Yn gyfansoddiadol, gall y Frenhines wahodd unrhyw aelod o Dŷ’r Cyffredin neu o Dŷ’r Arglwyddi i ffurfio llywodraeth. Hwyrach yr hoffech chi, ddarllenwyr y blog, gynnig ambell enw iddi.
Ar y llaw arall, mae confensiwn wedi rheoli’r dewisiadau drwy’r blynyddoedd, ac mae gwahaniaeth rhwng (a) dewis prif weinidog hanner ffordd drwy dymor seneddol a (b) dewis arweinydd gwrthblaid.
O ran (a) fe ddywedir mai olynydd Theresa fydd y prif weinidog cyntaf i’w ddewis drwy bleidlais gyffredinol aelodau taledig ei blaid. Edward Heath yn 1965 oedd y cyntaf i’w ddewis drwy bleidlais Aelodau Torïaidd Tŷ’r Cyffredin; drwy ddewisiad yr un rhai y disodlwyd ef gan Thatcher, ac y gwthiwyd hithau allan yn y man. Beth oedd y drefn cyn hynny? Gallai fod angen arweinydd newydd ganol tymor ac ar frys oherwydd (i) afiechyd difrifol neu farwolaeth (Campbell-Bannerman, Bonar Law); (ii) penderfyniad i ymddeol (Baldwin, Churchill, Macmillan, Wilson, Blair, Cameron); (iii) disodli neu fethiant neu bwysau i fynd (Asquith, Chamberlain, Eden, Heath, Thatcher). Tan y 1960au o leiaf, fe ddôi enw’r olynydd allan o’r ‘Cylch Hud’, na wyddai neb yn iawn pwy oedd ei aelodau na sut i gael perthyn iddo, dim ond ei fod yn cynrychioli’r Sefydliad mewn rhyw ffordd; ac fe gyflwynid yr enw, rywfodd neu’i gilydd, i’r brenin neu’r frenhines. Fel hyn y penodwyd Balfour, Asquith, Lloyd George, Baldwin, Chamberlain, Churchill, Eden, Macmillan, Home.
O ran (b), dewis arweinydd gwrthblaid, ag arweinwyr Llafur y mae a wnelom yn bennaf. Corbyn yw’r cyntaf i’w benodi drwy bleidlais gyffredinol aelodau’r blaid, ac fel y gwyddom fe bair hyn anesmwythyd mawr i’r Blaid Lafur Seneddol ac i drwch ei phleidleiswyr. Hyd at hynny fe ddewisid yr arweinydd drwy ryw gonsensws o Aelodau Seneddol y blaid a’i Phwyllgor Gwaith Cenedlaethol. Yn wir mae rhyw stori’n gwrthod marw fod Attlee wedi ei ddewis yn 1935 oddi fewn i Transport House gan gyfrinfa o frawdoliaeth arbennig a nodweddid gan ryw anwastadrwydd bach coes trywsus; dywedir iddo drechu Arthur Greenwood (yntau’n un o’r Brodyr) a Herbert Morrison (nad oedd).
Dywed rhai heddiw fod 124,000 aelod taledig y blaid Geidwadol yn etholaeth rhy gul i gael dewis prif weinidog Prydain. Ond ystyriwch yr etholaeth mewn blynyddoedd a fu: llond llaw o’r Brodyr; neu etholaeth o un, sef y brenin neu’r frenhines.
A fydd dewis y 124,000 yn ddoethach na’r dewisiadau o’r blaen, dyn a ŵyr. Dewisiad darllenwyr y Mail a’r Express fydd hwn. Byddid yn disgwyl iddynt ddewis y clown gwirionaf, a dyna’r argoel medd y bwcis heddiw. Ond rai troeon yn y gorffennol colli a wnaeth y ceffyl blaen ymhlith y Torïaid (Butler ddwy waith, a Heseltine).
Pa un bynnag, y peth mawr dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf yw bod y rhain yn gwneud y llanast mwyaf posibl a bod cenedlaetholwyr yr Alban yn gallu troi hynny’n gyfle. Hynny fydd ein gwaredigaeth.