Y dyddiau hyn rwy’n cael llawer o gwmni Gildas, y dysgawdwr o’r chweched ganrif. Y gwanwyn nesaf, rydym yn mawr obeithio, bydd ein cwmni, Dalen Newydd, yn cyhoeddi golygiad a chyfieithiad newydd gan Iestyn Daniel o’r llyfr a ystyriwyd drwy’r canrifoedd yn ‘waith Gildas’. Teitl y gyfrol fydd ‘Llythyr Gildas a Dinistr Prydain’, a phan welwch hi fe’ch gwahoddir i ystyried yn fanwl iawn, gyda’r golygydd, y ddadl mai dau waith gwahanol sydd yma, gan ddau awdur gwahanol, ond wedi eu rhoi ynghyd yn y llawysgrifau yn weddol gynnar.
‘Dinistr Prydain’ yw’r cynnig cyntaf, hyd y gwyddom, i ysgrifennu hanes Ynys Brydain a hanes y Brythoniaid neu’r Brytaniaid, ein hynafiaid ninnau. Dyma fan cychwyn holl draddodiad hanes y Cymry, a phan ddarllenwch yr adroddiad fe welwch un mor bartïol ac mor rhagfarnllyd ydyw. Fe’n gorfodir i ofyn ac i ailofyn y cwestiwn, drachefn a thrachefn, ai bod y Cymry’n anobeithiol, yn gollwrs o’r dechrau, ai bod rhyw hen awdur wedi dechrau dweud hynny, a llu o rai eraill wedi ei ddilyn, a’r Cymry eu hunain wedi llyncu’r stori?
Mae cwestiynau mawr ynghlwm wrth ‘Ddinistr Prydain’, ond awn heibio i’r rheini heddiw a throi at ran arall ‘Dogfen Gildas’ (felly y mae Iestyn Daniel yn ei henwi), sef y ‘Llythyr’ tra chwyrn lle mae’r awdur (ie, y Gildas gwreiddiol neu’r ‘gwir Gildas’ efallai) yn fflangellu pump o frenhinoedd Prydain ei gyfnod am eu camlywodraeth, a fflangellu hefyd yr arweinwyr eglwysig am eu diffyg tystiolaeth Gristnogol. Gwna hyn drwy hyrddio dyfyniadau lawer iawn o’r ysgrythur, ac yn arbennig o eiriau proffwydi Israel, mawr a mân. Mae’n ei osod ei hun yn olyniaeth y proffwydi, yn ei fodelu ei hun arnynt, yn benthyca’n helaeth o’u gwaith, ac fel hwythau yn gweld perthynas arbennig rhwng y proffwyd a’r genedl, a chyfrifoldeb arbennig o’r herwydd ar y proffwyd. Nid oedd yn dymuno llefaru, mae wedi gohirio llefaru, ond yn y diwedd mae’n rhaid iddo lefaru wrth ei bobl ei hun, Israel praesens – yr Israel bresennol, neu Israel heddiw.
Gallaf ddychmygu Maelgwn Gwynedd yn ffonio un arall o’r brenhinoedd, Cystennin ddywedwn ni. ‘Gest ti rywbeth gan Gildas bore ’ma?’ ‘O, taw â sôn! Yn syth i’r bin!’ ‘Finna’r un fath washi! Pigyn clust!’
Ie, pigyn clust oedd Gildas yn ddigon aml, ac yn hynny roedd yn driw i draddodiad y proffwydi. Y gwahaniaeth mawr yw fod Gildas yn Gristion ac am hynny’n gallu cyfeirio at ffordd ymwared, dim ond i’r pechaduriaid, lleyg a llên, ofyn maddeuant ac ymddiwygio. Yn aml yn yr Hen Destament nid oes ddewis ond i Dduw gael gair yng nghlust brenin Assyria neu Fabilon, i’r un perwyl â thad diarhebol yr hogyn drwg yn dweud wrth y prifathro, ‘cweir iawn iddo fo, Mistar Jôs.’ Ond mae dylanwad y syniad hwnnw hefyd yn drwm iawn ar ‘lyfr Gildas’.
Fflangellai’r proffwydi genedl Israel a’i brenhinoedd am amrywiaeth o resymau, e.e. (a) aml-ddiwylliannedd, sef peidio â thynnu i lawr holl allorau Baal; (b) esgeuluso cynnal y defodau a’r aberthau’n gywir; a (c) anwiredd, camlywodraeth, gormes, trais, tywallt gwaed gwirion. (ch) byddardod, methu deall, gwrthod gwrando. Am (c) ac (ch) mae’n rhaid eu hedmygu ym mhob oes, a rhaid edmygu Gildas – ‘y gwir Gildas’ – hefyd.
Daeth hyn i’m meddwl yn gryf iawn yn ddiweddar, wedi gwylio eitem ar Newyddion S4C. Yn wyneb holl ymddygiad alaethus a gwarthus llywodraeth Sawdi Arabia y dyddiau hyn, roedd pobl ar y stryd ym Môn yn cael eu holi ynghylch priodoldeb hyfforddi awyrenwyr y llywodraeth hon ym maes awyr y Fali. Gydag eithriad neu ddwy yr oedd yr ymatebion yn blwyfol, hunanbwysig, di-ddallt, diddychymyg a diegwyddor. Ni fyddwn yn beio dim ar y proffwyd am roi pastwn ar gefnau pobl fel hyn neu alw am farn oddi uchod arnynt hwy a’u cymdeithas, yr Israel praesens ym Môn; yn wir gallwn ymuno ag ef yn yr alwad.
Yn gyffredinol, pethau afiach yw’r cyfweliadau stryd yma, y vox pops. Naw gwaith o bob deg nid ydynt ond llwyfan i safbwyntiau difeddwl, adweithiol. Fe ddylai fod yna drosedd, ‘twpdra troseddol’ – ‘criminal stupidity’. Yn un peth, mae eisiau holi pobl fel hyn yn llawer caletach. Mae eisiau rhyw Michael Moore yng Nghymru, i’w herio nes byddant yn cerdded i ffwrdd yn gegrwth, neu ryw Ali G. i wneud iddynt edrych yn wirion o’r gair cyntaf.
Llefara, broffwyd !