Trem yn ôl

2 Awst

Yn dilyn ein harolwg bach diniwed diwethaf, dyma ychydig o ystadegau eisteddfodol eto.

(1) Galwedigaethau enillwyr y Gadair a’r Goron yn ystod yr ugeinfed ganrif. Y ffigurau’n seiliedig NID ar niferoedd yr enillwyr ond ar nifer y LLWYDDIANNAU yn y ddwy brif gystadleuaeth – gan fod amryw o’r enillwyr wedi ennill droeon.

                                          

Clerigwyr 34.5 %
Addysgwyr 23.5
Newyddiadurwyr 7.5
Cyfreithwyr 2
Ffermwyr 1. 5
Darlledwyr 1.5
Anhysbys i G.A. 29.5

(2) Awn yn ôl ymhellach ar aden dychymyg. PETAI yna Eisteddfod gyda chadeirio a choroni yn y ddeunawfed ganrif, beth fyddai’r sgôr meddech chi? Rhywbeth fel hyn efallai …?

               

Porthmyn 21 %
Cowperiaid 17
Seiri Coed 13
Seiri Meini 13
Olwynwyr 9
Gofaint 8
Cyfrwywyr 7
Gwragedd Hysbys 3
Smyglwyr 2
Lladron Pen Ffordd 2
Offeiriaid 2
Teilwriaid 1.5
Stiwardiaid 1
Mân Uchelwyr 0.5

2 Ymateb i “Trem yn ôl”

  1. HC Awst 2, 2022 at 6:11 pm #

    Llongwyr ? Rhy bell i ffwrdd i gyflwyno eu gwaith, efallai ? Neu tybed a fuasai’r smyglwyr wedi dwyn eu gwaith, a chyflawni llenladrad ?

  2. glynadda Awst 2, 2022 at 6:28 pm #

    Llongwyr? Dau a allai fod wedi ennill. (1) John Morris, brawd ieuenga’r Morrisiaid. (2) Dafydd Samwell, ‘Y Meddyg Du’.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: