Archif | Rhagfyr, 2013

Yr ail argraffiad

27 Rhag

Image

Ail argraffiad o’r pamffledyn hwn, wedi ei ddiweddaru’n sylweddol i adlewyrchu blwyddyn arall o’r saga waradwyddus. £3 gan eich llyfrwerthwr, neu gellir archebu o dalennewydd@yahoo.com (post am ddim).

Diwrnod du

10 Rhag

Yn amlach na pheidio bydd yr hen G.A. yn gweld yr ochr ddigri i bethau, ond nid heddiw.  Mae’n debyg fod rhai o’m darllenwyr, fel finnau, wedi derbyn y llythyr yn cyhoeddi diwedd Dyddiol Cyf.

Hyd yn oed a’u nifer yn gostwng, fe ddylai’r Cymry (sylwch y term, dylanwad Pa Beth yr Aethoch Allan i’w Achub?)  fedru cynnal tri neu bedwar papur newydd dyddiol.  Methiant hanesyddol, gan ddosbarth a chan genhedlaeth, yw methu â sefydlu’r un.  Dosbarth cymdeithasol cefnog, a chenhedlaeth ffodus, freintiedig. 

Ar ôl methiant fel hwn, sut yr ydym ni, y dosbarth proffesiynol Cymraeg, yn mynd i wynebu’r blynyddoedd nesaf?  Beth petai, yn sgil refferendwm yr Alban, pethau’n symud i gêr uwch, a ninnau, yn ngeiriau Harri Webb, heb ddewis ond ymdeithio’n wysg ein cefnau tuag at annibyniaeth?  Sut yn y byd mawr y down i ben â hi? 

Ym myd y wasg, bydd raid rhoi cynnig arall. Yn y cyfamser dim maddeuant, a dim fôt, i’r gwleidyddion a fu’n gyfrifol am ‘Frad y Byd’.

 

Helbulon ger y Lli

7 Rhag

Llawer o sôn am Fyd Addysg yr wythnos yma. Nos Fawrth (2 Rhagfyr) dyma raglen ‘Y Byd ar Bedwar’ yn trafod helbulon honedig y Coleg – y Brifysgol bellach – ger y Lli.  Y brif thema oedd fod yno ryw ‘ddiwylliant o ofn a bwlio’ gydag aelodau’r staff yn ofni dweud dim byd rhag cael eu cosbi. ‘Be sy’n newydd, Pwsi Mew?’ yw cwestiwn yr hen G.A., ac efallai eraill sydd wedi ymdroi yn yr hen fyd academaidd.  Creaduriaid ‘swta, cwta, cŵl’, chwedl un ohonynt, yw academwyr ar y gorau, ofnadwy o ddi-ddweud-dim-byd-am-ddim-byd hyd yn oed cyn i neb eu bygwth na’u bwlio.

Beth yw natur y bwlio, na phwy yn union sy’n cael ei fwlio, na chan bwy, – ni lwyddodd y rhaglen i ddweud. Gwelwyd y camera’n crwydro’n hir hyd furiau allanol yr Hen Goleg, fel petai’n chwilio am ryw ateb rhwng y meini, ac yn oedi fwy nag unwaith ar gerflun Edward VIII (‘Yr Hen Brins o Wêls’), fel petai’r gyfrinach gan hwnnw.  Bob yn ail â hynny, y cyflwynydd yn dreifio o gwmpas Aberystwyth, ‘fel adyn ar gyfeiliorn’ (a dyfynnu un o brifeirdd Aber), mewn ymchwil ofer am bwt o stori.  Dau yn unig a fentrodd ymateb, – Athro Emeritws ac un o’r Dysgwyr.

Roedd pethau mwy pendant y gallesid cyfeirio atynt, – y ddadl ynghylch dyfodol Neuadd Pantycelyn, a stori Aberbaijan, sef cysylltiad y Brifysgol ag un o lywodraethau mwyaf llwgr a gormesol y byd.  Dim gair am y rhain.  Dim ond rhyw ogr-droi o gwmpas y ‘bwlio’.

Rhyw sôn hefyd fod Aberystwyth wedi llithro i lawr yng nghynghrair y prifysgolion.  Na phoener yn ormodol am hynny.  Digon mympwyol yw sail y tablau a gyhoeddir o bryd i’r gilydd gan bapurau fel y Times a’r Guardian, ac mae tipyn o ffordd i fynd eto cyn plymio  i lefel yr anfarwol South Bank University.

Fe gaiff hyn, medd rhai, effaith ddrwg ar y recriwtio.  Ond dyma newydd da i Blaid Cymru. A yw hi wedi deall ETO pam y collodd hi sedd seneddol Ceredigion?

Os mynni glod …

6 Rhag

 Teyrngedau ledled y byd heddiw i Nelson Mandela.   Tybed oes yna rai yn fyw o Gôr y Jonesiaid ?   Ydyn nhw am fynd i ganu i’r cynhebrwng ?

Achosion y Rhyfel Mawr

5 Rhag

Image

Y Cymro Twp

4 Rhag

 

Wel wir, dyma’r hen Gymro yn sefyll yn y gornel a chap y twpsyn am ei ben, wedi cael marciau affwysol o wael yn yr arolwg tair-blynyddol a elwir PISA (Programme of International Student Assessment).   ‘Ha ha ha!’ meddai Michael Gove, Gweinidog Addysg Lloegr, gan bwyntio at y wlad Lafuraidd dros Glawdd Offa, ond heb edrych tua’r wlad ddi-Dori yn y Gogledd, sydd â’r canlyniadau gorau yn Mhrydain.

‘Siapwch-w!’ yw neges Huw Lewis, ein Gweinidog Addysg ni, a’r pleidiau eraill yn pwyntio bys at Huw. Ond y gwir yw nad oes gan y gwleidyddion, mwy na’r undebau athrawon, ddim byd o unrhyw sylwedd i’w ddweud.  Naturiol i’r Ceidwadwyr, fel rhan o’r gêm, ddweud ‘dyma ichi ganlyniad 14 mlynedd o Lafur’ – a gallant ychwanegu ‘a phedair o’r rheini ar y cyd â Phlaid Cymru’.  Ond mae’r broblem, fel y dylem wybod, yn ddyfnach nag unrhyw bolisïau pleidiol, ac yn ymestyn yn ôl ymhell cyn datganoli.  Symtom, nid achos, yw fod Huwco lle mae.

Shanghai a ddaeth uchaf yn y byd.  Beth yw cyfrinach y ddinas honno felly?  A oes rhywun am awgrymu ein bod yn ei dilyn?

Bu’r hen G.A.’n trio meddwl am ryw bethau i godi calon y Cymro, a dyma ddau. 

(1)   Cynnyrch ffasiynau yw pob adroddiad ar Addysg, a thynged ffasiynau – yn wir eu pwrpas – yw cael eu newid.   Fel cam cyntaf yn ôl at gallineb, anwybydder pob adroddiad sy’n cynnwys y geiriau: sgiliau, arfarnu, adborth, mewnbwn, allbwn, hygyrchedd, argaeledd, cynadladwyedd, asesu a gwerthuso.

(2)   Mewn mathemateg dyma Gymru’n gydradd â ‘hen genedl grefyddol arall’, chwedl R. T. Jenkins ers talwm, cenedl Israel, neb llai.  Oes, mae gwahaniaeth rhwng gwneud maths a gwneud syms. Cymer gysur, o Gymro.

Ond, a difrifoli, mae problem o dan y cyfan, problem colli gafael ar ryw sylweddau, a rwdlian yn lle dysgu ym myd Addysg.  Problem ddofn ddiwylliannol ydyw, ac mae’n amheus faint a all gwleidyddion ei wneud yn ei chylch.

Heb honni treiddio at natur y broblem, ac yn sicr heb honni cynnig ateb iddi, dyma un pwynt i wleidyddion ac eraill feddwl ar fyrder amdano.  Flwyddyn ar ôl blwyddyn ers hanner canrif, mae Cymru wedi allforio cyfran uchel o’i phlant galluocaf yn ddeunaw oed.  Yr oedd effeithiau hyn yn rhwym o ddangos. Mae’r hen G.A. wedi sôn digon yn ystod y blynyddoedd am ‘y gwaedu mawr’ bob mis Medi.   Rhaid i lywodraethau Cymru wobrwyo’n pobl ifainc yn hael, yn helaeth, ac mor amlwg fel na all neb gamddeall y neges, am aros i astudio yng ngholegau Cymru.  Ond rhaid i’r colegau hynny, meddech chwithau, edrych at eu safonau.  Digon posib. Un peth y GALLESID (sylwer yr amodol) ei ddefnyddio i godi’r nod a’r disgwyliadau yn gyffredinol oedd gradd ffederal Prifysgol Cymru.  Ond dyma honno wedi ei thaflu ymaith DRWY OFER ESGEULUSTOD.  Allan yn fuan:  AIL ARGRAFFIAD y pamffled dan yr enw hwn, – gyda DARLUNIAU y tro yma !

Ac yfory ar y blog, cewch ddarllen traethawd Hanes hogyn bach yn mlwyddyn 8.