Doeddwn i ddim wedi arfer ymddiddori mewn hanes teulu, fy nheulu fy hun na theulu neb arall. Cael fy nhynnu i mewn wnes i – neu gael fy ngwthio efallai – gan fy mherthynas Americanaidd ifanc, Calvin. Mae’n debyg mai fy nghamgymeriad – os camgymeriad hefyd – oedd mynd ar Wyneblyfr, dweud tipyn bach amdanaf fy hun, fy nghartref yma yn Guildford, fy ngwaith fel ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, gwaith fy nhad yn y Ddinas, gwaith fy mam fel bargyfreithwraig, fy chwaer Candida, fy mrodyr Alex a Boris, fy merlen Pippa, fy llwyddiant ar y soddgrwth, fy ngwersi Mandarin, fy anturiaethau hwylio a neidio-bynji, fy addysg yn Downe House, Marlborough a Choleg Brenhinol Holloway, rhai o’m cyfeillion o ddyddiau ysgol a choleg ac wedyn. Yna ryw ddiwrnod dyna neges gan Calvin K. Abel. ‘Hai, Vicky!’ meddai.
Roedd Calvin y pryd hwnnw yn bedair ar bymtheg oed, yn byw yn Des Moines ac yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Talaith Iowa. Roedd yn Phi Beta Kappa, yn gapten ail dîm pêl-droed y brifysgol ac wedi ei ethol yn llywydd ei frawdoliaeth golegol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Enw’i chwaer oedd Deborah (Debbie), ac enwau ei frodyr oedd Jefferson (Jeff) a Clayton (Chuck). Roedd ei dad, Franklin (Frank) ‘mewn eiddo real’ ac yn awyddus i Calvin ei olynu yn y busnes; ond efallai y byddai Calvin yn dilyn ei gwrs ei hun. Roedd prom olaf yr ysgol uwchradd wedi mynd yn wych, ac yna cafodd y teulu wyliau difyr iawn yn Alaska, lle gwelodd Calvin ddwy arth a dal tri samon.
Wedyn daeth y sioc. Roedd Calvin am fetio, meddai, fy mod i fel yntau yn wir falch o’n gwreiddiau Cymreig! Y fi, Victoria (Vicky) Lewis-Bryan! Yn gyntaf, doeddwn i ddim yn ymwybodol fod gen i unrhyw ‘wreiddiau Cymreig’, er y gallai’r ‘Lewis’ fod yn rhyw arwydd; ac yn ail doeddwn i ddim yn meddwl bod hynny’n destun unrhyw falchder. Doeddwn i’n nabod fawr neb o Gymru, fûm i erioed yno, ac roedd yn anodd gen i feddwl fod yno unrhyw beth o ddiddordeb i mi. Ac am fy mherthynas â Calvin, dyna rywbeth newydd sbon. Mi holais fy nhad a’m mam, doedden nhw erioed wedi clywed am yr hogyn, nac am unrhyw deulu i ni yn America. Roedd fy nhad yn meddwl efallai iddo glywed ryw dro fod yna waed Cymreig yn ‘yr hen gadfridog’, oedd yn daid neu’n hen daid neu rywbeth iddo – doedd neb yn sicr iawn.
Yn ôl Calvin yr oedd ein teulu ni, y Lewis-Bryans, o’r un cyff â’i deulu yntau, teulu Abel, ac yn tarddu o rywle yng Nghymru. Ai ei hen daid, Bryan Abel Jones, oedd y cysylltiad? Nefoedd fawr, wyddwn i ddim! Hefyd, a fedrwn i esbonio’r berthynas ddwbl rhwng yr Abels a’r Kanes? Na fedrwn, siŵr iawn. Ond o ran poleitrwydd, mi ddiolchais i Calvin am gysylltu â mi, a dweud bod yr wybodaeth yn newydd i mi, ac yn ddiddorol. Peth gwirion i’w wneud, mae’n debyg.
Fyddai dim gwahaniaeth gen i pe na chlywn gan Calvin byth eto, ond er fy ngwaethaf fy hun mi ddechreuais feddwl a dyfalu tipyn bach am fy nisgyniad fy hun ar y ddwy ochr. Allai fy mam ddim mynd yn ôl ond rhyw ddwy genhedlaeth, meddai hi, ond roedd hi’n sicr fod y gwreiddiau’n ddigon diogel yma yn Surrey, heblaw rhyw stori am gysylltiad â’r Huguenots. Dyna efallai pam roedd mam yn ‘Frances’. Wedyn pam roedd fy nhad yn Montgomery (Monty)? O, oherwydd y traddodiad o Wasanaeth yn y teulu. Rees Lewis-Bryan oedd enw taid, tad fy nhad, uwch-gapten yn y Peirianwyr Brenhinol cyn dychwelyd i fywyd sifil a mynd yn werthwr stoc. Holais fy nhad yn daerach am ‘yr hen gadfridog’. Taid neu hen daid i ’nhad, doedd neb yn siŵr. Ond wir, fe gododd hyn ryw awydd yn fy nhad i gael arfbais i’r Lewis-Bryans, i’w gosod uwchben y drws. Fe allech gael gwneud un yn ddigon rhad, ond arfer coman yn fy marn i; cofio am fy ffrind Honoria Brown ag arfbais y Browns!
Gyda chefnogaeth fy nhad, felly, a digon o gymorth hawdd ei gael gan y Rhyngrwyd, mi es ati i wneud ychydig o ymchwil. Ymddengys fod yna deulu o chwech: dwy chwaer, Mary a Gwen – ie, yr enw Cymreig eto; a phedwar brawd, Seth, Robert, William a Trevor. Lladdwyd y tri brawd cyntaf yn y Rhyfel Mawr, ond goroesodd y pedwerydd brawd, Trevor Lewis-Bryan, ganed 1895, i ddod yn gyrnol ac wedyn yn uwch-gadfridog. Roedd cofnod ei gatrawd yn dweud eithaf tipyn amdano, ei addysg yn ‘Robyn’s Military Academy’ ac wedyn yn Sandhurst, ei waith yn yr Ail Ryfel ac wedyn ei dymor byr yn yr India cyn cymryd cyfrifoldebau yn Cenia ac wedyn Cyprus. Enillodd nifer o fedalau’r ddau ryfel, a hefyd CBE. Priododd Eva Wellesley-Boothroyd, bu iddynt dri o blant, ac yn wir un o’r rhain oedd fy nhaid, Rees Lewis-Bryan, ganed 1918. Wel wel! Rhyfeddol! Pwy fuasai’n meddwl? Pedair cenhedlaeth! Erbyn hyn roedd fy nhad yn hanner meddwl bod ganddo lun o’r hen gadfridog yn rhywle, ac wedi peth chwilota fe ddaeth i’r fei mewn blychaid o hen luniau brown o’r cenedlaethau o’r blaen, ambell un a allai fod yn ewyrth neu fodryb, ond wynebau anhysbys gan mwyaf, a llawer o luniau timau criced a rhwyfo o Eton, Eglwys Grist a mannau o’r fath. O ie, rhieni’r hen gadfridog: Rees Lewis Bryan (y cyntaf, felly, ond heb yr heiffen), a’i briod Ellin.
Yn bur fuan, daeth neges eto gan Calvin, gyda thipyn mwy o wybodaeth. Cindy-Lou Jackson oedd enw mam Calvin, ac un o Louisiana oedd hi. Ochr ei dad, fodd bynnag, oedd y diddordeb cyffredin iddo ef a minnau. Safai’r ‘K’ yn enwau Calvin, ei ddau frawd a’i chwaer, a’u tad, am ‘Kane’. Roedd pawb wedi arfer cymryd mai enw Gwyddelig ydoedd, – fel y gwnaethwn innau, yn wir, gyda’r ‘Bryan’, pan drafferthwn i feddwl o gwbl. Ond na, fe newidiwyd y sillafiad, meddai Calvin, yng nghenhedlaeth ei daid a’i nain. ‘Cain’ oedd y sillafiad cyn hynny, a Deborah Cain Adams oedd enw morwynol ei nain (dyna sut y daeth fy chwaer yn ‘Debbie’) cyn iddi briodi â Matthew J.Abel. Mab oedd yntau i Bryan Abel Jones. Yn awr, oeddwn i’n deall y berthynas rhwng Matthew a theulu fy nhad? Nac oeddwn, Calvin bach, a chlywais i ddim am Matthew J.Abel tan heddiw. Ac yna, fedrwn i gadarnhau sut yr oedd Matthew a Deborah yn perthyn i’w gilydd? Unwaith eto, Calvin, does gen i ddim syniad!
Beth bynnag, fe fyddai Calvin yn parhau â’i ymchwiliadau. O, ie, roedd wedi anghofio dweud wrthyf y tro o’r blaen. Fe gafodd y rhan fwyaf o’r wybodaeth hon gan ein perthynas Danielle Owen, sy’n byw yn Llundain, Lloegr. Oeddwn i’n nabod Danielle? Hi yw’r awdurdod ar hanes y teulu. Siŵr y byddai croeso imi gysylltu â hi.
Wnes i ddim dilyn yr awgrym hwn yn syth. Fe arhosodd yng nghefn fy meddwl, a minnau’n ddigon prysur rhwng y naill beth a’r llall – priodas fy chwaer, fy antur yn Sumatra, parti fy ffrind Adriano yn Rhufain. Yn Rhufain y ces i drydydd e-bost Calvin. Roedd wedi cael allan fod ei hen daid, Bryan Abel Jones, yn fab i Evan Jones a Catherine Abel Bryan, y ddau o le o’r enw ‘Drevlan’ yng Nghymru. Fel rydw i wedi dweud o’r blaen, dydw i ddim yn un o’r rhai gorau am achau; ond fe ddechreuodd fy meddwl weithio. Doedd dim sicrwydd wrth gwrs, ond rhesymol tybio, a doedd dim angen bod yn roced-wyddonydd i dybio hynny, mai merch oedd Catherine i rywun o’r enw Abel Bryan. A fyddai hwn yn hynafiad i minnau? Er y gwyddwn nad oedd o fawr bwys, dechreuais fwrw amcan, tua pryd yr oedd yn byw. Ymhell bell yn ôl. Oes Victoria, efallai? Dywedwch fy mod i … doeddwn i ddim yn dweud y gwnawn i, ond dywedwch fy mod i … yn cysylltu â Danielle Owen, tybed a allai hi ddweud rhagor?
Cyn imi allu gwneud dim, daeth neges gan Calvin eto, ei bedwaredd. Roedd rhyw reddf yn dweud wrtho yntau yr un peth yn union, fod Catherine yn ferch i ryw Abel Bryan, hen-hen-hen daid iddo, a bod ein teulu ninnau’n disgyn o’r un Bryan. A wyddwn i sut? Na wn, Calvin. Sawl gwaith mae angen dweud? A beth am Deborah Cain Adams? Unrhyw oleuni? Nac oes, Calvin, dim llygedyn. Dim eto beth bynnag …
Y tro hwn roedd Calvin wedi cael caniatâd i roi’r e-bost imi: danielle@drevlan.com. Un diwrnod, mewn rhyw hwrdd – wyddoch chi fel bydd rhywun ambell dro wrth eistedd o flaen ei gyfrifiadur – mi cefais fy hun yn anfon ati. Fy mod i wedi clywed amdani gan ein perthynas ifanc, Calvin Kane Abel, ac am ei gwybodaeth o hanes ein tylwyth. Na wyddwn i ddim o’r hanes tan yn ddiweddar, ond ei fod yn ddiddorol imi bellach, a bod ambell gwestiwn y byddai’n dda cael yr ateb iddo. Oeddwn i’n iawn mai Abel Bryan oedd fy hynafiad? Oedd o’n hynafiad i Danielle hefyd? Pwy oedd ei rieni? Sut yr oedd Deborah Cain Adams yn perthyn, heblaw bod yn wraig i Matthew J.Abel, taid Calvin? Gobeithio nad oedd waeth gan Danielle fy mod wedi cysylltu â hi fel hyn. Hwyrach y dôi cyfle i drafod rhai o’r pethau yma ryw dro. Yr eiliad wedi pwyso ‘anfon’, neu yn wir wrth bwyso, daeth drosof don o bryder neu edifeirwch. Oedd arna’ i eisiau gwreiddiau Cymreig?
Roedd acw ateb y bore wedyn. Merch ifanc sengl, wedi ei geni ym 1984, pedair blynedd yn iau na mi, oedd Danielle. Cwmni cynllunio dillad oedd Drevlan, yn cael ei redeg gan Danielle o’i chartref yng Nghoed Sant Ioan, Llundain. Roedd ganddi ddau frawd. Cafodd ei haddysg mewn ysgolion dyddiol preifat nid nepell o’i chartref, a graddiodd yng Nghaergrawnt ac yn y Coleg Celfyddyd Brenhinol. Byddai, fe fyddai’n clywed yn lled aml gan ein perthynas ifanc brwd o Iowa. Iddi hi, fe ddechreuodd yr hanes teuluol fel rhan o brosiect ysgol, ac fe gydiodd ynddi wedyn. Byddai’n dda cyfarfod ryw dro. Yn y cyfamser dyma anfon ataf, fel atodiad, siart achau led gyflawn heblaw am ambell i farc cwestiwn, o’i theulu ar y ddwy ochr ac yn ymestyn yn ôl yn bell, bell i’m golwg i, tua chanrif a hanner. Anna oedd enw ei mam, a dangosai golwg gyflym fod ganddi hi wreiddiau Albanaidd a Gwyddelig, ynghyd â llawer yn Llundain a De Lloegr. Roedd hi’n tybio mai ochr yr Owen, teulu ei thad, fyddai o fwyaf diddordeb i mi, ac mai yma roedd y cysylltiad. George Nathaniel Owen (ganed 1957) oedd ei thad, yn bwriadu ymddeol yn fuan o fod yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Llundain. Nathaniel Owen (ganed 1932) oedd ei dad yntau. Magwyd ef yng Nghymru, meddai Danielle, yn fab i George Owen (ganed 1905) ac Ann Lloyd (ganed 1909). Dyna gyfenw newydd yn y llinach. Yn awr, roedd Ann yn un o naw plentyn Thomas Lloyd (ganed 1885) a’i briod Susan Trevor Bryan (ganed yr un flwyddyn) mewn tref o’r enw Drevlan, Sir y Fflint, Gogledd Cymru.
Richard Trevor Bryan (ganed 1866) oedd tad Susan.
Fi gymerodd y cam nesaf, drwy awgrymu man cyfarfod, sef ffreutur Oriel Genedlaethol y Portreadau, Sgwâr Trafalgar. Sganiais lun ohonof fy hun iddi, a dywedodd hithau y byddai’n gwisgo costiwm las gyda blodyn gwyn. Doeddem ni ddim yn debyg iawn i’n gilydd, ac eto nid mor annhebyg chwaith. Rhaid cofio’n bod ni’n mynd yn ôl bump i chwe chenhedlaeth. Roedd hynny’n sicr ddigon, meddai Danielle, yn ein gwneud ni’n berthnasau yn ôl yr arfer Cymreig, a soniodd rywbeth am ‘nawfed radd’. Unwaith eto cododd yr amheuaeth ynof i am ennyd; doeddwn i ddim yn siŵr oedd arna’ i eisiau dilyn unrhyw arfer Cymreig, na bod o fewn y nawfed radd.
Doedd dim i awgrymu, meddai Danielle, fy mod i’n disgyn o Richard Trevor Bryan. Ond digon posib fy mod i’n disgyn o frawd neu gefnder iddo. Dyna fyddai’n ddifyr ei ddarganfod, a sicr bod ateb yn rhywle. Fe hoffai hi hefyd helpu Calvin drwy ddysgu mwy am y teulu Cain Adams.
Es adref gan feddwl fy mod wedi cael ffrind newydd, un a allai ddysgu pethau diddorol imi. Eto roedd rhywbeth yn … beth ddweda’ i? … enigmatig yn Danielle Owen. Ei ffordd o wenu. Fel petai hi’n gwybod mwy nag yr oedd hi’n ei ddweud. Tipyn o wag.
Ymhen rhyw fis dyma neges gan Danielle eto, bod ganddi ychydig mwy o wybodaeth, ac yn awgrymu cyfarfod yn yr un lle. Erbyn hyn roeddwn i, drwy ddarllen a stilio, wedi dod, ac eto’n groes i’r graen rywsut, i wybod tipyn bach am Gymru a’r Cymry. Darllenais fod gwahaniaethau enfawr rhwng Gogledd Cymru a De Cymru. Roedd pobl y Gogledd i gyd yn siarad yr iaith Gymraeg, ac yn Gymreig iawn. Roedd y De yn fwy rhyngwladol, a’r bobl yn siarad Saesneg. Pêl-droed oedd gêm y Gogledd, a rygbi oedd gêm y De. Roedd y gwahaniaeth rhwng Cymraeg y Gogledd a Chymraeg y De mor fawr fel nad oedd y ddwy ran yn deall dim ar ei gilydd. Roedd yr iaith lafar a’r iaith ysgrifenedig hefyd yn ofnadwy o wahanol. Iaith farw oedd y Gymraeg, ond ei bod hi’n cael ei gorfodi. A rhyw bethau fel’na. Pan ddechreuais i rannu peth o’r wybodaeth hon efo Danielle, gwenu’n gynnil wnaeth hi, a dweud ‘paid â choelio popeth wyt ti’n ei glywed’. Fe soniodd hi hefyd am yr enw ‘Drevlan’. ‘Y Dreflan’ oedd y ffurf Gymraeg, gydag ‘f’ yn y canol, a sgrifennodd y gair imi. ‘O,’ meddwn i, ‘I Drefflan.’ Nage, meddai hithau, roedd un ‘f’ yn cael ei hynganu fel ‘v’, a dwy ‘f’ yn cael eu hynganu fel ‘ff’.Glywsoch chi’r fath beth? Bannod bendant oedd yr ‘Y’, ac roedd yn cael ei hynganu fel ‘Y’, nid fel ‘I’. Od iawn, meddyliais innau. Wedyn aeth Danielle â mi i ddyfroedd dyfnion iawn drwy ddweud mai ‘Treflan’ yw ffurf gysefin y gair, yn golygu ‘Treflan’, ond ei fod yn cael ei dreiglo ar ôl yr ‘Y’. ‘Pam ar wyneb y ddaear?’ gofynnais i. ‘Am ei fod yn fenywaidd,’ oedd yr ateb. Roedd hyn tu hwnt i mi, a doeddwn i ddim yn hoffi sain yr ‘Y’.
Ar ôl tamaid o ginio cawsom bnawn hamddenol, difyr, yn astudio wynebau yn yr Oriel, a cheisio dyfalu sut rai, mewn gwirionedd, oedd y bobl tu ôl iddyn nhw. ‘Yr hen natur ddynol,’ meddai Danielle, fwy nag unwaith.
Ond pwysicach na dim y diwrnod hwn, y ddogfen oedd gan Danielle i’w dangos. Allbrint oddi ar y We oedd hi, tudalen o Gyfrifiad 1881 yn Drevlan, Dreflan, Y Dreflan neu beth bynnag y dylid galw’r lle. Mewn annedd o’r enw ‘Siop y Groes’, a esboniwyd imi fel ‘Siop y Groes’, a minnau’n synnu braidd nad oedd gan y Cymry air am ‘siop’, roedd teulu â’r union gyfenw y buom yn chwilio amdano. Enw pen y teulu oedd William Bryan, 43 oed, a ddisgrifid fel ‘masnachwr’, ganed yn Drevlan. Susan oedd enw’i wraig, 39 oed, genedigol o’r un lle. Wedyn yr oedd Jane Bryan, mam William, 68 oed, genedigol o (?) Ruthun – gyda holnod, fel yna. Yn dilyn roedd enwau saith plentyn, gwas a morwyn, wedi eu dynodi yn null y Cyfrifiad:
Sarah Bryan 18 oed Disgybl-athrawes
Richard Trevor Bryan 16 Clerc cyfreithiwr
Seth Bryan 13 Cynorthwywr
Rees Lewis Bryan 9 Ysgolor
Abel Bryan 7 Eto
Robert Bryan 5 Plentyn bach
Mary Bryan 3 Eto
Thomas Sollett 42 oed Gwas
Eliza Hughes 19 oed Morwyn
Dyma’n pobl. Doedd dim amheuaeth o gwbl. Gallai Danielle fod yn sicr mai Richard Trevor Bryan oedd ei hynafiad hi, hen-hen-hen daid felly, ar ôl cyfrif cyflym o’r cenedlaethau. Roedd Rees Lewis Bryan o ddiddordeb mawr i minnau: rhaid mai ef oedd tad ‘yr hen gadfridog’, Trevor Lewis-Bryan. Dyma brawf diymwad o berthynas Danielle a minnau, ond ei bod hi un genhedlaeth ar y blaen i mi. Ac yn Abel Bryan dyma rywbeth o ddiddordeb i Calvin draw dros y dër; gwell i hwn fod yn dad i Catherine Abel Bryan. A dyna osod Calvin, hi a minnau, meddai Danielle, yn ddiogel o fewn y peth a alwai’r Cymry yn ‘nawfed ach’.
Dyma gytuno mai Danielle oedd i e-bostio Calvin gyda’r wybodaeth. Ond trwy gyd-ddigwyddiad hynod, wedi inni fynd adref, yr oedd neges yn ein disgwyl ein dwy oddi wrth y bachgen bach. A beth oedd gan Calvin ond Cyfrifiad dengmlwydd ynghynt, 1871! Yr oedd William Bryan (masnachwr) yn 33 oed, Susan Bryan (priod) yn 29, a chanddynt bryd hynny bum plentyn: Sarah (8), Hugh (7) Richard Trevor (6), Jane (6) a Seth (3). Yn byw gyda hwy yr oedd Jane Bryan (62), mam y penteulu, Dorothy Evans a Mary Isaac, (16 a 14), morynion, James Parry (18), gwas, a David Peters (42), lletywr. Ar y ffôn wedyn adroddodd Danielle wrthyf ei chasgliadau. Fe gollwyd y ddau blentyn Hugh a Jane rywdro cyn 1881, ac nid amhosib fod plant eraill wedi eu colli rhwng y ddau gyfrifiad. Ac roedd Danielle bron yn sicr erbyn hyn y gallem ddweud beth oedd enwau rhieni William a Susan Bryan: Hugh a Jane Bryan yn y naill achos (enw’r fam yn hollol sicr) , Richard a Sarah Trevor yn y llall. ‘Sut medrai hi ddweud hynny mor bendant?’ holais i. ‘O, y system,’ meddai Danielle, heb ymhelaethu. Fel roeddwn i’n dweud, mae rhywbeth enigmatig yn Danielle weithiau.
Roedd Calvin yn siomedig nad oedd dim goleuni, hyd yma, ar y teulu Cain Adams, ond roedd yn benderfynol o gael yr ateb.
Aeth rhai wythnosau heibio, Danielle a minnau’n ddigon prysur gyda’n gwahanol bethau. Ond ddechrau’r haf daeth neges fwy brwd nag erioed gan Calvin, ‘Hai, Vicky!’, ‘Hai, Danielle!’. Roedd yn betio ein bod ni’n dwy wedi cynhyrfu oherwydd y briodas frenhinol! (Yr oeddwn i, dipyn bach. Doedd Danielle ddim yn dweud llawer.) Ond y newydd mwyaf oll oedd ei fod ef, Calvin, yn dod drosodd i Lundain, Lloegr yn y gwyliau hir, gan obeithio taro draw i Stratford, Lloegr ac i Baris, Ffrainc, ar yr un wibdaith. Oni fyddai’n beth gwych pe gallai’r tri ohonom gyfarfod, ac efallai mynd gyda’n gilydd i Drevlan i weld y lle ac efallai ddod o hyd i fwy o wybodaeth? Roedd llawer i’w gael oddi ar y We a thrwy ohebu, ond trwy ei fodiwlau colegol roedd Calvin wedi dysgu mor bwysig yw mynd i’r fan a’r lle. Y llynedd, er enghraifft, roedd wedi teithio ar rafft gan milltir i lawr y Mississippi, ac wedi ennill credydau da iawn yn ei fodiwl ar Mark Twain.
Roeddwn i ar fin ffonio Danielle i ofyn beth feddyliai hi o’r syniad pan ffoniodd hi fi. Yn wir, roedd yr un syniad wedi bod ar feddwl Danielle ers tro, ac roedd hi’n meddwl y gallai fod yn hwyl iawn, mynd yn driawd fel yr oedd yr hen foi bach yn awgrymu, a gweld, holi a gwrando. Roedd rhywbeth yn fy nal i yn ôl, rhyw anesmwythyd wrth feddwl ymhel â Chymru. Petai’n Sgotland neu Iwerddon byddai’n wahanol. Y diwedd fu inni gyfarfod wrth Golofn Nelson (Calvin wedi gyrru ei lun ymlaen llaw), a threulio diwrnod yn gweld y Golygfeydd, er difyrrwch a boddhad anghyffredin i’n cyfaill ifanc. Gweithiodd Danielle a minnau’n bur galed yn ateb cwestiynau, a difyrrai Calvin ninnau drwy sôn am ei gredydau, ei aelodaeth o glybiau, ei orchestion a’i obeithion; bob hyn a hyn ceisiai sicrwydd gennym ein bod yn edmygu Unol Daleithiau America.
Dridiau yn ddiweddarach roeddem yn cwrdd yn Stesion Euston, cyn neidio ar y trên a’n dygai i Gaer. Oddi yno cawsom dacsi i Drevlan, a chyrraedd yn fuan ardal lle roedd yr arwyddion ffyrdd a rhai o’r enwau lleoedd yn ddwyieithog. Roedd Calvin yn meddwl fod hynny’n syniad gwych! ‘Beth am y gost?’ gofynnais i. ‘Ac onid ydi pawb yn deall Saesneg?’ ‘Gwlad wahanol,’ meddai Danielle.
Dyma benderfynu ymadael â’r tacsi yn yr hyn a edrychai i ni fel prif stryd y dref, cael tamaid o ginio, edrych ar y map a chael rhyw ddarlun o’r lle, cyn anelu’n bwrpasol at yr archifdy lle dylai fod yr wybodaeth hollbwysig. Yn union yn ein hymyl yr oedd cofgolofn. Dyn canol oed mewn hen het gorun isel, gantel llydan, yn sefyll ar blinth a thipyn o reilin o’i gwmpas. Dychymygwch ein syndod o ddarllen yr enw. Roedd Danielle wedi ei thiclo tu hwnt! ‘Daniel Owen’!
Roedd plismon yn sefyll gerllaw, a galwodd Calvin arno’n ddibetrus, ‘Hei, pwy oedd Daniel Owen?’ ‘Daniel Owen?’ meddai’r plismon. ‘Wel Daniel Owen, siŵr iawn!’ A chwarddodd yn braf, gan ein gadael ddim callach. Ar droed y gofgolofn roedd arysgrifau, un panel mewn iaith estron, a chymerem mai Cymraeg. Roedd Calvin am geisio deall honno’n syth, ond roedd yn haws gan Danielle a minnau daclo’r panel Lladin. Yn anffodus roedd blynyddoedd ei oed wedi eu rhoi yn y ffigurau Rhufeinig afrosgo, a chyn ein bod ni’n dwy wedi gorffen crafu’n pennau roedd Calvin wedi trosi mewn amrantiad, 1836-1895. Trosodd hefyd y dyfyniad ar y gwaelod: ‘Neque sapientibus neque eruditis sed populo scripsi’. Nid am ddim rheswm roedd y bachgen hwn yn Phi Beta Kappa !
Troesom i mewn i dí bwyta bach, ‘Caffi Daniel Owen’. Iaith ryfedd ydi Cymraeg, does ganddi ddim gair am ddim byd. Dewiswyd o’r fwydlen ‘gawl Daniel Owen’ – enw arall ar minestrone, hyd y gwelwn i – a ‘phwdin Daniel Owen’ – enw arall ar roli-poli a chwstard. Wedyn paned o goffi, ‘Coffi Daniel Owen’ wrth gwrs. Ar y ffordd yno roeddem wedi gweld peth od. ‘Siop y Siswrn’ meddai’r arwydd, gyda Calvin a Danielle yn cytuno i ddehongli hynny fel ‘Siop y Siswrn’. Ond erbyn mynd yn nes, siop lyfrau oedd hi! Rhyfedd!
Croesawyd ni yn yr archifdy gan ddyn ifanc digon caredig, Mr. Beck, a chyfeiriodd ef ni at y wraig uwch ei ben, Mrs. Denman. Oedd, yr oedd yno dipyn o ddefnyddiau am y teulu Bryan a chroeso inni eu gweld, er y byddai’n dda inni fynd i Swyddfa’r Cofrestrydd i gadarnhau rhai pethau. Oeddem ni’n gyfarwydd â Chyfrifiad 1891? Hwnnw fyddai’r peth cyntaf i’w edrych, efallai. Mewn dim yr oedd y meicroffilm yn ei lle, a ninnau’n dwr yn craffu o flaen y sgrîn.
Roedd newid wedi digwydd yn Siop y Groes. Yn byw yno bellach yr oedd:
Edward Bonner 29 oed Penteulu. Masnachwr
Sarah Bonner 28 Priod
William Bonner 4 Mab. Plentyn bach.
Mary Bonner 2 Merch. Plentyn bach.
Seth Bryan 23 Brawd-yng-nghyfraith. Siopwr
Abel Bryan 17 Eto. Cynorthwywr
Samuel Bellis 35 Certmon
Mary Isaac 24 Morwyn
Griffith Evans 22 Gwas
Yn awr ble roedd William Bryan? A Susan? A gweddill y teulu? ‘Powliwch ymlaen ac yn ôl drwy’r ffilm,’ cynghorodd Mrs Denman. ‘Does wybod beth welwch chi.’ Ac yn wir wedi rhyw ddeng munud o gribinio drwy amrywiol strydoedd, dyma ddod at gyfeiriad newydd. Ty’n y Berllan. Esboniodd Mrs Denman ef inni fel ‘Tí yn y Berllan’. Yno’n byw, er peth syndod, ac o ddiddordeb aruthrol i Calvin yn arbennig, yr oedd:
William Bryan 53 oed Penteulu. Masnachwr
Deborah Cain Bryan 26 Priod
Robert Bryan 15 Prentis arwerthwr
Enoch Hughes-Bryan 9 Ysgolor
Susannah Cain Bryan 6 Eto
Hugh Cain Bryan 5 Plentyn bach
Benjamin Pugh 31 Certmon
Alice Pugh 28 Morwyn
Ruth Hughes 12 Morwyn.
Roedd y stori’n eithaf clir yn y ddwy eitem gyfrifiad yna. Ond gwell cael cadarnhad, a Swyddfa’r Cofrestrydd oedd y lle i hynny. Roedd Calvin wedi cael modd i fyw, gweld yr enw ‘Cain’, a’i flaenoriaeth yn awr, wrth gwrs, fyddai dod o hyd i deulu Deborah. ‘Rydw i’n chwilio’ nesaf am deulu o’r enw Cain Adams,’ meddai Calvin, yn ddigon diniwed debygwn i. ‘O diar,’ meddai Mrs. Denman, a thybiwn imi weld rhyw gysgod yn dod dros ei hwyneb. ‘Chwiliwch ym mhlwy Nercwys,’ awgrymodd hi wedyn. Yn garedig iawn daeth Mr. Beck â’r ffilm inni mewn dim. ‘Chwilio am Cain Adams?’ gofynnodd yntau. ‘Yn sicr,’ meddai Calvin. ‘Ie, wel, dyna fo ….,’ meddai Mr. Beck. A beth oedd ystyr ei edrychiad yntau?
Yn ôl cyfrifiadau 1871 ac 1881 yr oedd Deborah, ail wraig William Bryan a mam ei ddau blentyn ieuengaf, yn un o deulu mawr ym mhlwy Nercwys. Roedd yno Simeon, Lot, Barac, Agar, Salome, Hoffni, Haman a Jael, oll yn blant i Jehu Cain Adams a Nellie ei wraig. Roedd Calvin yn awr yn sicr ei fod ar y trywydd, a chymerodd nodiadau helaeth o’r cyfrifiadau. ‘Teulu gwir ddiddorol,’ meddai Calvin. ‘O, diddorol,’ meddai Mr. Beck.
Peth arall erbyn 1891 oedd bod y rhestr yn nodi pa ieithoedd yr oedd pawb yn ei siarad. Yn y ddau gartref yr oedd y gweision a’r morynion i gyd yn siarad Cymraeg, a rhai ohonynt – roedd yn ddrwg gen i dros y rheini – heb honni medru Saesneg. Yn ‘Siop y Groes’ yr oedd Edward a Sarah Bonner a’u dau blentyn yn medru’r ddwy iaith, ond Seth ac Abel Bryan Saesneg yn unig. Yn ‘Ty’n y Berllan’ yr oedd William a Deborah yn siarad y ddwy, eu dau blentyn bach Gymraeg yn unig, a Robert ac Enoch Saesneg yn unig. Rhesymwn i fod y ddau deulu wedi dechrau symud ymlaen, ond y ddwy briodas wedi eu gyrru’n ôl. Cymerai Calvin ddiddordeb mawr.
Daeth amser cau yn rhy fuan – hyd yn oed i mi – a throisom am y gwesty lle roedd Danielle wedi trefnu inni aros noson. Y Mostyn Arms, ‘hoff westy Daniel Owen,’ meddai Mrs. Denman. Pan aethom i mewn i’r bar am wydraid o sieri cyn swper roedd yno dri dyn yn sgwrsio. Sylwais innau iddyn nhw droi i’r Gymraeg – cymerwn mai dyna oedd hi – gynted ag y daethom ni i’r golwg. Roedd Calvin wrth ei fodd eu bod nhw’n siarad yr iaith fel hyn, a doedd Danielle ddim yn amau unrhyw ddrwg pan dynnais i ei sylw at y peth. Ond roedd yn fy mhoeni i braidd, ac yn dal i wneud weithiau. Mae gwladgarwch yn iawn, bod yn falch o’ch cenedl ac ati. Ond does dim eisiau gwneud cenedlaetholdeb o’r peth, a chau pobl eraill allan. Pen draw hynny fyddai chwalu’r Deyrnas Unedig, a beth ddôi wedyn o’r gwerthoedd nodweddiadol Brydeinig – goddefgarwch, democratiaeth, chwarae teg … ? Be ydw i’n ei feddwl ydi … criced, hen wragedd yn seiclo i’r eglwys, Dunkirk … pethau felly. Y pethau a wnaeth Brydain yn Fawr, chwedl fy nhad.
Roeddem yn y Gofrestrfa y bore wedyn gynted ag yr oedd hi wedi agor, a gwraig o’r enw Mrs. Smart yn barod iawn i’n helpu unwaith eto. Roedd tystysgrif priodas William Bryan a Susan Trefor (yn cael ei sillafu fel yna) yno’n sicr ei gwala. Yn Eglwys y Plwy y bu’r gwasanaeth, 24 Mai 1862, a’r offeiriad Mr. Brown yn gweinyddu. Mr. Enoc (fel yna) Huws (fel yna) oedd y gwas priodas, a Miss Bevan oedd y forwyn. Peth anghyffredin iawn, meddai Danielle, oedd ysgrifen aneglur ar unrhyw ddogfen o oes Victoria, ond roedd y tri ohonom, a Mrs. Smart i’n canlyn, yn methu’n lân wneud allan enw cyntaf Miss Bevan. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan un Mr. Davies, a ddisgrifid fel ‘ffrind i’r teulu’. Hyn hefyd yn ein taro ni’n rhyfedd. ‘Ydw i’n iawn,’ gofynnodd Danielle, ‘mai Richard Trevor oedd enw tad Susan Bryan?’ ‘Wrth gwrs,’ meddai Mrs Smart. ‘Merch Capten Trefor oedd hi.’ Trawodd y ‘Capten’ ar fy nghlust innau. Yr un traddodiad o Wasanaeth eto. ‘Ydi hynny’n sicr?’ holodd Danielle ymhellach. ‘Mae yn y llyfrau,’ meddai Mrs. Smart.
Cadarnhawyd pethau eraill. Do, bu farw Susan Bryan yn ddeugain oed, ar enedigaeth Enoch Hughes-Bryan, ei degfed plentyn. Ailbriododd William Bryan ymhen dwy flynedd. Yr oedd ‘Susannah’ yn rhyw fath o goffâd am Susan druan, a ‘Hugh Cain Bryan’ yn ail gynnig ar ôl colli Hugh arall, – peth eithaf cyffredin yn nheuluoedd yr oes, meddai Danielle. ‘Rwy’n chwilio hefyd am deulu Cain Adams,’ meddai Calvin. ‘O diar,’ meddai Mrs Smart.
Daeth nifer o dystysgrifau geni, priodi a marw i’r fei, a’r casgliad cyflym y daethom iddo oedd fod y teulu Cain Adams wedi diflannu o’r plwy, wedi marw. Ac eithrio dau. Yr oedd gan Deborah ei phlant o’i phriodas â Mr. Bryan. Ac yr oedd un brawd iddi, o leiaf heb gofnod o’i farw. Hoffni oedd hwn. Ac fe aeth i rywle. Diflannu.
Bachgen gweddol fodlon, wedi cael un pen llinyn arall, oedd Calvin pan aethom yn ôl i’r archifdy ar ôl cinio. Cyhoeddodd yn llawen wrth Mr. Beck ei fod bellach yn gwybod ychydig mwy am y teulu Cain Adams. ‘O wel …,’ meddai Mr. Beck.
Yr oedd dwy ffeil o bapurau perthynol i deulu Bryan yn aros i’w hedrych. Pethau’r ddwy siop, yn bennaf, oedd yn y ddwy gyntaf; anfonebau, derbynebau a hysbysebion W.Bryan a’i Feibion, Groser a Masnachwr Cyffredinol, ac yna Edward Bonner â’r un disgrifiad. Dim byd dadlennol iawn. Roedd cynnwys yr ail ffeil yn fwy personol. A barnu wrth nifer o daflenni achlysuron cyhoeddus yn y dref, roedd William Bryan wedi bod yn faer ddwy waith. Roedd hefyd boster mawr yn yr iaith Gymraeg, a’i enw arno mewn llythrennau bras. Bu Mrs. Denman mor garedig â’i gyfieithu inni. Ymddengys mai hysbysebu darlith gan Mr. Bryan yr oedd, ac mai’r testun oedd ‘Y Ddynol Natur’; gydag ef roedd dau docyn mynediad ac arnynt y pris 6d., yr hen arian meddai Danielle, ac enw ‘Mr. T.Bartley’ fel cadeirydd y noson. ‘Oedd y ddarlith i gyd yn Gymraeg?’ gofynnais i. ‘O, oedd, siër o fod,’ meddai Mrs. Denman. ‘O, dyna drueni,’ meddwn i. Ond roedd Calvin yn meddwl bod hynny’n ardderchog. Yn nesaf o’r ffeil daeth dyrnaid o ffotograffau, amrywiol o ran ansawdd. Casglwyd mai William a Susan Bryan gyda phedwar o’r plant oedd un grëp teuluol, gydag edrychiad difrifol yr oes, yn eistedd gerllaw pot blodau mawr addurnol ar gefndir llun cymylau. Ar gefn ambell un o’r lluniau roedd enwau mewn pensel: ‘Seth’, ‘Seth ac Abel’, ‘Rees’, ‘Robert’. Babi oedd yr olaf. Mewn un llun yr oedd gër canol oed ifanc, wyneb main gwelw, llygaid dwys, gwallt tywyll; ac oddi tano arysgrif lawnach na’r lleill, mewn llaw gadarn, glir. Galwyd ar Mrs. Denman i gyfieithu eto. ‘I’m cyfaill oes, William Bryan, â phob bendith, Rhys Lewis.’ Rhaid mai ‘Rhys’ yw ffordd y Cymry o sgrifennu ‘Rees’.
Y peth olaf yn y ffeil oedd hen lyfr sgrifennu ysgol mewn cyflwr gweddol dda, a thu mewn i’w glawr yr enw ‘Sarah Bryan, Safon Pedwar, yr Ysgol Genedlaethol, 1874 ’. Yn llawysgrifen plentyn, ond eto llaw arbennig o sicr a chyson o fath na cheir mwyach, yr oedd amrywiaeth o ymarferion a chofnodion. Rhai tudalennau o ymarfer ysgrifennu gan gopïo llinell uchaf. Brawddegau mewn Cymraeg, a chyfeiriadau Beiblaidd ar eu holau. Dyfalodd Calvin yn syth mai adnodau oedd y rheini, a chadarnhaodd Mrs. Denman ei fod yn iawn. Wedyn tri phennill o ‘The Charge of the Light Brigade’, a’r pedwerydd pennill wedi ei adael ar ei hanner. ‘Oedd Capten Trefor yn y frwydr honno?’ gofynnais i Mrs. Denman, meddwl mai dyna oedd y cysylltiad. ‘Na, go brin,’ meddai hi. Roedd yno syms adio, tynnu, lluosi a rhannu hir, a chymhlethdod rhai o’r olaf yn ddychryn hyd yn oed i Calvin. Meddyliwch am rannu £3472.13.11 â 576 heb gyfrifiannell. (Dydw i ddim yn cofio’r union ffigurau, ond rhywbeth fel yna, ac esboniodd Danielle fod y cyfan yn yr hen arian.) Yn rhan ganol y llyfr roedd tudalennau o donic sol-ffa, rhai tonau â theitlau, eraill heb yr un. Gallwn i ddarllen ambell deitl – ‘Mary’, ‘Cromer’, ‘Bridport’, ond roedd eraill yn Gymraeg. Wrth gwrs roedd rhaid i Calvin gael chwibanu un o’r tonau heb deitl, ac ymunodd Danielle ag ef gan ei hymian yn groyw iawn. ‘O, “Downing” ydi honna,’ meddai Mrs. Denman, ‘gan John Ambrose Lloyd’, a chanodd bennill. Llais swynol ganddi, alaw swynol hefyd, trueni bod y pennill yn Gymraeg. Ac yn wir y peth nesaf yn y llyfr oedd traethawd o dudalen a hanner, yn Saesneg diolch am hynny, ‘Bywyd a Gwaith Mr. John Ambrose Lloyd, 1815-74’. Yna hanner tudalen ar ‘Hanes Mr. Roger Edwards’. Traethawd bach mwy personol oedd eitem olaf y llyfr, a’i Saesneg bron yn berffaith gywir:
Sarah Bryan yw fy enw. Yr wyf yn 11 oed, ac yn nosbarth Miss Price. William Bryan yw enw fy nhad, a Susan Bryan yw enw fy mam. Mae fy nain yn byw gyda ni. Mae gennyf bump o frodyr. Babi bach yw Abel ac mae yn crio yn y nos. Yr wyf yn hoffi darllen a thynnu lluniau, ac yr wyf yn cael gwersi piano. Yr oedd gennyf un chwaer ond mae Jane wedi marw, mae Richard yn hogyn drwg. Nid wyf yn hoffi pryfed cop.
Fy uchelgais yw mynd yn athrawes yn yr ysgol. Nid wyf yn meddwl y byddaf yn priodi yr un bachgen. Yr oeddem yn arfer mynd i Bethel, ond bu farw Mr. Lewis ac yn awr rydym yn mynd i Eglwys y Plwyf, mae y Parchedig Mr. Green yn ddyn neis iawn. Weithiau bydd fy nhad a’m mam yn siarad Cymraeg rhag i ni ddeall, ond mae Richard, Hugh a minnau yn deall Cymraeg. Mae yr hen Mr. Bartley yn hen iawn ac yn ddigrif, ond nid wyf i yn deall pob peth y mae’n ei ddweud. Gallaf i adrodd adnodau a chanu yn Gymraeg ond nid wyf erioed wedi fy nal yn siarad Cymraeg yn yr ysgol yr wyf yn hoffi tyfu blodau
Fel yna yr oedd y traethawd yn terfynu, ymgais lew gan ferch fach o’i hoed. Arweiniodd y frawddeg olaf at drafodaeth ar iaith ac addysg. Oedden nhw’n wir yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol, holais i, braidd yn bryderus. I’r gwrthwyneb, meddai Mrs. Denman, roedd y polisi yn llwyr yn erbyn hynny. Mae’n wahanol iawn erbyn hyn, meddai hi, a’r plant yn cael dysgu popeth drwy’r Gymraeg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd hyd at ddeunaw oed. ‘Ydi hynny’n deg,’ gofynnais innau, ‘a’r trethdalwr Prydeinig yn talu?’ Rwy’n meddwl nad oedd Mrs. Denman yn hoffi’r awgrym, a dywedodd nad oedd yn annheg o gwbl. ‘Ond beth am yr anfantais i’r plant?’ meddwn i wedyn. ‘Dydi hyn ddim yn eu cau nhw allan o brifysgolion Prydeinig?’ ‘Ddim o gwbl,’ meddai Mrs. Denman. ‘Fe aeth fy mhedwar plentyn i drwy ysgolion Cymraeg yn y dref yma, ac fe aethon i golegau yn Sheffield, Caerefrog, Llundain a Chaergrawnt – dim un i goleg yng Nghymru.’ Roedd clywed hynny’n rhyddhad i mi, ond roedd Calvin wrth ei fodd gyda’r syniad o addysg Gymraeg, a ddywedodd Danielle ddim byd yn erbyn.
Daeth diwedd y pnawn, ac roedd yn bryd i ninnau anelu’n ôl am Gaer, ac yna i Lundain. Byddai Calvin wedi hoffi cael diwrnod arall, ond roedd Stratford, Lloegr a Pharis, Ffrainc yn galw. ‘Fe fyddai’n dda gwybod mwy am rai o’r bobl yma,’ meddai Calvin, a Danielle yn ategu. ‘O, mae o yn y llyfrau, wyddoch chi,’ meddai Mrs. Denman. ‘Pa lyfrau?’ gofynnodd Calvin. ‘Llyfrau Daniel Owen.’ Erbyn hyn roedd gen innau gryn ddiddordeb, er peth syndod i mi fy hun, ac mi hoffwn petai rhywun yn cyfieithu’r llyfrau imi. ‘Ydyn nhw’n sôn am deulu Cain Adams?’ gofynnodd Calvin. ‘Tipyn bach,’ meddai Mrs. Denman.
Ffarweliwyd â’r hen Galvin gyda llawer o gofleidio ac addo cadw mewn cysylltiad. Adroddais yr wybodaeth wrth y teulu gartref, nid bod neb am gymryd llawer o sylw. Rwy’n falch o glywed gan Danielle yn achlysurol. A chroesodd y syniad fy meddwl, petawn i … petawn i … ryw dro yn priodi, y câi Drevlan gynllunio fy ffrog briodas.
Ar ôl ysbaid go hir, daeth gair gan Calvin, mor fyrlymus ag erioed. Y newydd mawr y tro hwn oedd fod Hoffni Cain Adams wedi dod i’r golwg yn nhalaith Colorado, UDA, ac wedi priodi yno ym 1883 â Martha J. Custer. Eu mab hynaf oedd Custer Cain Adams (ganed 1885). Daeth yr enwau Beiblaidd yn ôl gyda’i fab yntau, Jethro Cain Adams (ganed 1908). A’i ferch ef oedd Deborah Cain Adams (II) (ganed 1931), a briododd Matthew J.Abel a dod yn nain i Calvin. Felly doedd Matthew a Deborah, taid a nain Calvin, ddim yn perthyn i’w gilydd, ond roedd iddynt gysylltiad teuluol drwy ddwy briodas William Bryan. Daeth hefyd beth gwybodaeth am Enoch Hughes-Bryan. Ymddengys iddo yntau ymfudo i’r Taleithiau a llwyddo yno. Roedd rhyw stori mai disgynyddion iddo yw Bill Gates a Donald Trump, ac roedd Calvin yn addo edrych i mewn i hynny. Y newydd arall oedd fod Calvin bellach yn ër gradd, AB o Brifysgol Iowa, a’i olwg ar Ysgol Graddedigion Harvard, ond cyn hynny am dreulio’r haf ar rywbeth a alwai yn ‘Cwrs y Mynydd Glas’, yn dysgu’r iaith Gymraeg er mwyn darllen llyfrau Daniel Owen.
Daniel Owen, Daniel Owen! Fe welsom ei gofgolofn, ei siop, ei gapel, ei hoff westy, ei gaffi, man ei eni, ac arwyddion yn ein cyfeirio at ‘Ysgol Daniel Owen’, ‘Canolfan Daniel Owen’, ‘Stryd Daniel Owen’, ‘Rhodfa Daniel Owen’, ‘Maes Daniel Owen’, ‘Bro Daniel Owen’. ‘Mi allech feddwl tua’r Drevlan yna mai Daniel Owen oedd Duw!’ meddwn i wrth Danielle ryw dro. Chwerthin yn dawel wnaeth Danielle.
*****
Cewch yn awr ddarllen y stori hon, gyda phymtheg stori arall, yn:
