 50 oed sy’n medru’r Gymraeg. Os taw bwriad mesurau arfaethedig y llywodraeth yw rhyddhau rhagor o dai er mwyn i bobl (ifanc) sy’n byw yn lleol eu fforddio, mi fyddan nhw’n dal i fod y tu hwnt i’w modd ariannol am flynyddoedd i ddod ar sail cyflogau lleol. Rhaid wynebu’r ffaith felly y bydd cyfran sylweddol o’r stoc dai mewn ardaloedd poblogaidd yn parhau i fod yn ail gartrefi dros y tymor canolig i’r tymor hwy (wedi’r cwbl fe gymerodd ddegawdau i gyrraedd y sefyllfa bresennol on’d do?) Rhaid wynebu’r ffaith hefyd na châi llawer o’r eiddo sy’n dueddol o gael eu prynu fel ail gartrefi eu hystyried yn draddodiadol fel y math o dai y byddai pobl ifanc yn eu prynu fel eu tŷ cyntaf ‘chwaith. Gwell o lawer byddai cefnogi pobl sy’n dyheu am ddychwelyd i fyw yn yr ardal y cawsant eu magu ynddi i brynu cynifer o ail gartrefi â phosibl er mwyn rhwystro cynifer â phosib o newydd ddyfodiaid di-Gymraeg nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad â’r ardal rhag gwneud hynny. Gellid gwneud hynny drwy esemptiadau, gostyngiadau, grantiau ac ati – gydag amodau, a dros dro fel y bo’n briodol, nes cyrraedd cydbwysedd dymunol o ran cynaliadwyedd y Gymraeg efallai. Nid oes amser i’w wastraffu wrth aros am ganlyniad y peilot yn Nwyfor, neu bydd sawl cymuned o Gymry Gymraeg wedi’u chwalu’n barhaol yn y cyfamser, yn enwedig lle mae’r mwyafrif o aelodau’r cymunedau hynny yn hen. Nid wy’n cynnig y datrysiad hwn er mwyn bod yn hiliol nac yn anghroesawgar, ond yn hytrach er mwyn symud y cydbwysedd yn ôl o blaid trigolion blaenorol a phresennol mewn ardaloedd sensitif cyn iddi ddod yn rhy hwyr i achub/adfer/cynnal cymunedau lle siaredir y Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae gormod o wleidyddion yn canolbwyntio ar y gallu i siarad Cymraeg, yn hytrach nag ar ei defnydd o ddydd i ddydd / diogelu tafodieithoedd bregus. Yn achos fy ail gartref i, etifeddais i a’m tair chwaer dŷ fy mam-gu (sydd drws nesaf i dŷ fy nhad), a phrynais i a’m gwraig rannau fy chwiorydd yn y tŷ hwnnw. Mae fy mam yn byw dwy filltir i ffwrdd o’m hail dŷ yn y bwthyn y bu fy hen fam-gu yn byw ynddo ar un adeg, ac mae fy chwaer yn byw dair milltir i ffwrdd ohono. Er gwaethaf y degoedd o filoedd o bunnoedd dwi eisoes wedi’u gwario ar adnewyddu’r tŷ, oherwydd bod y gwaith hwnnw’n dal i fynd rhagddo ers dros bum mlynedd dwi’n gorfod talu premiwm o 100% ar y dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag yn ogystal â’r premiwm o 100% ar gyfer ail gartref. O ganlyniad, nid oes gen i ddimau sbâr i’w wario ar adnewyddu’r tŷ a’i ddodrefnu’n llawn – mae’n gylch dieflig. Dwi wedi cwblhau pob ymgynghoriad perthnasol diweddar, darllen pob adroddiad y seiliwyd yr ymgyngoriadau arnynt, ac ysgrifennu at y cynghorwyr sir ar gyfer wardiau gogledd Sir Benfro, yr Aelodau Seneddol ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac Aelod Seneddol Penfro – Preseli. Allan o’r Aelodau Seneddol, dim ond Paul Davies AS (yr olaf) sydd wedi bod mor gwrtais ag ymateb i fy llythyr, ac efe oedd y sawl diwethaf yr anfonais fy llythyr ato. Ces i sawl ymateb cadarnhaol gan nifer o’r cynghorwyr sir, ond dwi’n ofni taw nifer bach iawn o’n gwleidyddion a all uniaethu’n llwyr â phobl a fagwyd ar aelwydydd lle siaradir/siaradwyd y Gymraeg fel y brif iaith. Carwn drafod y mater hwn gyda chi ymhellach petasech am wneud hynny, ond byddai’n well gen i beidio â gwneud fy syniadau yn gyhoeddus os yw hynny’n iawn?

  2. David Mai 2, 2022 at 6:08 pm #

    Helo Dafydd, nid polisi i dreblu treth sydd yma ond polisi i godi’r premiwm 300%, yn golugu Treth Cyngor x 4, nid x 3

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: