Cof am ambell Eisteddfod wleb, oer. Aml un a dweud y gwir. Dŵr yn diferu am ein pennau yn yr hen Babell Lên neu hen Babell y Cymdeithasau. Rhynnu ar y Maes mewn pac-a-mac denau, mwd dros y fferau, tremio heibio i ymyl ambarél ar yr awyr lwyd, mewn hanner gobaith gweld rhyw lecyn glas yn rhywle.
Tebyg yw’r profiad yn aml ym myd diwylliannol Cymru heddiw. Ond dyma lecyn bach glas, yn addo atgyfodiad Y Cymro fis Mawrth. Darllen mai Lyn Ebenezer yw cadeirydd grŵp ‘Cyfeillion y Cymro’. Arwydd da.
Sonnir am bapur misol. Cam tuag at beth mwy uchelgeisiol, gobeithio, a gall weithio os bydd ynddo bethau gwahanol, a cheisio mynd dan wyneb pethau mewn modd na wna’r un cyfrwng arall heddiw.
Clywn y bydd £13,500 o gymorth gan y Cyngor Llyfrau tuag at ailgychwyn, a £18,000 wedyn hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Symiau pathetig, ond yn wir gwell peidio mynd i ddibynnu ar grantiau.
Ar beth y dibynna papur newydd heddiw? Ateb syml; ar hysbysebion. Ond sut i gael y rheini? Nid mor hawdd, fel y gwn o beth profiad. Ddeng mlynedd yn ôl cynhyrchodd ein cwmni ni, Dalen Newydd, rifynnau peilot o Tarian Môn a Tarian Arfon, gyda’r syniad o’u dosbarthu am ddim drwy’r ddwy hen sir gyda cylchrediad o tua 30,000 rhyngddynt. Byddai hwn yn gylchrediad trwchus ar lawr gwlad mewn ardal gyfyngedig. Fe dâl i’r gwerthwr ceir – felly yr oeddem yn rhesymu – hysbysebu mewn cylch o ryw ugain milltir i’w garej; ni bydd hysbysebu drwy Gymru gyfan yn werth dim iddo. Yr adeg honno yr oedd gwerth tua £40,000,000 (deugain miliwn) y flwyddyn o hysbysebion ym mhapurau Saesneg yr un ardal; ein gobaith oedd cael sleisen o hwn i geisio gwneud rhywbeth ohoni. Yr ymateb, wedi inni ymweld â thua 500 o fusnesion? Gweddol dda, ond nid digon da. Pe baem wedi mentro ymlaen, heb do uwch ein pennau y byddem heddiw. Collwyd arian go fawr ar yr arbraw, ac nid ydym wedi ei adennill eto drwy werthu llyfrau ! Rhai o’r busnesion a gyfrifid fwyaf Cymreigaidd yn gwrthod rhoi ateb. ‘Tyrd yn ôl, mae o’n brysur rŵan’, a phethau fel yna, dro ar ôl tro.
Un peth a allasai roi diogelwch fyddai llif cyson o hysbysiadau cyhoeddus gan lywodraeth leol a llywodraeth Cymru. Nid grantiau, ond y math o hysbysiadau a geir yn rheolaidd yn y papurau Saesneg. Ryw ddiwrnod efallai yr adroddaf hanes truenus ein trafodaeth â dau awdurdod sirol, ac am rôl anogoneddus Plaid neilltuol yn un o’r achosion hyn. A’r Cynulliad Cenedlaethol? Dal i ddisgwyl ateb. Dyma ni, ddeng mlynedd yn ddiweddarach; mae’r gronfa hysbysebion gryn dipyn yn llai, gyda phapurau o bob math yn teimlo’r wasgfa; minnau ddeng mlynedd yn hŷn.
Yn ôl at achos Y Cymro. Dau gwestiwn.
(1) Onid mewn grŵp papurau newydd cyfoethog y mae dyfodol cyhoeddiad fel hwn, grŵp a allai fforddio – petai’n dewis – buddsoddi ynddo’r miliynau angenrheidiol i’w godi ar ei draed? Ateb: yr oedd.
(2) Tybed a oes yna ryw Weinidog Diwylliant yn rhywle a chanddo’r weledigaeth? Jôc.
Pob llwyddiant i Gyfeillion y Cymro.
Dyma ddwy hen eitem sy’n dal yn berthnasol, mi gredaf: Gwasg mewn Gwasgfa (30 Mawrth 2017) a Diwedd Y Cymro … ? (2 Gorffennaf 2017). (A gellir darllen yr ail yn awr yn y gyfrol Meddyliau Glyn Adda.)