Archif | Ionawr, 2013

STORI FER: Olav Drö

15 Ion

Wel, fe gafodd yr hen Olav Drö rediad go dda. Gwobrau yn Cannes a’r Ŵyl Ffilmiau Geltaidd, Rhosyn Aur Montreux am y gyfres orau mewn iaith estron, sylw yng Ngŵyl y Gelli.  Bu’n werth miliynau i economi Cymru, ac yn werth tipyn i ninnau’n bersonol hefyd. Ond rhaid i bopeth da ddod i ben rywdro, sbo.

Dyma un llythyr o blith y cannoedd, o’r Daily Telegraph:

Syr,

Rwy’n sicr fod miloedd fel finnau yn addunedu heddiw na thalwn ein trwydded deledu ddim mwy hyd oni thynnir y gyfres Olav Drö  gan y BBC oddi ar ein sgriniau. Fe aeth y twyll rhagddo yn rhy hir. Pam y dylai’r trethdalwr Prydeinig dalu am ddangos ar sianel Brydeinig gyfres mewn iaith nad yw’n ddim byd tebyg i iaith naturiol y Deyrnas hon? Mae gormod o arian cyhoeddus yn cael ei daflu at ddiwylliannau lleiafrif ac at ieithoedd meirw fel y mae. I ba beth mae’r byd yn dod?

Yr eiddoch,
Wedi Wfftio, Tunbridge Wells.

A dyma un arall o’r un papur, ychydig yn nes ymlaen:

Syr,

Felly mae’r pincos Guardian-ddarllengar, cyd-deithiol, sandal-wisgol, miwsli-fwytaol yn y BBC wedi gweld eu camgymeriad o’r diwedd ! Mae’n debyg eu bod yn eu gweld eu hunain yn glyfar iawn yn twyllo’r cyhoedd Prydeinig cyhyd, ond fe ddatgelwyd eu brad! Diolch byth, fe welsom yr olaf o’r gyfres Olav Drö.  Do, bu rhai yn canmol safon y cynhyrchu, y cyfarwyddo, yr actio a’r gwaith camera, a bûm innau’n ddigon ffôl i gael fy nghamarwain gan y pethau hyn am rai troeon, cyn gwybod y gwir. ‘Roedd yna isdeitlau,’ meddai rhai.  Oedd, ond nid oedd hynny’n cyfiawnhau ein byddaru am awr bob wythnos â seiniau iaith israddol, annealladwy ac anynganadwy, ac iaith sydd wedi marw pa un bynnag.  Digon yw digon!

Yr eiddoch,
Wedi Danto, Cheltenham.

Ac yn awr dyma lythyr o’n hannwyl Western Mail:

Syr,

A siarad fel Cymro nad yw’n siarad [Gwreiddiol: Speakin’ as a non-speakin’ Welshman] yr wyf innau’n falch fod y gyfres Olav Drö wedi ei thynnu oddi ar y rhwydwaith Prydeinig.  Fe dynnodd y twyll hwn warth arnom fel Cymry.  Teimlaf yn wir  y dylem ni ymddiheuro i bobl Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon am wthio i lawr cyrn eu gyddfau unwaith eto iaith a wrthodir gan 99% y cant o bobl Cymru pa un bynnag.  Maddeuwch inni, os gwelwch yn dda, gyd-Brydeinwyr!  Ond arhoswch chi nes daw Pencampwriaeth y Chwe Gwlad!  Gewn ni weld pwy fydd yn wado Lloeger pryd ’ny!  ’Mond i Gymru gael y leinowt yn reit …!

Yr eiddoch,
Ainsleigh Tumble, Llanelli.

Fel ambell syniad athrylithgar arall, o gyd-weledigaeth y ddau efaill Huws – Pebr a Brewys – y tarddodd Olav Drö eto.  Cael rhyw lymaid yr oeddem, y criw arferol, a’r sgwrs wedi crwydro oddi wrth yr ystadegau iaith at destunau diflas eraill, a chanfod ei ffordd yn anochel at S4C a Radio Cymru. ‘Mae hi wedi mynd, yr unig beth y bydda’ i’n sbio arno fo ydi News at Ten,’ meddai Llwyd Llwyd.  ‘A finne,’ meddai Llinos, gwraig Llwyd,  ‘a thipyn bach o’r Strictly weithie’.  ‘Ie, mae hwnnw’n ôl-reit,’ meddai Glesni, chwaer Llwyd a ffrind Llinos, ‘a Noson Lawen ambell dro.  ’N enwedig pan fydd Ffarmwr Ffowc.’  ‘Ddeuda’ i wrthoch chi ar be bydda’ i’n sbio,’ meddwn i. ‘Yr hen betha’ ditectif ’ma o Ddenmarc neu Norwy neu un o’r gwledydd yna.  Fyddwch chi’n gweld rheini?’  Oedd, roedd eraill ohonom wedi eu gweld, a wir wedi eu mwynhau, ac yn gallu deall pam y daethon nhw yn rhyw fath o gwlt ar draws y gwledydd.

Fel yna dechreuodd hi. Roedd Pebr a Brewys yn ddistaw, a’r gweddill ohonom yn gwybod, rywsut, fod rhywbeth yn mynd i ddod allan.  Ac yn wir i chi …

‘Wyddoch chi be fasa’n syniad da …?’  Gofynnodd Pebr.

‘Wyt ti’n meddwl am yr un peth â fi?’ gofynnodd Brewys i’w frawd.

‘Mae’n siŵr fy mod i,’ meddai Pebr o hir brofiad.

‘Be ydi o felly?’

‘Mi allen ni wneud ffilm dditectif.’

‘Yn union. A be arall?’

‘Mi allen ni wneud cyfres.’

‘Yn hollol.  Mae ’mrawd hefo fi, welwch chi ffrindia.’

‘Ydw,’ meddai Brewys. ‘Cyfres o ffilmiau ditectif Sgandinafaidd, i’w gwerthu dros y byd.’

Pawb yn syfrdan am funud, a beiddgarwch y ddau frawd wedi’n gadael ar ôl.

‘Sgandinafaidd?’ gofynnodd Llwyd  yn betrus. ‘Maddeuwch i mi ’te hogia, ond be wyddon ni am beth felly?’

‘Digon, siŵr o fod,’ meddai Pebr. ‘Mi allwn ddysgu. Trwy ddynwared.’

‘Ond ym mha iaith byddan nhw?’ gofynnodd Glesni.  ‘Daneg? Swedeg? Norwyeg?’

‘O, Cymraeg, siŵr iawn,’ meddai Brewys.

Tipyn o grafu pen. Ond roedd Pebr mor blês ar ei weledigaeth nes prynodd rownd i bawb.

‘Ia, sut oeddet ti’n deud, Brewys?’ dychwelais i at y testun ar ôl ysbaid.

‘Wel, mi fasa gynnoch chi’r fodan ’ma i ddechra,’ meddai Brewys. ‘Hi ydi’r ditectif. Hi sy’n datrys pob dirgelwch yn y diwedd ac yn setlo’r dynion drwg i gyd. Does dim raid iddi fod yn arbennig o ddel, ond iddi fod yn gymeriad cry, a medru rhoi ambell swadan a chic pan fydd angen.’

‘Ia,’ meddai Pebr, fel petai’n darllen meddwl ei frawd eto, ‘ac mae hi’n cael rhyw hyrddiau duon, pyliau o ansicrwydd ac iselder.’

‘O, mae’n rhaid cael rheini mewn ffilm Lychlynaidd,’ cytunodd Llinos. ‘Ond o ran hynny, meddyliwch am Inspector Morse. Roedd e’n cael pwle.  Sherlock Holmes wedyn …’

‘A mae gyda hi jersi wlân gobog, gynnes efo patrwm reit neis,’ meddai Glesni.

‘Ylwch, mae’r genod ma’n cael y syniad!’ meddai Brewys. ‘Be ’tasach chi rŵan, Llinos a Glesni, dwy hogan yn dallt ’i gilydd, yn sgwennu un sgript inni, rhifyn peilot fel petai, i bara rhyw awr?’

Ddywedodd Llinos a Glesni ddim ‘na’, dim ond rhyw nodio ar ei gilydd.

‘Iawn … reit …,’ meddai Glesni wedyn yn ochelgar, ‘ond gadewch inni gael hyn yn glir. Rwyt ti’n dweud, Brewys, mai yn Gymraeg bydd hi. Lle mae’r Sgandinafaidd yn dod i mewn?’

‘Mi fydd ’na ryw arlliw Llychlynig,’ meddai Brewys. ‘Rhyw gyffyrddiad go gry o’r hyn allai fod yn Swedaidd, neu Ddanaidd, neu Norwyaidd, neu be bynnag …’.

‘Rhyw flas,’ meddai Pebr. ‘Er enghraifft, mi allwn ni ffilmio tipyn o gefndir yn rhai o’r gwledydd yna, arwyddion yn yr iaith ac ati …’

‘A llun y Fôr-forwyn Fach,’ awgrymodd Llinos.

‘Ardderchog,’ meddai Brewys.  ‘Arwain meddyliau pobl. Mi fydd popeth arall, hynny ydi y ddialog, yn Gymraeg. Isdeitlau wrth gwrs.’

‘Ia, isdeitlau, ond …’  Petrusais innau eto.

‘Ond be …?’

‘Mi fydd pobol — wel, rhai pobol beth bynnag — yn sylwi, ac yn dweud, “Hei, nid Daneg … neu be fynnwch chi … ydi hwn”.’

‘Fyddwn ni ddim wedi dweud mai Daneg fydd o,’ oedd ateb Brewys. ‘Gadael iddyn nhw feddwl.’

‘Arwain meddyliau,’ meddai Pebr gyda winc.

‘Camarwain?’ pwysais i, ychydig bach yn boenus.

‘Galwch chi o be fynnwch chi,’ meddai Brewys. ‘Ond er mwyn Cymru. Er mwyn economi Cymru.’

‘Ond fe fydd pobol yn nabod y Gymraeg,’ meddwn i wedyn, ddim eisiau taflu dŵr oer – mae’n gas gen i hynny – ond yn benderfynol o gael pethau’n iawn.

‘Pa bobol?’  meddai Brewys yn iach.

‘Pobol Cymru,’ meddai Llwyd, yn gweld fy mhwynt i. ‘Neu bobol y Fro o leiaf.’

‘Does ’na ddim Bro,’ meddai Pebr. ‘Gawn ni sbario poeni am hynny.’

‘Ond wedyn …,’ meddai Glesni, ‘beth am waith mawr Llenyddiaeth Cymru a Mercator yn cyflwyno etifeddiaeth Cymru i’r byd?  Beth am deithiau’r Beirdd i ddarllen eu gwaith yn Venezuela, Togo, Mongolia?  Beth am yr holl gyfieithiadau o Un Nos Ola Leuad ?’

‘Paid di â phoeni dim,’ meddai Brewys. Gofyn di i bobol Bangor be wyddan nhw am Un Nos Ola Leuad, a be ddywedan nhw?’

‘Wazza’?’  Meddai Pebr fel petai wedi ei breimio i ateb cwestiynau ei frawd.

‘Na, ffrindia bach,’ daliodd Brewys at ei bwynt, ‘raid ichi boeni dim ar gownt y Gymraeg. Does dim biliynfed ran o boblogaeth y byd yn gwybod am ei bodolaeth hi. Wyddan nhw mo’r gwahaniaeth rhyngddi hi a iaith mwncwns canolbarth Sumatra. Ac o’r ychydig, ychydig sy wedi clywed amdani hi, mi fydd ’u hanner nhw’n methu coelio ei bod hi’n iaith go iawn ac yn dal i gael ei siarad.  Mi allwch gyhoeddi unrhyw enllib fynnoch chi yn Gymraeg heb i neb gynhyrfu dim, a phetaech chi’n cyfieithu holl lyfrau Tolstoi i’r Gymraeg a’u cyhoeddi fel eich gwaith eich hun, fyddai neb yn sylwi.  Dyna fantais bod yn Gymro, ’dach chi’n gweld.’

‘Nid y bydden ni’n dymuno cyhoeddi enllib, wrth gwrs,’ meddai Pebr.

‘Na, na,’ cytunodd pawb, gan glosio at safbwynt Brewys.

‘Ond beth am yr enwau?’ gofynnodd Glesni. ‘Enwau’r cymeriadau.’

‘Mi ddown ni dros hynny,’ meddai Brewys. ‘Dowch ag enw inni o Ddenmarc neu Norwy neu un o’r gwledydd yna.’

‘Søren Kierkegaard,’ cynigiodd Llwyd, sy’n un am ddarllen rhyw bethau dyrys.

‘Rhy gry,’ meddai Brewys ar ôl meddwl. ‘Pwy sy ag un arall?’

‘Nils Bohr,’ cynigiodd Llinos, oedd wedi gwneud Ffiseg.

‘Nes ati,’ barnodd Brewys. ‘Ond dowch eto, rhywbeth heb swnio’n rhy ddiarth.’

‘Hedda Gabler,’ meddai Glesni.

‘Hedda Gabler! Da iawn!  Dyna ichi enw Norwyaidd sy wedi dod yn gyfarwydd ac yn dderbyniol dros y byd. Roedd ’rhen Ibsen, welwch chi, wedi’i gweld hi: dewis enwau fasa’n swnio’n iawn mewn ieithoedd eraill, enwau y byddai hyd yn oed Saeson yn medru eu dweud.  Nora Helmer, Georg Tesman, Anna-Maria, John Gabriel, Mrs. Alving …’

Twtsh o’r Gymraeg, a thwtsh o’r Llychlynig, mi ddaw yr enwau, peidiwch â phoeni,’ cadarnhaodd Pebr, yn deall meddwl ei frawd unwaith eto.

Wir, roeddem oll yn cynhesu at y syniad.  Cyn pen dim, gan mai’r ddeuawd athrylithgar a drawodd ar y weledigaeth, roedd Pebr wedi ei benodi’n Gynhyrchydd a Brewys yn Gyfarwyddwr. Llwyd – Props. Finnau –  Rhedwr; ac mi dderbyniais, er nad oedd gen i syniad clir iawn i ble roedd eisiau rhedeg, nac i nôl beth.  A’r sgriptio, fel y cofnodais o’r blaen, yng ngofal y ddwy chwaer-yng-nghyfraith. Tîm bach yn deall ei gilydd yn dda iawn.

O, peth pwysig! Enw i’r gyfres! Fawr o ysbrydoliaeth am dipyn, a’r noson yn hel ei thraed ati.  ‘Last ordors, hogia!’ gwaeddodd Wil Waterloo, ac fe ddaeth i Brewys fel fflach: Olav Drö! Wrth gwrs! Be arall?

‘Mi dynnwn y lle i lawr,’ meddai Pebr, gan led-ddyfynnu Storïau’r Henllys Fawr.

Ond rhaid, wrth gwrs, fel arfer, ddod at Y Cwestiwn Mawr. Pres, pres.

Fel roedd hi’n digwydd, roedd pawb o’n cwmni bach yn eithaf cefnog yr wythnos honno. Nid ‘â phres yn llosgi’ efallai, ond â rhyw dipyn bach wrth gefn i’w fentro er mwyn Cymru unwaith eto. Pawb, ichi gael deall, wedi cael yn ôl draean ei fuddsoddiad yn Dyddiol Cyf.  Cytunodd pawb i fwrw’r hatling. ‘Ond fe fydd angen mwy, os ŷn ni am wneud siew iawn ohoni,’ atgoffodd Llinos ni’n bwyllog. ‘Llawer mwy.’ Ac yn yr eiliad honno, rwy’n meddwl i’r un enw daro ym meddyliau tri neb bedwar ohonom.

Tal Fychan, wrth gwrs. Pwy arall?  Y gŵr a ariannodd blaid ysgubol ac anhaeddiannol lwyddiannus ‘Dim Byd’, un o’n mentrau cynharach. ‘Synnwn i ddim na ddaw’r hen Dal unwaith eto,’ meddai Brewys yn ffyddiog. ‘Dim ond iddo gael ei enw fel Uwch-Gynhyrchydd. Fydd dim angen iddo wneud dim, ond mynd i boced ddiwaelod ei drywsus, ac efallai tynnu ar ambell un o’i ffrindiau ffiaidd o gyfoethog.’

A thorri’r stori’n fyr, fe gafodd y ddau efaill air â’r hen Dal, ac yn fuan iawn roedd seiliau economaidd diogel wedi eu gosod i’r antur. Y gyfres Sgandinafaidd Gymraeg gyntaf. Dyrnaid o sgriptiau’n barod mewn deufis, dechrau ffilmio, ac actorion yn ciwio i ddod atom.

Bydd gweddill y stori’n gyfarwydd i ddarllenwyr Cahiers du Cinéma, Cine World, y Radio Times a cholofnau’r celfyddydau yn Golwg.  Fel y cydiodd y gyfres mewn cynulleidfaoedd drwy Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon, ac yn y Weriniaeth hefyd, lle nad oedd gan yr edrychwyr unrhyw syniad am yr iaith mwy nag am eu hiaith eu hunain. Gyda chyhoeddusrwydd da, bachu wedyn yn yr Unol Daleithiau (mi glywais fod Barod Ambanad yn ffan), Canada, Awstralia, Seland Newydd, India, Malaysia.  Gwledydd Ewrop wedyn. Gwledydd Llychlyn?  Do wir.  Ar y dechrau roeddem ni’n ei hofni hi dipyn bach yn fanno, ond ddywedodd neb ddim. Pobol Tsieina’n tiwnio i mewn wrth eu degau o filiynau, ac yn ôl yr hanes roedd eu harwr mabwysiedig Gorllewinol diwethaf, Ling Ling Shi, wedi ei ddisodli’n fuan iawn gan … Katrin Brand!

O ie, mi ddylwn fod wedi dweud yn gynharach efallai yr enw ddewison ni ar ein harwres. Yr egwyddor Ibsennaidd, welwch chi. Enw a wnâi’r tro fel un Llychlynig, ond a fyddai yr un mor dderbyniol yng Ngwlad y Basg, gwlad y Pentigili neu dre Caernarfon.  Er mwyn y cofnod, dyma rai o’r prif gymeriadau, – does dim angen enwi’r actorion wrthym ni Gymry, nac oes?  Katrin Brand (ditectif preifat), Gareth Garbo (ei phartner), Sbøner Gynt (ei chyn-gariad, sy’n dal ar gyrion ei bywyd), Tälvan Troll (drwgweithredwr rhyngwladol a gelyn mawr ein harwres), Dag Flopkin (un arall),  Gørønwy Carlsberg (bardd, a chanddo broblem), Bo Bowen (hanesydd a llyfrbryf), Bjorn Bjorwerth (newyddiadurwr),  Abba Darren (canwr pop), Crys Crys Toffarsen (canwr gwlad), Edvard Gryg (canwr opera, wedi colli ei lais), Andras Anders (andros o foi), Sven Gora Fedrwn Ni Fforddio (rheolwr pêl-droed) … a lliaws o gymeriadau difyr eraill, heb anghofio Henry Gibson (Sais crwydredig).

Chware teg i Quentin Tarantino, fe wnaeth araith fach mewn un ai Ffaröeg neu Islandeg i’n llongyfarch yn Cannes. Mi atebais innau yn Gymraeg, a doedd neb ddim callach. Dyna fu’r uchafbwynt.

Yn awr, ffactor o bwys mawr yn llwyddiant byd-eang Olav Drö fu’r sylw brwd a’r adolygiadau ffafriol yng ngwasg Llundain. Sylwedyddion praff fel Polly Toynbee, A.A. Gill, A.N. Wilson, Jeremy Clarkson,  Michael Buerk, Roger Lewis, Julian Ruck, Anne Robinson a Janet Street-Porter  i gyd yn baglu ar draws ei gilydd i’w chlodfori. Trueni na bai’r hen Eric Hobsbawm wedi cael byw i’w gweld. Ond os y rhain gychwynnodd y bêl, un o’r rhain hefyd (medden nhw) ollyngodd y gath.  Erbyn hynny, diolch byth, roedd y pres yn y banc. Alla’ i ddim profi hyn, ond roedd bys amheuaeth yn pwyntio’n gryf at un o’r adolygwyr.  Fe fu’r hen Janet, fel y cofia rhai, yn un o sêr Hoffter@Bres ar S4C.  Ei chyfraniad hi oedd brolio fel roedd hi wedi colli gwersi yn y Nant, a gwawdio’r athrawon, y cyflwynwyr a’r ‘blydi iaith stiwpid’ chwedl hithau. Ond rhaid bod gair neu ddau, rywsut neu’i gilydd, wedi glynu  yn ei chof, nes i’r gwirionedd wawrio arni ryw fore. Rhai’n dweud mai ‘rîli’ a ‘so’ oedd y ddau air, ond wn i ddim ai gwir hynny. Beth bynnag, fe aeth y neges ar led. Cododd protestiadau lu, cymaint nes cafodd yr hen Olav Drö ei holav drö ar y rhwydwaith. Aeth y gair drosodd i America, fod yma ryw iaith a oedd yn fygythiad marwol i’r Saesneg, ac fe safodd yr Iancs ysgwydd-wrth-ysgwydd o fewn yr English-speaking Union. Pallodd y diddordeb yn sydyn iawn drwy’r Gymanwlad a thrwy Ewrop, a chafodd llywodraeth Tsieina neges o rywle fod y rhaglen hon yn peryglu’r berthynas rhyngddi hi a gwledydd y Gorllewin. Dim un ffadan beni yn rhagor o’r wlad fawr honno, lle bu’r ffatrïoedd tan yn ddiweddar yn gweithio bedair awr ar hugain y dydd yn gweu’r jersis.

I lawr yr allt yr aeth hi wedyn, a dyna roi’r farwol hefyd i un arall o’n syniadau disglair, cyfres o’r enw Mörgen, mewn Daneg, am hanes cyn-brif weinidog. Fe welir ambell hen rifyn o Olav Drö o hyd ar y Sianel, yn llenwi twll, gyda rhifyn dwbl ddiwrnod Nadolig fel trêt arbennig rhwng dau hen hen rifyn o Jonathan.  Dyna i gyd.

Wel, ymlaen at y peth nesaf …

Trwy Ofer Esgeulustod… Brad a Dinistr Prifysgol Cymru

6 Ion

FERSIWN NEWYDD

‘Fe allwch chi dwyllo pawb beth o’r amser,
a thwyllo rhai bob amser, ond allwch chi ddim
twyllo pawb bob amser.’   Abraham Lincoln.

Gan bwyll …           

Trychineb, trasiedi, llanast, ffiasgo, ffars, hanci-panci  – defnyddiwyd y geiriau hyn oll i alw’r hyn a ddigwyddodd i Brifysgol Cymru yn ystod y misoedd diwethaf, ac sy’n dal i ddigwydd. Mae pob un o’r geiriau’n berthnasol yn ei ffordd.

Ond wrth ystyried yr holl helbul hwn, efallai mai’r angen cyntaf yw PWYLL.

Da fyddai inni ein hatgoffa’n hunain i ddechrau o rai ffeithiau sylfaenol.

Beth yw Prifysgol Cymru?  I ateb y cwestiwn mae gofyn dweud yn fyr beth oedd Prifysgol Cymru, gan mai gweddill yw’r hyn a welsom ni dros y blynyddoedd diwethaf o sefydliad llawer mwy a mwy ystyrlon.

Daeth Prifysgol Cymru i fodolaeth trwy siarter ym 1893 fel prifysgol ffederal o dri choleg, – Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd.  Ychwanegwyd Coleg Abertawe ym 1920, a daeth Ysgol Feddygaeth Caerdydd yn rhan o’r Brifysgol ym 1931.  Ym 1971 ymunodd Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ar ôl cryn betruso ar y ddwy ochr, a ellid cynnwys sefydliad eglwysig – Anglicanaidd yn yr achos hwn – o fewn prifysgol a fwriadwyd yn un genedlaethol, anenwadol. Fel mewn unrhyw sefydliad ffederal, yr oedd i’r rhannau eu llais yn y drefniadaeth ganolog, ac yr oedd y canol yn rheoli gweithrediadau’r rhannau yn ôl cytundeb a gorfforwyd mewn siarter a statudau.

Adlewyrchid yr undeb ffederal mewn tair prif ffordd.

(a)   Yr oedd Llys y Brifysgol, ei chorff llywodraethol goruchaf, yn sefydliad eang, democrataidd, yn cynrychioli ar y naill law y colegau ac ar y llaw arall y cyhoedd neu’r gymdeithas yng Nghymru drwy nifer o gyrff.

(b)   Yr oedd arholi cyffredin, yn arwain at radd Prifysgol Cymru.  Os cywir fy nealltwriaeth, bu papurau arholiad cyffredin ar un adeg, a hyd yn bur ddiweddar yn adrannau’r Clasuron; ond ni sefydlwyd yr arfer o  arholi canolog fel ym mhrifysgolion Caergrawnt a Rhydychen. O fewn cof y rhan fwyaf ohonom y gwarant o safon y radd oedd bod arholwyr allanol annibynnol, fesul pwnc, yn cloriannu a chymharu’r holl gynigion wedi i’r colegau unigol osod eu harholiadau a marcio’r gwaith.. Wrth i rif y myfyrwyr dyfu lleihaodd yr elfen o arholi cyffredin nes diflannu.

(c)   Yr oedd y Brifysgol yn cynnal nifer o gyrff at ei defnydd ei hun ac at wasanaeth dysg a diwylliant yng Nghymru yn y ddwy iaith. Y pennaf o’r rhain oedd Gwasg Prifysgol Cymru a Geiriadur Prifysgol Cymru.  Trwy waddoliad, daeth Gregynog, ei holl drysorau a chyfleusterau, at wasanaeth y Brifysgol yn y 1960au. Ym 1985 crewyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth.  Yr oedd i’r Brifysgol hefyd amlder o Fyrddau na bûm erioed yn rhy eglur ynghylch eu diben. Beth a estynnid gan ‘Y Bwrdd Estyn’, er enghraifft? Y mwyaf gweithredol o’r rhain oedd y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, sydd bellach dan yr un reolaeth â’r Ganolfan.

Swyddogion a Graddedigion

Ffordd arall o ofyn ‘beth yw Prifysgol Cymru?’ yw gofyn ‘pwy yw ei haelodau?’.  Wrth ateb y cwestiwn rhaid imi ddatgan na wn i ddim, o brofiad nac arall, am weithrediadau mewnol y Brifysgol, a’m bod yn seilio popeth sydd yma ar wybodaeth gyhoeddus a geir ar wefan y Brifysgol ac yn ei Chalendr blynyddol. Mae cyfansoddiad y Brifysgol yn ddogfen faith a manwl, yn cynnwys y Statudau, yr Ordiniannau, y Rheoliadau &c &c. Y neges glir a ddaw trwy’r cyfan yw fod i’r Brifysgol ddau gategori o aelodau: y Swyddogion a’r Graddedigion.

Nifer bychan bach yw’r swyddogion, gyferbyn â’r degau o filoedd o raddedigion. Y swyddogion uchaf yw’r Ymwelydd (Y Frenhines), a’r Canghellor (Tywysog Cymru), pennaeth lleyg y Brifysgol.  Yr arferiad o’r cychwyn oedd ethol y Canghellor gan Lys y Brifysgol. Gallai fod yn unrhyw un, ond aelod o’r teulu brenhinol a fu bron o’r cychwyn. Y Tywysog Charles ydyw oddi ar y 1970au. Mewn rhai prifysgolion, er enghraifft Caergrawnt a Rhydychen, mae’r Gangelloriaeth yn swydd eithaf gweithredol. Swydd addurnol, neu ‘mewn enw’ ydyw ym Mhrifysgol Cymru, a chynrychiolir y Canghellor mewn dyletswyddau o ddydd i ddydd, ac eithrio ar achlysuron prin iawn, gan y Dirprwy Ganghellor (Pro-Chancellor), prif swyddog lleyg gweithredol y Brifysgol, sef, ar hyn o bryd y Parchedicaf Barry Morgan, Archesgob Cymru.  (Ystyr ‘lleyg’ yn y cyswllt hwn, yw ‘heb fod ar y staff academaidd’.)  O dan yr hen drefn ffederal o bedwar, yna pump ac yna chwe choleg cyfansoddol, gweithredai pob prifathro yn ei dro fel Is-Ganghellor (Vice-Chancellor), pennaeth academaidd gweithredol y Brifysgol.  Yn ddiweddar daeth y teitl Is-Ganghellor i gael ei arfer fwyfwy yn lle ‘Prifathro’; hyd yn oed cyn bod Bangor, Aberystwyth &c yn dyfarnu eu graddau eu hunain, cyfeirid fel ‘Is-Ganghellor’ at yr hyn a arferai fod yn ‘Brifathro’, a cheir bellach ‘Ddirprwy Is-Ganghellor’ (Pro-Vice-Chancellor) (Is-Brifathro, gynt)!  Yn ddiweddar iawn fe ddechreuodd y prifysgolion newydd, sef y cyn-golegau Prifysgol, urddo eu Cangellorion eu hunain, h.y. arfer y teitl ‘Canghellor’ yn lle ‘Llywydd y Llys’: Rhodri Morgan yn Abertawe, yr Arglwydd Elis-Thomas ym Mangor &c.

Gydag ymadawiad y cyn-golegau i fod yn brifysgolion eu hunain, h.y. yn dyfarnu eu graddau eu hunain, yn negawd cyntaf y ganrif hon, bu newidiadau mawr i gyfansoddiad Prifysgol Cymru ac i’w swyddogion. Ildiodd y Llys ei alluoedd, gan beri bod y Cyngor yn llawer llai atebol nag o’r blaen i gyhoedd eang. Yn lle bod arno gynrychiolaeth o bob coleg (sef, yn bennaf, y prifathrawon), ceir tri Is-Ganghellor a thri Chadeirydd Cyngor yn cynrychioli’r cyfan o’r ‘sector uwch’; ac yn ychwanegol penodir dwsin o ‘aelodau annibynnol’  mewn cystadleuaeth agored, gan banel bychan bach o ddewisiad y Dirprwy Ganghellor ei hun. Clywais ddweud fod y Cyngor yn Gymreiciach corff o ganlyniad, a dichon fod hynny’n wir ar un ystyr; ond mae ochr arall, fel y caf awgrymu. Yr oedd hefyd Gadeirydd y Cyngor, wedi ei ddewis yn yr un modd (Mr. D. Hugh Thomas hyd at 21.10.11).   Tan yn ddiweddar iawn yr Athro Marc Clement oedd yr Is-Ganghellor, gyda thri neu bedwar o Ddirprwy Is-Gangellorion (Pro-Vice Chancellors) gyda gwahanol gyfrifoldebau.  Yn sydyn yn Hydref 2011, cawsom glywed mai yr Athro Medwin Hughes, sydd hefyd yn bennaeth Prifysgol Cymru: Y Drindod-Dewi Sant (hithau i’w  huno â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe), oedd  Is-Ganghellor Prifysgol Cymru bellach, gyda’r Athro Clement wedi mynd yn Llywydd –   swydd  newydd sbon. Felly dyna: Ganghellor, Dirprwy Ganghellor, Is-Ganghellor, Dirprwy Is-Gangellorion, Llywydd a Chadeirydd y Cyngor.

O dan yr uwch-swyddogion hyn daw staff y Brifysgol, tua 120 ohonynt i gyd, hwythau hefyd yn cael eu cydnabod yn swyddogion, a thrwy hynny yn aelodau o’r Brifysgol. Yn y Gofrestrfa ceir ysgrifenyddion a gweinyddwyr.  Sut y rhennir eu dyletswyddau, ac yn wir beth sydd ganddynt oll i lenwi eu diwrnod, nis gwn; ond cymerwn fod y cyfan yn unol â rhyw statud, ordiniant neu reoliad yn rhywle. Staff, ac yn hynny o beth swyddogion ac aelodau, yw y rhain hefyd: staff Gwasg y Brifysgol, staff Geiriadur y Brifysgol, staff y Ganolfan Uwchefrydiau, a Staff Gregynog. Dywed y Calendr wrthym mai amrediad swyddogion y Brifysgol yw: o’r Ymwelydd a’r Canghellor hyd at ddau arddwr Gregynog. (Diddorol nad yw’r deiliaid cadeiriau personol, wedi eu penodi gan Brifysgol Cymru, ond eu cyflogi gan y cyn-golegau neu’r prifysgolion newydd, yn swyddogion o’r Brifysgol.)

Ei graddedigion yw mwyafrif mawr, mawr aelodau Prifysgol Cymru.  Yn llenyddiaeth gyfoes y Brifysgol ei hun, e.e. yn y cylchgrawn Campus ac ar y wefan, sonnir llawer am ‘gyn-fyfyrwyr’ neu ‘alumni’ y Brifysgol. Mae hyn yn gwbl anghywir, anhanesyddol a chamarweiniol. Cyn-fyfyriwr o Fangor wyf i, alumnus o Fangor, canys yno y derbyniais fy addysg yn arwain at radd. Y funud y graddiais, sef drwy ysgwyd llaw â’r Dirprwy Ganghellor ar y pryd, a derbyn darn o bapur, deuthum yn aelod o Brifysgol Cymru (er imi aros ym Mangor i gwblhau gradd arall a dod felly, petai rhywun am hollti blewyn, yn fyfyriwr a chyn-fyfyriwr o Fangor ddwy waith).  Drwy raddio yr ail dro nid enillais i ddim hawliau pellach ym Mhrifysgol Cymru, oherwydd yr oeddwn eisoes yn aelod. Petawn, ryw dro, am beidio bod yn aelod ohoni, cyfyng iawn fyddai fy newis. Gallwn, mae’n debyg, yrru fy ngraddau yn ôl.  Yr unig ffordd arall i mi, a degau o filoedd yr un fath â mi, beidio â bod yn raddedig, fyddai bod y Brifysgol ei hun yn peidio â bod.

Dyna’r drefn felly, dyna’r ddealltwriaeth, ym Mhrifysgol Cymru. Nid yw yr un fath ym mhob prifysgol.  Yn Rhydychen, er enghraifft, daw’r myfyriwr yn aelod o’i goleg ac yn aelod o’r Brifysgol yr un wythnos, er drwy ddwy weithred wahanol. Graddio o’r coleg ac i’r Brifysgol a wnaethom ni, hyd at ychydig iawn o flynyddoedd yn ôl, ac yn ôl y fformiwla rydym yn dal ein graddau un ai ym Mhrifysgol Cymru neu ohoni.

Wrth raddio hefyd eid yn aelod o Urdd y Graddedigion, gan dderbyn siars i fod  â ‘gofal yn wastadol am lwydd ac anrhydedd ein prifysgol a’n gwlad’. Gweithredodd yr Urdd drwy’r blynyddoedd ar ddau wastad: (a) canghennau  – Bangor, Aberystwyth, Caerdydd &c; (b) adrannau, wedi eu dynodi yn ôl pwnc – Athroniaeth, Clasuron,  Diwinyddiaeth, Cymdeithaseg &c. Ar rai achlysuron, un yn arbennig, bu ei rôl yn allweddol mewn pennu cwrs y Brifysgol, drwy fod ganddi gynrychiolaeth weddol gref ar y Llys. Mae canghennau ac adrannau yn bodoli o hyd, ond yn ad-drefniad 2007 diflannodd yr enw ‘Urdd’, ynghyd â’r Pwyllgor Canolog, y Warden a’r Clerc.  Rhan o’r broblem, rhan o’r trychineb, yw fod y peirianwaith a oedd yn gwneud y swyddogion yn atebol i’r graddedigion wedi peidio â bod, wedi ei ddinistrio. Dyma un o’r pethau a ddigwyddodd trwy ofer esgeulustod y graddedigion eu hunain a’r rhai a ddylasai eu cynrychioli.

Ond drwy’r cyfan deil y Siarter i dystio mai cyfuniad o (a) y swyddogion a (b) y graddedigion yw Prifysgol Cymru.  Y graddedigion yw’r mwyafrif mawr mawr, a dywed Statud 11 (i) bod yn ofynnol i’r Brifysgol ‘mewn modd a fydd wedi’i bennu drwy Ordiniant ymgynghori’n gyson â’i Graddedigion, y cyhoedd ac â chyrff sydd â diddordeb mewn hybu cenhadaeth y Brifysgol’.  Tewch â sôn am ‘ymgynghori’n gyson’, nid ymgynghorwyd  unwaith cyn penderfyniad nid dibwys 21.10.11.  Wrth ddinistrio’r cyfrwng i ymgynghori â’r graddedigion, fe anghofiwyd diddymu’r rheol sy’n gwneud yr ymgynghori’n angenrheidiol. Pa ddilysrwydd sydd felly i unrhyw beth a wnaed oddi ar amser cinio’r diwrnod hwnnw?

O dan Siarter

Ni all yr aelodau yn awr, ac ni allent erioed, weithredu fel y mynnont. Yr oeddent i weithredu o dan ddarpariadau’r Siarter, a ddyfarnwyd iddynt, gan ei diwygio o bryd i bryd, ar ran y Goron gan y Cyfrin Gyngor. Mae siarter prifysgol yr un fath, mewn egwyddor, â siarter unrhyw sefydliad arall, bwrdeistref er enghraifft. Mae’n datgan rhyddid y corff i weithredu yn ôl ei angen ac yn ôl ei oleuni cyn belled â’i fod yn cadw at rai amodau ac ymrwymiadau a wnaed ymlaen llaw. Mae siarter prifysgol yn ymorol, er enghraifft, na ellir chwarae o gwmpas fel y mynner ag adnoddau materol y brifysgol, adeiladau, tiroedd, gwaddoliadau &c.  Nid oes hawl i’w gwasgaru rhwng y pedwar gwynt, nac i’w trosglwyddo i gorff arall.

Ffrindiau a gelynion

Enynnodd Prifysgol Cymru, dros y blynyddoedd, lawer o deyrngarwch a llawer o wrthwynebiad. Teyrngarwch gan rai, ac efallai gan genhedlaeth sydd wedi’n gadael bellach, am fod ynghlwm wrthi rywbeth o ysbryd ‘Cymru Fydd’, – gobaith, ymdrech a blaengarwch gwerin a bwrdeisiaeth Cymru diwedd Oes Victoria. Teyrngarwch gan lawer hefyd am ei bod i’w gweld yn gweithio, os nad yn berffaith, o leiaf yn bur dda: ei sefydliadau yn cyrraedd eu nod o wasanaethu diwylliant y genedl, a’r arholi traws-golegol yn rhoi cryfder arbennig yn ei graddau. Bu cenedlaetholwyr yn amwys eu hagwedd tuag ati, yn ei gwerthfawrogi fel sefydliad cenedlaethol a chynnyrch gobaith y bobl, a’r un pryd yn ddiamynedd tuag ati am ei pharchusrwydd, ei harafwch a’i diffyg arweiniad ym mater dysgu trwy’r Gymraeg. Beirniadwyd ei biwrocratiaeth, a’r cymhlethdod trefniadau a ddisgrifiodd ei hanesydd, Dr. Prys Morgan, â’r gair ‘Bysantaidd’. Bu rhywbeth Mandarinaidd, saf-draw ynghylch ei gweinyddiaeth, ac un canlyniad i hyn yw nad oedd yn adnabod na chydnabod ei chyfeillion.  Ond yn ogystal â’r diffyg amynedd hwn, a’r teimladau achlysurol o siom, fe welodd hi hefyd lawer o elyniaeth weithredol. Tarddai hwn o ddau le: yn gyntaf, o goleg Caerdydd; ac yn ail o blith yr academwyr di-Gymraeg drwyddi draw. I’r rhain yr oedd hi’n atalfa ar ehangu ac ar Seisnigo’r colegau. Nid oeddent yn gysurus gyda’r ‘Cymru’ yn ei henw, a chysylltent hi â chenedlaetholdeb Cymreig, – gan beri i genedlaetholwyr chwerthin weithiau. ‘A hotbed of nationalism’!

Ddechrau’r 1960au codwyd y cwestiwn a ddylai hi barhau fel prifysgol ffederal, ynteu a ddaeth y dydd i wahanu’n bedair prifysgol.  Cytunodd y Llys i sefydlu comisiwn i ystyried yr holl fater.  Erbyn diwedd 1963 yr oedd yna ryw gymryd yn ganiataol ymhlith y dad-ffederalwyr, a rhyw dderbyn penisel gan eraill, mai gwahanu fyddai’r argymhelliad. Ond yng ngwanwyn 1964 cafwyd ar ddeall  fod y comisiwn wedi hollti i lawr y canol. Cyflwynodd ddau adroddiad cwbl groes, ac ar ddiwedd cyfarfod emosiynol o’r Llys pleidleisiwyd yn gryf dros gadw’r undeb ffederal. Nid oedd a wnelo ‘cenedlaetholwyr’ (fel y gwelid hwy bryd hynny) lawer â hyn. Yn hytrach, gwaith y consensws gwladgarol Chwigaidd neu Lib-Labaidd yn y Brifysgol a’r wlad ydoedd, dan arweiniad rhai fel yr Athro D.W.T.Jenkins o’r tu mewn ac Alun Talfan Davies o’r tu allan, a’r cyfan dan reolaeth Alwyn D.Rees, pennaeth Adran Allanol Coleg Aberystwyth. Fel aelod o’r comisiwn nid ildiodd ef fodfedd, ond ymosod bob cam, a chynhyrchu hollt eglur. Fel pennaeth adran, fel Warden Urdd y Graddedigion, ac yna fel golygydd Barn, daliodd i ergydio â dadleuon anatebadwy ac â dychan didrugaredd. Rhannodd a gwanhaodd yr ochr arall, eu hel i’w tyllau a’u taro i lawr bob tro y meiddient godi eu pennau. Am unwaith dyna droi’r byrddau ar y gwrth-Gymreigwyr ‘eang’, ‘blaengar’, ‘goleuedig’ yn eu golwg eu hunain. ‘O fywyd, dyro eto hyn!’

Newidiadau

O hynny hyd ddiwedd y ganrif, a thros drothwy canrif newydd, fe allai ymddangos, ar yr olwg gyntaf, mai ymgadarnhau yr oedd Prifysgol Cymru. Daeth Coleg Dewi Sant i mewn iddi o’r diwedd, gan gwblhau saga hir a groniclir yn ddiddorol gan y Prifathro J.R.Lloyd Thomas yn ei lyfr Moth or Phoenix? (1980). Gan ddechrau ag achredu eu cyrsiau, daeth colegau hyfforddi ac uwch-dechnegol i weithio tuag at raddau Prifysgol Cymru, ac o dipyn i beth dod yn rhannau ohoni. Erbyn degawd cyntaf y ganrif newydd gallai honni fod ynddi ddeg o sefydliadau cyfansoddol, a bu raid iddi addasu ei llywodraeth a’i gweinyddiad i gwrdd â hynny.  Mewn ad-drefniad ganol y 1990au yr oeddid wedi ail-fedyddio’r hen golegau, gyda ‘Choleg Prifysgol Gogledd Cymru’ neu ‘Goleg Bangor’ yn dod yn ‘Brifysgol Cymru, Bangor’ … ac felly ymlaen.  Ar y pryd gallai hwn daro llawer fel newid synhwyrol, ffordd o fynegi fod Prifysgol Cymru yn bresennol lle bynnag yr oedd coleg ohoni; ac yr oeddem wedi arfer erioed â dweud ‘astudio yn y Brifysgol ym Mangor’, er nad oedd yn dechnegol gywir efallai.  Ond yn weddol fuan daethpwyd i weld ei bod yn hawdd gollwng y gair ‘Cymru’ a dweud ‘Prifysgol Bangor’, ‘Prifysgol Caerdydd’ etc, a thrwy’r llithriad llaw hwn agorwyd cyfle newydd i’r dad-ffederalwyr.  Yn gyfochrog yr oedd yr ehangu’n mynd rhagddo, a’r Brifysgol ffederal mewn gwirionedd wedi mynd yn rhy fawr ac yn rhy wasgarog i’w chynnal ei hun ac i  weithredu’n effeithiol. Erbyn gweld, buasai ei siawns yn well petai wedi parhau’n brifysgol o bedwar neu bum coleg prifysgol ‘go iawn’ neu draddodiadol. Hyd yn oed petai Caerdydd wedi mynnu ymadael, buasai cryfder yn y lleill petaent wedi tynnu at ei gilydd.

Yn y cyfamser digwyddasai rhywbeth arall. Yn 1992 aeth Coleg Politechnig Trefforest yn ‘Brifysgol Morgannwg’, prifysgol newydd heb unrhyw gysylltiad â Phrifysgol Cymru. Ni fynegodd neb unrhyw wrthwynebiad i hyn ar y pryd, ac ni chofiaf i neb awgrymu y gallai greu problem i Brifysgol Cymru.

Mewn deng mlynedd, 1995-2005, digwyddodd newid aruthrol, eto nid mor syfrdanol fel na allesid ei ragweld. O fod yn ‘gorff ambarél’ gyda 10  uned oddi tano, daeth Prifysgol Cymru ei hun yn uned o fewn ‘Addysg Uwch Cymru’ ochr-yn-ochr â 13 arall.  Derbyniwyd a chadarnhawyd y statws hwn yn 2005 gan gomisiwn mewnol dan gadeiryddiaeth Dafydd Wigley, a fu’n Ddirprwy Ganghellor am gyfnod byr.   Ar y pryd bu cryn gam-ddisgrifio ar y newid, sef dweud fod Prifysgol Cymru wedi newid o fod yn ‘gorff ffederal’ i fod yn ‘gorff conffederal’.  Yr oedd ‘conffederal’ yn ddisgrifiad eithaf cywir, nid o Brifysgol Cymru ond o’r corff newydd, Addysg Uwch Cymru; ac un aelod o fewn hwnnw oedd Prifysgol Cymru bellach. Rhan o’r un ad-drefniad fu diddymu’r Llys, diddymu Urdd y Graddedigion a gadael y Cyngor yn gorff ymddangosiadol Gymreiciach efallai, ond llai democrataidd a llai atebol.

Yn 2001 cyhoeddwyd Adolygiad Polisi Addysg Uwch Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes y Cynulliad Cenedlaethol. Gwelwyd ynddo un frawddeg – yr unig un efallai – ac iddi arwyddocâd ac effaith. Yr oedd honno’n argymell fod colegau Prifysgol Cymru’n dechrau rhoi eu graddau eu hunain. O fewn chwe blynedd yr oedd yr holl golegau wedi gweithredu ar yr argymhelliad. Yn 2007, er enghraifft, daeth i fod ‘Brifysgol Bangor’, – a lwyddodd yr un pryd, drwy ryw rifyddeg ddigon digrif, i ddathlu yn 2009 ei ‘chanrif a chwarter’ oed!

A’r broses hon ar waith, a  oedd yna unrhyw beth a allasai ddiogelu Prifysgol Cymru? Yr oedd rhyw ychydig  ohonom yn gobeithio mai yr un peth hwnnw fyddai iddi hi ei hun gydio yn y syniad o Goleg Cymraeg Ffederal, a ddôi’n rhan ohoni ac yn un o’i gwasanaethau sylfaenol, ac a’i gwnâi, yn wir, yn ‘sefydliad dysgu’ am y tro cyntaf. Rhwng cyhoeddi’r alwad gyntaf, 1998, a’i ddiwedd ef ei hun yn 2007, nid ymatebodd yr hen Gyngor o gwbl i’r alwad  hon. Ymddengys ei fod yn llwyr yn erbyn. Ni bu agwedd y Cyngor newydd, o 2007 ymlaen, ddim gwahanol. Gwrthododd ‘Adroddiad Wigley’ grybwyll y posibilrwydd, er derbyn tystiolaeth o’i blaid.  Y diwedd fu sefydlu yr hyn a elwir bellach ‘Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol’ drwy benderfyniad llywodraeth Cymru ac yn llwyr ar wahân i fframwaith y Brifysgol.  Efallai, efallai y byddai cydio yn y posibilrwydd hwn wedi rhoi pwrpas newydd i Brifysgol Cymru ac wedi anadlu iddi anadl einioes. Ond ni allwn byth fod yn sicr, oherwydd yr oedd pwysau yn ei herbyn o gymaint o gyfeiriadau pa un bynnag, a’r erydu wedi mynd mor bell   Yr oedd y camgymeriad mawr eisoes wedi ei wneud, sef colli ym mhopeth ond mewn enw y radd ffederal, gyffredin a roesai i’r Brifysgol gryfder ac arbenigrwydd.  Taflwyd ymaith yr un peth a allasai ei chodi i reng prifysgolion gorau’r byd.

Erbyn diwedd degawd cyntaf y ganrif newydd yr oedd y Brifysgol yn chwilio am bwrpas i’w bodolaeth, a hefyd am gynhaliaeth ariannol.  Digon o bwrpas, fe ellid meddwl, fyddai cynnal y ‘pedwar sefydliad’ a’u gwasanaeth amhrisiadwy. Ond ers blynyddoedd daethai’r rhain i ddibynnu ar ewyllys da colegau unigol, yn hytrach na bod Prifysgol Cymru’n derbyn cyllid yn ganolog ac yna’n ei ddyrannu i’r colegau. Yr oedd gan y Brifysgol o hyd gyfalaf sylweddol, ond diflannu  a wnâi hwnnw mewn amser heb incwm yn ei ben. Trodd Cyngor Prifysgol Cymru at beth a brofodd yn broffidiol i nifer o’r prifysgolion hín yn yr un blynyddoedd, y busnes o ddilysu graddau colegau a phrifysgolion newydd ledled y byd. Bu, i bob golwg, yn llwyddiant ac yn gryfder i’r ‘pedwar sefydliad’, mewn cyfnod pan yw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) yn fwyfwy amharod i noddi sefydliadau nad ydynt yn dysgu myfyrwyr yn uniongyrchol: daeth effeithiau hynny’n amlwg ar Wasg ac ar Eiriadur Prifysgol Cymru.

Y llithrigfa

Dyma, fel y gwyddom bellach, gychwyn ar y llithrigfa i lanast echrydus Hydref 2011. Yma mynegaf farn hollol bersonol. Yn jyngl y ‘dilysu graddau’ daeth y Brifysgol i gyffyrddiad â rhai sefydliadau amheus iawn eu perwyl, â ‘phrifysgolion’ dychmygol ac â chymeriadau broc. Ddwywaith o fewn blwyddyn datgelwyd rhai o’r pethau hyn gan raglenni’r BBC. Ni wnaeth y Brifysgol ei hun unrhyw beth anghyfreithlon, ac efallai ddim byd gwaeth na’r amryw brifysgolion eraill, Prydeinig a thramor, sydd yn yr un busnes. Cerdded a wnaeth i mewn i faglau twyllwyr.  Ond wedi llosgi bysedd, iawn yw dal rhywrai yn gyfrifol, ac yr oedd y Cyngor cyfan yn gyfrifol.

Eto i gyd a thrwy’r cyfan, i un sylwedydd o leiaf, nid y troeon trwstan hyn – er eu trwstaneiddiwch  – oedd yr ynfydrwydd mwyaf, ond yn hytrach y ffaith fod Prifysgol Cymru wrthi’n dilysu graddau ym mhedwar ban byd yn union ar ôl methu amddiffyn ei gradd ei hun yn ei gwlad ei hun!

Mêl ar fysedd oedd hyn i rai, a’r cyfle gorau eto i wireddu hen freuddwyd. Ers misoedd bu rhai’n cynllunio i ddatgorffori’r Brifysgol a rhannu’r gwaddol, peth fan hyn a pheth fan acw. Dyna fyrdwn Adroddiad McCormick, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a’i gyflwyno fis Mawrth 2011.  Ymystwyriodd yr hen elynion, rhai yn y cyn-golegau Prifysgol, rhai yn y Cynulliad Cenedlaethol, a rhai yn o leiaf un o dai Senedd Prydain Fawr. Galwodd yr Arglwydd Elis-Thomas am ymddiswyddiad holl aelodau’r Cyngor a hefyd am ddiddymu’r Brifysgol, a oedd ‘wedi mynd i ddrewi’; hefyd yr oedd ei seremonïau yn ‘defnyddio iaith ffug-hynafol ac annealladwy’. Galwodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, ar i gadeirydd y Cyngor ‘ystyried ei safle’, ac am roi i’r Brifysgol ‘angladd parchus’. Mynegwyd barn ‘pum prifysgol’ (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe) gan Dr. John Hughes, Is-Ganghellor newydd Bangor, newydd gyrraedd o’r Ynys Werdd: ‘brand llwgr’ (tainted brand) oedd Prifysgol Cymru, a’i henw’n gwneud drwg i’r prifysgolion eraill.  Amlwg nad ystyriodd yr Is-Ganghellor fod degau o filoedd o gyn-fyfyrwyr ei goleg yn dwyn y ‘brand llwgr’ hwn, ynghyd â rhai o’i staff, a bod rhai o’r rheini wedi eu penodi i gadeiriau personol gan Brifysgol Cymru. Hyd y gwn, ni chododd neb lais. Fel y mae’r oes wedi newid: gellir dychmygu’r helynt petai’r diweddar Brifathro Syr Charles Evans wedi dweud peth mor sarhaus â hyn.   Rhyfedd  hefyd na alwodd neb eto am ddiddymu, er enghraifft, y  London School of Economics, wedi iddi fod yn ymrwbio mor galed yn yr ysgolhaig ifanc Saif Gadaffi. Yno fe ymddiswyddodd Is-Ganghellor, ac yna ymddengys fod cyfiawnder yn dweud ‘digon’! Ni thynnodd mo’r tí yn dipiau am ei ben wrth wneud.  Ymlaen yr â raced y dilysu, gyda’r Times Higher Education yn adrodd ‘Opportunists circle those left high and dry by Wales’.

Yn ystod yr un dyddiau. ddechrau mis Hydref 2011,  yr oedd newid ar droed o fewn Cyngor y Brifysgol. Beth oedd yr holl gymhellion mewnol, nis gwn, ac ni allaf gyfeirio ond at yr hyn sy’n gyhoeddus.  Penderfynwyd, am ryw reswm, fod dirfawr angen am swydd newydd o’r enw ‘Llywydd’, nad oedd neb erioed o’r blaen wedi clywed amdani. Symudwyd yr Athro Marc Clement i’r swydd honno. Rhoddwyd yr Athro Medwin Hughes yn ei le fel Is-Ganghellor, fel ei fod yn Is-Ganghellor ar ddau sefydliad yr un pryd: Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru: Y Drindod-Dewi Sant.

Ar 13 Hydref cyhoeddwyd datganiad gan Brifysgol Cymru yn tystio ei bod hi’n gwbl ddieuog o unrhyw gamymddwyn ym mater y dilysu graddau. Yna tynnwyd y datganiad yn ôl yn syth!

Ar 21 Hydref, daeth pethau i’r pen.  Nid wyf wedi siarad â neb a oedd yng nghyfarfod y Cyngor ar y diwrnod hwnnw, ac unwaith eto nid oes gennyf ond yr wybodaeth gyhoeddus. Cyhoeddodd D.Hugh Thomas ei ymddiswyddiad o gadeiryddiaeth y Cyngor. Nid olynwyd ef yn y fan  gan yr is-gadeirydd, Alun Thomas; ac ni chodwyd cadeirydd newydd. Nid  ymddiswyddodd neb arall o’r Cyngor, na neb arall o’r swyddogion. Yr hyn a gafwyd, yn hytrach, oedd yr adroddiad syfrdanol, ond sylfaenol a thrwyadl amwys, fod Prifysgol Cymru (a) yn cael ei diddymu, a’r un pryd (b) yn cael ei chyfuno â Phrifysgol Cymru: Y Drindod-Dewi Sant, drwy ddod o dan siarter Coleg Dewi Sant (1828), y siarter coleg hynaf yng Nghymru.

‘Penderfyniad hanesyddol’, meddai datganiad ar ran y Cyngor.  Daw mwy nag un gymhariaeth i’r meddwl o fyd llenyddiaeth a ffilm. Ar ryw olwg, mae yma olygfa debyg i honno yn Lorna Doone, lle saethir y briodferch wrth yr allor!  Fe ddaeth Lorna drwyddi gyda gofal … ond am Brifysgol Cymru, ni ellir bod mor ffyddiog. Gall y rhai ohonom sy’n cofio’r ffilm The Last Days of Dolwyn (1950), weld eto’r diweddglo dagreuol lle mae’r hen wraig (Edith Evans) yn agor y fflodiart a boddi’r pentref er mwyn cuddio trosedd ei mab (Richard Burton).  Yn wir fe weithiodd, gan na bu raid – hyd yma –  i neb o’r swyddogion, gan gynnwys yr Is-Ganghellor dwbl,  ateb dros eu rhan yng nghawdel y dilysu graddau.

Yn union ar ôl ei ‘diddymu’ ar 21 Hydref, cyhoeddodd Prifysgol Cymru ddatganiad dan ei henw ei hun, gydag addewid i gyhoeddi rhagor o fanylion am yr uno arfaethedig yn y dyfodol agos.  Meddai: ‘Yn ei gyfarfod penderfynodd Cyngor Prifysgol Cymru sefydlu Adduned Cymru – a fydd yn sicrhau ymrwymiad parhaus o fewn y Brifysgol ddiwygiedig i gefnogi diwylliant Cymru.’  Da iawn onid e?  Gallem edrych ymlaen at glywed yr adduned werthfawr hon gan y rhai a oedd newydd orffen diwrnod o waith drwy yrru’r hwch drwy’r siop, ac yna gwerthu’r hen siop, a’r mul a’r drol i’w chanlyn.

Ymatebion

Bu amrywiaeth o ymatebion. Yn sydyn iawn, fe dderbyniodd y Tywysog Charles   –   ‘derbyn yn raslon’, fel y dywedir  –  wahoddiad i fod yn ‘Noddwr Brenhinol’ y sefydliad newydd, a chroesawyd hynny’n wresog gan yr Is-Ganghellor. Tu ôl i’r derbyn dibetrus, mae’n rhaid bod yna ragdybio fod y brifysgol newydd wedi dod i fod, neu o leiaf yn sicr o ddod i fod; pennod ddiweddarach oedd cyflwyno mesur preifat yn San Steffan i beri i hynny ddigwydd (rhagor am hyn eto). A phetai dyn am fod yn gas, fe allai ddymuno i’r  Tywysog well hwyl fel Noddwr Brenhinol y sefydliad newydd nag a gafodd fel Canghellor – a thrwy hynny amddiffynnydd a chynhaliwr  –  Prifysgol Cymru, swydd y mae, am a wyddom, yn dal ynddi hyd y dydd y diddymir ei Brifysgol dan ei ddwylo.  Cyfyd cwestiynau cyfansoddiadol pellach: os y bwriad yw i’r brifysgol newydd etifeddu popeth a berthyn i Brifysgol Cymru, oni fyddai hi’n etifeddu’r Canghellor yn y fargen, gan osgoi’r drafferth o’i wneud yn Noddwr Brenhinol yr eildro? Mae’r holl beth yn gawdel dychrynllyd, chwerthinllyd, onid dyna’r gwir?

Ymatebodd yr Arglwydd Elis-Thomas (Golwg, 27 Hydref 2011) drwy ‘longyfarch Medwin Hughes yn fawr iawn ar ddod â hyn i fwcl’.  Beth yn union oedd y bwcl, sy’n dipyn o ddirgelwch. Ai’r gladdedigaeth ai’r atgyfodiad?  Gan ddyn a oedd yn deisyfu pen y Brifysgol ar blât ychydig ddyddiau ynghynt, fe ddisgwyliech mai’r claddu oedd y gymwynas. Ond efallai fod yr atgyfodiad hwn yn ddiweddglo digon dirmygus, tila, chwerthinllyd a sarhaus. Ac os oedd Prifysgol Cymru, ryw fodd neu’i gilydd, i bara’n fyw o fewn rhyw gyfuniad newydd, beth am y ‘drewi’ hwnnw a oedd yn ffroenau’r Arglwydd hyd yn ddiweddar iawn?  A chwythwyd hwnnw i gyd ymaith gan wynt y chwyldro?

Cafwyd ymateb yr un diwrnod gan Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau (Dafydd Johnston) a Golygydd Geiriadur y Brifysgol (Andrew Hawke), mewn llythyr ar y cyd i Golwg ac i’r Western Mail, yn cyfeirio at ddyled eu dau sefydliad i Brifysgol Cymru, a mynegi ‘ein dymuniad i aros yn rhan o’r Brifysgol yn ei ffurf ddiwygiedig’. Mae yma gryn ragdybio y bydd y ffurf ddiwygiedig yn cadw holl gryfderau’r ffurf gyn-ddiwygiedig, a byddai’n dda gennyf ddweud fy mod yn gallu rhannu ffydd y ddau bennaeth.  ‘Unrhyw borthladd mewn tymestl,’ mae’n debyg; ond gall problemau godi lle mae’r harbwr-feistr hefyd yn gapten y môr-ladron sydd newydd sgytlo’r hen long.  Daw cymhariaeth lenyddol-ffilmyddol arall i’r meddwl, y rhan honno o Doctor Zhivago, lle mae Zhivago (Omar Sharif), heb weld unrhyw ddewis arall, yn bwrw’i gariad  a’i ferch fach ar drugaredd Komarovsky (Rod Steiger).

Cwestiynau heb eu hateb

Erys nifer o gwestiynau y byddai’n dda cael atebion iddynt yn dilyn y ‘penderfyniad hanesyddol’.  Nid yw Cofrestrfa’r Brifysgol yn fodlon eu hateb, na hyd yn oed gydnabod eu derbyn, ac ni welaf fod yr Is-Ganghellor wedi eu hateb mewn cyfweliadau. Dyma rai. Fe welir mai cwestiynau o ffaith yw’r rhain i gyd, nid o farn nac ychwaith o fwriad.

(1)   Mewn datganiad a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Times Higher Education, 13 Hydref, tystiodd y Brifysgol ei bod yn hollol ddieuog ym mater y dilysu graddau, a bod cynllwyn yn ei herbyn gan y BBC ac eraill. Ond yn syth wedyn tynnwyd y datganiad yn ôl!  Pam yr edifeirwch sydyn? Beth oedd safbwynt y Cyngor hyd at y foment, wythnos yn ddiweddarach, pan bwysodd y botwm hwnnw?

(2)    Wedi ymddiswyddiad Cadeirydd y Cyngor, pam na ddilynwyd y drefn arferol, sef un ai ei ddilyn yn syth gan yr is-gadeirydd neu ddewis cadeirydd newydd?

(3)    Os oedd ton o euogrwydd wedi eu goddiweddyd, onid y dewis i aelodau’r Cyngor oedd ymddiswyddo fesul un ac un, yn hytrach na gadael i bobl feddwl bod y Brifysgol ei hun yn cael ei diddymu?

(4)   O fewn dyddiau i ‘bwyso’r botwm’, pam y teimlwyd yn sydyn yr angen am Lywydd, swyddog nad oedd neb wedi clywed amdano o’r blaen yn ystod holl hanes y Brifysgol?   Beth oedd gwaith y Llywydd, a sut yr oedd yn wahanol i waith y Dirprwy Ganghellor, Cadeirydd y Cyngor, yr Is-Ganghellor a’r Dirprwy Is-Gangellorion?  Nonsens o ateb a gafwyd gan yr Is-Ganghellor yn Y Cymro, 2.11.12.   Ac yn awr, ’tawn i’n marw, os cywir adroddiad Golwg 360  (3.1.13), mae swydd y Llywydd yn wag oddi ar Orffennaf y llynedd, pan aeth yr Athro Clement i swydd arall ym Mhrifysgol Abertawe. Ni soniodd yr Is-Ganghellor am hyn yng nghyfweliad Y Cymro.

(5)    Y cwestiwn pwysicaf oll.  Pam nad ymgynghorwyd â’r graddedigion, fel y myn y statudau? Pwy gafodd y syniad nad oedd angen gwneud hyn? Ar ba dir, neu ar gyngor pwy, y penderfynwyd fod rhai statudau i’w dilyn a rhai i’w hanwybyddu wrth wneud penderfyniadau mor dyngedfennol?  Gan yr ymddengys nad yw Urdd y Graddedigion yn bodoli mwyach, beth, yng ngolwg y Cyngor, oedd y peirianwaith ar gyfer ymgynghori â’r graddedigion?  Sylwer yma, nid ydym yn sôn am rywbeth niwlog fel ‘cyfle i’r cyhoedd gael dweud eu dweud’. Yr ydym yn sôn am y gofyniad  statudol, rhan o gyfansoddiad y Brifysgol.  Unwaith eto, cwbl gabolotshlyd oedd  ‘esboniad’ yr Is-Ganghellor, lle’r ymddangosai fod cymdeithas newydd ar gyfer y categori amhosibl hwnnw, ‘cyn-fyfyrwyr’ un ai wedi ei sefydlu neu ynteu i’w sefydlu ‘yn y flwyddyn newydd’.

Yr un Brifysgol Cymru â Phrifysgol Cymru?

Oddi wrth gwestiynau ffeithiol at y Cwestiwn Mawr, athronyddol neu ddirfodol. A yw Prifysgol Cymru: Y Drindod-Dewi Sant, ynghyd â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, yr un Brifysgol Cymru â Phrifysgol Cymru?   Ateb: nac ydyw, hyd nes bydd y cyfuniad wedi ei gymeradwyo gan y Cyfrin Gyngor.  Hyd yn oed wedyn, ai yr un un fyddai hi? Gofynnaf yn ddifrifol, a oes unrhyw un mewn gwirionedd yn credu hynny? Unrhyw un, yn cynnwys hyrwyddwyr mwyaf brwd y syniad? Wrth ei ofyn, ni chredaf fy mod yn anwybyddu nac yn dibrisio dim ar gryfderau colegau De-Orllewin Cymru. Teimlais erioed mai Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, yw coleg delaf, brafiaf Cymru. Clod uchel iddo hefyd am ei gylchgrawn, Trivium, a ddaeth allan yn flynyddol o 1966 hyd 1990, ac sy’n dal i ymddangos ar ffurf rhifynnau un thema: cystal cylchgrawn, yn ei faes, â dim cyffelyb gan unrhyw brifysgol ym Mhrydain. Am bob ymwneud â Choleg y Drindod, Caerfyrddin, atgofion dymunol sydd gennyf, er bod y rheini’n ymestyn yn o bell yn ôl erbyn hyn. Hen le difyr ydoedd, gydag awyrgylch hwyliog a chadarnhaol. Ond ai Prifysgol Cymru? A all y cyfuniad hwn, wedi meddiannu trysor Prifysgol Cymru, fod yn Brifysgol Cymru, neu olynu Prifysgol Cymru, neu fod mewn unrhyw fodd neu radd yr un peth â Phrifysgol Cymru?

O blaid ‘cynllun Caerfyrddin’ mae dau beth, a rhaid  i’w wrthwynebwyr mwyaf gydnabod hynny. Yn gyntaf, byddai’n cadw holl asedau Prifysgol Cymru gyda’i gilydd, yn hytrach na’u rhannu rhwng y perthnasau barus. Yn ail, o ran sicrhau rhyw fath o ddyfodol i’r Wasg, y Geiriadur a’r Ganolfan, fe allai weithio. A yw hyn yn ei wneud yn gynllun derbyniol? Nac ydyw.  Mae dwy o’r tair uned ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant ynghyd â Metropolitan Abertawe yn golegau galwedigaethol. Nid oes ganddynt odid ddim i’w gyfrannu pan ddaw hi’n adeg (ac fe ddaw bob hyn a hyn) cloriannu ymchwil y prifysgolion. O safbwynt y Ganolfan yn arbennig, mae hyn yn beth i’w ystyried.

Gosodaf y cwestiwn eto. A ddichon parhau Prifysgol Cymru mewn sefydliad arall a dwy o’i dair uned yn golegau galwedigaethol?  A dwy hefyd, nid yr un ddwy, yn golegau enwadol yn y bôn?  A’i drydedd uned – beth bynnag ei rhinweddau – yn goleg y Dyniaethau yn unig?  Mae’r syniad yn chwerthinllyd ac yn amlygu rhyw radd o ddigywilydd-dra sy’n esgor yn y diwedd ar fath o naifder.

Mae hefyd bwynt o resymeg sydd efallai’n werth ei grybwyll, a chydnabod yr un pryd  nad yw prifysgolion erioed wedi eu rheoli’n gaeth gan resymeg. Pam y gelwir Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn ‘Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant’?  Yr ateb yw fod Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, wedi ennill y teitl ‘Prifysgol’ pan ddaeth yn un o golegau Prifysgol Cymru ym 1971. ‘Coleg’ oedd tan hynny.  Cadwyd y dynodiad ‘Prifysgol Cymru’ pan unodd PC:  Dewi Sant â Choleg y Drindod, Caerfyrddin, ac fe’i cadwyd hefyd wedi i’r cyfuniad newydd hwn ymadael â Phrifysgol Cymru fel rhan o’r newidiadau mawr wedi 2005. Cywiraf fy hun felly, gan dderbyn esboniad y cyfreithiwr Emyr Lewis yn Y Cymro, 26.10.12:   nad yw’r enw ‘Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant’ yn golygu fod Y Drindod Dewi Sant yn rhan o Brifysgol Cymru. ‘Prifysgol Cymru’ arall ydyw erbyn hyn, er mai o’r Brifysgol Cymru wreiddiol y cafodd yr enw’n wreiddiol. ‘Dim dryswch’ felly?  Mwy o ddryswch, ddywedwn i, a hwnnw wedi arwain rhai pobl a ddylai wybod yn well i gymryd fod yr uniad eisoes wedi digwydd, gan fod yr enw yr hyn ydyw yn barod!  ‘Prifysgol Y Drindod Dewi Sant’, neu ‘Prifysgol Gorllewin Cymru: Y Drindod  Dewi Sant’, ddylai fod enw’r sefydliad newydd yn y Gorllewin. Sylwn mai ‘Prifysgol De Cymru’ a gynigir ar y cyfuniad y cytunwyd arno rhwng Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd, a dyna sy’n gwneud synnwyr.

Os nad yw graddedigion Prifysgol Cymru (sef, meddaf eto, mwyafrif mawr mawr aelodau’r Brifysgol) wedi meddwl am y pethau hyn eisoes, boed iddynt yn feddwl yn awr. Ble maent am ‘ddal’ eu graddau?  Mewn prifysgol nad yw’n bod, a fyddai’n golygu yn dechnegol na byddai ganddynt raddau? Ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant ynghyd â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe? Ai ar gyfer hynny y buont unwaith yn astudio?

Hynotach  fyth … !

Ond daw rhyw newydd wyrth o hyd yn yr hanes hwn, ac un o’r rheini fu cyflwyno mesur seneddol preifat a fyddai’n awdurdodi’r uniad. Dan y mesur byddid yn trosglwyddo holl hawliau ac adnoddau Prifysgol Cymru i Brifysgol Cymru: Y Drindod-Dewi Sant; a hefyd yn  gwahardd i unrhyw sefydliad heblaw Prifysgol Cymru: Y Drindod-Dewi Sant arfer yr enw ‘Prifysgol Cymru’ o gwbl. Yma eto mae’n rhaid arnaf fy nghywiro fy hun. Do, fe gyhoeddwyd rhaghysbysiad o’r mesur, dyddiedig 28.11.11, yn y Westminster Gazette ac ar dudalen hysbysiadau cyhoeddus a chyfreithiol  y Western Mail. Ni ddigwyddais weld y Westminster Gazette, ac mae’n siër fod miliynau yr un fath â mi. Ac amlwg na ddarllenais y Western Mail y diwrnod hwnnw’n ddigon manwl.  Brysiaf felly i gywiro’r hyn a ddywedais hyd yma am ‘beidio sôn bw na be wrth neb yng Nghymru’. Fe sibrydwyd ‘bw’ yn dawel a chwta, ond ni bu llawer o ‘be’ wedyn. Yn wir nid wyf wedi siarad â neb arall a welodd yr hysbysiadau.  Mewn cyfweliad â’r Is-Ganghellor yn y Western Mail, 10. 11.11, ni chafwyd gair fod y mesur ar ei ffordd. Cwbl ddistaw hefyd fu rhaglenni’r BBC, a  fuasai ychydig cyn hynny  â chymaint diddordeb yn helynt Prifysgol Cymru. Adroddiad Y Cymro, 23.12.11, a dynnodd ein sylw at y mesur, ei gynnwys a’i ymhlygiadau.  Ond yn yr un adroddiad dyma inni dro rhyfeddol arall, fod y mesur wedi ei dynnu’n ôl o San Steffan, gyda’r bwriad o’i gyflwyno yn y Cynulliad Cenedlaethol ddechrau 2012. Flwyddyn yn ddiweddarach, nid yw hynny wedi digwydd eto. Yn y cyfamser, nid yn unig mae Wikipedia’n adrodd yn iach fod Prifysgol Cymru wedi ei chyfuno â Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn ystod 2012, ond fe ddyfynnir hynny gan wefan Prifysgol Cymru ei hun, y peth cyntaf i daro’n llygad wrth inni Gwglio ‘Prifysgol Cymru’.

Yn ddiniwed, wedi darllen adroddiad Y Cymro, mi drois at y We i gael ychydig rhagor o hanes y mesur. Rhaid ei fod ar wefan Prifysgol Cymru, meddwn i.  Ond na, dim golwg ohono.  O, gwefan Y Drindod-Dewi Sant wrth gwrs! Dyma’r lle i edrych! Yn wir roedd yno amrywiaeth o bethau diddorol:  ‘SOS Sali Mali yn galw criw y Drindod DS’, ‘Hyrwyddo proffesiynoldeb drwy ddysgu seiliedig ar waith’, ‘Perfformiad newydd sbon i chwilio am olion yr eleffant fu farw yn Nhregaron’, ‘Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru i ddod yn Noddwr Brenhinol’.  Ond y mesur seneddol a oedd i wneud y trawsnewidiad mawr yn bosibl?  Dim sôn.  Wedi’r ddau hysbysiad bach tawel gwreiddiol yn Nhachwedd 2011, nid tan flwyddyn yn ddiweddarach, mewn dogfen hawl ac ateb ar wefan Prifysgol Cymru, y cyfeiriwyd ar goedd at y mesur.

Yr hyn sy’n drawiadol iawn yn y ddau hysbysiad hynny yw mai ar ran a than enw PC: YDDS y cyhoeddwyd ef.  Gan hynny ni ellir ei ystyried yn rhan o’r ymgynghoriad angenrheidiol rhwng Prifysgol Cymru a’i graddedigion.  A pha un bynnag, cyn y penderfyniad mawr, nid ar ei ôl, yr oedd ymgynghoriad i fod.

O ganol 2012 ymddengys fod Cyngor Prifysgol Cymru mewn busnes unwaith eto, gyda Mr. Alun Thomas yn y gadair, fel y dylasai fod oddi ar 21.10.11.  Ac o Gwglio am ‘Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru’ fe ddaw hithau  i’r golwg, a than yr enw hwnnw, nid ar wefan Prifysgol Cymru ond ar wefan Y Drindod Dewi Sant. I  gael mwy o wybodaeth dywedir wrthym am anfon at Y Clerc yng Nghofrestrfa’r Brifysgol, Caerdydd. Yn y cyfamser mae Calendr y Brifysgol yn dal i restru Clerc a Warden Urdd y Graddedigion fel swyddi a ddaeth i ben yn  2007. Fel rhan o ddiwygiadau 2005-7, fel y cofir, fe ollyngwyd yr enw ‘Urdd’ a dweud yn unig ‘Graddedigion Prifysgol Cymru’ (gan ddechrau yr un pryd yr arferiad camarweiniol o alw’r graddedigion yn ‘alumni’). Ni roddwyd, hyd y gwn, unrhyw fath o reswm am y newid hwn na chyfiawnhad iddo, ac anodd gwneud rhych na rhawn o ‘esboniad’ yr Is-Ganghellor yn Y Cymro, 5.10.12.

Chwiliais Galendr y Brifysgol 2011/12, yn brintiedig ac ar-lein. Os wyf wedi methu’r atebion i rai cwestiynau, yr wyf yn agored i’m cywiro. Ond mi chwiliais, ôl a blaen, i fyny ac i lawr. Yn ôl a ddeallaf – neu o leiaf ni chlywais yn wahanol – mae chwech o Adrannau Urdd y Graddedigion yn weithredol heddiw, pob un ac iddi ei maes ei hun, pob un yn cynnal darlithoedd, cyrsiau a chynadleddau (rhai yn amlach na’i gilydd), rhai a chanddynt gylchgronau neu gyhoeddiadau eraill. Dyma hwy, hyd y cofiaf: (1) Y Clasuron, (2) Diwinyddiaeth, (3) Athroniaeth, (4) Cymdeithaseg ac Economeg, (5) Ethnoleg a Bywyd Gwerin, (6) Diwylliant y 18-19 Ganrif.  Fel mae’n digwydd, mi wn yn o lew sut i gysylltu â swyddogion pob Adran. Ond beth pe na bawn i’n gwybod? Pa help a gawn i gan y Calendr?  Dim o gwbl. Dim enw, dim cyfeiriad, dim byd am weithgarwch yr un ohonynt. Bwriwch, ar y llaw arall, fy mod i am ymuno â Chorfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgol Cymru, neu’r Sgwadron Awyr, neu Uned y Llynges Frenhinol, fe ddywed yr un Calendr wrthyf yn syth ble i anfon.  Mae fersiwn Gymraeg y Calendr  yn rhestru ‘Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr’. Os oes ‘Cymdeithas’, disgwyliaf fod iddi swyddogion a phwyllgor; ond o droi i’r man priodol (t. 101) ni welwn ddim byd o’r fath, dim ond ychydig frawddegau cyffredinol i’r perwyl bod ‘cyn-fyfyrwyr’ y Brifysgol yn llysgenhadon iddi dros y byd, ac yna’r lled-addewid: ‘Gellir cael manylion pellach, maes o law, ar wefan y Brifysgol’. Mae rhyw chwarae mig fel hyn o hyd, fel petai rhywrai yn y Gofrestrfa yn benderfynol o daflu llwch i lygaid graddedigion y Brifysgol, ei haelodau, y rhai a allasai fod yn gefnogwyr iddi yn awr ei hangen, ac a fyddai’n falch o fod, ond nad ydynt yn cael bod: oherwydd fe ymddengys fod  yn well gan y Cyngor a’i swyddogion wrogi i elynion y Brifysgol na gwrando ambell dro ar ei ffrindiau.

Pennod  arall …

Nid Prifysgol Cymru mo’r unig brifysgol yn y byd, nac yng Nghymru chwaith, i ennill ychydig incwm drwy ddilysu cyrsiau a graddau colegau a phrifysgolion newydd. Un arall wrth y gwaith oedd Prifysgol Cymru: Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Fis Tachwedd 2001 ysgrifennodd  Hywel Roberts, Caernarfon, at yr Athro Medwin Hughes, yn codi cwestiynau ynghylch tri choleg yn Llundain a oedd mewn partneriaeth â Llanbed: ‘College of Technology London’, ‘Grafton College of Management Service’ a ‘Newbold College’. Yr oedd Mr. Roberts am roi cyfle i ddatgan a dangos nad oedd y rhain yn golegau ffug megis y rhai y llosgodd Prifysgol Cymru ei bysedd drwy ymwneud â hwy. Mewn ateb a gyhoeddwyd yn Y Cymro, 25.11.11, adroddodd yr Athro Hughes iddo ef, gynted ag y daeth yn bennaeth ar Brifysgol Cymru: Dewi Sant, drwy yr uniad â Choleg y Drindod ddwy flynedd ynghynt, gychwyn proses o gau’r partneriaethau hyn. Ymatebodd Hywel Roberts (Y Cymro, 2.12.11) ei fod yn derbyn fod hwn yn benderfyniad doeth.

Stori wahanol, fodd bynnag, a welodd Mr. Roberts mewn un o’r achosion hyn wrth edrych gwefan ‘College of Technology London’ ddechrau Mawrth (adroddiad Y Cymro, 9.3.12).  Mewn llythyr at eu holl staff a myfyrwr, sydd i’w weld ar y wefan, dywed rheolwyr CTL mai eu penderfyniad hwy oedd terfynu’r cytundeb â’r Drindod Dewi Sant (fel yr oedd  bellach), ac i hynny ddigwydd ar 16 Tachwedd.  Dilyn nifer o gwynion gwir ddifrifol. ‘Ers 18 mis,’ fe honnir, ‘bu CTL yn mynegi pryderon ynghylch safonau gwael YDDS mewn sicrhau ansawdd ac mewn gweinyddiaeth.  Ni fedrodd YDDS … roi i CTL unrhyw hyder y bydd digon o welliant yn y dyfodol.   Barn CTL yw na all YDDS gyflawni tasgau sylfaenol, yn academaidd a gweinyddol, y gellid yn rhesymol eu disgwyl gan brifysgol ym Mhrydain.’  Manylir mewn modd damniol ynghylch dogfennaeth anghywir ar berfformiad a chanlyniadau ymgeiswyr.  Sonnir am roi’r dosbarthiadau gradd anghywir, graddau anghywir, methu rhai a oedd mewn gwirionedd wedi pasio, a hyd yn oed roi graddau i fyfyrwyr nad oeddynt yn bod.  I gloi, dywedir: ‘Bydd CTL yn awr yn ceisio partneriaid academaidd newydd, ac mae’n gobeithio y bydd YDDS yn anrhydeddu eu hymrwymiadau at y myfyrwyr sydd ganddi o hyd yn CTL.’ Ar 25.5.12 aeth CTL i ddwylo derbynwyr.

Rhaid caniatáu y gall crochan bob amser alw tegell yn ddu. Ond dyma agor cwpwrdd arall. Yn enw pob synnwyr, ai Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yw’r corff i feddiannu cyfrifoldebau, galluoedd ac adnoddau Prifysgol Cymru?  Sut yn y byd mawr y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru basio mesur yn awdurdodi hynny? Sut y gall y Cyfrin Gyngor dderbyn yn ôl siarter Prifysgol Cymru yn wyneb ansicrwydd o’r fath?

Dal i ddigwydd …

Deil pethau i ddigwydd. Soniaf am wyth.

(1)   Cais am wybodaeth.   Ar 6 Medi 2012 ysgrifennodd Hywel Roberts at yr Is-Ganghellor Medwin Hughes gyda chais dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth  am gopïau o agendâu a chofnodion cyfarfodydd Cyngor y Brifysgol oddi ar 19 Mai 2010 (sef y cyfarfod olaf ar wefan Prifysgol Cymru). Pan ysgrifennaf hwn nid yw Mr. Roberts wedi derbyn y dogfennau. ‘Cyn gynted â phosib’ yw’r addewid.

(2)      Dogfen i’r Llywodraeth.  Fis Medi 2012 yr oedd Llywodraeth Cymru’n gwahodd ymateb i Bapur Gwyn ar Addysg Bellach ac Uwch.  Cefais gefnogaeth 350 o raddedigion i ddogfen fer yn cyfeirio’n benodol at sefyllfa Prifysgol Cymru, ac yn dweud:

Gan gredu fod yr uniad a fwriedir yn dra anaddas ac annerbyniol, yr ydym yn argymell yn gryf fod Llywodraeth Cymru’n ystyried posibilrwydd arall. Mae yn hwnnw ddwy elfen gysylltiedig a chyd-ddibynnol:  (a) Creu ‘Ymddiriedolaeth Prifysgol Cymru’ i fod yn gyfrifol am holl adnoddau a gwasanaethau’r Brifysgol.  (b) Creu Cyngor Ymchwil y Dyniaethau i Gymru, i gyfeirio nawdd, nid yn unig at brifysgolion a cholegau ond hefyd at sefydliadau dysgedig neu academaidd nad ydynt yn uniongyrchol ddysgu myfyrwyr.   O gyfuno’r ddwy elfen hyn credwn y gellir diogelu pedwar gwasanaeth hanfodol Prifysgol Cymru, sef (i) Gwasg y Brifysgol, (ii) Geiriadur y Brifysgol, (iii) Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, (iv) Gregynog.

Gorffennid â galwad ‘ar i Lywodraeth Cymru sefydlu ymchwiliad i weithrediadau Cyngor Prifysgol Cymru yn ystod y flwyddyn 2011.’.

(3)  Penderfyniad Cynhadledd.  Yng Nghynhadledd Flynyddol Plaid Cymru, a gynhaliwyd yn Aberhonddu ganol Medi 2012, daethpwyd â chynnig ar ran Cangen Caernarfon yn cyfarwyddo Aelodau Cynulliad y Blaid i ofyn am ymchwiliad i ddigwyddiadau 2011; ac i wrthwynebu’r mesur seneddol os byth y daw i Senedd y Bae. Cefnogwyd y rhan gyntaf gan y cynadleddwyr, ond cefnogwyd gwelliant yn gwrthod y rhan olaf.  Yn ôl rhai a ëyr fwy na mi am reolau’r Gynhadledd, mae cryn amheuaeth a oedd y gwelliant mewn trefn. Yn ôl a ddeallaf, ni chlywyd eto ar lawr y Cynulliad yr alwad am ymchwiliad.

(4)    Uno sefydliadau. Ar 1.10.12 unodd Prifysgol Fetropolitan Abertawe â Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.  

(5)    Creu ymddiriedolaethau.    Mewn datganiad ar ran Prifysgol Cymru, 10.12.12, cyhoeddwyd fod cronfa o £6.8 miliwn yn cael ei neilltuo er mwyn sefydlu nifer o ymddiriedolaethau tuag at gynnal gwasanaethau sylfaenol y Brifysgol, – y Wasg, y Geiriadur, y Ganolfan Uwchefrydiau a Gregynog, a hefyd er mwyn gwarchod gwaddolion a roddwyd i’r Brifysgol dros y blynyddoedd.  Ni wn mo’r manylion, i gytuno nac i anghytuno â hwy, ond yn gyffredinol mae’r syniad i’w weld yn digon tebyg i’r hyn y bu rhai ohonom yn galw amdano ers blwyddyn a rhagor. Gan hynny mae yn sicr i’w groesawu.  Ond erys cwestiynau.  Gan mai bychain  yw’r symiau a neilltuir i lansio’r ymddiriedolaethau, sut y bwriedir sicrhau incwm rheolaidd sylweddol ym mhen y symiau hynny?   Sonnir yn gyffredinol am ‘geisio Cyllid Ewropeaidd at ddatblygu cyfleoedd newydd’. Dyma lle gallai sefydlu ‘Cyngor/Bwrdd Ymchwil y Dyniaethau’ i Gymru fod o gymorth mawr. A roddwyd ystyriaeth i hyn? Dylai hefyd fod yn ofynnol ar y prifysgolion newydd, sef y cyn-golegau prifysgol, gyfrannu’n deilwng, ac ni ddylai Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gael osgoi ei gyfrifoldeb.  Peth arall y mae’n iawn i holl aelodau’r Brifysgol ei wybod bellach: ar ôl neilltuo ar gyfer yr ymddiriedolaethau y  swm cymharol fychan  hwn o arian sydd mewn llaw pa un bynnag, pa bethau y bwriedir eu gwneud â gweddill cyfalaf y Brifysgol?  Bwrier – y peth mwyaf tebygol os â’r uniad rhagddo – ei fod yn mynd yn eiddo i Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant: at ba ddibenion y rhoir ef?  Yn ôl y datganiad, yr oedd y gwasanaethau i’w diogelu drwy’r ‘Adduned Cymru’ y clywsom ei haddo flwyddyn yn ôl.  Bellach cyfeirir at yr Adduned  fel petai wedi digwydd (‘Roedd’, ‘nododd’).  Byddai’n ddiddorol gwybod pwy yn union a wnaeth yr Adduned, ac ym mhle, ac yng ngëydd pwy, a thrwy ba  fath ddefod, a beth oedd ei geiriad. Dal i gilwenu y mae’r hen sgeptig.  Llwyth o lol yw hyn. Dan y drefn sydd bellach wedi ei dinistrio, nid oedd angen ‘Adduned’; roedd y Brifysgol yn mynd ymlaen â’i gwaith, cynnal ei gwasanaethau ei hun, ac roedd pawb yn deall hynny.

(6)     Estyn yr amserlen.  Mewn datganiad a ryddhawyd 5.12.12, dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews: ‘Rwy’n falch bod y Brifysgol wedi gwneud cynnydd da o ran ei hymateb i’r anawsterau a nodwyd’, a siarsiodd ymhellach fod ‘rhaid i Brifysgol Cymru geisio addasu i’r heriau sy’n ei hwynebu yn yr unfed ganrif ar hugain.’ Dyma ragdybio y bydd y Brifysgol yn goroesi am o leiaf beth yn rhagor o’r ganrif, a dyma neges braidd  yn wahanol i’r hyn oedd gan y Gweinidog ychydig dros flwyddyn yn ôl, pan alwodd am yr ‘angladd parchus’.  Yn y cyfamser mae’r Is-Ganghellor a’r Cyngor wedi estyn yr amserlen, gan dderbyn y cymer flynyddoedd i derfynu’r cytundebau dilysu â gwahanol sefydliadau dros y byd.  Beth bynnag a ddywed Wikipedia, ni ddigwyddodd yr hyn oedd i fod i ddigwydd yn 2012, a sonnir yn awr am 2017/18 fel adeg cwblhau’r broses.

(7)   Parhad yr amwysedd.  OS cwblheir y broses, dan ba siarter y bydd yn digwydd?  Clywir tipyn o sôn am siarter Coleg Dewi Sant, 1828, fel ‘y siarter golegol hynaf yng Nghymru a Lloegr y tu allan i Rydychen a Chaergrawnt’. Ond gwelaf amwysedd mawr yma.  Mae UN AI  un peth NEU beth arall yn wir.  UN AI (a) mae siarter 1828 wedi ei diwygio gan nifer o atodiadau fel nad yr un sefydliad yw’r ddwyflwydd oed PC: YDDS â’r coleg diwinyddol Anglicanaidd gwreiddiol; NEU (b) mae siarter 1828, fel sylfaen y cyfan, yn golygu mai coleg diwinyddol Anglicanaidd yw PC: YDDS yn y bôn, o hyd.  Yn wir ni wn i pa ddealltwriaeth sydd fwyaf cywir, ond gwelaf mai dau bosibilrwydd sydd i Brifysgol Cymru os daw’r cynllun hwn i ben:   UN AI cael ei llyncu gan gyfuniad newydd sbon o goleg diwinyddol, cyn-goleg hyfforddi a chyn-goleg technegol, NEU fynd yn rhan o hen goleg Eglwysig. Y naill ffordd neu’r llall, ai dyma’r math o ‘brifysgol’ y dymuna graddedigion Prifysgol Cymru ddal eu graddau o hyn allan un ai ‘ynddi’ neu ‘ohoni’?

(8)    Parhad y drafodaeth.   Bron yn wythnosol fe gynhaliwyd trafodaeth yn Y Cymro, mewn llythyrau ac adroddiadau.  Distaw iawn fu’r cyfryngau eraill am hyn, sgandal fwyaf byd addysg yng Nghymru yn ein hoes ni.  Pam tybed?

Llwydd, anrhydedd a gwaradwydd

Deil y nod yr un. Mewn adroddiad i’r Gweinidog, 5.9.12, dywed yr Is-Ganghellor:  ‘Mae’r diwygiadau i’r Siarter yn dynodi cychwyn ar newid cyfansoddiadol na fydd modd ei wyrdroi, ac a fydd, maes o law, yn arwain at uno Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn gyflawn.  Ar y pwynt penodol hwnnw, ni fydd angen Siarter gyfredol Prifysgol Cymru bellach.’  Dyma’r hyn na ddylai ddigwydd. Dyma’r hyn y dylai aelodau’r Brifysgol ei rwystro.

‘Llwydd ac anrhydedd ein prifysgol a’n gwlad’ yw’r pethau y mae graddedigion Prifysgol Cymru dan siars i’w gwarchod. Druan o’r ‘llwydd’; ac fel yr awgrymais o’r blaen, efallai ei fod wedi ei aberthu flynyddoedd yn ôl pan daflwyd ymaith y radd ffederal. Am yr ‘anrhydedd’, dyma beth mwy anodd rhoi bys arno, ac amhosibl ei fesur. Ond a oes rhywun am ddal nad yw’r anrhydedd wedi ei lychwino’n enbyd gan waith y Cyngor a’i swyddogion dros y blynyddoedd a’r misoedd diwethaf?  Fe’u penodwyd i gynnal a hyrwyddo’r Brifysgol. Yn lle hynny, dyma hwy yn ei dinistrio. Mewn byd cyfiawn ni byddai’r bobl hyn yn beiddio dangos eu hwynebau liw dydd eto, ‘rhag ofn yr holl adar’. Yn y byd a’r Gymru sydd ohoni, gallwn ddychmygu rhai ohonynt yn hwylio ymlaen at swyddi eraill, a mwy o deitlau ac anrhydeddau. Gwna ddigon o lanast, a chei dy wobr. Mae’r hyn yr wyf yn ei ddweud yn berthnasol i fwyafrif mawr aelodau’r Cyngor; nid oes lle i gredu fod mwy nag un neu ddwy o eithriadau, a hyd y gwyddom yr oedd penderfyniad  21.10.11 yn unfrydol. Yn lle cynnal ystyriaeth bwyllog y diwrnod hwnnw, fe gynhaliwyd Te Parti Hetiwr Hurt.

Beth sydd i’w wneud?

Ac edrych arni yn unig o safbwynt y Wasg, y Ganolfan a’r Geiriadur, gellir deall pam y mae’r ‘brifysgol yn ei ffurf ddiwygiedig’ i’w gweld yn cynnig rhyw fath o ateb.  Ond ai yr unig ateb?  Ai yr ateb gorau?  Ac o gofio yr hyn sy’n anwadadwy, sef fod penderfyniad 21 Hydref yn anghyfansoddiadol, oni raid casglu yn y diwedd nad oes yma ateb o gwbl?

Beth gan hynny sydd i’w wneud?  Wrth ofyn y cwestiwn, cydnabyddwn mewn gofid fod llawer na ellir ei wneud mwyach. Yr ydym wedi ei cholli-hi. Ac wedi colli pethau eraill hefyd, ac mewn perygl o golli mwy, mewn cyfnod o danseilio a datgymalu. Ond gadewch inni weld.

(1)   Ar draws pob gwahaniaeth barn mae cefnogaeth go gyffredinol i’r syniad o ‘Gyngor Prifysgolion Cymru’, wedi ei lunio o ba nifer bynnag o brifysgolion fydd yn sefyll wedi i’r Gweinidog Addysg gwblhau ei ad-drefniad. (Nid awn ar ôl priodoldeb yr ad-drefniad hwnnw heddiw, dim ond atgoffa pawb sy’n annog ‘unwch’, y bu adeg pan oeddent yn un!)  Gall y ‘Cyngor Prifysgolion’ fod yn gorff mwy cryno na’r ‘Addysg Uwch Cymru’ presennol, a chorff a fydd yn canolbwyntio mwy ar agweddau academaidd na’r Cyngor Cyllido (HEFCW), y sonnir y bydd yn mynd yn rhan o’r llywodraeth yn hytrach na pharhau’n gwango. O weld ei ddyletswydd, gall ‘Cyngor Prifysgolion Cymru’ wneud ei ran tuag at ddiogelu’r ‘pedwar sefydliad’.  A wêl ef y ddyletswydd honno?  Wrth alw am ddiddymu’r Brifysgol ar 5 Hydref, nid ymddengys fod y pum Is-Ganghellor yn malio botwm corn am ddyfodol y sefydliadau, nac yn cofio am eu bodolaeth. (Ac edrych yn ôl mewn hanes, gwelwn fod adroddiad  y dad-ffederalwyr  ym 1964 yn argymell yn glir greu ‘Cyngor Cyffredin Prifysgolion Cymru’, i gynnal a diogelu gwasanaethau’r Brifysgol a’i byrddau. Dyma rywbeth llawer gwell na dim sydd ar gynnig heddiw, ac fe dalai edrych eto ar dudalennau 37-43 o’r ddogfen University Commission: Final Reports, 1964).

(2)  Yn sicr fe allwn, mewn egwyddor o leiaf, groesawu creu’r ymddiriedolaethau i fod yn gyfrifol am wasanaethau’r Brifysgol, ac am o leiaf beth o’i chyfalaf. Ond dylai’r rhain fod dan siarter ddiwygiedig Prifysgol Cymru, a byddai hynny’n golygu fod y siarter, a thrwy hynny y graddau,  yn para mewn bodolaeth.

(3)     I warantu incwm i Wasg y Brifysgol, y Geiriadur a’r Ganolfan, dylid creu ‘Cyngor Ymchwil Academaidd’ i Gymru, neu man lleiaf ‘Gyngor Ymchwil y Dyniaethau’, gyda’r cyfrifoldeb o gyfeirio nawdd at sefydliadau nad oes a wnelont yn uniongyrchol â dysgu.  Mantais bellach i hyn fyddai bod y cymorthdaliadau’n cael eu pennu gan bobl yn gwybod rhywbeth am feysydd  iaith, llenyddiaeth, hanes a diwylliant Cymru, yn hytrach na chan gasgliad mympwyol o academwyr o hyd a lled y Deyrnas, na wyddant mo’r gwahaniaeth rhwng Iolo Morganwg a choes brwsh. Yr un pryd fe ddylai fod ar y Cyngor hwn gynrychiolaeth o’r tu allan, fel atalfa ar ysfa’r Cymry i wneud drwg i’w gilydd.

(4)     Dylai fod ymchwiliad annibynnol  i drafferthion 2011. Clywais awgrymu mai Gwrandawiad Barnwrol fyddai’r math mwyaf priodol o ymchwiliad; ni wn ddigon am hynny i allu dweud beth fyddai ei fanteision.  Yn sicr byddai’n iawn cael goleuni ar smonaeth y dilysu graddau, ond nid dyna’r peth pwysicaf erbyn hyn. Pwysicach yw’r ffaith yr aed yn groes i’r Siarter, y torrwyd y cyfansoddiad, wrth gymryd penderfyniad 21 Hydref heb ymgynghori â’r graddedigion. Mae gennym hawl i ofyn ac i fynnu ateb: pwy a benderfynodd y gellid gwneud hyn, ac ym mha hawl?   Ac os atebir, ‘O, anghofio wnaethom ni,’ bydd hynny yr un modd yn annilysu’r penderfyniad a phopeth sy’n deillio ohono.  Ac am y rhai a anghofiodd, sef y Cyngor a’i swyddogion, sut y gellir ymddiried ynddynt i gofio dim byd byth eto?   Mewn llythyr at Gofrestrfa’r Brifysgol, 10.9.12, gofynnodd Hywel Roberts ddau gwestiwn syml: pa ymgynghori a fu â’r graddedigion (a) cyn a (b) ar ôl penderfyniad 21.10.11.  Bellach (6.12.12) daeth ateb plaen i (a):   ‘Ni chafwyd ymgynghori’.

Pa fath bobl …?

Mae ein byd unwaith eto’n llawn ymysgwyd, ac nid oes ond gobeithio y daw daioni ohono, ac nid y drwg mwy sy’n aml yn dilyn chwyldroadau. Ar draws y Dwyrain Canol ac yn Ne-Ddwyrain Asia, hyd yn oed yn Tsieina gaeth a Rwsia adweithiol, ynghyd â llawer o gynnwrf  ac ymdrech ac aberth, cyfyd cri am ryddid a chyfiawnder. Efallai y dywedir fod y gymhariaeth hon yn anaddas. Ond pa fath bobl ydym ni, raddedigion Prifysgol Cymru  a dinasyddion Cymreig, os na allwn wneud yn well na goddef yn ein libart bach ein hunain ffwlbri o’r math y ceisiwyd ei drafod yma?

Ni fydd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant Metropolitan Abertawe  byth yn olynydd teilwng i’r wir Brifysgol Cymru. Ni ddylai’r uno hwn ddigwydd. Cyfrifoldeb graddedigion Prifysgol Cymru – ei haelodau – yw ymorol na fydd yn digwydd.