Archif | Ionawr, 2018

Gwerth eu darllen

27 Ion

Diolch i Marconatrix am ei ymatebion i flogiad 22 Ionawr, ac am atodi dwy ysgrif o waith Nicholas Boyle, Athro yng Nghaergrawnt. Daw un o’r Irish Times a’r llall o’r New European, a’u testun yw’r seicoleg tu ôl i Brexit. Gwerth eu darllen. Darllenwch hefyd yr ymatebion i’r ail ysgrif, – fe gewch hwyl !

Y feri peth i Feirion

23 Ion

Rhagor, fel yr oeddwn yn addo, am lyfr Caroline Lucas.

Bydd Aelodau Seneddol yn rhinwedd eu swydd yn derbyn  gwahoddiadau o bob math, ac yn un o’i phenodau mae Caroline Lucas yn disgrifio’i hymweliad â lle dieithr a chwithig, sef ffair arfau anferth yn ardal Dociau Llundain.  Pawb yn glên a chwrtais ryfeddol, a digon o beiriannau ac offer arswydus ddinistriol i’w cael i’r sawl a allai eu fforddio.  Rhag gwneud unrhyw gam â’r testun mi ddyfynnaf yn y gwreiddiol y disgrifiad o un ddyfais:

‘PIRANHA 3 with HITFIST Overhead Weapons Station, mounting a 30 mm automatic cannon co-axial 7.62 machine gun and the SPIKE anti-tank missile launcher.’

Ie, dyma rywbeth i gynhesu calonnau aelodau cabinet Gwynedd. Jest y peth i Feirionnydd.

Digon o sôn y dyddiau hyn am strach Plaid Cymru yng Nghaerdydd.  Gwaeth strach, ddywedwn i, yng Ngwynedd.  Yn y Cynulliad mae o leiaf un Aelod yn gwneud rhai o’r pethau y dylai’r Blaid fod yn eu gwneud.  Yng Ngwynedd, a oes un Pleidiwr a saif ar ei draed a galw’r cabinet a’r cyngor yn ôl o’u crwydradau anhygoel?  Nid oes diben ailadrodd yr hyn a ddywedais ar 11 Rhagfyr, 12 Rhagfyr, 16 Rhagfyr, 21 Rhagfyr, 30 Rhagfyr a 13 Ionawr, ond gadewch inni ofyn eto yn ddifrifol iawn: pam ar wyneb y ddaear fawr y mae cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd yn ymddwyn fel hyn?  Pa un ddewiswn ni y tro hwn?   (a) Damcaniaeth y llanast?   (b) Damcaniaeth y cynllwyn?  (c)   Rhyw ddamcaniaeth arall?

Mae yma lwyfan agored ar Flog Glyn Adda i unrhyw un sydd UN AI am gynnig esboniad ar y penderfyniadau diweddar NEU am eu cyfiawnhau a’m perswadio i nad ydynt yn hollol wallgo ac yn hollol groes i bopeth a ddisgwylir gan y Blaid.

 

Problem fawr y Chwith

22 Ion

Gair heddiw am un o’r llyfrau diddorol a gefais gan Siôn Corn.  Ei enw yw  Honourable Friends?  Parliament and the Fight for Change, a’i awdur yw Caroline Lucas, unig AS y Blaid Werdd yn San Steffan.

Cangen o Chwigiaeth Seisnig yw’r Blaid Werdd yng Nghymru, a gall rhai o’r Gwyrddion fod mor wrth-Gymreig â Llafurwyr unrhyw ddydd o’r wythnos.  Nid felly Caroline Lucas.  Ar banelau adeg etholiad ac ati mae hi, Leanne a Nicola i’w gweld yn deall ei gilydd yn dda ac yn unol yn erbyn y tair plaid arall; a hwnt ac yma yn y llyfr hwn fe ddengys hi agwedd ddigon cadarnhaol tuag at y ddwy Blaid Genedlaethol.  Dyma’r math o wleidydd y gellir ei dychmygu’n arwain os byth y gwireddir gweledigaeth y bardd ac yr adeiledir Caersalem ar feysydd gwyrddion Lloegr.

Fel y gellid disgwyl, y Peth Mawr Gwyrdd yw thema ganolog y llyfr, sef yr angen i ddiogelu dyfodol dyn a daear drwy ddefnydd gwahanol o ynni, ac ynghlwm wrth hynny y newid economaidd cyfochrog. Yn sgil hyn daw nifer o bethau eraill i mewn, yn codi o brofiad yr awdur fel ymgyrchydd ac fel cynrychiolydd etholedig. Mae tri pheth, yn arbennig, nad oes ganddi fawr o olwg arnynt: (1) byd arian mawr, (2) y wasg Lundeinig, (3) yr heddlu.

Ond fe sylwn ni heddiw ar fater Pennod 16, ‘The Progressives: How Those Who Want a Fairer Society Could Work Together’.  Clymblaid o ryw fath rhwng rhai sydd am weld newidiadau sylfaenol yn ein cymdeithas?  Yn sicr dyma gwestiwn sydd wedi troi ym meddyliau llawer ohonom, yng nghyd-destun Cymru a chyd-destunau eraill.  Ac mae’n gwestiwn beunyddiol fyw i AS y Blaid Werdd, unig gynrychiolydd seneddol un math o ddyhead, ond mewn Tŷ Cyffredin ac oddeutu ei hanner – mewn enw, mewn egwyddor, i fod, ar bapur – yn gweithio dros newid.

Mae un rhwystr mawr, a rhydd Caroline Lucas enw arno.  Llafur.

Dyma gyfieithu dau ddarn oddi ar dudalen 225:

‘Allwch chi ddim bod â rhan mewn gwleidyddiaeth – yn enwedig gwleidyddiaeth flaengar – heb fod â theimladau cymysg am Lafur. … O’i phlaid mae ganddi rai cyflawniadau aruthrol, nid lleiaf y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.  A hi o hyd yw’r cyfrwng i filiynau lawer o bobl – fel pleidleiswyr, fel gweithredwyr, fel gwleidyddion  – wneud yr hyn a allant i wasanaethu eu cymunedau a cheisio gwneud ein gwlad yn well lle i fyw.

‘Eto i gyd  mae yna hanes brad, methiant a phall nerfau.  Dro ar ôl tro – 1931, 1950, 1997, 2008 – bu Llafur mewn grym, ond yn cael ei llygad-dynnu gan y bancwyr a’r arianwyr, neu’n camu’n ôl yn wyneb eu bygythiadau.  Lle roedd cymunedau a dinasoedd cyfain yn rhoi eu ffydd yn Llafur, fe arweiniodd at ffafriaeth a llygredd ac at wladwriaethau un-blaid ar raddfa leol.  A phan ddaeth Margaret Thatcher a herio’r consensws democrataidd-gymdeithasol a fu oddi ar yr Ail Ryfel, fe ymatebodd Llafur Newydd drwy fabwysiadu ei holl agenda hi: cystadleuaeth, preifateiddio a thra-arglwyddiaeth grymoedd y farchnad.  Rhoddodd Tony Blair i Lafur dair buddugoliaeth drwy fradychu gwir werthoedd Llafur.’

Dyma ddyfarniad ystyriol, ac un trugarog hefyd.  Ac rwyf am ailadrodd a phwysleisio peth yr wyf wedi ei ddweud fwy nag unwaith o’r blaen ar y blog: nid peth newydd oedd ceidwadaeth Llafur Newydd.  Bu’r geidwadaeth hon ym mêr esgyrn Llafur ers can mlynedd, ac o’i herwydd hi y cafodd y Blaid Geidwadol ei ffordd ym mhob peth o bwys. Yr un, mewn egwyddor, oedd y stori hyd at 1914, pan gynrychiolid y ‘Chwith’ neu’r ‘adain flaengar’ gan Ryddfrydiaeth.  Saif ymgyrchoedd Lloyd George, 1909-10, allan fel eithriadau llachar, ond ofn yr adain Dde, mewn cyfuniad â’r diogi neu’r difaterwch traddodiadol Chwigaidd,  oedd yn rheoli ymddygiad llywodraethau Rhyddfrydol ar faterion mawr fel pleidlais i ferched ac ymreolaeth i Iwerddon, a chanlyniad yr un pethau fu dau ryfel byd.  (Gweler ‘Pwy sy am fod yn Chwig?’ yn y gyfrol Meddyliau Glyn Adda.)

Sawl tro fe wêl Caroline Lucas y gwirionedd yn ddigon clir.  Er enghraifft:

‘Tyfodd Llafur ar draul ei brawd mawr o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, y Blaid Ryddfrydol, a fagodd ac a gefnogodd ei chwaer fach, gan gynnwys tynnu’n ôl yn ffafr ymgeiswyr Llafur mewn seddau dosbarth gweithiol. Os nad yw hi’n cofio dim arall o’i dyddiau cynnar, mae Llafur wedi cofio’r wers hon; ac mae’n ddidrugaredd wrth sicrhau na chyfyd unrhyw blaid newydd ar y chwith i herio’i blaenoriaeth hi.’   Sonnir fel mae Llafurwyr yn ffieiddio’r Democratiaid Rhyddfrydol lawer mwy nag y maent yn ffieiddio’r Ceidwadwyr; ac am y cenedlaetholwyr, mae’r casineb at y rheini yn ‘chwedlonol’. Hyn yn bennaf dim, meddai’r awdur, a chwalodd unrhyw obaith o rywbeth yn lle clymblaid y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2010.  ‘Yn syml iawn, ni allai Llafur stumogi unryw sôn am ochri gyda’r SNP.’

Ac ys gwn i … ys gwn i … sut byddai hi pe codai sefyllfa gyffelyb eto?  Corbyn  – dyweder, ac ni allaf feddwl am unrhyw arweinydd Llafur arall y gallem ofyn y cwestiwn amdano – ag allwedd Rhif 10 yn ei law, dim ond dod i ryw gytundeb â’r SNP ?  Amod ddisigl yr Albanwyr  – oherwydd dyna fyddai dechrau’r gwir chwyldro yng ngwledydd Prydain – Trident i fynd.  A gytunai trwch y gwleidyddion Llafur?  Annhebygol iawn.

Dyma pam rwy’n dal i deimlo fod dyfarniad Caroline Lucas yn rhy garedig:

‘Ond Llafur o hyd yw’r cyfrwng i filiynau o bobl ym Mhrydain geisio adeiladu gwell dyfodol.  Ni ellir ei hanwybyddu, na’i throi heibiio. Yn y dyfodol rhagweladwy bydd yn rhaid i unrhyw glymblaid flaengar, unrhyw gynllun i wella’r ffordd y rheolir Prydain, unrhyw ymgais i greu cymdeithas gyfiawn lle trinir pawb yn deg gyda chyfle cyfartal mewn bywyd – bydd yn rhaid i’r pethau hyn gynnwys y Blaid Lafur.’

Mae un enghraifft fawr yn gwrthbrofi’r ddamcaniaeth hon, sef gwleidyddiaeth ddiweddar yr Alban. Popeth a enillwyd yno, fe’i henillwyd drwy ymosod yn galed ar Lafur, ei churo a’i disodli.  Do fe gafodd Llafur ambell sedd yn ôl yn etholiad y llynedd, gyda help Torïaid a Democratiaid Rhyddfrydol; ac fe ad-dalwyd y gymwynas mewn rhai seddau eraill.  Ond dyna brofi’r pwynt.  Ar y Dde y perthyn Llafur. Grym adweithiol ydyw.  Byddwn yn sôn am ‘wir werthoedd Llafur’, fel y gwna Caroline Lucas ac fel y gwnes innau ar dro. Efallai eu bob yn bod, ond pethau damcaniaethol ydynt, a phrif thema hanes Llafur yw’r modd y mae wedi gwadu’r rhain yn gyson.

Daw hyn â ni at wleidyddiaeth Cymru Fach.  Hyd yn hyn ni ddigwyddodd yma y prosesau a welwyd yn yr Alban, er iddynt fygwth dechrau digwydd dro neu ddau yn ystod yr hanner canrif diwethaf. Dylem gydnabod, mae’n debyg, fod ein cenedligrwydd ni  – os dyna ydyw  – yn wahanol yn ei hanfod i genedligrwydd yr Alban; ac fel yr wyf wedi dweud dros y blynyddoedd, dyma wir broblem wleidyddol  yr Ynys hon.  Bu Neil McEvoy yn gwneud yr hyn a wna’r SNP, a’r hyn y mae angen ei wneud, sef dyrnu Llafur yn ei chadarnleoedd.  A gwelwch beth sydd wedi digwydd.

Clymblaid ar y chwith yng Nghymru?  Mae’r syniad wedi apelio ataf lawer dros y blynyddoedd, ond y funud hon mae’r anawsterau yn ymddangos i mi yn fwy nag erioed.  Am gyfnod fe gawsom gytundeb ‘Cymru’n Un’.  Ohono fe ddeilliodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ond fe laddwyd y gobaith am bapur newydd dyddiol Cymraeg; sgôr go gyfartal.  Heddiw mae un anhawster mawr iawn nad oedd yn bod yn negawd cyntaf y ganrif.  Yr oedd yn weddol hawdd gwneud busnes â Rhodri Morgan, oherwydd nid oedd ganddo bolisïau. Mae gan Carwyn Jones un polisi.  Cael Trident i Gymru.

O leiaf tra bydd Carwyn yn arwain, na foed unrhyw sôn am ddealltwriaeth rhwng Plaid Cymru a Llafur.

Rhagor yfory.

 

Xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx

Ysgol be losgwyd hefyd … ?

13 Ion

Rhywbeth arall oedd i fod gan yr hen G.A. heddiw, ond wir mae stori ar GOLWG 360 yn mynnu blaenoriaeth !

Yr Arglwydd yn serennu yn Llanystumdwy wrth ochr pennaeth y Llu Awyr, ar achlysur dathlu canmlwyddiant sefydlu’r Awyrlu yn ystod prif weinidogaeth Lloyd George. Darllenwn y bydd gardd ynghlwm wrth Amgueddfa Ll.G. i dragwyddol goffáu’r cysylltiad. Ac yn ôl cadeirydd (P.C.) Cyngor Gwynedd mae hyn oll ‘yn bwysig i Wynedd a gogledd Cymru’.

Cwestiwn bach yn codi. Ysgol be losgwyd? Ysgol Nofio oedd hi deudwch? Ysgol Arlwyo? Ysgol Wnïo? Ysgol Glocsio? Nage … Methu cofio’r  funud yma.   A rhaid bod ein gwleidyddion lleol a Chynulliad/Arglwyddi yn methu cofio hefyd.

Ond o ddifri.  Ewch am eich copi o Hen Lyfr Bach Lloyd George, tt. 74-5, i weld sylwadau Ll.G. ei hun yn 1936.

Ac o ddifri eto. Mewn byd sydd yn hollol tu chwith allan, a allwn ni ddisgwyl yn awr i’r Blaid Geidwadol (gyda help Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon efallai) drefnu ‘Gŵyl Cofio Penyberth’? Beth amdani, Guto Bebb a’r Weinyddiaeth Amddiffyn?

Bang on !