Archif | Gorffennaf, 2023

Echdoe … ac yfory

22 Gor

Echdoe, canlyniadau go gymysg i’r Ceidwadwr Rishi ac i’r Arch-geidwadwr Syr Anysbrydoledig.

Selby ac Ainsty, hanesyddol? Y ffactor mawr oedd aros gartref ar raddfa aruthrol gan y Torïaid.

Llundain, Sir Efrog a Gwlad yr Haf – croestoriad bach digon diddorol. Ond man-a-man yn y diwedd, gan mai’r un peth yw ci a’i gynffon. Lle arall sydd angen ei wylio. Hwnnw, Sgotland, sy’n bwysig iddyn NHW – sef y Wadwriaeth Ddofn yr wyf wedi sôn amdani o’r blaen (e.e. 2 Mai eleni). O ran rhyw hwyl bach, beth am ddychmygu heddiw mai NI ydyn NHW, neu mai NHW ydan NI ? Y cyfan sy’n dilyn mewn dyfynodau.

“Be nesa, a phle nesa, i ni?

“Dyna’r cŵ yn llwyddiannus, a llywodraeth Sturgeon wedi ei dymchwel. Do, fe weithiodd y gwarchae ar dŷ Fred West. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, a disgwyliwch anrhydeddau, rhai ohonoch.

“Rŵan dal i ailadrodd ‘Humza Useless’ bob dydd, a phentyrru straeon am ‘fethiannau’. Fe allwn ddibynnu arnoch chi gyfryngau, gallwn? Bob dydd, cofiwch.

“Diolch i’r BBC eto am roi cyfle i’r Prif Gwnstabl ddatgan nad yw’r YMCHWILIAD ar ben, ac i’r papurau wedyn am blastro ‘investigation extended’. Beryg nad oes ’na ddim byd yma, ond mae’n rhaid cadw hon i ferwi tan …

“… Tan yr Hydref, pan gawn ni isetholiad yn Rutherglen. Os cawn ni. Gawn ni? Hei lwc. ’Dach chi’n gweld, mae gofyn cael wyth mil o lofnodion erbyn diwedd y mis yma yn galw am isetholiad, a’n gobaith ni oedd y byddai cefnogwyr Llafur yn heidio i arwyddo. Sut mae hi erbyn hyn tybed? Y drwg ydi fod dau bry bach arall yn yr ennaint, dau ymgeisydd sosialaidd arall wedi rhoi eu henwau. Wnân nhw ddim llawer o ddifrod, ond mi allan’ wneud digon, ac efallai mai dyna pam nad ydi’r Llafurwyr yn rhy selog amdani bellach.

“Un peth sy’n sicr, plaid Syr Keir ydi’n gobaith ni heddiw, ein hunig obaith er mwyn achub yr Undeb, diogelu Trident, cadw safle Prydain Fawr fel cynrychiolydd America yr ochr yma i’r dŵr, sef (yn ddistaw bach bach) yr unig safle sy ganddi bellach. Ac yn yr Alban mae yna ffactor arall nad oedd yn bod yn isetholiadau dydd Iau diwethaf. Y ffordd y gall Llafur ennill seddau yn Sgotland yw cael benthyg pleidleisiau Torïaid er mwyn curo’r cenedlaetholwyr. Ar hynny y seiliwn ninnau ein gobeithion.

“Na foed unrhyw amheuaeth, os gwelwn ni Alban annibynnol, dyna fydd ei diwedd hi. Diwedd gêm bron i fil o flynyddoedd. Daliwn i gredu.”

Cau’r dyfynodau.

Anrhydeddau’r Alban

2 Gor

Mae’r blog wedi sôn am hyn o’r blaen, ond mae’n fater pwysig.  A pheidier â meddwl nad yw’n bwysig o ran ei ymhlygiadau i ni’r Cymry.

Ddydd Mercher nesaf bydd tipyn o ddŵ yng Nghaerdin. Daw’r Brenin i Eglwys San Silyn (St. Giles) yn y brifddinas i dderbyn yr hyn a elwir ‘the Honours of Scotland’, pethau ag iddynt ‘arwyddocâd hanesyddol enfawr’ yn ôl y Prif Weinidog, Humza Yousaf.  A beth yw’r rheini?  Coron, teyrnwialen a chleddyf, sy’n cael eu cadw yng nghastell Caeredin, ond a hebryngir i’r eglwys ar y diwrnod hwn gan gynrychiolaeth o tua chant o gymdeithasau, a’u cludo a’u cyflwyno gan dri o urddasolion yr Alban.  Addewir y bydd Maen Scone yno hefyd yn ddiogel ddigon. 

Mae’r goron a’r deyrnwialen yn hynafol,  ond y cleddyf yn newydd gan fod yr hen un, pum cant oed,  wedi mynd braidd yn fregus – ‘rhwd yw ei anrhydedd’. ‘The Elizabeth Sword’ fydd y cleddyf newydd, fe gostiodd dipyn i’w wneud, ac mae rhai o’r disgrifiadau ohono yn galw i gof ddisgrifiad T. Gwynn Jones o gleddyf Arthur:

Ei ddyrnfol aur addurnfawr,
Cywrain oedd ac arni wawr
O liwiau gemau lawer,
Gwawr y tân ag eira têr;
Lliw gwaed rhudd, lliw gwydr a haul,
Neu sêr yr hafnos araul;
Ei hir lafn dur, lyfned oedd
 difreg lif y dyfroedd,
A gloyw fel fforchog lewych
Rheiddiau’r haul ar ddisglair ddrych.

Wedi’r ddefod gallwn fod yn sicr y bydd y tri thlws yn cael eu dychwelyd yn ddiogel i’r castell, ac na fydd Siarl yn cael mynd â’r cleddyf adref gydag o i dorri dalan poethion.  Ystyr ‘derbyn yr Anrhydeddau’ fydd rhoi rhyw nòd tuag atynt, fel yr Archdderwydd yn derbyn yr Aberthged, dyweder.

Tipyn o lol? Ar ryw olwg, ie wrth gwrs, ac mae rhai o blith y cenedlaetholwyr wedi lleisio anfodlonrwydd. Ond cofiwn hyn.  Unrhyw beth sy’n dwyn allan wahaniaeth rhwng Siarl Brenin Lloegr a Siarl Brenin yr Alban, mae iddo ystyr gyfansoddiadol a gwerth gwleidyddol. Yr oedd y ddiweddar Frenhines yn Frenhines ar Zeland Newydd, ond doedd yr un o’i llongau niwclear hi’n cael mynd yn agos at y wlad honno, a siawns na fydd pethau’n para felly yn nheyrnasiad ei mab. Fel rwyf wedi dweud o’r blaen, fe ddylai fod yn bosibl, ac ni welaf pam nad yw’n bosibl, i filwr Albanaidd fod dan lw i Frenin yr Alban a than orchymyn llywodraeth yr Alban. Gellir dychmygu dydd  – a thrueni nad yw wedi dod eisoes, o ystyried digwyddiadau’r misoedd diwethaf – pan fydd Prif Weinidog yr Alban yn gofyn i gyrnoliaid y catrodau Albanaidd enwog, a’r un mor bwysig i Brif Gwnstabl Heddlu’r Alban, ‘wyt ti isio cadw dy job?’ 

Gan na wnaed hyn eto, bu’n bosibl cael coup d’état y Gwanwyn hwn, yn erbyn llywodraeth etholedig. Dyna oedd, ac ni wyddom beth fydd ei holl ganlyniadau. Y canlyniad y gallwn gymryd fod y ‘wladwriaeth ddofn’ yn ei ddymuno yw diogelu’r Undeb am ryw hyd eto, diogelu Trident a thrwy hynny ddiogelu hynny o safle sydd gan Loegr yn y byd.

Os llwydda’r brad-gynllwyn hwn bydd yn edrych yn o ddu arnom ni Gymry, oherwydd y funud hon fe ymddengys ein bod ni, o’n rhan ein hunain, yn gwbl ddiarweiniad.

Hwyrach yr hoffech fwrw golwg eto ar flogiau 11 Medi y llynedd, a 19 Chwefror, 27 Mawrth, 7 Ebrill, 22 Ebrill, 3 Mehefin a 11 Mehefin eleni.