Ie, adeg dra arbennig ac eithriadol. Y streicwyr oll ar streic ac yn gwrthod streicio! Be nesa?
● Wel, i gychwyn ac i’n gosod oll yn y cywair iawn, dyma ni wedi cael 96 clec o’r gynnau mawr. Addas a chwaethus iawn onidê? A gallwn fod yn hollol hyderus o un peth, bydd y ‘Department of Silly Walk’, chwedl Monty Python, yn rhoi popeth ar waith heb fethu’r un manylyn nac arbed dim ar y draul. Am drefnu sioe, pwy sy’n well na’r Sefydliad Prydeinig? Ateb: NEB. Pwy sydd agos cystal? Eto, NEB.
● Cof am ddiwrnod angladd y diweddar Frenin Siôr VI. Yr ymateb y cofiaf ei glywed mewn teulu a chymdogaeth ar ôl gwrando’r radio: ‘Do, mi aeth pob dim reit neis i’r c’radur. Do wir … heblaw am yr hen dacla’r hen offisars na’n gweiddi!’ Dyma ddyfarniad cenhedlaeth a gofiai’r Rhyfel Byd Cyntaf yn rhy dda, a dyfarniad ardal nad oedd ganddi hoffter mawr o ryfeloedd. Eithr gwyddom hefyd fod cyfran helaeth o’r cyhoedd Prydeinig y mae bloeddiadau’r ‘hen dacla’ yn fiwsig pur i’w chlustiau.
● Y rhai ohonoch sydd â Beiblau, hwyrach yr hoffech fwrw golwg ar I Samuel, 8: 10-19. Dyma’r adnodau lle mae Samuel yn taer gynghori pobl Israel, er eu lles eu hunain, i beidio â chael brenin. Yn fuan wedyn fe gytunodd Saul yn anfoddog i dderbyn y swydd, ac wele’r Proffwyd yn ei eneinio a’i gyflwyno i’r bobl. O hynny ymlaen ni bu anogwr mwy brwd ar frenhinoedd Israel na Sam. Barn yr arbenigwyr yw fod yma ddwy stori wahanol, hwyrach o ffynonellau gwahanol, wedi eu pastio at ei gilydd rywle ar y daith. Beth bynnag am hynny, byddaf yn teimlo wrth ddarllen y darn hwn mai rhyw fath o law-fer yw ‘brenin’ am ‘wladwriaeth’, ac atgoffir fi o ddadl Waldo Williams mewn ysgrif nodedig ar ‘Brenhiniaeth a Brawdoliaeth’.
AR Y LLAW ARALL … Hwyrach yr hoffech feddwl am y ddwy restr hyn o wladwriaethau Ewrop:
(a) Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, Yr Eidal, Yr Almaen, Pwyl, Awstria, Rwmania, Hwngari, Groeg, Albania a gwledydd yr ‘Hen Iwgoslafia’.
(b) Norwy, Denmarc, Sweden, Yr Iseldiroedd, Belg, Prydain Fawr.
(Rydym yn hepgor Y Swistir am ei bod yn achos hollol unigryw, a’r hen Tseco-Slofacia hefyd oherwydd ffactorau arbennig.)
Yr hyn sy’n gyffredin i (a), gwledydd canol a Deheudir Ewrop, yw iddynt i gyd fod yn wledydd Ffasgaidd neu’n unbenaethau o ryw fath yn ystod fy oes i, a’r rhan fwyaf ohonynt nid trwy goncwest ond o’u dewis eu hunain. Yr oeddynt i gyd yn weriniaethau. Gwledydd Gogledd Ewrop sydd yn rhestr (b), chwe brenhiniaeth, a’r chwe gwlad na bu iddynt ddewis eu gosod eu hunain dan unben.
Bu crefydd hefyd yn ffactor mawr. Sawl gweriniaeth Gatholig a fu’n ddemocratiaeth sefydlog drwy oes pawb ohonom ni sy’n fyw? Ateb: un. Iwerddon. Yr un pryd: ble bu methiant mawr Protestaniaeth fel grym gwleidyddol? Gogledd Iwerddon !
Ond trafod brenhiniaeth yr ydym. Mae dau reswm pam y bu brenhiniaeth gyfansoddiadol, etifeddol yn gymorth tuag at greu a chynnal gradd o ryddid personol a rhai o’r breintiau sy’n gwneud bywyd yn oddefadwy. (i) Yr egwyddor fawr o wahaniaethu rhwng gwladwriaeth a llywodraeth. (ii) Rhoi i bobl hollol wirion, sef cyfran fawr o ddynol ryw, rywbeth i fod yn wirion yn ei gylch, a hwnnw’n rhywbeth cymharol ddiniwed.
● Ni wastraffodd y Brenin newydd ddiwrnod cyn ‘creu’ ei fab hynaf yn Dywysog Cymru. Yr oedd ganddo berffaith hawl i wneud hyn, ac nid oedd raid iddo ymgynghori â neb yng Nghymru. Syndod braidd yw iddo’i wneud mor sydyn. Arwisgiad arall? Y nefoedd a’n gwaredo! Nid oes cyfraith na thraddodiad yn dweud fod rhaid cael un, ond os mynn rhywun gael un, gadewch iddo fod yn beth bach tawel, yn Llundain. NID y gwelem bellach yng Nghymru wrthwynebu fel y tro o’r blaen. Nid yw cywair protestiol diwedd y 1960au yn bod bellach, a’r un pryd nid oes yr un George Thomas yn y tir; heddiw nid oes gan Lafur yng Nghymru ddim byd i’w ofni.
● Fe all hyn swnio fel croesddweud, ond … Yn fuan wedi ei choroni ym 1953 aeth y ddiweddar Frenhines ar ymweliad arbennig â Chaeredin pryd y ‘cyflwynwyd’ iddi Goron yr Alban ynghyd â rhai tlysau eraill cysylltiedig â’r frenhiniaeth Albanaidd. Eu cyflwyno i’w sylw a wnaed (swnia’n rhywbeth digon tebyg i gyflwyno’r Aberthged yn yr Eisteddfod): ni osodwyd mo’r goron ar ei phen. A oes rhywun wedi meddwl am hyn? Tybed na fyddai’n beth da y tro hwn coroni’r Brenin yn yr Alban yn ogystal ag yn Llundain? Ystyr hyn yw y byddai’n datgan a chynrychioli, nid un ‘Deyrnas Unedig’ mwyach, ond dwy o ‘Deyrnasoedd Unedig’ a thrwy hynny ddichonolrwydd dwy wladwriaeth, ‘unedig’ yn yr ystyr na byddent yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Beth fyddai arwyddocâd hollbwysig hyn? Rwyf wedi ei ddweud o’r blaen ar y blog, ond fe’i dywedaf eto. Mewn brenhiniaeth gyfansoddiadol mae’r milwr, mewn enw, â’i deyrngarwch i’r Goron. Ond yn ymarferol, fel y gwyddom oll, mae’n derbyn ei gyfarwyddyd gan y llywodraeth etholedig. Dylai fod yn bosibl i’r catrodau Albanaidd enwog barhau dan adduned i’r Brenin Siarl III fel Brenin yr Alban, ond bod at alw llywodraeth etholedig Holyrood mewn Alban annibynnol. Byddai hyn yn allweddol dim ond inni feddwl am un diwrnod yn arbennig, sef diwrnod cau Faslane. O’n safbwynt ni, ac o safbwynt y Gymraeg, sef y peth pwysicaf, byddai hyn yn dyngedfennol, fel yr wyf wedi ceisio awgrymu o’r blaen.
● A sôn am annibyniaeth yr Alban, amlwg na ellir cael refferendwm rhwng hyn a’r Coroni, na llawer o sôn amdano. Llawn cystal yn fy marn i: buan wedyn y dôi hi’n 2024, Etholiad Cyffredinol a’i wneud yn ‘Etholiad Annibyniaeth’, sef ‘Cynllun B’, gwell o lawer.
● Mater nad oes fawr neb yn cofio amdano efallai. Mae’r Brenin Siarl yn awr yn gadeirydd y Cyfrin Gyngor, ef yw ‘The King in Council’. Mae hefyd, hyd y gwyddom, yn dal yn Ganghellor Prifysgol Cymru, hynny sydd ar ôl ohoni. Pe bai’r diwrnod yn dod (dywedaf ‘pe bai …’, nid ‘os daw …’) pan welid y Canghellor yn trosglwyddo’n ôl iddo’i hun fel ‘Y Brenin yn ei Gyngor’ Siarter y Brifysgol a thrwy hynny yn ei dileu’n derfynol, un canlyniad fyddai gadael nifer go fawr o bobl – rwy’n amcangyfrif mai rhyw 200,000 – yn sydyn heb raddau. Dim iws dweud ‘mi weithiais am y radd hon ac fe’i cefais yn y flwyddyn-a’r-flwyddyn’. ‘Ym mha sefydliad rwyt ti’n dal dy radd?’ yw’r cwestiwn.
● Ond i orffen, rhaid dweud hyn. Ar ôl Harri VIII, ni wnaeth yr un o bennau coronog Lloegr unrhyw ddrwg i Gymru, na bwriadu hynny hyd y gwn i. Pwy yw prif elynion Cymru a’i phobl heddiw? ATEB: y gwleidyddon hynny o Blaid Cymru sy’n cefnogi mwy o niwclear. Cofied Yes Cymru hefyd dan ei arweinyddiaeth lawn-amser newydd: allwn ni ddim cael annibyniaeth a dwy atomfa arall, mae mor syml â hynny.
Dafydd,
Yn y blog hwn, mae dy gasgliadau di yn hynod o ddiddorol.
Mewn gwirionedd, yn ddiddorol iawn, iawn, iawn.
Ond prin bod rhaid dy atgoffa di o’r hyn ddywedodd Bertrand Russell, sef
pan fo athronydd yn gwneud camgymeriad yn ei resymegu, mae ei gasgliadau
bob amser yn llawer mwy diddorol na phe bai heb wneud y camgymeriad.
Y tro hwn, rwyt ti wedi athronyddu dy hun i’r gornel ryfeddaf.
Dos yn ôl i’r dechrau, wir Dduw!
Chwilia am y camgymeriad.
Dyma ambell hint i dy helpu:
1) Mohammed bin Salman. May his tribe increase?
2) Pwy sy’n debyg o ennill yr etholiad yn Sweden yfory?
3) Beth wnaeth Siarl yr Ail i’r Cyrnol John Jones?
4)Ym mhle y lladdwyd Olof Palme, a pham?
5) Pwy oedd Quisling? Beth wnaeth y frenhiniaeth gyfansoddiadol
Norwyaidd iddo fo ar ôl y rhyfel?
6) Pwy sy’n dal i fyw mewn carchar moethus yn Norwy heddiw, ar ôl
llofruddio ugeiniau o sosialwyr ifanc?
7) Beth oedd cyfraniad clodwiw Sweden i’r frwydr yn erbyn Hitler yn
yr ail ryfel byd?
8) Pa wledydd yng ngogledd Ewrop sydd uchaf eu cloch heddiw, yn
cefnogi’r North Atlantic Bullingdon Club (sef NATO)?
9) Edward VII, Edward VIII, y Tywysog Andrew, Diana, Dodi Al-fayed,
Margaret Rose, Huw Edwards, Guto Harri, Dafydd Elis Thomas.
10) Pwy oedd y prif gyfranddalwyr yn y cwmni caethwasiaeth y
pardduwyd Edward Colston am weithio iddo?
11) Pa un arall a dderbyniodd bentwr o gyfranddaliadau yn rhodd gan
Colston, rhag i neb feddwl ei fod yn erbyn caethwasiaeth?
12) Pwy tybed oedd Jack the Ripper?
Pob hwyo ar y gwaith !
Palmer Parry
Miloedd o ddiolch Palmer. Byddaf yn ystyried pob eitem yn ofalus — nid i anghytuno, oherwydd mae’n sicr dy fod yn iawn — ond i weld y berthynas â fy nadl i. Mae’n amheuthun cael ymateb fel hyn. Beth amdani, ddarllenwyr eraill yr hen flog? Cofion a phob hwyl.