Streiciau a sôn am streiciau, a hynny am resymau hollol ddealladwy hefyd y dyddiau hyn.
Streic arall? Beth amdani, feirdd a phrydyddion Cymru?
Newydd glywed am benderfyniad awdurdodau Eisteddfod Llangollen i ‘gydweithio â bardd’ er mwyn cael arwyddair newydd yn lle cwpled T. Gwynn Jones. Feirdd, sefwch yn y bwlch. Peidiwch â gwneud dim i hyrwyddo’r ffwlbri ofnadwy yma sy’n tarddu o benglogau pobl ddigywilydd a di-ddallt.
‘Google Translate’ wir ! Fe ganodd bardd mawr o Gymro o’i galon gan roi arwyddair cynnes ac addas sydd wedi gwasanaethu ac wedi ysbrydoli hyd y dydd hwn. Oes unrhyw brydydd heddiw’n meddwl y gall wella arno?
A beth am ddatganiad cryf gan Gymdeithas Barddas?
Dyna beth gewch chi pan fydd Hippies o Loegr yn cymryd drosodd.
Cytuno a Glyn Adda eto. Naw wfft i unrhyw fardd a fydd yn derbyn comisiwn o Langollen. Ond beth am gystadleuaeth i’r Talyrnwyr? Llunier arwyddair i Eisteddfod Llangollen na allai fyth beri tramgwydd i unrhyw un yn unman o’i gamgyfieithu!
Rhoes cyfaill imi o Ganada (brodor o Langollen) ‘Byd gwyn fydd byd a gano’ i’w gyfiieithu ar-lein. Dyma’r canlyniad: ‘A white world is a canned world’.
A dyna dramgwyddo holl bysgod y byd!