Archif | Mehefin, 2017

Cau Pen y Mwdwl ?

29 Meh

Mae’n ymddangos ein bod yn cau pen y mwdwl ar fater mawr addysg y Bala, gyda chabinet Gwynedd wedi cytuno’n unfrydol nad yw’n dymuno i’r ysgol newydd 3-19 oed fod yn ysgol eglwysig wedi’r cyfan.

Adroddir y bydd cyhoeddiad pellach ym Medi, ac mae pethau i’w setlo ynglŷn ag Ysgol Beuno Sant, yr ‘ysgol eglwys’ sydd yn y dref ers cenedlaethau. Yn sicr fe ddylai Gwynedd ddod i gytundeb anrhydeddus ag Esgobaeth Llanelwy ynglŷn ag adeilad a thir yr ysgol honno; neu ynteu fe ddylai’r ysgol barhau ar agor fel ysgol breifat enwadol os oes dymuniad yn y cylch am addysg eglwysig.

Fel arall, gwynt teg ar ôl Esgobaeth Llanelwy a’i hymyrraeth haerllug. Cymerodd ddwy flynedd o drafod, dadlau, deisebu ac ymresymu i gyrraedd y man hwn, a gobeithio fod rhieni’r dalgylch a phobl Penllyn yn gyffredinol yn gwerthfawrogi gwaith yr ymgyrchwyr a fynnodd ddod â’r mater i’r pen.

Dylai penderfyniad yr wythnos hon fod wedi ei gymryd gan y cabinet ddwy flynedd yn ôl, pan gafodd rhyw swyddogion y syniad yn eu pennau y byddai’r ‘statws eglwysig’ yn beth da. Yr oedd yn gwbl amlwg o’r dechrau mai rhan o fargen salw ydoedd, i hyrwyddo cau un neu ragor o ysgolion cynradd eglwysig mewn rhan arall o’r sir.

Gobeithio’n wir y bydd traddodiad eglwysig Meirion yn rhan o’r hanes a ddysgir yn yr ysgol newydd. Ni ddylai’r un disgybl ymadael heb wybod am Edmwnd Prys, Rolant Fychan, Ellis Wynne ac eraill, ac arwyddocâd eu gwaith. Ond gwybod am y pethau hyn o fewn cyd-destun eang sydd yn cynnwys amrywiaeth o draddodiadau eraill, – sef yr union fath o ddealltwriaeth nad ymddengys ei bod gan y swyddogion, y cynghorwyr ac aelodau’r cabinet pan wnaethant eu penderfyniad gwirion a di-alw-amdano gwreiddiol.

Mae dyn yn dal i arswydo fod addysg y sir yng ngofal y fath dwpsod. Gwarthus o saga fu hon, ac ni ddylai fod wedi digwydd o gwbl.

Dim refferendwm

27 Meh

Dyma lywodraeth yr Alban yn cyhoeddi na bydd gyrru ymlaen am refferendwm yn y dyfodol agos. Gweld beth a ddaw o’r Brexit i ddechrau, ac ati …

Daliaf innau at fy nghred na bydd Brexit o gwbl, ond ’tae waeth am hynny heddiw.

Bydd y pleidiau Prydeinig yn croesawu’r cyhoeddiad fel buddugoliaeth fawr iddyn nhw. Mae hynny’n naturiol. Ond gadewch inni ofyn eto, pam yr oedden nhw gymaint yn erbyn? Ofn colli wrth gwrs. Bydd hyn yn rhyddhad mawr i’r unoliaethwyr, ond fe’i darlunnir fel cam yn ôl ar ran yr SNP, ac fel arwydd o wendid. Hynny’n naturiol hefyd.

Ond, i fod yn gyson â dadl y blog hwn droeon o’r blaen, dywedaf eto mai gwell peidio bod yn gaeth i’r syniad o refferendwm. Anaml y mae’n offeryn da mewn gwleidyddiaeth. ‘Mae wythnos yn amser hir …’. Mae pedair blynedd eto tan etholiad Senedd yr Alban. Fe all etholiad San Steffan ddod yn fuan … ond fe all beidio. Does wybod beth a ddaw.

O’r gorau, taweled y sôn am refferendwm. Bwried yr SNP ymlaen ag atgyfnerthu ei safle, a chynyddu ei mwyafrifoedd eto os yn bosibl. Os daw’r awr a’r cyfle, datganed ei bwriad i gyhoeddi annibyniaeth yr Alban, a gadawed i’r OCHR ARALL weiddi am refferendwm.

 

Disgyblaeth plaid

17 Meh

Darllen y bore ’ma (Newyddion BBC Cymru) fod pwyllgor gwaith Plaid Cymru yn gwahardd i gynghorwyr y Blaid yng Nghonwy fynd i glymblaid â’r Ceidwadwyr.
Nid wyf am ddadlau dim ynghylch yr achos arbennig hwn.  Ond ar fater o egwyddor gyffredinol, dywedaf:

Ar rai materion polisi mae’n gwbl briodol, cwbl angenrheidiol yn wir, i blaid wleidyddol roi cyfarwyddyd clir i’w haelodau etholedig ar bob gwastad o lywodraeth. Onid e, nid plaid wleidyddol yw hi.  Yn sicr bydd pethau mân a lleol na ellir magu llawer o farn wleidyddol yn eu cylch, ac y gellir yn ddiogel eu gadael i’r bobl yn y fan a’r lle.  Ond ar faterion ehangach a mwy sylfaenol, mae’n rhaid i blaid arfer disgyblaeth, a dylid gwneud hynny yng ngoleuni (a) polisi cyfredol cynhadledd y blaid, a (b) holl bwrpas a diben y blaid yn ôl ei thraddodiad a’i chyfansoddiad.

A chymryd enghreifftiau diweddar, o leiaf cyn bwysiced â’r cwestiwn presennol yn Sir Conwy, mae’r rhain:

1.   Addysg ym Mhenllyn. Adroddir heddiw fod ‘amheuon’ ynghylch ‘statws eglwysig’ y campws newydd sy’n cael ei adeiladu yn y Bala, a’r tebygrwydd cryf bellach y bydd Esgobaeth Llanelwy yn torri ei chysylltiad â’r datblygiad.  Ni ddylai’r posibilrwydd fod wedi codi erioed, ond mae’n gwbl hysbys iddo godi ddwy flynedd yn ôl mewn bargen salw rhwng Cyngor Gwynedd a’r Esgobaeth.  Câi’r cyngor rwydd hynt i gau ysgolion cynradd yn ardal Dolgellau, ar yr amod bod yr eglwys yn cael rheolaeth ar holl addysg 3-18 oed ardal y Bala.  Cynghorwyr Plaid Cymru a gytunodd â’r gwallgofrwydd hwn gan geisio’n llesg hel esgusion drosto.  Dylai’r Blaid yn ganolog fod wedi eu cyfarwyddo’n syth, peidiwch â beiddio meddwl am ailgyflwyno addysg enwadol orfodol mewn unrhyw ysgol nac unrhyw ddalgylch yn y sir nac yn unman yng Nghymru.  Amlwg nad oedd gan y cynghorwyr hyn i’w harwain unrhyw wybodaeth o hanes nac o grefydd, nac unrhyw amgyffrediad o hawliau sifil. Yr unig beth a allasai eu cadw ar y llwybr cywir fuasai rhybudd gan eu plaid, ‘gwnewch chi hyn ac fe gollwch eich tocyn’.

2.   Yr Wylfa.  Dim mwy o atomfeydd yng Nghymru, dyna bolisi Plaid Cymru drwy ei chynhadledd. Gan nad oes ganddynt, mae’n amlwg, ddigon o synnwyr i weld y peryglon drostynt eu hunain, dylasai ymgeiswyr y Blaid ar bob lefel dderbyn cyfarwyddyd clir i wrthod unrhyw ddyfodol niwclear.

3.    Iaith a Chynllunio.  Rhan o’r un peth yw hyn.  I wneud pethau’n haws i gwmni Horizon, dyma gynghorau Môn a Gwynedd, drwy eu pwyllgor ar y cyd, yn cydsynio’n iach i newid eu polisi mewn modd a fyddai’n ergyd at galon Cymry’r ddwy sir.  Dylasai Plaid Cymru yn ganolog ddweud wrth ei chynghorwyr – a gobeithio nad yw’n rhy hwyr iddi ei ddweud eto – ‘gwnewch chi hyn ar boen eich bywyd’.  Onid yw’r Blaid yn gallu gweld – ar wahân i bopeth arall – mai cam tuag at ei difodiant ei hun sydd yma ?

Dyna dair enghraifft, digon am y tro.

Tipyn o fwmian wedi’r etholiad, ‘rhaid i Leanne fynd’. O’r pellter hwn, a siarad fel pleidleisiwr achlysurol i Blaid Cymru ac un sy’n anobeithio llawer yn ei chylch, mentraf farn.  Nid oes gan y Blaid ar hyn o bryd unrhyw wleidydd arall a ddaw o fewn can milltir i Leanne, ac nid ei bai hi yw dim o’r canlyniadau gwael a gafwyd.

Yr hyn sydd eisiau i Leanne ei wneud yw RHOI EI THROED I LAWR

Meddyliau am yr Alban

11 Meh

Dylai’r hen G.A. – fel eraill mae’n siŵr – ei binsio’i hun yn amlach a’i atgoffa’i hun: (a) mai anaml iawn mewn gwleidyddiaeth y digwydd yr hyn a ddylai ddigwydd, a (b) nad yw’r hyn sydd i fod i weithio byth, bron, yn gweithio.

Pethau fel hyn:

(a) Byddid wedi disgwyl – ac roeddwn yn dal i ddisgwyl tan noson yr etholiad – y byddai’r gwahaniaeth clir ar fater Brexit rhwng yr Alban ar y naill law a Lloegr-a-Chymru ar y llaw arall yn atgyfnerthu’r SNP. Ni wnaeth.

(b) Mae’r blogiau gwleidyddol Albanaidd yn fywiog a sylweddol i fesur na wyddom ni ddim amdano yng Nghymru dlawd. Caiff Craig Murray weithiau UGAIN MIL o ddarllenwyr mewn awr, ac fel Wings Over Scotland, Wee Ginger Dug, Munguin’s New Republic, Scot Goes Pop ac eraill caiff gannoedd o ymatebion o fewn munudau. (Cymharer, er enghraifft, Blog Glyn Adda: rhyw ddau ddwsin o ddarllenwyr y dydd, ar gyfartaledd; hyd at bedwar ugain ar ddiwrnod da; ymatebion – bron ddim.) Mae’n gred gyffredin bellach fod y ‘cyfryngau cymdeithasol’ yn gwrthweithio dylanwad y wasg brint a’r cyfryngau cyhoeddus, a bod hyn wedi helpu Corbyn. Ond yn yr Alban mae’n ymddangos mai’r hen gyfryngau a aeth â hi y tro hwn eto.

(c) Cafodd yr SNP ei llwyddiant ysgubol ddwy flynedd yn ôl drwy iddi gadw’r 45% o bleidleiswyr IE yn yr refferendwm, a’r 55% arall yn cael ei wasgaru rhwng pedair plaid. Cyn y digwyddiad ni byddwn byth yn coelio y byddai pleidleisio tactegol yn gallu gweithio ar y fath raddfa fel bod un blaid unoliaethol yn medi’r cynhaeaf mewn 22 o etholaethau. Ond fe ddigwyddodd.

§

Rhai rhyfedd yw’r Albanwyr, a dweud y lleiaf. Yn un peth, maent yn ofnadwy am bendilio, mynd o un eithaf i’r llall. Daw atgof chwith o hyd am etholiad alaethus 1979, ‘Etholiad Keith Best’ i ni yng Nghymru. Aeth yr SNP i mewn i’r etholiad hwnnw ag un sedd ar ddeg, a enillasai yn nyddiau lled addawol 1974; daeth allan gydag un neu ddwy. Marweidd-dra parhaol yw cyflwr gwleidyddol y Cymry ers canrif; ond mae’r Sgotiaid yn waeth na ni am jibio wrth y clwydi, camu’n ôl mewn modd syfrdanol, methu gôl agored.

Ar wyliau yn yr Alban rai blynyddoedd yn ôl troesom fel teulu i mewn i Gampau’r Ucheldir yn Fort William. ‘Steddfod y Llabwst’ meddwn i wrthyf fy hun. Y Cymry’n ddiniwed, a’r Albanwyr yn arw. Bu’r Alban yn wladwriaeth – peth na bu Cymru o gwbl – am wyth i naw canrif; bu’r gwobrau yno gymaint uwch, a’r gwrthdaro’n fwy gwaedlyd. Ymdreiglo’n feunyddiol mewn teimlad o israddoldeb a wna’r Cymry, ond mynegir niwrosis yr Alban mewn hyrddiau o hunan-niweidio ciaidd, ac yn ystod yr hyrddiau hynny fe ddisgyn dialedd ar y cymwynaswyr pennaf.

Ie, seicoleg. Llawn cyn bwysiced â gwleidyddiaeth, pwysicach efallai. Oherwydd ystyriwch. Do fe chwaraeodd pleidleisio tactegol ran fawr, a heddiw rhydd Wings Over Scotland ddadansoddiad golau o’r effaith. Ond wedi inni sylwi fel y mae un blaid unoliaethol yn elwa wrth i ddwy arall ei chefnogi, sut yr ydym yn esbonio’r cwymp yng nghanrannau’r Blaid Genedlaethol ? Rwy’n credu imi ddweud hyn o’r blaen mewn blog, ac fe’i dywedaf eto. Ym mhob etholiad a phob etholaeth, mae carfan arwyddocaol a gweddol fawr o bobl sydd (a) yn gwybod yn reddfol yn y dyddiau olaf, efallai’r dydd olaf un, pwy sy’n mynd i ennill (bawd ei throed sy’n dweud wrthi, nid unrhyw ddealltwriaeth o wleidyddiaeth); ac sydd (b) dan reidrwydd seicolegol i fotio dros yr enillydd (fel y gwelsom, er enghraifft mewn dyddiau fu yn Arfon, bobl hollol wrth-Gymreig yn GORFOD fotio i Blaid Cymru); neu’n fwy manwl eto efallai, rheidrwydd seicolegol i beidio bod ar yr ochr sy’n colli. Damcanaf fod hyn wedi gweithio ar raddfa fawr yn yr Alban ddydd Iau.

Yr SNP yw plaid gryfaf yr Alban o hyd, gyda mwy o seddau na’r pleidiau eraill gyda’i gilydd, a mwy na dwywaith yr hyn sydd gan yr un blaid arall. Mewn amgylchiadau gwahanol fe gyfrifid hyn yn fuddugoliaeth fawr. Ond yn dilyn llwyddiant 2015 ymddengys yn drychineb, ac mae hithau’n cydnabod hynny.

Dyfalai un o’r blogiau (ni chofiaf pa un) mai gwir gymhelliad Theresa yn ei phenderfyniad sydyn i alw etholiad oedd gwanhau’r cenedlaetholwyr Albanaidd, yr unig wir wrthblaid ar lawr Tŷ’r Cyffredin. Fe daniodd ddau faril. Do, ag un ohonynt fe anafodd yr SNP yn ddrwg. Ac â’r llall fe’i saethodd ei hun yn ei throed.

§

Rhywbeth i godi calon? Yn ei flogiad heddiw mae Jac o’ the North yn ein cyfeirio at araith Alex Salmond wrth ildio’r sedd, a’i ddyfyniad o’r hen gân dda, ‘Bonnie Dundee’:

And tremble false Whigs, in the midst of your glee,
Ye have nae seen the last o’ my bonnets and me !

Ie, ‘false Whigs’, disgrifiad nid o Corbyn yn sicr, ond o Lafur yr Alban, Llafur Cymru a hynny sydd ar ôl o’r Democratiaid Celwyddog, Dan-din Rhyddfrydol. Gallwch ddilyn dolen Jac i glywed geiriau Alex. A dyma’r gân, gan grŵp anfarwol The Corries.

Gwell dweud rhywbeth …

9 Meh

Gwell dweud rhywbeth, mae’n debyg.

Do, fe aeth yr hen G.A. ac ufuddhau i’r anogaeth gwbl ddisynnwyr a diystyr, ‘Pleidleisiwch Plaid’.

1. Wn i ddim am Ben Lake, ond go dda fo! Dyma ddechrau atgyweirio ar ôl llanast tri etholiad yn ôl pan anghofiwyd cofrestru nifer o fyfyrwyr a fyddai, mae’n debyg, wedi troi’r fantol i Blaid Cymru. Hynny a roddodd ei gyfle i Mark Williams gan roi i Geredigion dri thymor o gastiau mul y Democratiaid Rhyddfrydol.

A yw P.C. y tro hwn am gydnabod y ffactor a roddodd fuddugoliaeth iddi? Yr oedd arholiadau’r colegau ar ben a’r rhan fwyaf o fyfyrwyr Aberystwyth a Llanbed wedi mynd adre. Os bydd rhaid cael etholiad arall yn fuan, a fydd rhagluniaeth mor garedig unwaith eto â’i roi yn ystod gwyliau’r colegau?

2. Mae hynny’n fwyfwy perthnasol i Arfon. Petai Prifysgol Bangor ar agor ddoe, y Llafurwraig Mary Gwen fyddai’n ein cynrychioli y bore ’ma. (A siawns na fuasai hynny wedi plesio Canghellor y Brifysgol, cefnogwr Llafur yng Nghaerdydd.) Rhwng mewnlifiad, myfyrwyr a Bangor Lads, dyma bellach sedd sigledig i’r eithaf; a rhwng cau ysgolion, polisi gwagio biniau ac ambell beth arall, fe weithiodd cynghorwyr P.C. Gwynedd yn galed ar golli pleidlesiau yn yr ardaloedd gwledig a fu’n gefn iddi dros bedwar degawd. A beth am godi stad neu ddwy o dai ar gwr Bangor eto, i sicrhau’r sedd at y dyfodol i un o’r pleidiau Prydeinig?

(A chyda llaw, beth ar wyneb y ddaear fawr oedd diben ‘darllediad gwleidyddol’ Hywel o gwad y coleg ychydig yn ôl? A enillodd gymaint ag un bleidlais?)

3. Mae’r Blaid ym Môn yn dal i dalu pris uchel am y cecru ynghylch dewis ymgeisydd yn etholiad 2000. Yma fel yng Ngheredigion, ei ffolineb ei hun fu dechrau’r dirywiad. Ac i’w gwneud hi’n saff dros byth i Dori neu Lafur, gofalwn gael Wylfa B ac wyth mil yn rhagor o fewnfudwyr. Cofiwch chi rŵan, gynghorwyr P.C. Môn.

4. Trown i’r Alban. Pleidleisio tactegol, mae’n bur debyg, ac aml nod a winc rhwng y Prydeinwyr. Ond hefyd, mae’n rhaid derbyn, gogwydd oddi wrth yr SNP. Am ba reswm, rwy’n methu’n iawn â dirnad. Neu a’i roi fel arall, pam y gogwydd anferth o’i phlaid yr yr etholiad o’r blaen? Colled alaethus ar ôl Alex Salmond ac Angus Robertson. Ond go brin ein bod wedi wedi clywed yr olaf ganddynt. Nid er mwyn ‘gyrfa’ y mae hogiau fel y rhain yn y busnes.

Clywsom ddweud yn aml fod y ‘cyfryngau cymdeithasol’ bellach yn gwrthweithio dylanwad y wasg brint Dorïaidd a hefyd ddylanwad y BBC. Nid ymddengys fod hynny wedi gweithio yn yr Alban y tro hwn.

5. Eraill o ymadroddion y dydd yw ‘pleidlais yr ifanc’, a ‘gwrthryfel yr ifanc’. Credir, ac efallai yn gywir, fod hynny wedi gweithio o blaid Llafur, yn yr Alban a mannau eraill. Caf yr argraff – dim ond argraff, heb unrhyw ystadegau i’w chefnogi – mai ceidwadol, confensiynol a ‘gwleidyddol gywir’ yw meddylfryd y genhedlaeth hon gan mwyaf, ac anodd gennyf feddwl mai radicaliaeth Corbyn, fel y cyfryw, a ddenodd ei chefnogaeth. Sonnir am ‘gynddaredd yr ifanc’ yn erbyn Brexit. ac yn y bleidlais Brexit yr oedd elfen gref – elfen lywodraethol mae’n debyg, ac elfen ddigon sinistr – o radicaliaeth adain dde. Y status quo oedd – neu yw – yr Undeb Ewropeaidd,

6. Senedd grog? Beth petai Corbyn yn chwilio am ryw ffurf ar gefnogaeth gan y pleidiau llai ? Amod ddiwyro gan y ddwy blaid genedlaethol: RHAID I TRIDENT FYND. Dyma fyddai dial yr SNP ar ‘Ruthless’, fel y maent yn ei galw. Byddai trwch yr ASau Llafur yn gynddeiriog. A byddai Carwyn yn siomedig. Ond dyma fyddai’r prawf.

 

Anfarwol !

2 Meh

Go brin y dywed yr hen G.A. ddim byd eto rhwng hyn a’r etholiad.  Ond dyma rywbeth bach i’ch diddanu.  Daw o MUNGUIN’S NEW REPUBLIC.

adont-panic