Y newyddion drwg yn dymchwel am ein pennau o bob cyfeiriad – rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd, cynhesu byd-eang, ambiwlansys ar streic, tomatos yn mynd yn brin, y Cymry’n mynd yn brinnach … Ond hwrê, diolch byth, dyma rywbeth i godi’n calonnau y Gwanwyn oer hwn! Na phoenwn felly, mae’r olew sanctaidd yn barod ar gyfer coroni Carlo a Camilla, wedi ei gysegru yng Nghaersalem echdoe.
Reit. Y cam nesaf. Oherwydd y berthynas glos a chynnes rhwng y pâr brenhinol a Chymru, mae’n hollbwysig eu bod yn cael eu heneinio ar y diwrnod mawr ag Oel Morys Ifans. Fel y gosododd Iolo Morganwg i lawr mewn deddf, mae’r hylif bendithiol hwn (y peth gorau at gryd cymalau) i gael ei gysegru ym Mlaenau Ffestiniog, dan lafarganu Gweddi’r Orsedd, gan Archdderwydd Cymru, ac yn bresennol hefyd Batriarch Caersalem a chynrychiolaeth o’r holl gyrff Protestannaidd Cymreig. Ac fel y melyswyd yr olew olewydd yn y Tir Sanctaidd â joch o ddwfr rhosyn ac un neu ddau o bethau eraill, felly mae Olew Morys i gael ei bereiddio â llond ecob o ddiod cyrains duon cartref a llond gwniadur o Win Hors Radish Harri Mul. Wedi hynny bydd y sylwedd sancteiddiedig yn cael ei hebrwng i Abaty Westminster gan ddirprwyaeth gref o’r Urdd, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, Dyfodol i’r Iaith a Mentrau Iaith Cymru.
Nid oes angen dweud y fath edrych ymlaen eiddgar sydd drwy Gymru at y ddefodaeth hanesyddol ac ystyrlon hon.
Bobol annwyl! Ydi Gwilym Cowlyd wedi codi o’i fedd yn mynwent hen eglwys y Santes Fair yn Llanrwst ac wedi rhannu ei syniadau efo Glyn Adda? Mae hyn yn f’atgoffa o wahoddiad y Prifardd Pendant i Gesar holl Rwsia, Mygdeyrn Persia, Ymerawdwyr Rwsia a Japan, Cesar yr holl Almaen, Swltan holl Ymerodraeth Twrci, ei Sancteiddrwydd y Pab ymysg amryw eraill i ymuno â Gorsedd Glan Geirionydd – yr anrhydedd mwyaf y gellid ei gynnig i unrhyw un, meddai ef. ‘Does dim cofnod i unrhyw un ohonynt dderbyn y gwahoddiad!