Hysbysebu bron bob dydd y dyddiau hyn. Dan yr enw ‘Corddi’ mae’r ail stori yn yr hen gyfrol hon yn rhoi darlun ichi o’r wasg leol Saesneg yng Nghymru fel llwyfan i farnau adweithiol a gwrth-Gymreig.
Ddiwedd yr wythnos daeth inni beth o’r newyddion gorau ers tro byd, sef bod rhai o’r papurau wythnosol Saesneg mewn dyfroedd dyfnion iawn. Dyma’n wir ateg i beth a grybwyllais yn fyr yn fy narlith fach ddiweddar ar y wasg. Meddyliwch, y Caernarfon & Denbigh Herald, yn ôl yr adroddiad, â ‘llai na 3% o’i werthiant 25 mlynedd yn ôl.’ Papur yn gwerthu 16,000 bob wythnos yn y 1990au, heddiw 429. Ei gydymaith yr Holyhead & Anglesey Mail – 347. Y North Wales Weekly News – 726.
Bron nad yw’r cwymp yn herio coel. Beth sy’n ei esbonio? Yn y 1960-70 yr oedd y sylwedydd diwylliannol Marshall McLuhan (fawr o sôn amdano y dyddiau hyn) yn gweld cymdeithas ledled y byd yn mynd yn llai llythrennog, yn llai dibynnol ar y gair print, yn dilyn dyfodiad radio a theledu. Pan oedd ef yn sgrifennu doedd dim arlliw o’r We nac o ‘gyfryngau cymdeithasol’. Daeth chwyldro ar ben y chwyldro yr oedd McLuhan yn galw sylw ato mor daer.
Ac mae canlyniadau amlwg. Y masnachwyr a’r darparwyr gwasanaethau, a chyrff cyhoeddus hefyd, â’u gwefannau eu hunain i hysbysu a hysbysebu. Yn hen ffasiwn, petawn i’n meddwl prynu tŷ neu gar, byddai’n llawn cystal gen i gael y manylion ar ddarn o bapur o’m blaen, ond amlwg nad oes cymaint o bobl yn meddwl felly mwyach. Mae rhyw newid wedi digwydd yn yr ymennydd, trwch y poblogaethau yn llai llythrennog. Yn gyfochrog â hyn, costau argraffu, fel y dywed adroddiad S4C, wedi codi’n aruthrol, ‘60% mewn blwyddyn’. Hefyd, yn achos y math o bapurau a enwyd uchod, dirywiad yn y cynnwys, colli’r trwch o wir hanesion lleol – pawb oedd yn y cynhebrwng, beth yn union oedd eu perthynas â’r ymadawedig … Dyma un o ganlyniadau newid perchnogaeth sawl gwaith drosodd yn ystod y chwarter canrif diwethaf, a’r perchenogion newydd heb unrhyw berthynas â’r ardaloedd.
Dyfynnir Liz Saville-Roberts A.S. yn gofidio am y newid ac yn galw ar gwmni mawr Reach, perchennog y papurau, i ‘ymddwyn yn gyfrifol’. ‘Rhaid brwydro i gadw ein papurau lleol yn fyw, neu bydd gwagle enfawr yn ein cymunedau.’ Pa fath o ‘bapurau lleol’, dyna’r cwestiwn. Gwynt teg ar ôl rhai mathau. Ac onid ardderchog o sefyllfa yw hi lle mae ein hamrywiol bapurau bro drwy’r Wynedd bresennol a Môn yn gwerthu llawer, llawer mwy na’r hen bapurau Saesneg, Prydeinllyd, plwyfol mewn ystyr wael? Achos dathlu yn wir, ond ysgogiad hefyd i geisio meddwl sut y gellir cadarnhau’r sefyllfa ac adeiladu arni. (Ond chwi Gymry’r brifddinas, siapwch wir, cefnogwch eich papur bro Y Dinesydd.)
Tair agwedd:
(1) Yn y ddarlith mi godais, yn betrus, y cwestiwn a oes modd i’r papurau bro ehangu eu cylchrediad, eu darpariaeth a thrwy hynny eu dylanwad. Petrus, oherwydd ofn amharu mewn unrhyw fodd ar yr egwyddor wirfoddol sydd wedi eu cynnal mor dda dros y blynyddoedd. Yn un o sgyrsiau ‘Dros fy Sbectol’ yn 2002 yr oedd John Roberts Williams yn cyfeirio at gynllun fel bod pump o bapurau bro Sir Gaerfyrddin yn derbyn swm go dda o arian ‘Amcan Un’ i gyflogi staff amser llawn. A wireddwyd y syniad? Beth yw’r canlyniad erbyn hyn? Wn i ddim. Ond ar y pryd yr oedd J.R.W, yn bur amheus; cawn ddarllen ei farn, tt. 86-7 o’r gyfrol Ffarwél i’r Sbectol.
(2) Oes, mae gagendor anferth yn agor, a chyfle – mentrwn o hyd obeithio – i’r papurau bro yn ei sgil. Sut arall y gall y Gymraeg gamu i mewn? Mae cylchrediad yn hollbwysig, ac efallai mai rhannu am ddim yw’r unig ffordd bellach o sicrhau hwnnw. Yn fy narlith mi soniais ychydig am ein hymgais gychwynnol ni, cwmni Dalen Newydd, i sefydlu dau bapur a fyddai rhyngddynt â chylchrediad o tua 30,000 yn nwy hen sir Arfon a Môn. Am yr anawsterau a sut na allwyd mynd ymlaen ar y pryd, nid ymhelaethaf heddiw, ond byddwn yn fodlon ymhelaethu wrth rywun a fyddai â gwir ddiddordeb. Mae ‘rhai pobl yng Nghymru’, chwedl W.J. Gruffydd, na byddai’r hanes yn adlewyrchiad rhy dda arnynt.
(3) Erys yr angen am wasg Saesneg flaengar ac adeiladol yng Nghymru, a thrist fu i’r papur The National ballu ar ôl ychydig rifynnau. Mae yma fwlch enfawr ac mae problemau. Gan bwy mae’r weledigaeth? Digon am heddiw.