Dyna ni felly, cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo’r cynllun i osod ysgol newydd 3-19 oed y Bala dan reolaeth un o’r enwadau crefyddol, sef yr Eglwys Anglicanaidd.
Hai ati felly blant Penllyn, i ddysgu’r Credo ac i weddïo fel dwn-i’m-be dros y Frenhines.
A chan fod y Cyngor yn amlwg o’r farn fod addysg enwadol yn well i bawb, rhaid mynd ati’n syth rŵan i osod pob ysgol uwchradd yn y sir o dan reolaeth rhyw enwad neu’i gilydd. Rhannu’r rheolaeth rhwng gwahanol enwadau fyddai’r peth teg mae’n siŵr, yng ngolwg awdurdod addysg mor ddemocrataidd â hwn. Felly, i helpu’r swyddogion goleuedig a’r cynghorwyr galluog, dyma awgrym bach neu ddau:
Ysgol y Gader – Crynwyr Dolgellau (eu galw’n ôl o’r Ystafell Ddirgel).
Ysgol y Moelwyn – Cymdeithasfa’r Hen Gorff (o barch i Moelwyn).
Ysgol Ardudwy – Yr Eglwys Gatholig (i wylltio Ellis Wynne).
Coleg Meirion-Dwyfor – Y Mormoniaid. Viva las Vegas!
Ysgol Botwnnog – Enwad y Wesleaid.
Ysgol Eifionydd – Y Bedyddwyr Albanaidd neu’r “Batus Bach” (er cof am Lloyd George).
Ysgol Dyffryn Nantlle – Cyfundeb Annibynwyr Llŷn ac Eifionydd, wrth gwrs.
Ysgol Syr Hugh Owen – Tystion Jehofa, Neuadd y Deyrnas, Caernarfon.
Ysgol Brynrefail – Yr Undodiaid.
Ysgol Dyffryn Ogwen – Urdd y Wawr Euraid (er cof am Frenhines y Llyn Du).
Ysgol Tryfan – Cyfrinfa Deiniol o’r Seiri Rhyddion.
Ysgol Friars – Urdd Jedi Maesgeirchen.
* * * *
O’r gorau, gwamalrwydd o’r naill du. Mae gwlad yn cael y llywodraeth y mae’n ei haeddu, ac os clowns ddewiswch chi i’ch cynrychioli, nonsens a gewch. Drwy’r penderfyniad gwallgo a gwarthus hwn mae’r swyddogion addysg wedi dangos eu hannealltwriaeth, eu diffyg diwylliant a’u diffyg addysg sylfaenol eu hunain, ac mae’r cynghorwyr wedi eu cyhoeddi eu hunain yn bennau defaid. “Thick and proud of it,” ys dywed y Sais.
Ffarwel felly i unrhyw ymddiriedaeth yn noethineb Cyngor Gwynedd. A ffarwel i unrhyw gredinedd oedd ar ôl gan Blaid Cymru.