Beth yn union yw tarddiad yr ebychiad ‘êcs!’ gyda’r ystyr ‘dyna ti wedi cael ail’, wn i ddim.
Ond beth bynnag, y tro pedol. Llongyfarchiadau i holl bleidwyr synnwyr. Da iawn bellach Llangollen am weld y pwynt. Ac êcs i ‘rai pobl yng Nghymru’ chwedl W.J. Gruffydd ers talwm.
Cwestiwn athronyddol sydd gen i. Pam ei bod yn iawn cadw’r geiriau ‘byd gwyn’ (y mae rhai anwybodus yn tybio mai nodi lliw yw eu hystyr), ond nid ‘Ynys Prydain’ (y mae rhai yr un mor anwybodus yn tybio mai Prydain yw ei hystyr)?
Ac os yn wir ffôl fu Llangollen, onid llawer mwy ffôl Gorsedd ‘Cymru’ gan y bu gan Langollen o leia y cwrteisi i syrthio ar ei bai?
Cytuno, Simon. Dau gamsyniad tebyg o ran hanfod, er eu bod yn dod o gyfeiriadau gwahanol. Rwyf innau wedi dweud a dweud, fel chwithau, fod yr Ynys Brydain chwedlonol neu fythaidd yn rhan o draddodiad ac o ddychymyg y Cymro, a bod gwybod amdani yn help i ddeall ein sefyllfa adfydus heddiw. ‘Y Cymro, adnebydd dy Brydeindod,’ chwedl A|lwyn D. Rees. Ond rwy’n dal i gredu hefyd fod J.R. Jones yn iawn o’r fan yna ymlaen, yn dangos fel y daeth ‘Prydeindopd’ (ei ystyr o) yn offeryn i ddarostwng y Cymry.