Yfory ym Machynlleth fe fydd cynhadledd genedlaethol ar fater ‘Yr Argyfwng Tai’. Ni allaf fynd yno i ddweud wrth y cynadleddwyr y peth amlwg. Ys gwn-i a fydd rhywun yno’n ei ddweud?
Y peth amlwg hwnnw? Gormod o dai sydd yng Nghymru, a dim digon o Gymry i’w meddiannu.
Un ateb bach bach, fel yr wyf wedi dweud o’r blaen, yw i Gymro feddu mwy nag un tŷ. Ateb bach bach, dywedaf eto. Ond beth mae Cyngor Gwynedd (P.C.) yn ei wneud? Cosbi’r Cymro sy’n rhoi’r help bach bach hwn. Dyma ichi blaid wedi colli ei chyfeiriad yn llwyr, a gwleidyddiaeth hollol tu-chwith.
Os yw’r gynhadledd i gyflawni unrhyw beth o werth, cynigied rhywun, a chefnoged y cynadleddwyr: ‘bod argymell i Gynghorau Sir Cymru ailystyried y mater hwn a phenderfynu eithrio rhag talu’r premiwm y brodor sy’n dal ail eiddo yn ei ardal.’
Rydych yn ddyn dewr yn enwedig pe tasech yn mynd i Fachynlleth a mynegu’r farn ichod. Mae trwch y Blaid a’r mudiadau eraill sy’n honedig yn ceisio creu Cymru annibynol fodern yn casau unryw un sydd berchen ar fwy nag un ty beth bynnag yw y rhesewm am hynny. Casineb ar sail ideolegol, rhagfarn efalle, a’r farn gul sy’n gwrthod cydnabod fod gan landlord bach, 1 neu 2 dy, gyfle i fod dipyn agosach at ei denantiaid na’r cyrff anferth, cymdeithasau tau ag ati, sy’n cael eu ffafrio gan y criw acw yn y Bae. Mae syniadau y “corporate state” ( oes ‘na fersiwn Gymraeg o’r fath hunllef?) wedi gafael yn gryf o fewn meddyliau Plaid Cymru a’r Blaid Wladychu Lafur. Bydd yn frwydr hir i berswadio’r Cymry ar lawr gwlad sy’n hynod ddi- ddiddordeb ynglyn a’r holl beth. Ar hyn o bryd mae’r criw rhagfarnllyd ymhell ar ein blaen.
Diolch Dafis. Ie, ‘y wladwriareth gorfforaethol’. Mae yna ryw rediad meddwl, corfforaethol = sosialaidd = gwerinol = cyfiawn &c. &c. Pleidwyr yn bod yn naïf unwaith eto.