Archif | Rhagfyr, 2022

Premiwm, premiwm

30 Rhag

I’n hatgoffa’n hunain. Do, yn ei gyfarfod ddechrau Rhagfyr, fe benderfynodd Cyngor Gwynedd osod premiwm o 150% ar drethi ail gartrefi yn y sir. Ond rywsut fe anghofiwyd un agwedd a ddylasai fod yn ganolog a chreiddiol yn yr holl fater, sef yr angen am eithrio brodorion rhag talu.

(Beth yw brodorion? Ar y blog hwn ac mewn mannau eraill, rwyf wedi dweud a dweud a dweud, gan gynnig mwy nag un diffiniad y gellir yn hollol deg ei roi ar waith.)

O blith yr aelodau annibynnol y daeth cyfeiriad byr at yr agwedd hon. Rhyfedd na wnaed y pwynt gan y blaid lywodraethol. Be ydi ’i henw hi hefyd deudwch? Onid gan ddisgwyl iddi ein hamddiffyn, ein helpu, ein hybu a’n hatgyfnerthu ni’r Cymry y mae rhai ohonom wedi fotio iddi drwy’r blynyddoedd? Pa ddiben arall all fod iddi?

Ond o ddifri, rwy’n gallu gweld yr anhawster. Llywodraeth plaid mewn awdurdod lleol. Gosodwyd seiliau cadarn polisïau Cymreig ‘Gwynedd go-iawn’ yn y 1970au gan arweiniad Pleidwyr ond gyda chydsyniad naturiol a pharod aelodau heb label plaid. Unwaith y mae plaid yn ffurfio grŵp ac yn dechrau llywodraethu fel plaid, daw arni’r hyn sy’n llesteirio pob plaid. A beth yw hwnnw? Ofn plaid arall – er i honno efallai fod heb enw na diffiniad. Mae plaid yn darged. Mae arni ofn cael ei chyhuddo o hyn, a’r llall, ac arall.

Nid yw’r ofn hwn yn effeithio ar aelodau annibynnol. Beth yw’r ateb felly? Ethol mwy o’r rheini? Y perygl bob amser yn y fan hon yw prynu cath mewn cwd, ac nad oes sicrwydd yn y byd dros ba asiantaeth y bydd y gath yn gweithredu pan ollyngir hi allan.

Peth digri arall yw ‘Gr^wp Annibynnol’. Os yw’ch cynghorydd yn annibynnol, oni ddylai fod yn annibynnol ?

Anawsterau diosgoi democratiaeth yw’r rhain. Down yn ôl at fater yr ail gartrefi. Trwy fod yn berchennog ail gartref yn fy hen ardal, nid wyf yn honni fy mod yn cyfrannu rhyw lawer at ei bywyd. Tipyn bach efallai. Ond rhowch hi fel hyn: os gorfodir fi gan y premiwm i werthu’r tŷ, bron yn sicr byddaf wedi cyfrannu at set o ffigurau iaith at y tro nesaf a fydd radd yn waeth na ffigurau echrydus 2021.

Mae amser eto i gynghorwyr Gwynedd feddwl am yr agwedd hon. Pwy sy am arwain?

Od

9 Rhag

Un peth od yn ffigurau iaith y Cyfrifiad, ac mae rhai wedi tynnu sylw ato o’r blaen. Hwnnw yw’r gostyngiad o fewn y grŵp oedran 3-15 oed.

Bydd rhai ohonoch fel finnau wedi darllen ysgrif Sara Louise Wheeler ar GOLWG 360 yn ddiweddar, gyda’r cartŵn yn darlunio byd addysg Gymraeg fel pwced dyllog, a’r ‘cyn-siaradwyr Cymraeg’ yn ymarllwys allan ohoni. Rhydd yr ysgrif enghreifftiau o ardal Wrecsam, a gallaf goelio pob gair oherwydd gwelaf ddigon o’r un peth o gwmpas Bangor yma. Cyfoedion i un o’m meibion, wedi bod trwy ysgolion y Garnedd, Tryfan neu’r ddwy, bellach heb air o Gymraeg i’w gyfnewid â chi a heb unrhyw fwriad i anfon eu plant drwy’r un felin. Plant aelwydydd di-Gymraeg, gallwch ofyn, a heb erioed gael fawr o afael? Rhai felly, ie, ond rhai o gefndiroedd hollol Gymraeg hefyd. Clywn o hyd am ‘gynnydd anhygoel’ addysg Gymraeg neu ddwyieithog, yn enwedig yn y De-ddwyrain, ond mae yma raddfa wastraff ‘anhygoel’ hefyd.

Nid esbonio hynny nac awgrymu’r ateb yw fy mhwrpas heddiw, er cymaint brys sydd am esboniad llawn ac ateb. Ond yn hytrach gofyn cwestiwn. Onid yn y grŵp oedran 16-19, neu yn wir y grŵp 20-44, y dylem ddisgwyl gweld y gostyngiad, sef yr oedrannau lle gellid disgwyl i’r dadrithiad, y diflastod, neu beth bynnag ydyw, ddwyn ffrwyth? Yn lle hynny fe’i gwelir ymhlith y plant sy’n dal yn yr ysgolion!

Delwedd a ddôi i’m meddwl ar ôl gweld y cynnydd calonogol yn ffigurau 1991 oedd y pren yn glasu o’i fôn i fyny unwaith eto. A chaed yr un argraff ar ôl 2001. Bellach dyma hi fel arall. A daw neges anesmwythol o fyd Natur. Gall coeden yn union cyn marw, medden nhw, gael tymor neu ddau o ffrwytho na welwyd erioed ei fath. Yn wir fe ddigwyddodd i goeden afalau yn yr ardd yma rai blynyddoedd yn ôl.

Beth oedd y fformiwla yn yr ’80-’90au? Sut y llwyddwyd i’w cholli? Mae’n peri meddwl braidd am Ewrop wedi cwymp Rhufain ac am ganrifoedd wedyn yn anghofio sut i gynhesu tŷ, ac yn colli’r ddawn i dynnu llun realistig.

Be wnaeth y drwg, dywedwch? Ai datganoli? Ai gwireddu rhybudd brawddeg olaf Tynged yr Iaith? Ac os felly beth amdani? Tyrd yn ôl John Redwood? Abolish the Assembly? NO Cymru?

‘Addysg Gymraeg i bawb’? Byddai Addysg yn rhan o unrhyw ateb, ond nid y cyfan o bell ffordd. Oherwydd cofiwn bob amser fod gan 85% o blant imiwnedd naturiol i unrhyw beth a glywant o fewn muriau dosbarth. Dyna pam na lwyddodd y Welsh Not yn y cyfan o Gymru. Llwyddodd mewn rhai ardaloedd, yn cynnwys y rhai mwyaf poblog, oherwydd cyfuniad ag (a) mewnfudo mawr, a (b) ideoleg arbennig. Addysg mewn cyfuniad â rhywbeth arall, fan yna yn rhywle mae’r allwedd.

Down yn ôl o hyd at Y PETH. Blogiais amdano bob dydd am wythnos ddwy flynedd union yn ôl. Ac rwy’n eich rhybuddio y gallaf ddychwelyd ato un o’r dyddiau yma.
§
Ond cwestiwn arall. Ydi ffigurau’r Cyfrifiad yn gywir? Oedd Swyddfa’r Ystadegau wedi prynu yn ail-law hen gyfrifiadur Swyddfa’r Post?

Un newydd da

7 Rhag

Ar ôl y newydd echrydus ddoe, da yw gallu cyfeirio at un peth cadarnhaol sef gweithred Cyngor Sir Fôn yn anrhydeddu Noel Thomas, un o’r postfeistri a ddioddefodd mor anghyfiawn ac a frwydrodd mor ddygn wedyn am ryw fesur o gyfiawnder.

Da yw cael gair o gefnogaeth, ymddiheuriad, a rhywfaint o iawndal.  Ond dylai Mr Thomas a’i deulu, a llawer yn yr un sefyllfa â hwy, dderbyn llawer mwy. Rwyf wedi bod dros hyn o’r blaen. Darllenwch eto flogiau 3 Hydref 2020, a 19 Ebrill, 31 Mai a 18 Rhagfyr y llynedd.

Gwedd arall ar y sgandal yw nad oes unrhyw adran o’r wasg yng Nghymru wedi ymgyrchu ar y mater hwn. Diflas yw gwasg nad yw’n gwneud dim ond ymgyrchu, ond marwaidd yw gwasg nad yw’n ymgyrchu o gwbl.

Cwestiwn bach bach

6 Rhag

Bydd dadansoddi mawr mae’n sicr, a chwilio am unrhyw glwt o awyr las. Ond un cwestiwn bach bach heddiw. Pam yr aeth canran y siaradwyr Cymraeg i fyny yn 1991 a 2001?

Ble’r oedd … ?

3 Rhag

Ddechrau’r pnawn, cyn iddo ddiflannu wedyn, mi welais ar NATION CYMRU adroddiad am brotest a gynhaliwyd heddiw ger Maes Awyr y Fali o blaid plant Yemen. Welais i mo adroddiadau BBC CYMRU FYW na GOLWG 360.

Na, doedd yr hen G.A. ddim yn y llun. Llawer o bethau teilwng nad yw’n mynd iddynt bellach.

Beth am bobl sy’n nes na mi at y broblem? Faint oedd yno o gynghorwyr Plaid Cymru Môn? Chware teg, ni ellid disgwyl gweld A.S. San Steffan dros yr Ynys, oherwydd mae hi’n awyrenwraig o fri. Ond beth am y dyn sy’n gobeithio cymryd ei lle hi, yr A.S. Cymru presennol? Os na allai fod yno, siŵr ei fod wedi anfon neges o gefnogaeth.

Gadewch inni ei gweld.

Dod adre

1 Rhag

A dyna ni, yr hwyl ar ben. Do fe fu’n hwyl, a diolch amdani. A daw cefnogwyr Cymru adre i wlad ac ynddi lai ohonom yma o hyd, yn ôl y ffigurau a ryddhawyd echdoe. Llai, medden nhw, o blith poblogaeth Cymru yn eu disgrifio’u hunain fel Cymry.

Roedd hyn i’w ddisgwyl. A mwy sydd i’w ddisgwyl eto tra pery’r polisi cibddall o godi mwy o dai yn lle ceisio ymorol rywsut fod Cymry’n gallu meddiannu’r tai sydd ar gael.

Ond dyma beth mwy difrifol eto i groesawu’r pererinion yn ôl o Quatar. Mark Drakeford, medd adroddiadau ddoe, am edrych i mewn i’r hyn a ddywed y setliad cyfreithiol, a oes gan lywodraeth Cymru hawl ai peidio i gynnal refferendwm ar annibyniaeth.

Hawdd rhagweld y dyfarniad. ‘Oes neno’r tad, mae ganddi bob hawl; ymlaen â chi bois.’ Oherwydd does gan y Sefydliad ddim math o reswm dros ofni refferendwm yng Nghymru; rheswm yn hytrach dros groesawu peth a roddai’r farwol i unrhyw symudiad tuag at annibyniaeth yn ystod oes yr ieuengaf ohonom sy’n fyw.

Ychydig ddyddiau’n ôl yr oedd Mark Drakeford hefyd yn sôn am roi’r gorau i arweinyddiaeth ei blaid ar ôl rhyw bum mlynedd eto, fel bod rhywrai newydd yn cael cyfle dros y chwarter canrif nesaf o ddatganoli. Datganoli, sylwer.

Gwir y gair o hyd, mai proses ac nid digwyddiad yw’r hyn a ddechreuodd ym 1997. Ond gwir hefyd, a’r ffactor pwysicaf bellach, yw fod cenedlaetholwyr yr Alban wedi gosod eu holl fryd ar DDIGWYDDIAD. Ac ymddengys fod dyfarniad yr Uchel Lys wedi dod â hwnnw’n nes.

OS … OS … digwydd y peth yn yr Alban, bellach dan ‘Gynllun B’ o ryw fath, ble bydd hynny’n gadael Cymru? Peidiwn, er mwyn y nefoedd, â malu am refferendwm yng Nghymru, a thawed Plaid Cymru wirion â’i galwad am Nadolig Tyrcwn.

Unwaith eto, PAN … OS … daw hi yn yr Alban, dyna fydd y pryd i osod y cwestiwn o flaen y Cymry. A phan ddaw, gofalwn ei fod y cwestiwn iawn. Nid y cwestiwn, diystyr erbyn hynny, ‘A ydych am i Gymru barhau’n aelod o Brydain Fawr ai peidio?’ Oherwydd ni bydd Prydain Fawr fel gwladwriaeth unedol. Y cwestiwn bellach ddylai fod: ‘A ydych am (a) i Gymru barhau’n rhan o Loegr, ynteu (b) i Gymru fod yn wladwriaeth gyfartal â Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon?’

PAN … OS … a fydd y Cymry’n deall beth fydd wedi digwydd? A oes gennym wasg a chyfryngau a fydd yn gofalu eu bod yn deall? Ar hyn o bryd, nac oes.

§

Ian Blackford yn cyhoeddi heddiw ei fod am roi’r gorau i arweinyddiaeth yr SNP yn San Steffan. Rydym oll yn ddyledus iddo am ei stiwardiaeth ardderchog dros bum mlynedd. Ddydd ar ôl dydd mae wedi dangos i Syr Eithafol Anysbrydoledig Starmer sut i arwain gwrthblaid. Y newydd da yw bod dewis ardderchog o rai cymwys i’w ddilyn.

§

Yn ôl at ystadegau Cymru. Llai o Gristnogion hefyd. Efallai y byddai o ddiddordeb i rai ohonoch ddarllen tudalennau 339-43 o fy llyfr Camu’n Ôl a Storïau Eraill. Yn yr olygfa hon mae anffyddiwr y pentre’n gwahodd y Saint i ystyried eu sefyllfa’u hunain. Ydi ei ddadansoddiad yn iawn?