Dau gam mawr yn ôl

21 Mai

● BUDDUGOLIAETH PWTYN. Pe bai – ac O na bai! – y Pwt yn cael ei symud ymaith yfory, neu gwell fyth heddiw, un ai i garchar neu i uffern, bydd yn gadael ar ei ôl un fuddugoliaeth fawr. Beth yw honno? Bod Sweden a’r Ffindir, gyda’u cais i ymuno â NATO, yn barod i roi heibio’r niwtraliaeth y maent wedi ei chadw a’i chynnal drwy oes pawb ohonom sy’n fyw. Colled fawr i’r byd, ac i Ewrop yn arbennig, yw bod y gwledydd llwyddiannus hyn yn mynd dan fawd America. Ac edrych arni yn y tymor byr, gellir maddau i wledydd y Baltig (Latfia, Lithwania ac Estonia), ac i Wlad Pwyl hefyd, am eu brys i gynghreirio ag unrhyw un heblaw Rwsia; ond a chymryd golwg ehangach, anodd meddwl na buasai band o wledydd niwtral ar draws Dwyrain Ewrop yn fodd i rwystro’r trychineb a’r hunllef sydd yn awr. Diau fod y breuddwyd am ‘Rwsia Fwy’, ac adfer hen ymerodraeth Stalin a’r Tsar, ym meddwl y dihiryn Bondaidd gwallgo Pwtyn drwy’r adeg: ond beth sydd wedi ei gymell i weithredu eleni, wedi rhoi’r esgus iddo? Heb unrhyw amheuaeth, anogaeth NATO ar i’r Wcrain ymuno â hi.

● NEGES NONSENS NICOLA. Anesmwythol braidd yn hanes ymweliad Nicola Sturgeon â’r Capitol a mannau eraill yn America yr wythnos diwethaf. Nancy Pelosi’n canmol Nicola fel ‘a real model for women everywhere,’ – iawn, y math o beth y bydd gwleidyddion yn ei ddweud wrth ei gilydd. Ond beth am sylwadau Nicola mewn ateb? (a) ‘We stand together as nations in defence of those values we hold dear.’ Wir-ionedd, a oedd Nicola’n golygu wrth hyn fod yr Alban, yn union yr un fath ag Unol Daleithiau’r Amerig, yn wladwriaeth wedi ei chreu drwy ladrad a hil-laddiad ar bobloedd frodorol, yn cael ei rheoli gan glymblaid ddiwydiannol-filwrol, yn sefydlu a chynnal unbenaethau adain-dde ble bynnag y mae ganddi ddylanwad, yn ymladd rhyfeloedd ofer a chostus ym mhob cwr o’r byd – a’u colli bob tro? (b) ‘Scotland and the United States are long-standing friends and allies.’ Mae hyn yn fater mwy sylfaenol. Dim ond gwladwriaethau sofran all fod yn ‘gynghreiriaid’; ni all pobl an-sofran fod mewn cynghrair â neb. Daeth America’n wladwriaeth yn 1776, ond roedd yr Alban wedi peidio bod yn wladwriaeth ers 1707. Achos braidd yn wahanol yw Iwerddon, sydd wedi cyfoesi ag America fel gwladwriaeth am gan mlynedd; yma eto nid yw ‘cynghreiriaid’ yn berthnasol, ond gellir sôn yn fwy cyffredinol am ‘gyfeillgarwch’ gan y bu gan y Gwyddel bresenoldeb gwleidyddol yn America, peth na bu gan yr Albanwr erioed, mwy na’r Cymro druan.

Gan ddyfnhau’r amheuaeth, dyma un neu ddau o wleidyddion yr SNP yr un wythnos yn dechrau mwmian am roi ychydig o amser, ‘transition period’ cyn i longau Trident adael yr Alban. Roeddwn yn methu coelio fy nghlustiau ddoe wrth glywed Ian Blackford yn sôn am ddealltwriaeth ar y mater hwn rhwng Alban annibynnol a ‘Phrydain’ ! A oes eisiau atgoffa Arweinydd San Steffan yr SNP mai ystyr ‘Prydain’ yw’r wladwriaeth unedol sy’n bod ers 1707, ac na bydd yn bod o’r foment y bydd yr Alban yn ymadael? (Peth gwahanol yw bod y Freninhes a’i holynydd yn dal i wisgo’r ddwy goron, ond cofio cywiro’r ymadrodd yn ‘Teyrnasoedd Unedig’, ‘United Kingdoms’ pan fydd angen.)

Fel rwyf wedi rhesymu o’r blaen, mae gan hyn, mater Trident, ymhlygiadau gyda’r pwysicaf i Gymru, ac i’r Gymraeg yn benodol. Mawr yw cyfrifoldeb CND yr Alban i gynnal a chynyddu’r pwysau oddi mewn i’r Blaid Genedlaethol. Mwy yw cyfrifoldeb a chyfle Plaid Werdd yr Alban, i ddymchwel ei chynghreiriau â’r SNP yn Holyrood ac yng Nghyngor Dinas Glasgow os bydd unrhyw wamalu pellach ar y cwestiwn hwn.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: