Gŵyl Ddewi ddydd Mercher. Tybed pa neges obeithiol, pa oleuni ar ein cyflwr, fydd gan y siaradwyr eleni?
Dyma ddau gwestiwn i’r areithwyr, y sylwebyddion oll a’r cyfryngau hefyd, feddwl amdanynt.
- Yn ystod y trigain mlynedd rhwng Tynged yr Iaith a’r dydd heddiw, beth ddylem ni, beth ALLEM ni, fod wedi ei wneud yn wahanol ?
- Yn ôl cyfrifiadau 1991 a 2001 yr oedd arwyddion bychain fod rhywbeth yn dechrau gweithio. A hynny yng nghysgod trychineb ’79. Pa fformiwla oedd ar waith bryd hynny? Bellach yn y Gymru ddatganoledig, dyma ffigurau 2011 a 2021. A gollwyd y fformiwla yn nyfroedd y Bae? A ddylem yrru rhyw frogäwr neu sgwba-blymiwr i chwilio amdani?
Rwyf wedi codi’r cwestiwn hwn o’r blaen, 6 a 9 Rhagfyr y llynedd. Hyd yma nid oes neb ohonoch wedi cynnig ateb.
Ateb? Dim ond un ateb sydd.
Sef …?
Fawr ddim syniad.
1. Rhagor o siaradwyr – ond pa fesur sy’n cael ei ddefnyddio i rifo y nifer? Disgyblion yn dysgu iaith yn yr ysgol ond yn troi i’r Saesneg tu allan a hynny’n digwydd tu allan i Ysgolion Cymraeg. Strategaeth ffasiynol yng nghylchoedd y Bay Bubble ond ……..
2. Gwarchod ein cymunedau Cymreig. Cefn gwlad y Gorllewin ( De a Gogledd) – pentrefi a trefi bychan. Ond i raddau mae’r hwch wedi mynd drwy’r siop neu’r gaseg wedi ffoi’r stabal. Cartrefi a fu yn Gymreag eu iaith nawr yn gartrefi i Saeson dwad neu Cymry non Welsh sydd heb unryw fwriad i fynd i afael a’r iaith. ‘Roedd Emyr Llew y gweld y broblem hon yn dod ar y gorwel hanner canrif yn ol ac yn hwyrach criw Cymuned ond cefni arnynt wnaeth Plaid Cymru tra’n ofni bod yn hiliol ac yn gofydio dipyn mwy am hawliau dynion rhyfedd mewn ffrocs ag ati. Pwy wneith arwain yr ymdrech i ad enill tir? A tir yw calon y cwestiwn. …..
Digon fan’na i fwrw ymlaen am ddegawd o leua’ yn enwedig os y bydd Plaid Cymru a’r Welsh Labyr yn dal i redeg y sioe.
Un ateb sydd – mwy o esiampl gan bobl y Bae a Chyfarwyddwyr y gwahanol fudiadau. Mae’n debyg bod bron pawb yn siarad Saesneg.