Chware Teg i’r Dyn Bach !

8 Meh

Pawb yn lladd ar yr hen Rishi yn y modd mwyaf ofnadwy. Ond ’rhoswch chi …

Arlywyddion yw Macron a Biden, yn cynrychioli gweriniaethau. Yn ogystal â bod yn bennau llywodraeth, mae’r ddau hefyd yn bennau gwladwriaeth. Fel arall mae hi yn y Deyrnas hon, pen llywodraeth yn unig yw’r Dyn Bach. Nid y fo, ond y pen coronog, sydd yn dechnegol yn ein cynrychioli ni oll ar achlysuron fel hyn. Ond dyna ni, amlwg na chroesodd ei feddwl ei amddiffyn ei hun ar y tir cyfansoddiadol hollol ddilys hwn.

Yr oedd Scholtz yno, er mai Canghellor, h.y. math o brif weinidog, ydyw, a bod Arlywydd yn dechnegol uwch ei ben. Pwy fedr enwi Arlywydd yr Almaen? Oedd o yn y Coffâd? Cystal bod y Canghellor yno, i ddiolch am y waredigaeth rhag yr enwocaf o’i ragflaenwyr.

Nid yn annisgwyl, fe siaradwyd llawer iawn o lol ar y ddau ddiwrnod. Yr hen Yncl Jo, er enghraifft, yn mwydro ’mlaen am America bob amser yn sefyll dros ryddid ac yn erbyn gormes. Chile … Nicaragua … El Salvador … &c &c.

 §

Yr ymatebwyr Albanaidd y bore ’ma yn bur bles ar berfformiad Stephen Flynn yn nadl y saith plaid neithiwr. Un ohonyn nhw hefyd wedi hoffi cyfraniad ‘the Welsh Nationalist laddie, I canna remember his name …’

Ond mewn difri calon ac yn enw’r nefoedd, be wnewch chi o un sylw gan arweinydd y Blaid? Fod gan Gymru ‘draddodiad balch’ — ia ar fy llw, ‘proud tradition’, dyna’i eiriau – o anfon pobl ifainc i’r lluoedd arfog. Traddodiad, oes, ond wedi ei greu gan ein sefyllfa israddol. Ar adeg fel hyn fe ddylai ‘Stwffio’r Sais a’i fyddinoedd’ fod yn hollol ganolog yn negesau PC a’r SNP. Ni ddaeth allan yn ddigon clir neithiwr, hyd yn oed yn atebion Flynn, fod y ddwy blaid genedlaethol ar berwyl hollol wahanol, ac mewn gêm holl wahanol, i eiddo’r pleidiau ‘Prydeinig’.

§

Tipyn o sôn ar y safleoedd Albanaidd am amddiffyniad milwrol y wlad honno os bydd hi rywdro yn annibynnol. Amryw’n dweud na allant feddwl ond am un wladwriaeth erioed sydd wedi ymosod ar yr Alban, ac mai Lloegr yw honno. Oes beryg i ryw wlad arall wneud? Go brin, oni bai fod Pwtyn yn gollwng un ar Glasgow am fod hoff longau tanfor Syr Anysbrydoledig wedi eu hangori yno.

Gadael sylw