Dau fater iawndal yn y newyddion yr wythnos yma.
Yn gyntaf, achos y postfeistri. £600,000 yn cael ei gynnig gan y Llywodraeth i bob un o’r 86 sydd wedi ennill eu hachosion hyd yma. Dim byd tebyg i ddigon.
A beth am y swyddogion o’r Swyddfa Bost a achosodd y drwg? A beth am y twrneiod a elwodd ar yr achosion, yn cynnwys nid yn unig yr erlynwyr ond hefyd yr amddiffynwyr honedig a wnaeth siou mor wael ohoni? Dylid galw pob un o’r rhain i gyfrif, a dylai eu cwmnïau dalu trwy eu trwynau am y drwg a wnaethant.
A’r ail achos. Yr holl gyn-filwyr a orfodwyd i wylio arbrofion arfau niwclear Prydain yn y 1950-60au gyda chanlyniadau erchyll iddynt eu hunain ac i’w plant. Darllenwn fod yr ymgyrch am iawndal yn awr yn cael ei hailgychwyn ar ôl i lywodraeth y dydd ddeng mlynedd yn ôl wahardd y dioddefwyr rhag erlyn y Weinyddiaeth Amddiffyn. A heddiw, yn lle cyfiawnder, dyma lywodraeth Rishi yn cynnig … medal ! Gobeithio y bydd pob un yn dweud wrtho ble i’w rhoi hi, a gobeithio yr â’r ymgyrch ymlaen tuag at fuddugoliaeth, faint bynnag a gymer.
A beth am air gan wleidyddion Cymru? Faint maen nhw wedi helpu dros y deng mlynedd diwethaf?
Ie, llywodraethau Torïaidd 1951-64. Ond cofiwn hyn. Milwyr gorfod oedd llawer o’r rhai a roed yn y sefyllfa hon, mwyafrif ohonynt mae’n bur debyg. Pwy greodd yr orfodaeth? Llywodraeth Lafur Attlee yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel, darn o reolaeth gymdeithasol nodweddiadol o Lafur, ac offeryn a fu’n bur effeithiol i gadw’r caead ar egnïon cenhedlaeth ifanc.
Adweithiol a rhagrithiol i’r gwraidd yw’r Chwith Brydeinig, a phob tro y cyfyd arweinydd o’r traddodiad radicalaidd o’i mewn, fe’i gwrthodir – Foot, Corbyn. Dyna pam na ellir adfywhau gwleidyddiaeth yng ngwledydd Prydain, gan osod Lloegr hithau ar lwybr iachawdwriaeth, ond gan un o’r ‘gwledydd Celtaidd’ fel y’u gelwir. Gan fod Cymru druan allan ohoni’n llwyr bellach, rydym yn dibynnu i fesur helaeth iawn ar gynnydd a llwyddiant mudiad cenedlaethol yr Alban. Dim rhyfedd mai yma y mae’r Sefydliad yn gweld y perygl, a dim rhyfedd ddarfod cynnal y coup d’état yr wyf wedi sôn amdano o’r blaen. A oes rhywun ohonoch chi ddarllenwyr yn credu nad dyna oedd?