Clywed fod awdurdodau Eisteddfod Llangollen yn mynd i ystyried cwestiwn aruthrol o bwysig fory, sef a ddylid newid geiriau T. Gwynn (wps!) Jones o fewn arwyddair yr ŵyl, ‘Byd gwyn fydd byd a gano …’.
Yr hen William Morgan wedi ei methu hi welwch-chi, ac mae’n hen bryd diwygio’r bumed bennod yna o Fathew:
Neis iawn eu byd y tlodion yn yr ysbryd …
Cŵl eu byd y rhai addfwyn …
Smashing eu byd y tangnefeddwyr …
Gwylied awduron eraill hefyd. ‘Pam fod eira yn ddymunol dros ben?’ (D.I.) Gwleidyddol Gywir Tomos (Daniel Owen), Mentra Aml-ddiwylliannol (Ceiriog), Madam Ryng-ethnig (W.D. Owen).
- * *
Ond gwamalrwydd o’r naill du. O ddifri calon ac yn enw pob synnwyr a rheswm, pwy sy’n mynd i roi stop ar y nonsens ofnadwy yma?
Cytuno’n llwyr Dafydd. A diolch am y blogia difyr ‘ma sy’n codi ‘nghalon i bob gafa’l.
Druan o bobol Bryngwyn a’r Coed Duon, ddweda i.
Mae hi’n waeth na hyn, hyd yn oed. Gweler yr adroddiad ar wefan BBC Cymru heddiw (15/03/2023) – https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/64957511
‘Chawn ni ddim dweud ‘fo’ rwan!
Diolch Cadi. Ond ARSWYDUS
Diolch Cadi. Ond ARSWYDUS ! Be nesa ?? A bellach does dim Academi Gymreig, dim Bwrdd Gwybodau Celtaidd, dim corff cymwys a chyfrifol i ddweud wrth y bobol wallgo yma am roi’r gorau i’w lol. Beth am ddatganiad ar ran Geiriadur Prifysgol Cymru? A chan holl adrannau Cymraeg y colegau?
Cyn bo hir chawn ni ddim dweud ‘mae hi’n oer’ (ddim yn ‘gender neutral welwch chi).
Peth arall ydi bod holwyr teledu heddiw’n tueddu i drin pethau fel hyn heb wên ar eu hwynebau. Dim hiwmor, dim diwylliant, dim dealltwriaeth o ddim byd. Pennau defaid yn rheoli.
I Mathew yr aethom ninnau neithiwr.
Beth am Gwyn fyd y jac-do du?
Ie, diolch am y blog Mishtar Adda, bob amsar yn cwnnu gwên a chalon.
Y peth cyntaf y carwn ei weud yw y dylai hi fod yn ddicon hawdd bwydo’r trosiad cywir ‘blessed world’ i’r peiriant cyfieithu (yn yr un modd ag y mae meddalwedd gyfieithu yn rhoi ‘on my own’ am ‘ar fy mhen fy hun’ yn hytrach nag ‘on my head my self’). Dyna ddatrys y ‘broblem’ wneud, sef pobl yn becso y gallai pobl roi’r llinell mewn peiriant cyfieithu a chael camsyniad.
Yr ail beth yw nace ‘the literal translation’ (ys gwetws rhywun ar ‘Dros Brecwast’ y bore yma) yw ‘White world’ eithr ‘a literal mistranslation’.
Ac yn drydydd, enghraifft o imperialaeth ieithyddol yw hyn lle mae’r Gymraeg yn cael ei phwyso a’i mesur yn ôl dealltwriaeth iaith rymus arall. Dyn ni ddim yn galw am wahardd (neu ‘foderneiddio’) ‘I’m dreaming of a white Christmas’, gan fod cefndir diwylliannol y Saesneg yn golygu ein bod yn deall taw ‘Nadolig tan eira’ yw awydd y canwr yn hytrach na rhyw freuddwyd afiach Cw-Clycs-Clannaidd.
Yn hollol. Taro’r hoelen ar ei phen.
‘Gwyn eich byd’ yw fy nghyfarchiad bob amser i rieni babi bach newydd. Diffyg dealltwriaeth a chrebwyll pwyllgor Llangollen yn arswydus. Druan o bob Gwyn, Sioned Gwyn a Iolo Wyn yn y Gymru sydd ohoni.
Yn union. Eifion Wyn, Watcyn Wyn, pob Gwen a Gwyn erioed. Roedd un Gwyn, efallai ddau, ym myddin y Gododdin, ac un ymhlith brodyr Heledd yn yr hen farddoniaeth.
Beth am fy merch ‘te? Ei henw hi ydy Gwenfair. Unrhyw awgrymiadau?
Mae hyn i gyd yn wirion ….
Cytuno’n llwyr a Glyn Adda. Dyma roi ystyr newydd i’r term ‘plismon iaith’!
Ond, o ddifrif, mae gweithred Eisteddfod Llangollen yn ymosodiad difrifol iawn ar y Gymraeg a’i sofraniaeth o fewn ei thiriogaeth ei hun. Dywed awdurdodau’ Eisteddfod iddynt ymgynghori ag arbenigwyr iaith, ond Cyngor y Celfyddydau yw’r unig gorff a enwir ganddynt. A wnaiff y corff hwnnw gyhoeddi’r cyngor a roddwyd i’r Eisteddfod?
Ydi, mae’n iawn inni gael gwybod pwy yn union oedd yr ‘arbenigwyr’ yma. F’atgoffa i braidd o Adran Comisiynydd yr iaith yn cael ei ‘gorfodi’ (dyna’r gair) gan rywun o rywle i fynnu toriadau yng Ngeiriadur yr Academi ar-lein heb ymgynghori dim â’r golygyddion. Dyma fyd y byddai Franz Kafka’n ei adnabod.