Archif | Chwefror, 2023

Dau gwestiwn at ddydd ein nawddsant

27 Chw

Gŵyl Ddewi ddydd Mercher. Tybed pa neges obeithiol, pa oleuni ar ein cyflwr, fydd gan y siaradwyr eleni?

Dyma ddau gwestiwn i’r areithwyr, y sylwebyddion oll a’r cyfryngau hefyd, feddwl amdanynt.

  1. Yn ystod y trigain mlynedd rhwng Tynged yr Iaith a’r dydd heddiw, beth ddylem ni, beth ALLEM ni, fod wedi ei wneud yn wahanol ?
  2. Yn ôl cyfrifiadau 1991 a 2001 yr oedd arwyddion bychain fod rhywbeth yn dechrau gweithio. A hynny yng nghysgod trychineb ’79. Pa fformiwla oedd ar waith bryd hynny? Bellach yn y Gymru ddatganoledig, dyma ffigurau 2011 a 2021. A gollwyd y fformiwla yn nyfroedd y Bae? A ddylem yrru rhyw frogäwr neu sgwba-blymiwr i chwilio amdani?

Rwyf wedi codi’r cwestiwn hwn o’r blaen, 6 a 9 Rhagfyr y llynedd. Hyd yma nid oes neb ohonoch wedi cynnig ateb.

Dau ymddiswyddiad

19 Chw

Tebyg na ddylai newydd mawr yr wythnos ddiwethaf fynd heibio heb i’r hen flog ddweud rhywbeth.

Digwydd clywed ‘Any Questions’ wnes i ddoe, gyda’i groesdoriad arferol o farnau adain-dde. Tri o’r panelwyr yn hollol sicr o ddau beth: (a) fod popeth yn yr Alban wedi dirywio’n echrydus ‘under Sturgeon’ fel y byddan nhw’n hoffi dweud; a (b) y bydd ei hymadawiad yn ergyd farwol i’r SNP, yn agor drws i blaid arall, ac yn waredigaeth i ‘our country’, ‘this Union’, ‘this Britain of ours’ &c &c. Neb o’r tri, mae’n amlwg, yn ymwybodol o’r gwrthddywediad! Chware teg i Mary Beard, fe gywirodd hi un arall o’r panelwyr yn syth pan honnodd hwnnw na allwch chi ddim cael swydd mewn prifysgol yn yr Alban bellach heb fod yn gefnogwr yr SNP! Ffantasïau’r Prydeinwyr, yr ydym mor gyfarwydd â hwy yng Nghymru yr un modd!

Gan fynd heibio i gwestiynau llawer pwysicach, dyma gyfeirio’n unig at ddau ymateb ar y cyfryngau pan ddigwyddodd y peth.

Yn gyntaf, digrif oedd gweld yr hen Robert Peston wedi ei lusgo i Gaeredin i ddehongli’r sefyllfa, yn dawnsio yn ei unfan yn yr oerni a dweud dim llawer o ddim byd.

Yn ail, Newyddion S4C yn cael Carwyn Jones i adrodd ei brofiad ei hun o ymddiswyddo’n wirfoddol a heb fod dan bwysau. Triwch gofio. A oedd hwnnw’n benderfyniad a gipiodd y penawdau oll a pheri dadlau a dadansoddi am ddiwrnodiau wedyn? Dyna’r gwahaniaeth yntê, gwleidyddiaeth yr Alban heddiw’n dal i yrru arswyd ar y Sefydliad Prydeinig; am Gymru a’i gwleidyddion, neb yn malio dim, oherwydd does dim i falio yn ei gylch.

A’r cyferbyniad llachar wedyn. Yr oedd Nicola yna – ac fe fydd eto – i newid pethau. Yn ganolog yn y newid hwnnw yr oedd – ac y mae, ac fe fydd – cael gwared â Trident. Cofiwn ninnau sylw Carwyn ar y pwnc hwnnw yn yr unig beth o unrhyw bwys a ddywedodd erioed. ‘Mwy na chroeso.’ Creu gwell byd: cadw pethau fel y maent, neu hyd yn oed yn fwy fel y maent – dyna’r cyferbyniad. A chanolog yn y ‘pethau fel y maent’: mawredd a rhwysg Lloegr.

‘Methiant’ medd y cyfryngau, â gorfoledd bron yn unllais. ‘The Dream in tatters’, meddai’r Daily Mail. Nid yw polau heddiw’n awgrymu hynny o gwbl. A phan ddaw haneswyr i gloriannu’r degawd diwethaf yn hanes yr Alban bydd yn anodd iddynt anwybyddu’r brif ffaith a’r brif gamp aruthrol a gyflawnwyd, sef clirio’r Llaw Farw, Llafur, allan.

§

Am y peth trist, a thrist iawn, y rhwyg rhwng rhwng Salmond a Sturgeon, beth oedd ei wir achos, a beth oedd gwir darddiad y cynllwyn yn erbyn Salmond, yr ydym yn dal yn y niwl. Tybed a gawn oleuni byth?

§

A nodyn bach gwleidyddol o’r cwr arall. Dyfarniad Starmer na chaiff Corbyn sefyll eto dan enw Llafur, a chyda hynny ailadrodd yr hen anwiredd am ‘wrth-Iddewaeth’. A ydyw Corbvn wedi meddwl o ddifrif am sefyll yn Islington dan faner arall? Neu hyd yn oed am ymddiswyddo a chael isetholiad er mwyn gwneud hynny? Clec i Syr Anysbrydoledig? Oes rhywun wedi awgrymu hyn?

Y gwir argyfwng

17 Chw

Yfory ym Machynlleth fe fydd cynhadledd genedlaethol ar fater ‘Yr Argyfwng Tai’. Ni allaf fynd yno i ddweud wrth y cynadleddwyr y peth amlwg. Ys gwn-i a fydd rhywun yno’n ei ddweud?

Y peth amlwg hwnnw? Gormod o dai sydd yng Nghymru, a dim digon o Gymry i’w meddiannu.

Un ateb bach bach, fel yr wyf wedi dweud o’r blaen, yw i Gymro feddu mwy nag un tŷ. Ateb bach bach, dywedaf eto. Ond beth mae Cyngor Gwynedd (P.C.) yn ei wneud? Cosbi’r Cymro sy’n rhoi’r help bach bach hwn. Dyma ichi blaid wedi colli ei chyfeiriad yn llwyr, a gwleidyddiaeth hollol tu-chwith.

Os yw’r gynhadledd i gyflawni unrhyw beth o werth, cynigied rhywun, a chefnoged y cynadleddwyr: ‘bod argymell i Gynghorau Sir Cymru ailystyried y mater hwn a phenderfynu eithrio rhag talu’r premiwm y brodor sy’n dal ail eiddo yn ei ardal.’

Duder

14 Chw

Rhowch glust y Cymry llengar –
Ac nid yw hyn yn jôc –
Wrth ddwedyd am y lliwiau
Wel cofiwch ddweud yn wôc.

            ’Nen’ duwch, na ddwedwch ‘düwch’
                  Yw’r neges nawr i ni:
            Ylwch, dywedwch ‘duder’,
                  Mae hynny’n fwy pi-si.

            O, gwyliwch rhag dweud ‘düwch’,
                  Rhag ofn i chi gael clec:
            Heb bryder, deudwch ‘duder’,
                  Cans dyna sy’n pi-ec.

            Mae hefyd glamp o broblem
                  Â’r hen derfyniad ‘-on’,
            Ac mewn rhai cyd-destunau
                  Nid ydyw yn reit-on.

            A chwi gogyddion Cymru,
                  Rhowch sylw dwys i hyn
            Wrth wneuthur teisen fwyar du
                  Yng Ngwlad y Menyg Gwyn.

            Wel dowch, anghofiwch ‘düwch’ – 
                  Mae deddf yn awr a bair,
            Mewn gwlad wleidyddol-gywir,
                  Mai ‘duder’ ydyw’r gair.

            A  dowch a deudwch ‘duder’,
                  Cyhoeddwch ar bob tu,
            Â hyder, ‘duder’ deudwch
                  Drwy drwch y düwch du.

CEFNDIR Y GERDD

Mae ‘Grŵp Gorchwyl a Gorffen’ dan Lywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau ‘Terminoleg ym Maes Hil ac Ethnigrwydd’, ac mae’r Cyngor Llyfrau’n eu cylchredeg i olygyddion a chyhoeddwyr. Mae ‘duder’ yn hen air gydag enghreifftiau ohono yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, ond hyd y gwelaf mae’n golygu yn union yr un peth â ‘düwch’. Cyfarwyddir ni hefyd: “PEIDIWCH â defnyddio ffurfiau lluosog ar ansoddeiriau ‘du’ a ‘gwyn’ wrth gyfeirio at bobl (h.y. ‘pobl Ddu’ nid ‘pobl Dduon’, a ‘pobl wyn’ nid ‘pobl wynion’).” Mae hyn yn gywir i’r graddau mai enw benywaidd unigol yw ‘pobl’, eto’n gallu cymryd ambell ansoddair lluosog ar ei ôl. Ond ni chredaf mai ar dir gramadegol y gwnaed y rheol newydd hon inni.

xxxxxxxxxxx

Cymysgiaith

6 Chw

‘Cymysgiaith rhwng chwerthin a chrio.’ Pa well nag ymadrodd Parry-Williams i gyfleu ymateb unrhyw un call wrth edrych ar safle Hysbysfwrdd Swyddi Cymru? Oes, mae llu o gyfleon i unigolyn brwdfrydig a chanddo sgiliau rhyngbersonol ardderchog ac awydd i weithio mewn tîm; sgiliau TG rhagorol a phrofiad o uwchreoli hefyd yn help.

Mewn rhai achosion mae rhywun yn amau a yw maint y cyflog yn ddigonol, o ystyried aruthredd y dasg. ‘Swyddog Datblygu a Hyrwyddo’r Gymraeg’ ym Mhrifysgol Bangor’: a all £35-42 mil fyth fod yn gydnabyddiaeth deilwng am y fath ymgymeriad Hercwleaidd? A dyma’r Party of Wales yn chwilio am Brif Weithredwr. Dim ond £64 mil am gyflawni’r amhosibl? Pres mwnci!

‘Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth Dros Dro’ yw angen mawr Cyngor Gwynedd y dyddiau hyn. Ninnau wedi meddwl mai gwaith beunyddiol y cynghorwyr oll a’r swyddogion yw hyrwyddo a gweithredu democratiaeth, a hynny nid dros dro ond dros byth. £29 mil yw’r uchafswm cyflog. Ond wir, yn yr argyfwng presennol, oni allai hwnnw fynd tuag at helpu’r digartref?

Dywed rŵan dy fod di’n cynnig am swydd ‘Rheolwr Adnoddau ac Ansawdd Dysgu ac Addysgu’ ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant, ac yn methu â’i chael. Cwyd dy galon, mae S4C yn chwilio am ‘Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol’. Ac os nad honno, beth am swydd ‘Cydlynydd Datblygu Sgiliau Academaidd’ ym Mhrifysgol Aberystwyth? (Yn yr hen ddyddiau anoleuedig wrth gwrs, Athrawon, Darlithwyr a Thiwtoriaid fyddai’n gwneud rhyw bethau felly; nid yn gwbl lwyddiannus bob amser mae’n wir, ond eto mae’n syndod iddynt lwyddo cyhyd a chystal heb yr un Cydlynydd ar gyfyl y lle.)

Ond o ddifri …

Cydlynydd eto, sef … daliwch eich gwynt … ‘Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth’ yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. O ddifri, go iawn rŵan a dim lol, os oes gennych chi hyd at £34 mil y flwyddyn i’w sbario, er mwyn y nefoedd penodwch UN darlithydd arall trwy’r Gymraeg yn RHYWLE mewn UNRHYW BWNC, nid lluchio’ch pres i ffwrdd ar ryw rwtshi-ratsh a rhyw rwdl-mi-ri fel hyn! Pwy sy’n dyfeisio’r pethau yma?

A sôn am y colegau, a’r ‘prifysgolion’ fel y maent bellach yn hoffi eu galw’u hunain, allwn ni ddim peidio â sylwi mai yn anaml iawn y gwelir y rhain yn cynnig swyddi go iawn ar yr Hysbysfwrdd nac ar dudalennau unrhyw gyhoeddiad Cymraeg. Ambell i beth bach ynglŷn â’r Gymraeg, cyfieithu, a rhyw fymryn o gydlynu weithiau. Beth am yr holl swyddi darlithio yn yr holl amrywiaeth o bynciau? Ffair gyflogi hollol wahanol. (A beth yw’r stori sy’n mynd o gwmpas y dyddiau hyn, am benodi tîm o naw o bobl newydd yn sgil yr Is-Ganghellor newydd i roi trefn unwaith ac am byth ar yr hen Goleg ar y Bryn? Gwir? Welwyd mo’r un o’r naw swydd ar yr Hysbysfwrdd, mae hynna’n sicr.)

Yn olaf, yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n ymddangos fod ganddi nid llawer llai na chwarter miliwn y flwyddyn i’w fuddsoddi mewn chwech o benodiadau newydd. ‘Rheolwr Technegol’, £44 mil: iawn, dyna rywbeth pendant. Ond pa rai yw’r pethau hyn y gall ‘Cydlynydd Corfforaethol’, ‘Cydlynydd Artistig’, ‘Rheolwr Masnachol’, ‘Rheolwr Cystadlu’ a ‘Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu’ eu gwneud, amgen nag a wnaed dros y blynyddoedd gan y Prif Weithredwr, Trefnyddion y De a’r Gogledd, y Cyngor a’r Pwyllgorau Lleol a’u swyddogion hwythau?

Ac un awgrym bach i’r Brifwyl. Os oes rhyw dipyn ar ôl yn yr hosan, beth am ryw £50 mil tuag at ‘Swyddog Gofalu Printio Digon o’r Cyfansoddiadau’?