David Melding, The Reformed Union: The UK as a Federation. Llyfr digidol, i’w lawrlwytho o safle’r Sefydliad Materion Cymreig.
Dyma ni mewn blwyddyn a all fod y fwyaf tyngedfennol mewn mil o flynyddoedd i bobloedd Ynys Brydain … ac a all beidio. Cawn weld sut yr â pethau tua’r Alban ’na …
Un sy’n credu fod rhywbeth mawr ar droed, a bod gofyn ymbaratoi ar ei gyfer, yw David Melding AC. Yn 2009 cyhoeddodd y Sefydliad Materion Cymreig lyfr Mr Melding, Will Britain Survive beyond 2020?, ac adolygais ef yn Y Faner Newydd, rhifyn 50 (Gaeaf 2009). Bellach dyma’i ddilyn gan The Reformed Union, a gyhoeddir gan yr un corff ond mewn ffurf ddigidol yn unig. Y dewis i ni’r darllenwyr felly yw un ai rhythu’n galed ar y sgrîn neu wario ffortiwn ar brintio’r testun. Dewisais i’r dull cyntaf, gan edmygu’r ffordd eglur y gosodwyd y gwaith allan, ond gan ofidio tipyn bach na chawn y llyfr yn fy llaw. Petai hwn yn llyfr Cymraeg, gallaf ddyfalu’n weddol hyderus faint fyddai ei werthiant. Tua chant a hanner. Dyna’r gwerthiant heddiw i unrhyw lyfr Cymraeg sy’n golygu tipyn o feddwl. A yw penderfyniad y cyhoeddwyr i beidio ag argraffu yn golygu eu bod yn credu y byddai’r prynwyr hyd yn oed yn brinnach? Neu na byddai prynwyr o gwbl? Mae’r olaf yn gwbl bosibl. Yn 1996, ar ryw hwrdd, sgrifennais lyfryn Saesneg ar bwnc tebyg iawn i bwnc Mr. Melding, ac adroddodd y cyhoeddwyr (Gwasg Carreg Gwalch) wrthyf na werthwyd UNRHYW gopïau. Mi welais UN copi ail-law wedyn, ond prin yr oedd hi’n werth imi wario ar stamp i hawlio fy mreindal. Dyna’r sefyllfa, a rhaid yw ei derbyn. Mae’r gynulleidfa Gymraeg i unrhyw beth dadansoddol, syniadol yn fechan, fechan fach. Nid oes cynulleidfa Saesneg yng Nghymru. Trist, a datblygiadau mor dyngedfennol o’n blaenau? Dyna fo.
Yn ei lyfr blaenorol ysgrifennai Mr Melding fel Ceidwadwr o Gymro, cwbl barod i’w alw ei hun yn genedlaetholwr Cymreig, ond yn credu hefyd fod gwerth ym Mhrydain Fawr fel undeb, yn credu ei bod yn bryd meddwl am gamau i’w diogelu, ac yn credu mai ei thrawsffurfio o fod yn wladwriaeth unedol (neu ‘ymgorfforol’) i fod yn wladwriaeth ffederal oedd yr ateb. Rhyngom a hynny daeth etholiad Senedd yr Alban, Mai 2011, gyda’r Blaid Genedlaethol yn ysgubo i rym gyda mwyafrif dros bawb. Rhoddodd hyn daerni newydd i ddadl Mr Melding, a chydag ychydig fisoedd mewn llaw, mae ei lyfr diweddar yn apêl ben-set ar i unoliaethwyr gydio yn y posibilrwydd ffederal cyn ei bod yn rhy hwyr. Do, fe fu Alex Salmond a’i blaid yn drech na system a gynlluniwyd yn arbennig i’w rhwystro rhag byth gael mwyafrif clir. Camp arbennig iawn, ryfeddol yn wir. Ac eto nid rhywbeth a oedd yn groes i holl ddeddfau natur. ‘Pwy feddyliai yn 1999 y byddai hyn yn bosibl?’ gofyn Mr Melding. Ateb: yr SNP.
Mewn atgof …
Gan y gall blog droi’n fath o gyffesgell, mi ddygaf fy nghyffes yma. Fe sylwyd gan ambell un fod Mr Melding a minnau (DGJ) wedi bod yn dweud pethau eithaf tebyg. Gwir mae’n siŵr, er ein bod yn cychwyn o fannau gwahanol. Dywedaf dipyn bach o’r hanes, gan addo peidio’ch cadw’n hir. Yn y flwyddyn 1965 dois i wybod am lyfr Moray McLaren, If Freedom Fail: Bannockburn, Flodden, the Union. Hyd heddiw mae’n dal yn un o’r llyfrau gorau ar gefndir hanesyddol cenedlaetholdeb yr Alban. Flwyddyn cyn i Gwynfor Evans gychwyn y broses a fydd yn arwain at beth bynnag a ddigwydd y mis Medi hwn, sgrifennai McLaren fel cenedlaetholwr a gredai fod angen taer am ffurf ar ymreolaeth i’r Alban, ac a ragwelai, ar sail ei ddarlleniad ef o hanes, mai rhyw fath o drefniant ffederal fyddai’r ateb. Arwr ei ymdriniaeth oedd y Tori Andrew Fletcher o Saltoun, a ymgyrchodd yn daer dros undeb ffederal yn hytrach na’r undeb ymgorfforol a ddaeth i fod yn 1707 – ‘uno dwy senedd’ ond un o’r ddwy’n diflannu! Ac yn wir mae Fletcher yn arwr gan Mr Melding hefyd. Yr un flwyddyn, 1965, darllenais her Alwyn D. Rees ar ddiwedd ysgrif yn Barn : ‘Y Cymro, adnebydd dy Brydeindod’. Ymatebodd yr Athro J. R. Jones yn ei ffordd ei hun i’r un her, a daeth ei ddadansoddiad disglair yn ddylanwad mawr ar garfan o’r mudiad cenedlaethol. Gan dderbyn llawer o oleuni ac ysbrydoliaeth o waith JRJ, deliais i ar drywydd dipyn yn wahanol, a diau un mwy ymylol – neu gwbl ymylol ! – ym marn y rhan fwyaf o genedlaetholwyr. Daliwyd fy mryd fwy a mwy gan y drychfeddwl o Ynys Brydain dros ganrifoedd yn llenyddiaeth y Cymry, gafael y Cymro ar yr Ynys (ddychmygol efallai – gwlad y galon yn fwy nag unrhyw realiti daearyddol), a’i amharodrwydd i’w gollwng hi’n derfynol i’r Saeson. Nid oedd modd gwadu effeithiau negyddol y syniadaeth hon, syniadaeth fythaidd yn wir, – ond tybed, tybed nad oedd modd ei throi hi’n rhywbeth cadarnhaol er gwaethaf popeth? Ymreolaeth a fyddai’n golygu mwy, nid llai, o lais i’r Cymro – fel i’r Sgotyn – o fewn y Deyrnas? Cydraddoldeb mewn egwyddor rhwng Lloegr, Cymru a’r Alban? Dyna’r ffordd, roeddwn yn rhagdybio, i Gymru gael rhai pwerau. Ac o fewn y rhagdyb honno yr oedd un arall, y byddid yn defnyddio’r pwerau i adeiladu, i atgyfnerthu sefydliadau Cymru yn cynnwys y prif sefydliad, y Gymraeg. ‘Rhagdybiau naïf’ meddech efallai, a gallech ddyfynnu llawer o brofiad y pymtheng mlynedd diwethaf o’ch plaid.
Daliaf i gredu hyn, a chaiff pawb anghytuno: petai ffederaliaeth y dewis ger bron yn 1979, a phe bai ymgyrch wedi ei threfnu’n iawn o’i blaid, byddai IE wedi ennill yn yr Alban ac yng Nghymru, hyd yn oed y tro hwnnw. Dyfalaf ymhellach: petai rhywbeth fel hyn yn ddewis o flaen yr Albanwyr y mis Medi nesaf hwn, byddai hi’n IE drwy fwyafrif mawr.
Nid dyna’r dewis
Ond nid dyna’r dewis. Gofynnir i’r Albanwyr ddweud IE neu NA wrth ateb arall, yr unig ateb y mae’r Blaid Genedlaethol, ar sail ei dealltwriaeth hi o’r angen, ac sail ei thraddodiad a’i hargyhoeddiad cyson, yn dymuno i’w hetholwyr ei ystyried. Annibyniaeth yw hwnnw. ‘Mynydd i’w ddringo’ medd sylwebyddion. Diamau, ond mynydd sydd yn dechrau edrych yn llai y dyddiau hyn. At ryw fath o ffederaliaeth buasai’n ddringfa haws, esmwyth hyd yn oed. Ond amlwg fod Alex a’i blaid yn bendant eu meddyliau nad y gwir drysor a fyddai’n eu disgwyl ar ddiwedd y ddringfa honno. Dyma felly ‘fynd amdani’ heb afradu mwy o amser, a chyn ei bod yn rhy hwyr.
Wrth ddweud ‘y gwir drysor’ rydym yn golygu dau beth. Yn gyntaf, gafael ar gyfoeth olew’r Alban, i’w fuddsoddi dros dymor hir mewn cronfeydd er budd bywyd yr Alban yn lle’i fod yn cael ei daflu ymaith gan lywodraethau Prydain ar ryfeloedd a phob math o afradlonedd arall. Yn ail, anfon Trident i ffwrdd o aber Afon Clud.
Mae’r mater olaf yn poeni Mr Melding. Yma mae ef a minnau’n gwahanu’n llwybrau, wedi bod yn cyd-deithio cryn dipyn, a’r gwahanu hwn yn amlygu’r gwahaniaeth yn ein mannau cychwyn. Wrth ymwrthod â Trident, barna Mr. Melding, mae llywodraeth yr Alban yn ‘ymyrraeth’, yn ‘tresmasu’ (‘encroach’ yw ei air) â ‘mater gwladwriaethol’. Yr ensyniad yw na all ‘Amddiffyn’ fod yn fusnes ond i lywodraeth Brydeinig ganolog, – neu, a rhoi’r peth yn amrwd, i’r Sais. Cychwyn y cenedlaetholwr Albanaidd, a Chymreig hefyd, o fan tra gwahanol, gan ystyried fod ‘amddiffyn’ yn ‘fater i ni’n hunain’ (own affair) yn anad yr un, a chan goleddu hefyd syniad pur wahanol i syniad y wladwriaeth Brydeinig am beth yw ystyr ‘amddiffyn’. Peth diweddar iawn yn hanes y wladwriaeth honno yw ‘Gweinyddiaeth Amddiffyn’ (Ministry of Defence). Tyfodd wedi’r Ail Ryfel Byd fel atodiad i’r Weinyddiaeth Ryfel (War Ministry), gan fenthyca’r enw oddi ar ‘Bwyllor Amddiffyn yr Ymerodraeth’ (The Committee for Imperial Defence). Nid amddiffyn y boblogaeth oedd diben y pwyllgor hwnnw, ac ni bu hynny erioed yn flaenoriaeth yn ystod rhyfeloedd Prydain Fawr. Amddiffyn yr Ymerodraeth oedd y peth, a dyna ydyw o hyd mewn egwyddor. Yr unig Ymerodraeth sydd ar ôl bellach yw’r un gartref honno y mae Deddf Uno 1536 yn sôn amdani (‘This Realm is an Empire’), ond amddiffyn honno yw pwrpas Trident. Dyna pam y mae anfon Trident i ffwrdd yn beth canolog i genedlaetholdeb yr Alban, a dyna pam mai cenedlaetholdeb yr Alban yw’r unig rym a all gyflawni tasg y mae’r Chwith Brydeinig ragrithiol wedi gwrthod ei hwynebu dro ar ôl tro ar ôl tro.
(Yn wir, fwy nag unwaith yn ei ymdriniaeth, fe nododd Mr. Melding ffaith drawiadol, sef na bu i’r un wladwriaeth yn Ewrop, drwy ymuno yn yr Ail Ryfel Byd, amddiffyn yn llwyddiannus ei phoblogaeth ei hun. Gwir yw hynny, a gellir dal mai’r unig wladwriaethau a allodd amddiffyn eu poblogaethau yn amgylchiadau’r dydd oedd y rhai niwtral – Sweden, Y Swistir, Iwerddon. Ond fe arwain hynny wrth gwrs at y ddadl ynghylch moesoldeb niwtraliaeth yn yr un amgylchiadau. Ac estyn y ddadl i dir theoretig – ac wn i ddim a gytunai Mr Melding â’r dadansoddiad hwn – gellir dal mai dwy nodwedd ddiffiniol dau ryfel byd yr ugeinfed ganrif oedd (a) pobloedd yn ymosod ar bobloedd, mewn ‘rhyfel cyflawn’ (total war fel y dywed yr haneswyr), a (b) gwladwriaethau’n ymosod ar eu pobloedd eu hunain. Gweler fy llyfr Camu’n Ôl a Storïau Eraill, tt. 366-7.)
Dau nod
Rhown hi fel hyn. Ac wrth inni ei rhoi fel hyn, mae’n debyg na all Mr Melding a Cheidwadwyr eraill o Gymry gytuno â ni heddiw; ond barnaf fod rhai ohonynt yn bobl ddigon deallus i ddod i gytuno ymhen amser. Crafwch y gwir genedlaetholwr Cymreig, heddiw fel yn 1925, ac fe gewch fod ganddo ddau obaith, dau nod. Addysg, Iechyd, Ffyrdd, Tai, Amaeth, Diwydiant, Swyddi, Ynni – i gyd gyda ni ac yn gofyn sylw bob amser. Ond y ddau ddiddordeb, y ddau bwrpas sylfaenol? (1) Diogelu’r Gymraeg (‘Diogelu’r Cymro’ fel y dywedai llyfr Simon Brooks a Richard Glyn). (2) Torri crib balchder milwrol Lloegr. Daeth sylfaenwyr cenedlaetholdeb modern Cymreig allan o’r Rhyfel Mawr. Fe losgasant Ysgol Fomio.
(Am yr un rheswm mae cadw Trident, ac yn wir ei gwahodd i angori yng Nghymru, yn rhan o feddylfryd Prydeiniwr ‘banál’. Bu tipyn o sôn, yn sgil sylwadau S. Brooks a R. Glyn am ‘Banal Nationalism’, teitl llyfr gan Michael Billig, a thebyg y bydd hwnnw’n beth y cawn lawer ohono dros y pedair blynedd nesaf. )
Maint y newid
Am dair canrif fe ymrithiodd Lloegr fel ‘Prydain’ i wynebu’r byd ac i geisio’i reoli. Fel ‘Prydain’ fe adeiladodd ymerodraeth – un fyr iawn ei pharhad, prin drigain mlynedd fel y dywed Mr Melding, ond un y taflodd y Cymry eu hiaith ymaith er mwyn y fraint o gael perthyn iddi! Heb yr Alban, ni bydd Teyrnas Gyfunol, ni bydd Prydain Fawr ond fel ymadrodd daearyddol, ni bydd Jac yr Undeb ond fel rhyw eitem o wisg ffansi. Byddai’r newid yn aruthrol, ac nid yw pobl Lloegr na Chymru, na hyd yn oed pobl yr Alban, wedi dechrau ei amgyffred eto. A beth am unoliaethwyr Gogledd Iwerddon? Ble bydd y Brydain y bloeddiodd y rhain eu teyrngarwch iddi dros genedlaethau? I ble’r ân’ nhw? Pwy fydd biau Gibraltar? A’r Malvinas? Ai Lloegr ynteu Prydain a gymerodd feddiant ar y rheini? A fydd ‘Cymanwlad Brydeinig’? A fydd BBC? A fydd BBBC (Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain)? Rwy’n meddwl y bydd, oherwydd rydym ‘ni Brydeinwyr’ (defnydd R. T. Jenkins o’r gair, nid defnydd J. R. Jones) yn rhai da am fyw gydag anghysonderau er mwyn osgoi trafferth; mae hynny’n gryfder ynom. Ond y cwestiwn mwyaf oll: pan na fydd Prydain i feddiannu Trident, a fydd Lloegr yn ei gadw yn eiddo iddi ei hun? Hebddo, a all hi dorsythu mwy ar lwyfan y byd? A fyddai hi’n dymuno hynny? Ynteu a fyddai hi’n derbyn fod y gêm – gêm mil o flynyddoedd – ar ben?
Ambell gwestiwn
Tra bydd Lloegr yn gofyn y cwestiwn hwnnw iddi ei hun, cystal ein bod ninnau Gymry yn gofyn ambell gwestiwn. A’r posibilrwydd wedi dod mor agos y gall y peth ddigwydd – yn ddigon agos, o leiaf, i ddychryn rhai sy’n ofni iddo ddigwydd – nid yw ond iawn i ni ofyn, unwaith eto, ar gydwybod, pam y byddem yn dymuno’i weld yn digwydd. A all ein cymhelliad fod yn un o’r rhain, er enghraifft? Sbeit at Bobol Drws Nesa (sef, bob amser, wrth gwrs, ‘y rhai odia’n y byd’ fel y canodd Mynyddog)? Eiddigedd methiant wrth lwyddiant? Tro sâl gwas â’i feistr – fel yn Othello, Cysgod y Cryman a A Man for All Seasons?
Ac ystyriwn hyn. Mae’r pwerau mawr i gyd yn ddrwg. O ran hynny gall pwerau bychain fod yn gythreulig o ddrwg o fewn eu cylchoedd eu hunain, fel y gwelwyd yn chwalfa Iwgoslafia. Heb ei masg ‘Prydain’, byddai’n anodd i Loegr gadw ei lle ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Ar yr un trawiad fe gollai UDA ei chymar – ‘partner’ i rai, ‘pwdl’ i eraill – yr ochr hon i Iwerydd. Beth fyddai’r canlyniad i’r byd? Wrth alltudio Lloegr o ford dâl y byd, a gwanhau America’n ddirfawr, a fyddem yn alltudio ac yn gwanhau y rhai llai drwg o’r pwerau drwg?
Gadawaf y cwestiynau gyda’r darllenwyr, ond gall y rheini efallai ddyfalu beth fyddai ateb yr hen GA. Mi ddywedaf hefyd pa beth, uwchlaw popeth arall, sy’n fy nhueddu at yr ateb hwnnw. Mae’n hen bryd inni gael tipyn o HWYL. Hwyl yw’r peth nad ydym wedi ei gael yng Nghymru oddi ar ddatganoli. Mae meddylfryd Llafur mor banál, – a defnyddio’r gair hwnnw eto. Ac mae Plaid Cymru mor llac ei gafael ar bob dim. A dyfynnu’r drysorfa honno o ddoethineb, Storïau’r Henllys Fawr, ‘Mae’r hen le ’ma wedi mynd cyn fflatied â haearn smwddio’. Byddai IE gan yr Albanwyr y mis Medi hwn yn ANDROS O HWYL.
Os mai NA …
Os ‘NA’, rhagwelaf y funud hon gyfnod hir o ddim byd yn digwydd, gwangalondid ac efallai gyd-gyhuddo. Ni ddaw dim byd o’r ‘fargen ffederal’ y mae Mr Melding – gydag ewyllys da, pwysleisiaf eto – yn sôn amdani, sef rhyw wobr i’r Alban am aros o fewn yr Undeb. Pa wobr? Am beth y gallai’r Alban fargeinio? Mae ganddi eisoes: ei thafodiaith gref (er cwbl ddi-statws, yn rhyfedd braidd o gofio mai hi yw ail iaith Prydain o ran cryfder), ac iaith arall y mae’n rhydd iddi wneud mwy ohoni os yw’n dewis; ei llenyddiaeth genedlaethol gyfoethog; ei heglwys sefydledig; ei chyfundrefn gyfraith; ei chyfundrefn addysg; ei dinasoedd hanesyddol; y chwisgi, yr uwd, y grug, yr ysgall, Noson Burns, Campau’r Ucheldiroedd, Anghenfil Loch Ness, y pibau, y cilt, y sporran, y skian dubh, – llawer o bethau nad oes gan y Sais unrhyw wrthwynebiad iddynt, yn wir y mae’n ddigon hoff ohonynt ac yn falch o gael eu benthyg o ran hwyl weithiau (yn wahanol iawn i’w agwedd at rai o bethau’r Cymry, sy’n gallu ei anesmwytho’n fawr). Beth mwy y gall yr Albanwr ei ofyn? Down yn ôl at yr un ddau ateb. Gafael gadarn ar gyfoeth yr olew. A bod heb Trident. Hynny nis caiff o fewn yr Undeb.
Os mai IE …
Os bydd i’r Albanwyr, rhwng heddiw a mis Medi, weld rhesymeg hyn, nid ein lle ni Gymry yw gweiddi, ‘Ara’ deg! Daliwch arni nes byddwn ni’n barod!’, ac embaras yw gweld Prif Weinidog Cymru’n trio cymell y Sgotyn i gymryd y Ffordd Isaf yn lle’r Ffordd Uchaf. Er gwell neu er gwaeth, mae’r Alban wedi symud i gêr uwch. Saeth a ollynger, ni ellir ei galw’n ôl. Alea iacta est. Ac yn y fath amgylchiadau cystal bod yr hen GA, beth bynnag am Mr Melding, yn rhoi ffarwel i’r ffydd ffederal.
Os IE gawn ni, a’r Alban yn mynd, mae dyn yn ceisio dychmygu sut le fydd ar ôl. Bydd gwladwriaeth unedol, ond datganoledig i fesur, yr awgryma Mr Melding enwau digrif arni – ‘Prydain Fechan’, neu ‘Lloegr Fwy’. Byddai’n briodol ei galw’n ‘Lloegr a Gogledd Iwerddon’. Ni fyddai raid cynnwys ‘Cymru’ yn y teitl, oherwydd heb ddiddymu Deddf Uno 1536 fe erys Tywysogaeth Cymru’n ‘dragwyddol gorfforedig’, chwedl y ddeddf honno, yn ‘hon, ein teyrnas Loegr’. Pryd y dechreuai’r Cymry ymdeimlo â’u safle eithafol ddarostyngedig, a chychwyn ar yr ymdaith a ragwelodd Harri Webb ‘wysg eu cefnau tuag at annibyniaeth’? Yn fuan? Yn hwyr? Byth? Yr wyf am fentro dyfaliad heddiw: yn fuan. Ond bydd troi’r ymdeimlad yn sylwedd yn gofyn math o arweiniad nad yw yma ar hyn o bryd.
Cwestiwn arall, cyn bwysiced â’r un. Sut Loegr fyddai hi o fewn yr undeb cloff, clwyfedig hwn? Gall fod rhai Ceidwadwyr – dof ar eu traws fel darllenwr, achlysurol bellach, ar y Daily Telegraph – yn ymgysuro wrth feddwl y ceid wedyn Loegr gwbl Geidwadol. I eraill ohonom, efallai mai achos arswydo yw meddwl am Loegr honco Dorïaidd gyda Boris yn Brif Weinidog a’i holl bolisïau yn rhai i blesio’r Telegraph a’r Daily Mail. Wrth geisio rhagweld eto, nid wyf mor sicr mai i hynny y dôi hi. Heb yr arf niwclear, y ‘rôl fyd-eang’, yr hiraeth am rwysg ymerodrol, nid yr hyn a adwaenwn ni fel ‘Torïaeth’ fyddai’r ochr Geidwadol mwyach. (Ac yn hanesyddol, creadigaeth y Chwigiaid, o dipyn i beth yn ystod y ddeunawfed ganrif, fu’r rhan fwyaf o’r nodweddion a gysylltwn â Siôn Ben Tarw – y pethau sydd, i lygaid rhai ohonom o leiaf, yn annymunol ac yn chwerthinllyd.) Fe welai rhywrai hefyd, siawns gen i, y byddai angen ailgyflunio mawr ar y Chwith, ac na byddai llaw farw’r Blaid Lafur yn ddigonol yn yr amgylchiadau. Eled yr Alban ymlaen, a gwneud y weithred. Fe all Lloegr wedyn anghofio ‘Rule Britannia’ (gan na bydd Britannia, yn ystyr y gân honno, – gwaith Sgotyn wrth gwrs). Fe all gadw ‘Land of Hope and Glory’ yn unig fel tipyn o hwyl ar Noson Olaf y Proms. Ac fe all ddechrau anturio ymlaen yn ysbryd tra gwahanol anthem aruthrol Blake – a ddylai ddod yn anthem genedlaethol iddi. Rwy’n meddwl fod gan y Sais yr adnoddau, a’r synnwyr, i wneud hyn.
Dewis arall ?
A’r wladwriaeth unedol wedi mynd, a’r ffederasiwn heb ei hadeiladu, rhydd Mr. Melding beth ystyriaeth i’r dewis arall, conffederasiwn neu gyd-ffederasiwn. Ystyr hynny yw undeb llac, gwirfoddol i hyrwyddo buddiannau cyffredin. Ffederasiwn yw Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ‘Yr Hen Gorff’; conffederasiwn yw Undeb yr Annibynwyr. Tuag at ddiwedd ei ymdriniaeth mae Mr Melding i’w weld yn rhyw gynhesu at hwn fel rhywbeth tipyn gwell na dim. Gwêl hefyd y cenedlaetholwyr yn ochri tuag ato, hynny’n awgrymu rhyw newid o ‘genedlaetholdeb’ i ‘neo-genedlaetholdeb’. Mewn ateb i hyn dywedaf – ac rwy’n bur sicr o’m pethau – nad oes dim byd neo- ynddo. Dyma beth yr oedd Gwynfor Evans yn ei drafod ac yn ei gymeradwyo’n aml yn y 1950-60au.
Rydym yn ddyledus i Mr Melding am drafodaeth olau unwaith eto.