Do cofiwch, mi edrychais, bob yn ail â pheidio, ar y rhan fwyaf o’r sioe. Digri? Oedd, dynwarediad y Brenin o Harry Enfield yn dda iawn. Gwirion? Fel rydw i wedi dweud o’r blaen, peth i bobl wirion ydyw, ac yn hynny, yn rhannol, mae ei werth.
Ag un llygad ar y sgrîn, â’r llygad arall roeddwn yn edrych drwy fy nghopi o Lleu, a ddaeth i law heddiw. Ar y dudalen gefn, llun disgyblion o fy hen ysgol, ac oddi tano’r capsiwn: ‘Roedd disgyblion Bl 9 a 10 wedi mwynhau eu diwrnod ym Mhrifysgol Manceinion yn fawr iawn.’ Beth oedd diben yr ymweliad meddech chi? Syniad pwy oedd hwn?
Fel rwyf wedi dweud a dweud a dweud, un o broblemau mwyaf Cymru heddiw, onid y fwyaf oll, yw ymadawiad y fath niferoedd o’n disgyblion mwyaf galluog bob mis Medi. Rhan ydyw o beth mwy, ymddiswyddiad y dosbarth proffesiynol Cymraeg. Os na chawn ni ateb i hyn, rhowch ddeng mlynedd i hen genedl y Cymry eto cyn iddi gerdded yn derfynol oddi ar lwyfan hanes.
Nid yw’r frenhiniaeth a’r hyn sydd ynglŷn â hi yn fygythiad nac yn broblem o unrhyw fath i ni’r Cymry. Beth am gofio geiriau J.R. Jones? ‘O fewn i’r Cymry y mae eu gelyn.’
Ardderchog Mr Adda👍👋Fe wnes i fynd am dro yn Eryri.
Y prif gyflwynydd, sylwebydd ar y BBC? Mr Edwards? Un enghraifft o brain drain i Loegr.
Blaenoriaeth i wleidydd Cymraeg/Cymreig call:trio denu mwy o Gymry meddylgar 30+ oed yn ôl i weithio yng Nghymru. Hynny yw,ar ôl iddynt ehangu eu gorwelion yn Lloegr neu unrhyw wlad arall. Ac wrth gwrs:afraid dweud na ellir disgrifio arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig fel gwleidydd meddylgar,call. Be ar wyneb y ddaear ydi pwrpas ARTD?