NODYN. Bydd rhai o’r darllenwyr efallai yn cofio rhai o’r cymeriadau hyn yn y storïau ‘So Ni Gallu’ (Camu’n Ôl a Storïau Eraill), ‘Olav Drö’ (archif Ionawr 2013, neu Tu Chwith, Cyfrol 38) a ‘Gwthio’r Ffiniau’ (archif Mehefin 2012, neu Tu Chwith, Cyfrol 39)
* * *
Ie, go drist, e-bost yr hen Lwyd Llwyd. Finnau heb glywed fawr ddim gan neb o’r hen gyfeillion oddi ar y Chwalfa Fawr. Fy e-gyfeiriad i ar flaen y rhestr, wedyn …
brewys.huws@alltudiaeth.co.uk, pebr.huws@disberod.com, glesni.llwyd@difancoll.com, marimwydrag@ebargofiant.co.cn, dai.dw-lal@caethglud.com, dicibachdwl@afonydd.babel.org, twm.teiliwr@gonewithwind.co. wiliwallgo@fladifostoc.com, tal.fychan@pen_draw_byd.org, padi.pwdryn@dinabman.ac.nz, sgotjolpyn@malvinas.org, janisjolpan@finisterre.co.fr, ab.dwl@khyber.co.ind, ab.dylach@pegwn-y-de.com, owen2funud@rorkesdrift.co.sa, heulwen.het@tombstone.com, wil.waterloo@elba.com
Hen gyfeillion oll,
Eich cyfarch ar ôl ysbaid go hir. Gobeithio eich bod oll yn ffynnu. Efallai y bydd yn chwith gennych dderbyn fy newydd heddiw.
Swm a sylwedd y cyfan, a thrist i mi yw gorfod wynebu’r posibilrwydd hwn, yw bod ein hantur fawr yn fethiant. Dyna fy mhrofiad i o leiaf. Bu inni weithredu mewn ffydd. Codi’r hen wlad oedd ein nod. Ond rywfodd …
Wrth ddarllen y geiriau daw rhyw lwmp i’m gwddf innau, ac nid wy’n gweld y llinellau yn glir iawn. Nid yr hen Lwyd Llwyd, llawn aidd a gweledigaeth mo hwn. A ble mae syniadau disglair a chefnogaeth ddi-ffael Llinos Llwyd, ei briod? Yr antur wedi methu, ai e? A dyma fy meddwl yn mynd yn ôl at ei dechrau …
Cael rhyw lymaid yr oeddem, y criw arferol, a helpu achos yr hen Wil Waterloo. A’r sgwrs yn troi, fel mor aml y dyddiau hyn, at y methiannau a’r rhwystredigaethau. Yr ystadegau iaith felltith, fel y gallwch feddwl. Colli Ceredigion ac Ystrad Tywi o Gymru Cunedda. Brad Y Byd. Y Sianel. Radio Cymru. Pontio. ‘Pawb â’i Farn’. I rai ohonom, dinistr Prifysgol Cymru. Dyfodol ymbelydrol Môn. Trident i Aberdaugleddau. Huw Lewis yn Weinidog Addysg. Bois bach, pwy feddyliai y byddai hi’n dod i hyn?
Rhai ohonom yn dwyn i gof ein cynigion dewr yn y gorffennol, fel llwyddiant byrhoedlog y gyfres Olav Drö, a’m tymor anogoneddus innau fel Prif Weinidog Cymru. Ac roedd hi’n bryd bellach inni ailystyried o ddifri. A phenderfynu, a dewis. Rhoi’r gif-yp honno y mae’r Cymry’n dueddol i’w rhoi? Ynteu rhoi un cynnig arall?
‘Thâl hi ddim fel hyn, wyddoch chi bois,’ meddai Brewys.
‘Na, ’deith hi ddim ymlaen fel hyn,’ meddai Pebr, mewn llwyr gydsyniad â’i efaill fel bob amser.
‘Dyna ydw inna wedi dod i deimlo,’ meddai Llinos Llwyd. ‘Mae’n rhaid gwneud rhywbeth, rhywbeth gwahanol …’
‘Rhywbeth drastig,’ meddai Glesni Llwyd.
Ac wedi rhai munudau o ddwys ddistawrwydd dywedodd Brewys air eto.
‘Rhaid inni i gyd addunedu …’
‘Iawn, ond addunedu be, Brewys?’ gofynnais innau. ‘Rydan ni wedi cael Adduned yr Urdd. A doedd ’na ddim rhyw Adduned Cymru rywle tua’r colegau ’na, deudwch?’
‘Rhywbeth mwy sylfaenol,’ meddai Brewys.
‘Rydw i’n meddwl,’ meddai Pebr, dehonglwr meddwl ei frawd unwaith yn rhagor, ‘mai’r hyn sy gan ’y mrawd ydi addunedu i fod yn well Cymry, yn Gymry mwy – be ddeuda’ i? – mwy trwyadl, ym mhob dull a modd.’
‘Hm, ia,’ meddai Glesni. ‘Ond sut? Dyna ydi’r cwestiwn.’
‘Sut fath o Gymro,’ meddai Brewys yn araf a meddylgar, ‘ydi’r Cymro gorau? Does ’na ddim rhyw ddihareb, ’dwch?’
‘Efalla dydi hi ddim yn ddihareb,’ meddai Pebr, ‘ond mae’na ddywediad. Gorau Cymro …’
‘Cymro oddi cartref,’ gorffennodd amryw ohonom y llinell.
Prynodd Owen Dau Funud rownd. Yna aethom yn ôl at ystyr y geiriau.
‘Meddyliwch chi rŵan,’ meddai Owen. ‘Dyna ichi fi yn byw yng Nghwmadda. Taswn i’n picio i lawr i Aberadda – i nôl tipyn o neges o Tesco, ddywedwn ni – mi faswn oddi cartra. Faswn i’n well Cymro nes down i adra wedyn? Fel’na mae hi’n gweithio?’
‘Neu,’ meddai Glesni, yn mynd yn fanylach, ‘tasat ti’n picio i drws nesa?’
Gelwais i gof fy mhrofiad fy hun, ac rwy’n meddwl i rai eraill wneud yr un modd. ‘Na, wyddoch chi,’ meddwn i, ‘alla’ i ddim cofio bod yn fwy gwladgarol, yn fwy teyrngar, yn gynhesach tuag at Gymru wrth fynd i drws nesa, nac wrth fynd i Tesco a deud y gwir.’
Tueddai pawb i gytuno.
‘Beth am fynd i Blacpwl?’ gofynnodd Mari Mwydrag, a oedd wedi treulio tair noson yn y Gresham efo trip Seren Arian.
‘Na,’ meddai Llwyd yn ddifrifol, ac fel petai wedi llwydo yn ei wedd. ‘Mynd ar wyliau oedd hynny. Silfar Star Holides. Be mae’r dywediad yn feddwl ydi byw tu allan i Gymru. Yn barhaol. Gadael Cymru. Mynd. Peidio dŵad yn ôl.’
‘Ew, ia wir?’ meddai ambell un.
‘Tybad?’ meddai ambell un arall.
‘Ydi hynna’n golygu,’ gofynnodd Mari, ‘jest croesi Clawdd Offa, a dyna fo? Deudwch chi rŵan ’mod i’n byw … ym Mhenarlâg, smalio. Rydw i’n codi ’mhac a mudo i Gaer, jest i lawr y lôn. Ydw i’n well Cymraes wedyn?’
‘Dyna mae’r dywediad yn ’i ddeud,’ meddai Llwyd.
‘Ond daliwch arni rŵan,’ meddai Dici Bach Dwl (nad oedd yn arfer dweud llawer fel rheol). ‘Ydi hyn yn wir am bob cenedl? Oes ’na ddywediad, er enghraifft, “gorau Zimbabwead, Zimbabwead oddi cartref”?’
‘Cwestiwn da, Dici,’ meddai Glesni. ‘Neu, a chymryd enghraifft nes aton ni, beth am “gorau Sais”? Ydi Sais sy’n byw oddi cartref – yng Nghymru, dwedwch – yn well Sais?’
‘Yn ôl y Ddeddf Uno,’ meddai Pebr (a fu unwaith yn astudio’r Gyfraith yn Aberystwyth), ‘mae Cymru’n rhan o Loegr. Felly, yn dechnegol, dydi Sais yng Nghymru ddim oddi cartref. Dyna fy nehongliad i beth bynnag.’
Cwestiwn dyrys, ac ni allai neb ohonom ei ateb yn foddhaol.
‘Last ordors,’ galwodd Wil. Ac mewn dwfn fyfyrdod am ystyr y dywediad y bu inni wahanu y noson honno, gan gytuno i gyfarfod yn fuan eto ar ôl inni droi yn ein meddyliau ei ymhlygiadau oll.
Criw difrifddwys a ymgasglodd yn y Waterloo ymhen ychydig nosweithiau. Doedd dim osgoi ar y casgliad, ond gallaf feddwl fod ei ystyr yn galed i rai ohonom fel i minnau. Rhyw hen linellau a phenillion yn troi yn fy meddwl o hyd …
Mab y mynydd ydwyf innau …
Wrth ganu’n iach i Feirion (neu i Arfon, neu beth bynnag).
Os yw fy llais yn llon,
Yn sŵn ei hen alawon,
O, y pigyn sy dan fy mron!
Newidiais ar wan adeg
Wlad iawn Geredigiawn deg,
Lle mae iechyd byd yn byw,
Diboen, a gorhoen gwiwryw …
Dychwel i’r wlad lle bu fy nhadau,
Bwrw enwog oes heb ry nac eisiau
Ym Môn araul, a man orau yw hon,
Llawen ei dynion a llawn doniau …
Mae calon Cymro fel y trai
Yn siŵr o ddod yn ôl …
Mae’r llong yn y porth yn disgwyl amdanaf,
O gwae imi feddwl dy adael erioed …
O, na ddeuai chwa i’m suo
O Garn Fadryn ddistaw, bell …
Fel hyn bu farw’r llencyn teg
Cyn cyrraedd pedair blwydd ar ddeg,
Oddi wrth ei fam, led moroedd draw
Heb obaith mwy cael ysgwyd llaw …
Gwae fi na chawn enwi nod,
Ardd wen, i orwedd ynod …
Nico annwl, ei di drosta’ i …?
Er mor beraidd yw ei miwsig
Ac mor hyfryd yw ei chân.
Codai hiraeth yn fy nghalon
Am fy annwyl Gymru lân …
O, bydd glaswellt dros fy llwybrau i gyd
Cyn delwyf i Gymru’n ôl.
Anfon lythyr, Deio bach.
Magwyd fi ar ei bron,
Ces fy siglo yn ei chrud …
We’ll kiss away each hour of hiraeth
When yew come ’ome again to Wales.
Ai oddi cartref pawb … ? Dic doc, dic doc.
Ac yn wir fe drawodd rhywun bwt o gân:
O-O-O-O-O-O,
Biti na faswn i dipyn nes ati hi,
Anodd yw cadw mor bell …
Ond meddai rhywun arall, ‘Ia, ond cofiwch chi sut mae hi’n mynd ymlaen:
Ond wrth ei cholli mi welaf ei gwerth hi
A dysgu ei charu yn well …’
‘Gwir wyddoch chi,’‘ meddai rhywun arall eto:
‘Mae’n werth troi’n alltud ambell dro
A mynd o Gymru fach ymhell,
Er mwyn cael dod i Gymru’n ôl
A dysgu caru Cymru’n well.’
‘Does ’na ddim “ambell dro”,’ meddai Llwyd yn ddifrifol. ‘Does ’na ddim “dod i Gymru’n ôl”. Unwaith rydan ni’n mynd, dyna hi. Cau’r siop. Darfod. Kaputt. Fedar Gorau Cymro ddim byw yng Nghymru. Oddi cartref mae Gorau Cymro. Dyna fo. Dyna ystyr y dywediad.’
Brewys a roddodd mewn geiriau wedyn, ar ein rhan ni oll, y casgliad caled, anodd i’w osgoi. ‘Os ydan ni, hogia bach, am wir adnewyddu Cymru, am achub Cymru, am godi’r hen wlad ar ei thraed, does ond un peth inni ’i wneud, welwch chi …’
Ac i ran Pebr, fel arfer, y syrthiodd cwblhau rhediad meddwl ei frawd. ‘Mynd,’ meddai Pebr. ‘Mynd. Madael. Byw yn rhywle arall. Yn barhaol. Peidio dod yn ôl. Byth. Gorau Cymro. Dydi Cymro ail orau yn dda i ddim. A Chymry ail orau ydan ni wedi bod yr holl flynyddoedd.’
‘A’r holl genedlaethau,’ ychwanegodd Brewys.
Oedd, roedd angen ewyllys gref a phenderfyniad diwyro i roi mewn grym ymhlygiadau’r canfyddiad. Ond roeddem yn cytuno, ‘wedi rhoi llaw ar gorn yr arad …’, er nad oedd y rhan fwyaf ohonom wedi gweld arad erioed. A peth arall, doedd ddiben yn y byd i ni, griw bach o ryw saith neu wyth, weithredu ar y penderfyniad. Roedd raid argyhoeddi cannoedd o filoedd o’n cyd-Gymry, Cymraeg a di-Gymraeg. Roedd raid i’r peth dyfu’n fudiad mawr, torfol, anorchfygol drwy Gymru, – mudiad i ymfudo’n derfynol o Gymru a thrigo mewn gwlad neu wledydd estronol, yng nghanol coedwig werdd, lle treigla’r Caveri, dowch i’r Americâ, draw draw yn China neu beth bynnag, unrhyw fan ond Cymru, er mwyn inni fod yn well Cymry, y math gorau o Gymry, er mwyn codi’r hen wlad yn ei hôl.
‘Fasa Cwm Hyfryd yn iawn?’ holodd Owen yn ddiniwed.
‘Hm. Na, go brin.’ dyfarnodd Brewys. ‘Rhy debyg i’r Hen Wlad.’
‘Beth am y Gaiman?’
‘Beunos Eurus fasa saffa,’ meddai Pebr.
‘Wel ia,’ meddai Llinos Llwyd, ‘dyna ichi Lleucu ni.’
A gwir y gair. Roedd Lleucu, merch Llwyd a Llinos Llwyd, yn byw ym mhrifddinas Ariannin ers rhai blynyddoedd ac wedi newid ei henw yn Evita Llwyd de Pampas-Gonzales. Ac roedd ei brawd, John Ceiriog Llwyd, yn byw ym Manceinion. A’i brawd arall, Goronwy Owen Llwyd, yn byw yn Virginia, U.D.A. Dyna un peth oedd yn gwneud y penderfyniad mawr ychydig yn haws. Gan ein bod ni bron i gyd yn Gymry brwd (pst, pst, am reswm da, sef ein bod yn ddibynnol iawn mewn gwahanol ffyrdd ar y Gymraeg) roedd ein plant bron i gyd wedi mynd, wedi torri’r hen linyn bogail. Gallaf ddianc rhag hon. Ac os gallen nhw, fe allem ninnau hefyd, y to heb fod mor ifanc.
Ond wrth gwrs, cyllid. Pres, pres. I genhadu, i esbonio’r weledigaeth, i adeiladu mudiad mawr drwy Gymru gyfan. Fel mudiadau allfudo Oes Victoria, ond yn llawer iawn mwy, yn cwmpasu’r holl Gymry, fel na byddai yr un Cymro yng Nghymru’n aros, ond pawb mewn mannau eraill yn bod y math gorau o Gymry. Ac yn naturiol, trodd meddyliau pawb at yr un dyn, Tal Fychan. A fyddai greddf wladgarol Tal yn ddigon cynnes y tro hwn eto i gefnogi’r antur fawr derfynol? Ychydig drafodaeth, ac fe ddaeth Tal i weld rhesymeg y peth; fe gyfrannodd yn hael, ac yn wir fe gyhoeddodd mai ei ddewis le ef ei hun i fod yn Orau Cymro oedd Las Vegas. ‘Cofia ni at Tom Jones,’ meddai Dici Bach Dwl.
Felly, chwedl yr hen Tommo yn nyddiau Radio Cymru ers talwm, ’Co ni off !
Do, fe lwyddodd y mudiad yn ysgubol. Fel y mudiad arall hwnnw, ‘Dim Byd’, flynyddoedd ynghynt. Fe argyhoeddwyd y werin a’r miloedd a’r Dosbarth Canol Cymraeg, a dyma gychwyn ar yr Exodus … ond y ffordd arall wrth gwrs, os ydach chi’n dallt. Finnau’n meddwl weithiau wrth bacio fy mhethau, fel hyn y byddai Moses wedi teimlo tasa fo wedi cerdded wysg ei gefn am ddeugain mlynedd drwy’r anialwch. Ddaeth cerbydau Ffaro ddim i geisio’n rhwystro ni; yn wir fe gawsom bob help a rhwyddineb ac anogaeth garedig gan gannoedd o filoedd o Saeson i wneud ein hymadawiad yn rhwydd ac esmwyth. Gwerthwyr tai Cymru yn dda iawn wrthym hefyd, chware teg. Yr ochr arall, doedd pethau ddim mor hawdd: gorfod prynu neu rentu tai yn Lloegr neu ble bynnag am brisiau llawer uwch, cael gwaith, weithiau dysgu ieithoedd newydd. Dyna ichi fi. Allwn i ddim fforddio tŷ. Chefais i ddim gwaith. Dyma fi’n byw mewn hostel i’r digartref ar gwr Wolverhampton, a’r cwbl o’m heiddo mewn bag plastig du: crys i’w newid, dau drôns, brws dannedd, a’m cyfrifiadur bach rhag ofn y daw ambell neges oddi wrth yr hen ffrindiau, fel y daeth erbyn hyn oddi wrth Llwyd Llwyd. Ond waeth heb â chwyno. Dyna oedd y penderfyniad. Dyna oedd y polisi. Y cyfan er mwyn bod yn well Cymry. Codi’r hen wlad. Bob nos cyn mynd i ’ngwely byddaf yn canu ‘Yma o hyd’, oblegid yma bydda’ i bellach, (a) yn ehangu fy ngorwelion, a (b) yn cenhadu dros Gymru. A’r lleill yn yr hostel yn sbïo’n syn arna’ i ac yn pwyntio at eu pennau.
Fe gafodd Wil gwsmer i’r Waterloo yn syth, rhyw filiwnêr o Rwsia. Ninnau dros y blynyddoedd wedi cyfrannu digon at achos Wil fel y gallodd ymddeol a mynd i fyw ar ei bres yn Elba. Mi glywais mai ‘Borodino’ ydi enw’r hen dŷ tafarn heddiw.
Ac fel’na, i bob pwrpas, fe adawyd Cymru’n wag. Yn wag o bob sefydliad, pob gweithgarwch, pob amlygiad o ddiwylliant. Dim pobl, felly dim Pobl y Cwm. Dim Rownd a Rownd. Dim Caniadaeth y Cysegr. Dechrau Canu a Dechrau Canmol wedi darfod. Dim Traws Cambria na Moto Coch. Dim Eco’r Wyddfa na Glo Mân na Blewyn Glas na Pentigili na Nene. Dim Tu Chwith na Baner Newydd na Chymro na Barddas na Barn na Fferm a Thyddyn. Dim Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig. Dim Undeb Amaethwyr Cymru. Dim Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Dim Comisiynydd Iaith, dim Mentrau Iaith, dim Cylch yr Iaith, dim Cymdeithas yr Iaith. Dim Dyfodol i’r Iaith. Dim Eos. Dim Gŵyl Gerdd Dant. Dim Cân i Gymru. Dim sgetsus Ffermwyr Ifainc. Dim Bedwen Lyfrau. Dim Gŵyl Ddwynwen. Dim Gregynog. Dim Cymunedau’n Gyntaf. Dim Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Dim Eisteddfod yr Urdd (Cylch, Sir na Chenedlaethol). Dim Syr IfanC. Dim Gorsedd y Beirdd na Gorsedd Powys na Gorsedd Môn. Dim Glan Llyn na Llangrannog. Dim Mr Urdd nac Urdd Gwyrdd. Dim Sali Mali. Sim Dewin Dwl. Dim Siop y Pethe na Siop y Siswrn na Siop yr Hen Bost. Dim Awen Meirion na Llên Llŷn. Dim Amgueddfa Hen Gapel John Hughes Pontrobert. Dim Plygien Fawr Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Dim Amcan Un. Nac Amcan Dau. Dim Amcan o gwbl a dweud y gwir. Dim Priodasau Nant Gwrtheyrn. Dim Cyfeillion Ellis Wynne. Dim Sioe Llanelwedd (Haf na Gaeaf). Dim Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen. Dim Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd. Dim Neuadd Pantycelyn. Dim Planet na Poetry Wales na Welsh Writing in English. Dim Western Mail, gan nad oes dim Cymry i ddarllen ymosodiadau arnyn eu hunain ynddo bob dydd. Dim Daily Post, gan nad oes dim Cymru i edrych bob bore ydyn nhw’u hunain wedi marw. Dim Golwg 360. Dim Cymdeithas y Cymod. Dim Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Dim Dolen Cymru-Lesotho. Dim Cymdeithas Cymru-Cuba. Dim teithiau cerdded Cymdeithas Edward Llwyd. Dim Ffair Lyfrau Cymdeithas Bob Owen. Dim Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dim Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant Metropolitan Abertawe Coleg Ceredigion. Dim Sain Ffagan na Sain Tathan. Dim Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Dim Sefydliad Materion Cymreig. Dim Fforwm Hanes Cymru. Dim Cymdeithas Emynau Cymru. Dim Mercator. Dim Sgiliaith. Dim Hunaniaith. Dim Estyn. Dim Hybu Cig Cymru. Dim Cyngor Llyfrau. Dim Lolfa na Gwasg Gomer na Gwasg Carreg Gwalch. Dim UCAC na MYM na RhAG na CBAC na CYDAG na CCAUC nac UMCA nac UMCB. Dim Cytûn. Dim Undeb yr Annibynwyr. Dim Sasiwn y Gogledd na Sasiwn y De. Dim Pedair Tudalen gydenwadol. Dim Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd. Dim Merched y Wawr na Meibion Glyndŵr. Dim hyd yn oed Gôr Meibion Glyndŵr na Chôr Pendyrys na Chôr y Mochyn Du na Pharti Cut Lloi. Dim Clwb Carafanwyr Cymru. Dim Cymdeithas Morrisiaid Môn. Dim Cymorth i Fenywod (Cymru). Dim Rhaglen Dei Tomos. Dim Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Dim Llenyddiaeth Cymru. Dim Academi. Dim Llinell Wybodaeth Cymraeg i Oedolion. Dim Clwb Ifor Bach. Dim Sgorio. Dim Sgarlets. Dim Gleision. Dim Clwb Rygbi, dim Clwb Rygbi Rhyngwladol, dim Jonathan, dim Clwb Rygbi eto, dim rhagor o Glwb Rygbi. Dim Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gan nad oes ond pum gwlad. Dim Bangor City. Dim Tal-y-sarn Celts. Dim Theatr Genedlaethol na Chwmni Opera Cenedlaethol na Theatr Fach Llangefni na Theatr Felin Fach. Dim Ysgol Glanaethwy. Dim Dawnswyr Nantgarw. Dim hen C’mon Midffild. Dim hen hen Ryan a Ronnie. Dim Tŷ Tawe. Dim Amgueddfa Lloyd George. Dim Band Trefor na Band yr Oakley na Band Melin Griffith. Dim Tinopolis. Dim Oriel Môn. Dim Portmeirion. Dim Cefen Gwlad. Dim Dylan Jones. Dim Bore Cothi. Dim Sioned Grug. Dim Cameron Jenkins. Dim Leighton Andrews. Dim Cyngor Sir Gaerfyrddin. Dim Cartrefi Cymunedol Gwynedd. Dim Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig. Dim Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Dim Llais Gwynedd. Dim Plaid. Dim PAWB. Neb.
Do, fe wacawyd Cymru yn llwyr, neu bron yn llwyr. O Gymry, hynny ydi. Mae yna ryw lond llaw ar ôl, medden nhw i mi, ym Mhenrhys yn y Rhondda, yn Stad Gurnos ym Merthyr ac yn Stad Maes Gwenithen, Aberadda. Pobman arall, wedi ei ailboblogi’n llwyr gan Saeson. Saeson o bob lliw, llun, crefydd a tharddiad – o Bwyl, o Rwmania, o Fangladesh, o bob man dan haul, ond Saeson i’r gwraidd cofiwch. Mylti-cylti, dyna’r oes.
Ninnau, Cymry ar Wasgar, tair miliwn ohonom. Allwn ni ddod yn ôl i seremoni’r Cymry ar Wasgar? Na allwn. Does ’na’r un. Ond da clywed am lwyddiant rhai ohonom ar hyd y byd. Roy Noble a’r Dwsin Doeth wedi mynd i Hollywood; grŵp gorffen ar sut i wella seremoni’r Oscars. Madonna Môn, y gyn-Archdderwyddes – neu y cyn-Archdderwydd ddylwn i ddweud efallai – wedi ymddangos ar ‘I’m a celebrity, get me out of here’. Y Prifardd Lleu Llaw Gyffes Williams (gweler y stori ‘Gwthio’r Ffiniau’) wedi ennill cadair Eisteddfod Cymry Indonesia. A’r tro hwn, rhag bod neb yn ensynio pethau, doedd ei frawd, Dr. Dylan Ail Ton Williams, ddim yn beirniadu. Mae Dylan wedi mynd yn fynach yn Nhibet. Clywed i R. Dolydd Williams (Dolydd) ddod yn ail da. Un tîm o feirdd sydd ar ôl, Tîm Gweddill y Byd. Ond all o ddim cystadlu oherwydd does ’na ddim Talwrn.
Dyna beth o’r hanes. Yr ymdrech fawr yn fethiant felly? Y cyfan yn siom? Paragraff olaf e-bost Llwyd Llwyd:
Waeth i chi gael gwybod, hen ffrindiau. Mae Llinos am fynd yn ôl i Gymru os gall hi gael tŷ neu fflat neu garafán rywsut yn y byd, a rhywbeth at fyw. Clywed wnaeth hi fod William a Ffion Hague am greu cartref bach yng Nghymru, ac fe aeth yr hiraeth yn drech na hi. Yma yn Denver, Colorado y byddaf i bellach. I mi, rhaid cadw at y bwriad. Gorau Cymro. Dyna’r egwyddor. Dyna oedd y plan. Y newydd trist yw fod Llinos a minnau’n gwahanu.
Cofion atoch,
Llwyd Llwyd.
Trist iawn. Feri sad.